Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bydda’n Ystyriol ac yn Garedig Fel Jehofa

Bydda’n Ystyriol ac yn Garedig Fel Jehofa

“Mae’r un sy’n garedig at y tlawd wedi ei fendithio’n fawr.”—SALM 41:1.

CANEUON: 130, 107

1. Sut mae addolwyr Jehofa yn dangos eu bod nhw’n caru ei gilydd?

MAE addolwyr Jehofa ar draws y byd yn rhan o deulu. Brodyr a chwiorydd ydyn nhw sy’n caru ei gilydd. (1 Ioan 4:16, 21) Weithiau maen nhw’n gwneud aberthau mawr ar gyfer eu brodyr, ond y rhan fwyaf o’r amser, maen nhw’n dangos eu cariad drwy’r llu o bethau bach maen nhw’n eu gwneud dros ei gilydd. Er enghraifft, gallen nhw ddweud rhywbeth adeiladol i’w brodyr neu eu trin yn garedig. Pan fyddwn ni’n ystyriol o bobl eraill, rydyn ni’n efelychu ein Tad nefol.—Effesiaid 5:1.

2. Sut gwnaeth Iesu efelychu cariad ei Dad?

2 Roedd Iesu’n efelychu ei Dad yn berffaith. Roedd yn wastad yn trin pobl eraill yn garedig. Dywedodd: “Dewch ata i, bawb sy’n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi.” (Mathew 11:28, 29) Pan fyddwn ni’n efelychu Iesu ac yn “garedig at y tlawd,” neu at y rhai sydd mewn sefyllfa anodd, byddwn yn gwneud Jehofa’n hapus, a byddwn ninnau’n hapus hefyd. (Salm 41:1) Yn yr erthygl hon, byddwn yn gweld sut y gallwn ni fod yn ystyriol o aelodau o’n teulu, ein brodyr a’n chwiorydd, a phobl rydyn ni’n cwrdd â nhw yn y weinidogaeth.

BYDDA’N YSTYRIOL YN Y TEULU

3. Sut gall gŵr fod yn ystyriol o’i wraig? (Gweler y llun agoriadol.)

3 Mae’n rhaid i wŷr osod yr esiampl a dangos faint o ofal sydd ganddyn nhw am y teulu. (Effesiaid 5:25; 6:4) Mae’r Beibl yn dweud bod angen i wŷr fod yn ystyriol o’i gwragedd a’u deall nhw. (1 Pedr 3:7) Mae gŵr ystyriol yn gwybod ei fod yn wahanol i’w wraig mewn llawer o ffyrdd, ond mae hefyd yn deall nad yw’n well na hi. (Genesis 2:18) Mae’n ystyried ei theimladau ac yn ei thrin hi ag urddas ac anrhydedd. Mae gwraig o Ganada yn dweud am ei gŵr: “Dydy ef byth yn bychanu fy nheimladau nac yn dweud wrthyf fi, ‘Ddylet ti ddim teimlo fel ’na.’ Mae’n wrandawr da. Pan fydd yn fy helpu i addasu sut dw i’n teimlo am rywbeth, mae’n gwneud hynny mewn ffordd garedig.”

Mae gŵr yn aros yn ffyddlon i’w wraig oherwydd mae’n ei charu hi ac yn casáu’r hyn sy’n ddrwg

4. Sut gall gŵr ddangos ei fod yn ystyriol o deimladau ei wraig yn y ffordd y mae’n trin merched eraill?

4 Dydy gŵr sy’n ystyriol o deimladau ei wraig byth yn fflyrtio â merched eraill nac yn dangos diddordeb amhriodol ynddyn nhw, petai hynny wyneb yn wyneb, ar y cyfryngau cymdeithasol, neu ar y we. (Job 31:1) Nid yw’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i fflyrtio, ac nid yw’n edrych ar wefannau amhriodol. Yn wir, mae’n aros yn ffyddlon i’w wraig oherwydd mae’n ei charu hi ac oherwydd ei fod yn caru Jehofa ac yn casáu’r hyn sy’n ddrwg.—Darllen Salm 19:14; 97:10.

