Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gad Inni Fod yn Un Fel y Mae Jehofa ac Iesu yn Un

Gad Inni Fod yn Un Fel y Mae Jehofa ac Iesu yn Un

“Dw i’n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un.”—IOAN 17:20, 21.

CANEUON: 24, 99

1, 2. (a) Beth ofynnodd Iesu amdano yn ystod ei weddi olaf gyda’i apostolion? (b) Pam efallai roedd Iesu yn pryderu am undod?

UNDOD oedd ar feddwl Iesu yn ystod ei bryd o fwyd olaf gyda’i apostolion. Pan oedd Iesu yn gweddïo â nhw, dywedodd ei fod eisiau i’w ddisgyblion fod yn un, neu’n unedig, yn union fel y mae ef a’i Dad yn unedig. (Darllen Ioan 17:20, 21.) Pe byddai disgyblion Iesu yn unedig, byddai hyn yn profi i eraill fod Jehofa wedi anfon Iesu i’r ddaear. Byddai pobl yn adnabod gwir ddisgyblion Iesu oherwydd eu cariad tuag at ei gilydd, a byddai’r cariad hwn yn eu gwneud yn fwy unedig.—Ioan 13:34, 35.

2 Rydyn ni’n gallu deall pam y siaradodd Iesu am undod sawl gwaith y noson honno. Sylweddolodd nad oedd ei apostolion yn hollol unedig. Er enghraifft, roedd yr apostolion yn ffraeo “ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica,” fel roedden nhw wedi ei wneud o’r blaen. (Luc 22:24-27; Marc 9:33, 34) Ar adeg arall, roedd Iago ac Ioan wedi gofyn i Iesu roi safleoedd amlwg yn y Deyrnas nefol iddyn nhw, sef wrth ei ochr.—Marc 10:35-40.

3. Beth efallai fyddai wedi stopio disgyblion Crist rhag bod yn unedig, a pha gwestiynau byddwn ni’n eu trafod?

3 Nid y chwant am fwy o rym ac awdurdod oedd yr unig beth a allai fod wedi rhwystro disgyblion Crist rhag bod yn unedig. Roedd y bobl yn nyddiau Iesu yn rhanedig oherwydd casineb a rhagfarn. Byddai rhaid i ddisgyblion Iesu gael gwared ar y teimladau negyddol hynny. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod y cwestiynau canlynol: Beth wnaeth Iesu ynglŷn â rhagfarn? Sut dysgodd ei ddilynwyr i fod yn ddiragfarn, a sut i fod yn unedig? A sut bydd esiampl Iesu a’r pethau a ddysgodd yn ein helpu ni i aros yn unedig?

RHAGFARN YN ERBYN IESU A’I DDILYNWYR

4. Rho esiamplau o ragfarn a brofodd Iesu.

4 Gwnaeth hyd yn oed Iesu brofi rhagfarn. Pan ddywedodd Philip wrth Nathanael ei fod wedi dod o hyd i’r Meseia, dywedodd Nathanael: “Nasareth? . . . Ddaeth unrhyw beth da o’r lle yna erioed?” (Ioan 1:46) Mae’n debyg fod Nathanael yn gwybod y byddai’r Meseia yn cael ei eni ym Methlehem, fel roedd y broffwydoliaeth yn Micha 5:2 wedi ei ddweud. Efallai ei fod wedi meddwl bod Nasareth ddim yn lle digon pwysig i fod yn dref enedigaeth y Meseia. Hefyd, roedd yna Jwdeaid pwysig a oedd yn edrych i lawr ar Iesu oherwydd iddo ddod o Galilea. (Ioan 7:52) Roedd llawer o Jwdeaid yn meddwl fod pobl o Galilea yn israddol. Ceisiodd Iddewon eraill sarhau Iesu drwy ei alw’n Samariad. (Ioan 8:48) Roedd y Samariaid o genedl arall, ac roedd eu crefydd yn wahanol i grefydd yr Iddewon. Doedd gan y Jwdeaid a’r Galileaid fawr ddim o barch tuag at y Samariaid a cheision nhw eu hosgoi.—Ioan 4:9.

