Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Byddai Wedi Gallu Cael Ffafr Duw

Byddai Wedi Gallu Cael Ffafr Duw

RYDYN NI’N gwasanaethu Jehofa ac eisiau cael ei ffafr a’i fendith. Ond sut gallwn ni gael ei ffafr? Yn adeg y Beibl, gwnaeth rhai pobl a oedd wedi pechu’n ddifrifol adennill ffafr Duw, sef ei gymeradwyaeth. Roedd gan eraill rinweddau da ond collon nhw ffafr Duw. Felly, peth da ydy gofyn: “Beth mae Jehofa’n edrych amdano ym mhob un ohonon ni?” Gall esiampl Rehoboam, un o frenhinoedd Jwda, ein helpu i gael hyd i’r ateb.

CYCHWYN GWAEL

Roedd tad Rehoboam, Solomon, yn frenin ar Israel am 40 o flynyddoedd. (1 Brenhinoedd 11:42) Ar ôl i’w dad farw, teithiodd Rehoboam o Jerwsalem i Sichem er mwyn cael ei wneud yn frenin. (2 Cronicl 10:1) A oedd yn ofni bod yn frenin? Roedd Solomon yn adnabyddus am ei ddoethineb. Cyn bo hir, byddai’n rhaid i Rehoboam brofi a oedd yn ddigon doeth i ddatrys problem anodd.

Roedd yr Israeliaid yn teimlo o dan ormes ac anfonon nhw gynrychiolwyr i ddweud wrth Rehoboam beth oedden nhw eisiau iddo ei wneud: “Roedd dy dad yn ein gweithio ni’n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau’n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.”—2 Cronicl 10:3, 4.

Roedd gan Rehoboam benderfyniad anodd. Petai’n gwneud beth oedd y bobl eisiau, efallai byddai’n rhaid iddo ef, ei deulu, a phawb yn y palas fyw heb rai o’r pethau moethus roedden nhw wedi arfer â nhw. Ond, petai’n gwrthod cais y bobl, efallai bydden nhw’n gwrthryfela yn ei erbyn. Beth oedd ei benderfyniad? Yn gyntaf, siaradodd â’r cynghorwyr hŷn a oedd wedi helpu ei dad. Dywedon nhw am iddo wrando ar y bobl. Ond wedyn, dyma Rehoboam yn siarad â phobl a oedd yr un oedran ag ef, a phenderfynodd drin y bobl yn gas. Dywedodd wrth y bobl: “Bydda i yn pwyso’n drymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i’ch cosbi chi? Bydda i’n defnyddio chwip fydd yn rhwygo’ch cnawd chi!”—2 Cronicl 10:6-14.

Wyt ti’n gweld gwers i ni? Heddiw, mae ’na lawer o rai hŷn yn ein plith sydd wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am lawer o flynyddoedd ac sy’n gallu ein helpu i wneud penderfyniadau da. Gad inni fod yn ddoeth a gwrando arnyn nhw.—Job 12:12.

“DYMA NHW’N GWRANDO AR YR ARGLWYDD”

Dyma Rehoboam yn paratoi ei fyddin er mwyn brwydro yn erbyn y llwythau gwrthryfelgar. Ond, anfonodd Jehofa y proffwyd Shemaia i ddweud wrtho: “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr, pobl Israel. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”—1 Brenhinoedd 12:21-24. *—Gweler y troednodyn.

A oedd gwrando ar Jehofa yn hawdd i Rehoboam? Beth fyddai’r bobl yn ei feddwl am eu brenin newydd? Roedd wedi dweud wrth y bobl y byddai’n “defnyddio chwip” i’w cosbi, ond nawr, nid oedd am wneud unrhyw beth am y gwrthryfel ofnadwy hwnnw! (Cymharer 2 Cronicl 13:7.) Wedi dweud hynny, beth bynnag roedd y bobl yn ei feddwl amdano, dyma’r brenin a’i fyddinoedd yn “gwrando ar yr ARGLWYDD a mynd yn ôl adre fel roedd e wedi dweud.”

Beth ydy’r wers i ni? Doeth yw ufuddhau i Dduw bob amser, hyd yn oed pan fydd pobl yn gwneud hwyl am ein pennau oherwydd hynny. Bydd Duw yn wastad yn ein bendithio am fod yn ufudd.—Deuteronomium 28:2.

A gafodd Rehoboam ei fendithio am fod yn ufudd? Roedd Rehoboam yn dal yn rheoli dros llwythau Jwda a Benjamin, a phenderfynodd adeiladu dinasoedd newydd yn yr ardaloedd hynny. Hefyd, fe wnaeth sicrhau bod rhai o’r dinasoedd yn “hollol saff.” (2 Cronicl 11:5-12) Yn bwysicach na hynny, am gyfnod, roedd yn ufudd i gyfreithiau Jehofa. Oherwydd bod teyrnas y deg llwyth wedi dechrau addoli delwau, gadawodd llawer o bobl y deyrnas honno a dod i Jerwsalem er mwyn cefnogi Rehoboam a gwir addoliad. (2 Cronicl 11:16, 17) Felly, oherwydd bod Rehoboam wedi ufuddhau i Jehofa, daeth ei deyrnas yn gryfach.