5. Sut gall gwraig fod yn ystyriol o’i gŵr?

5 Pan fydd gŵr yn efelychu esiampl gariadus ei ben, Iesu Grist, bydd yn haws i’w wraig allu “parchu ei gŵr.” (Effesiaid 5:24, 25, 33) A phan fydd hi’n ei barchu, bydd hi’n ceisio deall ei deimladau a’i drin yn garedig pan fydd ef yn brysur gyda materion y gynulleidfa neu pan fydd angen iddo ddelio â phroblemau. Mae gŵr o Brydain yn dweud: “Weithiau, bydd fy ngwraig yn synhwyro bod rhywbeth ar fy meddwl. Wedyn bydd hi’n dilyn yr egwyddor yn Diarhebion 20:5, hyd yn oed pan fydd hynny’n golygu aros am yr adeg iawn i ‘ddwyn i’r golwg’ fy meddyliau, os yw’n bwnc dw i’n rhydd i’w drafod â hi.”

6. Sut gall pob un ohonon ni helpu plant i feddwl am bobl eraill ac i fod yn garedig, a sut bydd hyn o les i’r plant?

6 Pan fydd rhieni yn trin ei gilydd mewn ffordd ystyriol, maen nhw’n gosod esiampl dda ar gyfer eu plant. Mae angen iddyn nhw hefyd ddysgu eu plant i feddwl am bobl eraill ac i fod yn garedig. Er enghraifft, gall rhieni ddysgu eu plant i beidio â rhedeg yn Neuadd y Deyrnas. Neu pan fyddan nhw’n cymdeithasu, gallan nhw ddweud wrth eu plant i adael i’r rhai hŷn fynd i nôl bwyd yn gyntaf. Wrth gwrs, gall pawb yn y gynulleidfa gefnogi’r rhieni. Felly, dylen ni ganmol plentyn pan fydd yn gwneud rhywbeth ystyrlon, er enghraifft, pan fydd yn agor y drws inni. Bydd hyn yn gwneud i’r plentyn deimlo’n dda ac yn ei helpu i ddysgu bod “rhoi yn llawer gwell na derbyn.”—Actau 20:35.

BYDDA’N YSTYRIOL YN Y GYNULLEIDFA

7. Sut roedd Iesu’n ystyriol o ddyn byddar, a beth allwn ni ei ddysgu o esiampl Iesu?

7 Un diwrnod, roedd Iesu yn ardal y Decapolis pan ddaeth “rhyw bobl a dyn ato oedd yn fyddar ac yn methu siarad yn glir.” (Marc 7:31-35) Gwnaeth Iesu ei iacháu, ond nid o flaen pawb. Pam ddim? Oherwydd bod y dyn yn fyddar, mae’n debyg ei fod yn teimlo’n anghyfforddus mewn tyrfaoedd mawr. Roedd Iesu’n deall ei deimladau, a dyma Iesu yn ei gymryd “i ffwrdd o olwg y dyrfa” a’i iacháu. Wrth gwrs, dydyn ninnau ddim yn gallu gwneud gwyrthiau, ond dylen ni feddwl am anghenion a theimladau ein brodyr a bod yn garedig wrthyn nhw. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni.” (Hebreaid 10:24) Roedd Iesu’n deall sut roedd y dyn byddar yn teimlo ac fe wnaeth ei drin yn garedig. Dyna esiampl dda i ni!

8, 9. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gofalu am y rhai mewn oed a’r rhai sydd ag anabledd? (Rho esiamplau.)