5. Pa ragfarn a brofodd disgyblion Iesu?

5 Roedd yr arweinwyr crefyddol Iddewig hefyd yn dangos diffyg parch tuag at ddilynwyr Iesu. Roedd y Phariseaid yn dweud eu bod nhw “dan felltith.” (Ioan 7:47-49) Yn ôl y Phariseaid, roedd pwy bynnag nad oedd wedi astudio yn yr ysgolion crefyddol Iddewig na dilyn eu traddodiadau yn dda i ddim ac yn gyffredin. (Actau 4:13) Profodd Iesu a’i ddisgyblion ragfarn oherwydd bod pobl yn yr adeg honno yn falch iawn o’u crefydd, eu statws yn y gymdeithas, a’u hil. Gwnaeth y rhagfarn hon ddylanwadu ar y disgyblion a’u hagwedd tuag at eraill. Er mwyn aros yn unedig, byddai’n rhaid iddyn nhw newid eu ffordd o feddwl.

6. Defnyddia esiamplau er mwyn dangos sut gall rhagfarn gael effaith arnon ni.

6 Heddiw, mae’r byd o’n cwmpas yn llawn rhagfarn. Efallai bydd pobl yn dangos rhagfarn yn ein herbyn ni, neu ninnau fydd yn rhagfarnllyd yn erbyn eraill. Mae arloeswraig o Awstralia yn dweud: “Tyfodd fy nghasineb tuag at bobl wynion wrth imi ganolbwyntio ar yr anghyfiawnder a dderbyniodd y bobl frodorol—yn y gorffennol ac yn y presennol.” Hefyd, tyfodd ei chasineb oherwydd y ffordd roedd rhai wedi ei cham-drin. Mae brawd o Ganada yn cyfaddef sut roedd yn teimlo ar un adeg: “Roeddwn i’n meddwl fod pobl a oedd yn siarad Ffrangeg yn well na phawb arall.” O ganlyniad, mae’n dweud nad oedd yn hoffi’r rhai a oedd yn siarad Saesneg.

7. Beth wnaeth Iesu ynglŷn â rhagfarn?

7 Fel yn nyddiau Iesu, mae teimladau o ragfarn yn gryf iawn heddiw ac yn anodd eu newid. Beth wnaeth Iesu ynglŷn â’r fath deimladau? Yn gyntaf, ni wnaeth byth droi’n rhagfarnllyd. Roedd bob amser yn deg. Roedd yn pregethu i’r cyfoethog a’r tlawd, i’r Phariseaid a’r Samariaid, a hyd yn oed i gasglwyr trethi a phechaduriaid. Yn ail, dysgodd Iesu ei ddisgyblion a dangosodd iddyn nhw drwy ei esiampl i beidio â drwgdybio pobl nac i ddangos rhagfarn tuag atyn nhw.

CODI UWCHLAW RHAGFARN

8. Pa egwyddor bwysig sy’n sail i’n hundod?

8 Dysgodd Iesu egwyddor bwysig sy’n sail i’n hundod. Dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i’ch gilydd.” (Darllen Mathew 23:8, 9.) Mewn un ffordd, rydyn ni i gyd yn frodyr gan ein bod ni’n blant i Adda. (Actau 17:26) Esboniodd Iesu fod ei ddisgyblion hefyd yn frodyr a chwiorydd oherwydd gwnaeth pob un ohonyn nhw gydnabod Jehofa fel eu Tad nefol. (Mathew 12:50) A daeth pob un ohonyn nhw’n rhan o deulu Duw ac roedden nhw’n unedig drwy gariad a ffydd. Dyma pam roedd yr apostolion yn cyfeirio at Gristnogion eraill fel eu brodyr a’u chwiorydd yn eu llythyrau at y cynulleidfaoedd.—Rhufeiniaid 1:13; 1 Pedr 2:17; 1 Ioan 3:13.

9, 10. (a) Pam nad oedd gan yr Iddewon reswm dros fod yn falch o’u hil eu hunain? (b) Sut dysgodd Iesu ei bod hi’n anghywir i edrych i lawr ar bobl sydd o hil wahanol? (Gweler y llun agoriadol.)