PECHOD REHOBOAM A’I EDIFEIRWCH

Pan oedd teyrnas Rehoboam yn gryf, fe wnaeth rywbeth rhyfedd. Stopiodd ufuddhau i gyfraith Jehofa a dechreuodd addoli gau dduwiau! Ond pam? A wnaeth ei fam, a oedd yn un o’r Ammoniaid, ddylanwadu ei deulu ar ei benderfyniad? (1 Brenhinoedd 14:21) Dydyn ni ddim yn gwybod, ond dilynodd y genedl ei esiampl ddrwg. Felly, gadawodd Jehofa i Shishac, brenin yr Aifft, gipio llawer o ddinasoedd yn nheyrnas Jwda. Digwyddodd hyn er bod Rehoboam wedi gwneud y dinasoedd hynny yn gwbl ddiogel!—1 Brenhinoedd 14:22-24; 2 Cronicl 12:1-4.

Gwaethygodd y sefyllfa pan ddaeth Shishac i ymosod ar Jerwsalem, lle roedd Rehoboam yn teyrnasu. Pan ddigwyddodd hynny, rhoddodd y proffwyd Shemaia neges i Rehoboam a’i dywysogion oddi wrth Dduw: “Am eich bod chi wedi troi cefn arna i, dw i wedi troi cefn arnoch chi. Dw i’n mynd i adael i Shishac eich dal chi.” Sut ymatebodd Rehoboam i’r ddisgyblaeth honno? Yn gadarnhaol iawn! Mae’r Beibl yn dweud: “Yna dyma arweinwyr Israel a’r brenin yn cyfaddef eu bai a dweud, ‘Mae’r ARGLWYDD yn iawn.’” Felly, gwnaeth Jehofa achub Rehoboam, ac ni chafodd Jerwsalem ei dinistrio.—2 Cronicl 12:5-7, 12.

Ar ôl hynny, parhaodd Rehoboam i reoli dros deyrnas Jwda. Cyn iddo farw, rhoddodd lawer o anrhegion i’w feibion. Mae’n debyg ei fod eisiau sicrhau na fyddan nhw’n gwrthryfela yn erbyn eu brawd Abeia, sef y brenin nesaf. (2 Cronicl 11:21-23) Drwy wneud hynny, gwnaeth Rehoboam ymddwyn yn fwy doeth nag yr oedd wedi ei wneud pan oedd yn ifanc.

DYN DA NEU DDRWG?

Er bod Rehoboam wedi gwneud rhai pethau da, mae’r Beibl yn dweud am ei deyrnasiad: “Roedd yn frenin drwg.” Pam? “Am ei fod heb ddilyn yr ARGLWYDD o ddifrif.” Felly, doedd Jehofa ddim yn hapus ag ef.—2 Cronicl 12:14.

Doedd gan Rehoboam ddim perthynas agos â Jehofa, fel yr oedd gan Dafydd

Beth allwn ni ei ddysgu o fywyd Rehoboam? Weithiau roedd yn ufudd i Dduw. A gwnaeth rai pethau da ar gyfer pobl Jehofa. Ond, nid oedd ganddo berthynas agos â Jehofa, a doedd ganddo ddim awydd cryf i’w blesio. O ganlyniad, stopiodd gwneud y peth iawn a dechreuodd addoli gau dduwiau. Efallai dy fod ti’n meddwl: ‘Pan dderbyniodd Rehoboam gerydd Jehofa, a oedd yn gwneud hynny oherwydd ei fod yn edifarhau am ei gamgymeriadau ac yn wir eisiau plesio Duw? Neu a oedd yn ufudd dim ond oherwydd bod eraill wedi dweud wrtho y dylai wneud hynny?’ (2 Cronicl 11:3, 4; 12:6) Yn hwyrach ymlaen yn ei fywyd, fe wnaeth yr hyn a oedd yn ddrwg eto. Roedd yn hollol wahanol i’w daid y Brenin Dafydd! Yn wir, fe wnaeth Dafydd gamgymeriadau. Ond, roedd yn wir yn edifeiriol am ei bechodau difrifol. Ac roedd wedi caru Jehofa a gwir addoliad drwy gydol ei fywyd.—1 Brenhinoedd 14:8; Salm 51:1, 17; 63:1.

Gallwn ddysgu llawer o’r hanes hwn. Canmoladwy yw bod pobl yn gofalu am ein teuluoedd ac yn gwneud pethau da ar gyfer eraill. Ond, er mwyn cael ffafr Jehofa, mae’n rhaid inni ei addoli mewn ffordd sy’n ei blesio, ac mae’n rhaid inni gael perthynas gref â Duw.

Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, mae’n rhaid inni feithrin cariad dwfn tuag at Jehofa. Yn union fel yr ydyn ni’n cadw tân yn fyw drwy roi mwy o goed arno, rydyn ni’n cadw ein cariad tuag at Dduw yn fyw drwy astudio ei Air yn rheolaidd, myfyrio arno, a dal ati i weddïo. (Salm 1:2; Rhufeiniaid 12:12) A bydd y cariad hwnnw yn ein hysgogi i blesio Jehofa ym mhob dim rydyn ni’n ei wneud. Bydd hefyd yn ein hysgogi i edifarhau o’r galon pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau ac i ofyn i Jehofa am faddeuant. Wedyn, fyddwn ni ddim fel Rehoboam, ond yn hytrach, byddwn ni’n aros yn ffyddlon mewn gwir addoliad.—Jwdas 20, 21.

^ Par. 9 Oherwydd bod Solomon wedi troi’n anffyddlon, roedd Duw eisoes wedi dweud y byddai’r Deyrnas yn cael ei hollti’n ddau.—1 Brenhinoedd 11:31.