8 Bydda’n ystyriol o’r rhai mewn oed a’r rhai sydd ag anabledd. Nodwedd bwysicaf y gynulleidfa Gristnogol ydy cariad, nid effeithlonrwydd. (Ioan 13:34, 35) Mae cariad yn ein hysgogi i wneud popeth a allwn ni i helpu ein brodyr a’n chwiorydd sydd mewn oed neu sy’n anabl i gyrraedd y cyfarfodydd ac i bregethu. Rydyn ni’n eu helpu hyd yn oed pan nad yw’n gyfleus inni neu hyd yn oed pan nad ydyn nhw’n gallu gwneud llawer. (Mathew 13:23) Mae Michael, sydd mewn cadair olwyn, yn ddiolchgar iawn am yr help mae’n ei gael gan ei deulu a’r brodyr yn ei gynulleidfa. Mae’n dweud: “Oherwydd yr help maen nhw i gyd yn ei roi imi, rydw i’n gallu mynychu’r rhan fwyaf o’r cyfarfodydd a mynd ar y weinidogaeth yn rheolaidd. Rydw i’n mwynhau tystiolaethu’n gyhoeddus yn arbennig.”

9 Mewn llawer o gartrefi Bethel, mae ’na frodyr a chwiorydd ffyddlon sydd mewn oed neu sy’n anabl. Mae arolygwyr caredig yn dangos cariad tuag atyn nhw drwy drefnu iddyn nhw bregethu dros y ffôn neu drwy ysgrifennu llythyrau. Mae Bill, sy’n 86 mlwydd oed ac sy’n ysgrifennu at bobl mewn ardaloedd pell, yn dweud: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r fraint o gael ysgrifennu llythyrau.” Mae Nancy, sydd bron yn 90, yn dweud: “Nid llenwi amlenni yn unig ydy’r gwaith o ysgrifennu llythyrau. Gweinidogaeth ydy hyn. Mae angen clywed y gwirionedd ar bobl!” Mae Ethel, a gafodd ei geni yn 1921, yn dweud: “Mae poen yn rhan o fy mywyd. Rai dyddiau mae’n ddigon anodd rhoi fy nillad amdanaf.” Er hynny, mae hi’n mwynhau pregethu dros y ffôn ac mae ganddi ail alwadau da. Mae Barbara, sy’n 85, yn esbonio: “Oherwydd fy iechyd gwael, mae mynd allan yn y weinidogaeth yn rheolaidd yn anodd imi. Ond mae tystiolaethu dros y ffôn yn fy ngalluogi i siarad ag eraill. Diolch i ti, Jehofa!” Mewn llai na blwyddyn, treuliodd grŵp o rai hŷn annwyl 1,228 o oriau yn y weinidogaeth, ysgrifennon nhw 6,265 o lythyrau, gwnaethon nhw dros 2,000 o alwadau ffôn, a gosodon nhw 6,315 o gyhoeddiadau! Yn sicr, mae eu hymdrechion wedi gwneud Jehofa’n hapus iawn!—Diarhebion 27:11.

10. Sut gallwn ni helpu ein brodyr i elwa’n llawn ar y cyfarfodydd?

10 Bydda’n ystyriol yn y cyfarfodydd. Pan ydyn ni’n ystyriol, rydyn ni’n helpu ein brodyr i elwa’n llawn ar y cyfarfodydd. Sut? Un ffordd ydy cyrraedd yn brydlon fel nad ydyn ni’n tynnu eu sylw. Weithiau, mae pethau annisgwyl yn ein gwneud ni’n hwyr. Ond, os ydyn ni’n hwyr yn aml, dylen ni feddwl am sut mae hynny’n effeithio ar ein brodyr ac am ba newidiadau y gallwn ni eu gwneud i ddangos ein bod ni’n meddwl amdanyn nhw. Cofia hefyd mai Jehofa a’i Fab sydd wedi ein gwahodd ni i’r cyfarfodydd. (Mathew 18:20) Yn sicr, dylen ni ddangos parch tuag atyn nhw drwy fod yn brydlon!