9 Ar ôl i Iesu ddweud dylai ei ddisgyblion gydnabod ei gilydd fel brodyr a chwiorydd, pwysleisiodd y ffaith fod rhaid iddyn nhw fod yn ostyngedig. (Darllen Mathew 23:11, 12.) Fel rydyn ni wedi ei ddysgu yn barod, ar adegau roedd balchder yn rhannu’r apostolion. Ac yn nyddiau Iesu, roedd pobl yn falch iawn o’u hil. Roedd llawer o Iddewon yn credu eu bod nhw’n well nag eraill oherwydd eu bod nhw’n blant i Abraham. Ond dywedodd Ioan Fedyddiwr wrthyn nhw: “Gallai Duw droi’r cerrig yma sydd ar lawr yn blant i Abraham.”—Luc 3:8.

10 Dysgodd Iesu ei fod yn anghywir i bobl fod yn falch o’u hil. Gwnaeth hyn yn glir pan ofynnodd dyn iddo: “Pwy ydy fy nghymydog i?” Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw, dywedodd Iesu stori. Cafodd Iddew ei guro gan ladron a’i adael ar ochr y lôn. Er y gwnaeth rhai Iddewon basio heibio’r dyn, ni wnaethon nhw ei helpu. Ond dyma Samariad yn teimlo piti dros yr Iddew ac yn edrych ar ei ôl. Gorffennodd Iesu ei stori drwy ddweud wrth y dyn fod angen iddo fod fel y Samariad hwnnw. (Luc 10:25-37) Dangosodd Iesu y gallai Samariad ddysgu’r Iddewon yr hyn oedd yn ei olygu i garu eu cymydog.

11. Pam roedd rhaid i ddisgyblion Iesu fod yn ddiragfarn, a sut gwnaeth Iesu eu helpu i ddeall hynny?

11 Cyn i Iesu fynd i’r nefoedd, dywedodd wrth ei ddisgyblion i bregethu “yn Jerwsalem a Jwdea, yn Samaria, a drwy’r byd i gyd.” (Actau 1:8) Er mwyn gwneud hynny, byddai rhaid i ddisgyblion Iesu godi uwchlaw eu balchder a’u rhagfarn. Yn aml, roedd Iesu wedi sôn am rinweddau da pobl dramor, a gwnaeth hyn baratoi ei ddisgyblion i bregethu i bob cenedl. Er enghraifft, rhoddodd fawl i swyddog milwrol o wlad dramor a oedd gyda ffydd arbennig. (Mathew 8:5-10) Yn Nasareth, lle cafodd ei fagu, esboniodd Iesu sut roedd Jehofa wedi helpu pobl o dramor, fel y weddw Phoenicaidd o Sareffath a Naaman y dyn gwahanglwyfus o Syria. (Luc 4:25-27) Hefyd, pregethodd Iesu i ddynes o Samaria a gwnaeth hyd yn oed aros mewn tref yn Samaria am ddau ddiwrnod oherwydd bod gan y bobl ddiddordeb yn ei neges.—Ioan 4:21-24, 40.

Y CRISTNOGION CYNTAF YN YMLADD YN ERBYN RHAGFARN

12, 13. (a) Sut ymatebodd yr apostolion pan ddysgodd Iesu ddynes o Samaria? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Beth sy’n dangos nad oedd Iago ac Ioan ddim yn deall yn iawn yr hyn roedd Iesu yn trio ei ddysgu?

12 Nid oedd yn hawdd i’r apostolion godi uwchlaw eu rhagfarn. Roedden nhw wedi syfrdanu fod Iesu yn barod i ddysgu dynes o Samaria. (Ioan 4:9, 27) Pam? Efallai oherwydd ni fyddai arweinwyr crefyddol Iddewig yn siarad â dynes yn gyhoeddus, yn enwedig â dynes o Samaria a chanddi enw drwg. Dywedodd yr apostolion wrth Iesu i fwyta, ond roedd Iesu wedi mwynhau siarad â’r ddynes honno gymaint fel nad oedd bwyta yn bwysig iddo. Roedd Duw eisiau iddo bregethu, ac roedd gwneud beth oedd ei Dad eisiau iddo ei wneud, hyd yn oed pregethu i ddynes o Samaria, fel bwyd iddo.—Ioan 4:31-34.