11. Pam dylai brodyr sydd â rhan yn y cyfarfod ddilyn y cyfarwyddyd yn 1 Corinthiaid 14:40?

11 Os ydyn ni’n ystyriol o’n brodyr, byddwn ni’n dilyn arweiniad y Beibl: “Ond dylai popeth gael ei wneud mewn ffordd sy’n weddus ac yn drefnus.” (1 Corinthiaid 14:40) Mae brodyr sydd â rhan yn y cyfarfodydd yn dilyn y cyfarwyddyd hwn drwy orffen ar amser. Drwy wneud hyn, maen nhw’n ystyriol nid yn unig o’r siaradwr nesaf ond hefyd o’r gynulleidfa gyfan. Meddylia am sut bydd gorffen y cyfarfod yn hwyr yn effeithio ar bobl eraill. Mae rhai brodyr yn gorfod teithio’n bell i fynd adref. Mae eraill yn gorfod dal y bws neu’r trên. Ac mae gan eraill gymar sydd ddim yn y gwir ac sy’n eu disgwyl nhw adref ar amser penodol.

12. Pam mae’r henuriaid yn haeddu ein parch a’n cariad? (Gweler y blwch “ Bydda’n Ystyriol o’r Rhai Sy’n Arwain yn y Gyfundrefn.”)

12 Mae’r henuriaid yn gweithio’n galed yn y gynulleidfa ac yn y weinidogaeth, felly maen nhw’n haeddu ein parch a’n cariad. (Darllen 1 Thesaloniaid 5:12, 13.) Yn sicr, rwyt ti’n ddiolchgar iawn am bopeth maen nhw’n ei wneud ar dy gyfer di. Gelli di ddangos hyn drwy fod yn fodlon dilyn eu harweiniad a’u cefnogi nhw, oherwydd “mae’n rhaid iddyn nhw roi cyfri i Dduw am y ffordd maen nhw’n gofalu amdanoch chi.”—Hebreaid 13:7, 17.

BYDDA’N YSTYRIOL YN Y WEINIDOGAETH

13. Beth allwn ni ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu’n trin pobl?

13 Mewn proffwydoliaeth am Iesu, dywedodd Eseia: “Fydd e ddim yn torri brwynen fregus nac yn diffodd llin sy’n mygu.” (Eseia 42:3) Roedd cariad Iesu tuag at bobl yn ei ysgogi i gydymdeimlo â nhw. Roedd yn deall teimladau’r rhai a oedd yn isel eu hysbryd ac yn wan fel “brwynen fregus” neu fel “llin sy’n mygu,” felly roedd yn eu trin nhw gyda charedigrwydd ac amynedd. Roedd hyd yn oed plant eisiau bod gyda Iesu. (Marc 10:14) Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn gallu deall na dysgu pobl fel roedd Iesu! Ond, gallwn ni ddangos ein bod ni’n ystyriol o’r bobl yn ein tiriogaeth yn y ffordd rydyn ni’n siarad â nhw, pryd rydyn ni’n siarad â nhw, ac am faint o amser rydyn ni’n aros.

Mae ein geiriau a thôn ein llais yn gorfod dangos ein bod ni’n garedig ac yn meddwl am bobl eraill

14. Pam dylen ni feddwl am y ffordd rydyn ni’n siarad â phobl?

14 Sut dylen ni siarad â phobl? Mae miliynau o bobl heddiw “ar goll ac yn gwbl ddiymadferth” oherwydd camdriniaeth greulon gan arweinwyr masnachol, gwleidyddol, a chrefyddol y byd hwn. (Mathew 9:36) O ganlyniad, dydy llawer ddim yn trystio neb a does ganddyn nhw ddim gobaith. Dyna pam mae’r geiriau rydyn ni’n eu defnyddio ynghyd â thôn ein llais yn gorfod dangos iddyn nhw ein bod ni’n garedig ac yn meddwl amdanyn nhw! Mae llawer o bobl eisiau gwrando ar ein neges nid yn unig oherwydd ein bod ni’n defnyddio’r Beibl yn dda ond hefyd oherwydd bod gennyn ni ddiddordeb diffuant ynddyn nhw a pharch tuag atyn nhw.