13 Doedd Iago ac Ioan ddim yn deall y wers bwysig honno. Pan oedd y disgyblion yn teithio gydag Iesu drwy Samaria, gwnaethon nhw edrych am le i gysgu mewn tref yn Samaria. Ond nid oedd y Samariaid yn gadael iddyn nhw gysgu yno. Roedd Iago ac Ioan mor flin nes iddyn nhw ofyn i Iesu a oedd ef eisiau iddyn nhw anfon tân o’r nefoedd i ddinistrio’r pentref i gyd. Ond, gwnaeth Iesu eu cywiro. (Luc 9:51-56) Efallai na fyddai Iago ac Ioan wedi bod mor flin pe byddai hynny wedi digwydd iddyn nhw yn ardal eu cartref Galilea. Mae’n debyg eu bod nhw’n flin oherwydd eu rhagfarn. Wedyn, pan bregethodd Ioan i’r Samariaid a phan wnaeth llawer ohonyn nhw wrando arno, efallai ei fod wedi teimlo’n annifyr ynglŷn â’r ffordd yr oedd wedi ymateb yn gynharach.—Actau 8:14, 25.

14. Sut cafodd problem o ragfarn ei datrys?

14 Ychydig ar ôl Pentecost yn y flwyddyn 33, roedd ’na broblem gyda gwahaniaethu ar sail hil yn y gynulleidfa. Pan roddodd y brodyr fwyd i’r gweddwon mewn angen, gwnaethon nhw esgeuluso’r gweddwon Groeg eu hiaith. (Actau 6:1) Efallai fod hyn wedi digwydd oherwydd rhagfarn tuag at iaith. Gwnaeth yr apostolion ddatrys y broblem yn sydyn. Gwnaethon nhw ddewis saith brawd cymwys i ddosbarthu’r bwyd yn deg. Roedd gan bob un o’r brodyr hynny enwau Groegaidd, a oedd efallai yn rhywfaint o gysur i’r gweddwon a oedd wedi cael eu brifo.

15. Sut dysgodd Pedr i fod yn ddiragfarn tuag at bawb? (Gweler y llun agoriadol.)

15 Yn y flwyddyn 36, dechreuodd disgyblion Iesu bregethu i bobl o bob cenedl. Cyn hynny, roedd yr apostol Pedr wedi treulio amser gyda’r Iddewon yn unig. Yna, gwnaeth Duw ei gwneud hi’n glir na ddylai Cristnogion ddangos ffafriaeth, a phregethodd Pedr i Cornelius, milwr Rhufeinig. (Darllen Actau 10:28, 34, 35.) Ar ôl hynny, treuliodd Pedr amser gyda’r Cristnogion nad oedden nhw’n Iddewon a bwyta gyda nhw. Ond, flynyddoedd wedyn, yn ninas Antiochia, stopiodd fwyta gyda’r Cristnogion nad oedden nhw’n Iddewon. (Galatiaid 2:11-14) Gwnaeth Paul gywiro Pedr, a derbyniodd Pedr y cyngor. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Pan ysgrifennodd Pedr ei lythyr cyntaf at y Cristnogion Iddewig a’r rhai nad oedden nhw’n Iddewon yn Asia Leiaf, siaradodd am ba mor bwysig oedd hi i garu ein holl frodyr.—1 Pedr 1:1; 2:17.

16. Beth oedd y Cristnogion cyntaf yn adnabyddus amdano?

16 Yn amlwg felly, oherwydd esiampl Iesu, dysgodd yr apostolion sut i garu “pob math o bobl.” (Ioan 12:32; 1 Timotheus 4:10) Er gwnaeth hynny gymryd amser, newidion nhw eu hagweddau tuag at bobl. Y gwir yw, daeth y Cristnogion cyntaf yn adnabyddus am y cariad roedd ganddyn nhw tuag at ei gilydd. Tua’r flwyddyn 200, datganodd yr ysgrifennwr Tertullian am yr hyn roedd pobl eraill yn ei ddweud am Gristnogion: “Maen nhw’n caru ei gilydd,” ac “Maen nhw’n barod i farw dros ei gilydd.” Oherwydd bod y Cristnogion hynny wedi “gwisgo’r bywyd newydd,” dysgon nhw i gydnabod fod pawb yn gyfartal, a dyna agwedd Duw tuag atyn nhw.—Colosiaid 3:10, 11.