15. Beth yw rhai o’r ffyrdd y gallwn ni fod yn ystyriol o’r bobl yn ein tiriogaeth?

15 Mae ’na lawer o ffyrdd y gallwn ni fod yn ystyriol o’r bobl yn ein tiriogaeth. Mae’n rhaid inni ofyn cwestiynau mewn ffordd garedig a pharchus. Roedd un arloeswr yn gwasanaethu mewn tiriogaeth lle roedd llawer o bobl yn swil, felly fe wnaeth osgoi cwestiynau a fyddai’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus os nad oedden nhw’n gwybod yr ateb cywir. Doedd byth yn gofyn, “Ydych chi’n gwybod enw Duw?” neu “Ydych chi’n gwybod beth ydy Teyrnas Dduw?” Yn hytrach, byddai’n dweud rhywbeth fel, “Rydw i wedi dysgu o’r Beibl fod gan Dduw enw personol. Ga i ddangos yr enw ichi?” Dydy’r dull hwn ddim yn gweithio ym mhobman, oherwydd bod pobl a diwylliannau’n amrywio. Ond, dylen ni bob amser drin y bobl yn ein tiriogaeth mewn ffordd garedig a pharchus. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid inni ddod i’w hadnabod yn dda.

16, 17. Sut gallwn ni fod yn garedig wrth benderfynu (a) faint o’r gloch i ymweld â phobl? (b) am faint o amser y dylen ni siarad â nhw?

16 Pryd dylen ni ymweld â phobl? Pan fyddwn ni’n mynd o ddrws i ddrws, dydy pobl ddim yn ein disgwyl ni oherwydd dydyn nhw ddim wedi ein gwahodd ni yno. Pwysig iawn, felly, ydy ymweld â nhw ar amser pan fyddan nhw’n fwy parod i siarad. (Mathew 7:12) Er enghraifft, ydy pobl yn dy diriogaeth yn hoffi cysgu’n hwyr ar y penwythnos? Efallai byddai’n well cychwyn dy weinidogaeth drwy bregethu ar y stryd, tystiolaethu’n gyhoeddus, neu alw’n ôl ar bobl rwyt ti’n gwybod y bydd ar gael i siarad.

17 Am ba hyd y dylen ni aros? Mae llawer o bobl yn brysur iawn, felly, peth da fyddai inni gadw ein sgyrsiau’n fyr, yn enwedig ar y cychwyn. Gwell ydy gorffen ein sgyrsiau’n gynnar yn hytrach nag aros yn rhy hir. (1 Corinthiaid 9:20-23) Pan fydd pobl yn gweld ein bod ni’n deall eu bod nhw’n brysur, efallai y byddan nhw’n fwy parod i siarad â ni y tro nesaf inni eu gweld nhw. Os ydyn ni’n dangos y rhinweddau sy’n dod o ysbryd Duw, byddwn ni’n wir “fel cydweithwyr” i Dduw. Efallai bydd Jehofa yn ein defnyddio i helpu rhywun i ddysgu’r gwirionedd hyd yn oed!—1 Corinthiaid 3:6, 7, 9, BCND.

18. Pan ydyn ni’n ystyriol o bobl eraill, pa fendithion gallwn ni eu disgwyl?

18 Felly, gad inni wneud popeth a allwn ni i fod yn ystyriol o aelodau ein teulu, o’n brodyr ac o’n chwiorydd, ac o’r bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw yn y weinidogaeth. Wedyn, byddwn ni’n derbyn llawer o fendithion, nawr ac yn y dyfodol. Fel mae Salm 41:1, 2 yn ei ddweud: “Mae’r un sy’n garedig at y tlawd wedi ei fendithio’n fawr. Bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw’n saff pan mae mewn perygl. Bydd yr ARGLWYDD yn ei amddiffyn ac yn achub ei fywyd, a bydd yn profi bendith yn y tir.”