17. Sut gallwn ni gael gwared ar deimladau rhagfarnllyd? Rho esiamplau.

17 Heddiw, gallai cymryd amser i ninnau gael gwared ar deimladau rhagfarnllyd. Mae chwaer o Ffrainc yn esbonio pa mor anodd mae hynny wedi bod iddi hi. Mae’n dweud: “Mae Jehofa wedi dysgu imi beth mae cariad yn ei olygu, beth mae caru pobl o bob math yn ei olygu. Ond, rydw i’n dal yn dysgu sut i gael gwared ar ragfarn yn erbyn pobl eraill, a dydy hi ddim bob amser yn hawdd. Dyna pam rydw i’n dal yn gweddïo am y peth.” Mae chwaer o Sbaen yn dweud ei bod hi weithiau yn gorfod brwydro yn erbyn teimladau negyddol tuag at grŵp penodol o bobl. Mae’n dweud: “Rydw i’n llwyddo’r rhan fwyaf o’r amser. Ond, rydw i’n gwybod bod rhaid imi ddal ati i frwydro. Gyda help Jehofa, rydw i nawr yn hapus i fod yn rhan o deulu unedig.” Mae’n bwysig i bob un ohonon ni feddwl yn ofalus am sut rydyn ni’n teimlo. Oes angen inni gael gwared ar deimladau rhagfarnllyd?

MAE CARIAD YN GRYFACH NA RHAGFARN

18, 19. (a) Pa resymau sydd gennyn ni dros groesawu pawb? (b) Sut gallwn ni wneud hynny?

18 Da ydy cofio bod pob un ohonon ni wedi bod yn bell i ffwrdd oddi wrth Dduw ar un adeg. (Effesiaid 2:12) Ond, gwnaeth Jehofa ein denu ato drwy ei gariad. (Hosea 11:4; Ioan 6:44) A gwnaeth Crist ein croesawu. Drwy Iesu, mae’n bosib inni fod yn rhan o deulu Duw. (Darllen Rhufeiniaid 15:7.) Er ein bod ni’n amherffaith, gwnaeth Iesu yn ei garedigrwydd ein derbyn, felly ddylwn ni byth hyd yn oed meddwl am wrthod unrhyw un!

Rydyn ni’n unedig ac yn ein caru ein gilydd oherwydd rydyn ni’n ceisio’r “doethineb sy’n dod oddi wrth Dduw” (Gweler paragraff 19)

19 Wrth i ddiwedd y system ddrwg hon agosáu, bydd pobl yn mynd yn fwy rhanedig, rhagfarnllyd, a chas. (Galatiaid 5:19-21; 2 Timotheus 3:13) Ond, fel pobl Jehofa, rydyn ni’n ceisio’r “doethineb sy’n dod oddi wrth Dduw,” sy’n gallu ein helpu i fod yn ddiragfarn ac sy’n meithrin heddwch. (Iago 3:17, 18) Rydyn ni’n hapus i wneud ffrindiau newydd o wahanol wledydd, i dderbyn y ffordd maen nhw’n gwneud pethau, ac efallai hyd yn oed i ddysgu eu hiaith. Pan wnawn ni hyn, rydyn ni’n mwynhau heddwch sydd “fel afon” a chyfiawnder sydd “fel tonnau’r môr.”—Eseia 48:17, 18.

20. Beth sy’n digwydd pan fydd cariad yn newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo?

20 Pan wnaeth y chwaer o Awstralia astudio’r Beibl, gwnaeth ei holl deimladau rhagfarnllyd ddiflannu fesul tipyn. Cariad a wnaeth achosi iddi newid y ffordd roedd hi’n meddwl ac yn teimlo. Mae’r brawd Ffrangeg ei iaith o Ganada yn dweud ei fod nawr yn sylweddoli bod pobl yn aml yn casáu eraill dim ond oherwydd dydyn nhw ddim yn eu hadnabod. Dysgodd “dydy rhinweddau pobl ddim yn dibynnu ar eu man geni.” Gwnaeth hyd yn oed briodi chwaer sy’n siarad Saesneg! Mae’r esiamplau hyn yn dangos bod cariad yn trechu rhagfarn. Rydyn ni’n unedig oherwydd bod cariad yn rhwymyn na all gael ei dorri.—Colosiaid 3:14.

[Broliant ar dudalen 10]

Er mwyn aros yn unedig, byddai rhaid i ddisgyblion Iesu newid eu ffordd o feddwl