Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Heddwch—Sut Gelli Di Ddod o Hyd Iddo?

Heddwch—Sut Gelli Di Ddod o Hyd Iddo?

RYDYN NI’N byw mewn byd sy’n ein rhoi ni o dan straen, ac felly mae dod o hyd i heddwch yn anodd. Hyd yn oed pan fydd gennyn ni ychydig o heddwch, peth hawdd ydy ei golli. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud ynglŷn â dod o hyd i wir heddwch? A sut gallwn ni helpu eraill i wneud yr un peth?

BETH DDYLEN NI EI WNEUD?

Er mwyn darganfod gwir heddwch, mae’n rhaid inni deimlo’n ddiogel. Mae arnon ni angen ffrindiau da, ac yn bwysicaf oll, mae angen inni glosio at Dduw. Sut gallwn ni wneud hynny?

Mae gorchmynion ac egwyddorion Jehofa bob amser yn llesol. Pan fyddwn ni’n ufudd iddyn nhw, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ymddiried yn Jehofa ac eisiau cael perthynas heddychlon ag ef. (Jeremeia 17:7, 8; Iago 2:22, 23) Yna bydd Jehofa yn closio aton ninnau ac yn rhoi heddwch meddwl inni. Mae Eseia 32:17 yn dweud: “Bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch, ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth.” Rydyn ni’n darganfod gwir heddwch wrth fod yn fodlon ufuddhau i Jehofa.—Eseia 48:18, 19.

Mae pryder yn dwyn ein heddwch

Mae Jehofa wedi rhoi anrheg werthfawr inni er mwyn ein helpu i feithrin heddwch parhaol. Yr ysbryd glân ydy’r rhodd honno.—Actau 9:31.

YSBRYD DUW SY’N MEITHRIN HEDDWCH

Dywedodd yr apostol Paul fod heddwch yn “ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni.” (Galatiaid 5:22, 23) Gan fod ysbryd Jehofa yn cynhyrchu heddwch, mae angen gadael i’r ysbryd glân ein harwain os ydyn ni eisiau heddwch. Sut gallwn ni wneud hyn?

Yn gyntaf, mae’n rhaid darllen Gair Duw yn rheolaidd. (Salm 1:2, 3) Wrth inni feddwl yn ddwfn am yr hyn a ddarllenwn, mae’r ysbryd glân yn ein helpu i ddeall beth mae Jehofa yn ei feddwl am amryw bynciau. Er enghraifft, rydyn ni’n dysgu sut mae’n aros yn heddychlon, a pham mae heddwch mor bwysig iddo. Pan fyddwn ni’n cymhwyso cyngor y Beibl, bydd heddwch ar dwf ein bywydau.—Diarhebion 3:1, 2.

Yn ail, mae’n rhaid gweddïo am ysbryd glân Duw. (Luc 11:13) I’r rhai sy’n erfyn arno, mae Jehofa yn addo: “Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg—yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.” (Philipiaid 4:6, 7) Pan fyddwn ni’n closio at Jehofa ac yn dibynnu ar ei ysbryd, bydd yn rhoi gwir heddwch meddwl inni.—Rhufeiniaid 15:13.

Mae’r Beibl wedi helpu llawer o bobl i wneud newidiadau yn eu bywydau, a nawr maen nhw’n mwynhau heddwch â Jehofa, heddwch meddwl, a heddwch ag eraill. Sut gwnaethon nhw’r newidiadau hyn?

DOD O HYD I WIR HEDDWCH

Cyn dysgu’r gwirionedd, roedd rhai o’n brodyr a’n chwiorydd yn gas a hyd yn oed yn dreisgar. Ond gweithion nhw’n galed i newid, a nawr maen nhw’n fwy caredig, amyneddgar, a heddychlon ag eraill. * (Gweler y troednodyn.) (Diarhebion 29:22) Rho sylw i sut gwnaeth brawd o’r enw David a chwaer o’r enw Rachel newidiadau yn eu personoliaethau.

Gallwn ddod o hyd i heddwch drwy roi egwyddorion y Beibl ar waith a gweddïo am ysbryd glân Duw

Cyn i David ddysgu’r gwirionedd, roedd yn aml yn feirniadol o bobl eraill ac yn siarad yn gas â’i deulu. Ond wedyn dyma’n sylweddoli bod rhaid iddo newid. Sut daeth o hyd i heddwch? Dywedodd David: “Dechreuais roi egwyddorion y Beibl ar waith yn fy mywyd ac, o ganlyniad, dechreuodd y parch rhyngof i a’r teulu dyfu.”

Roedd magwraeth Rachel wedi dylanwadu’n fawr arni. Mae hi’n esbonio: “Hyd yn oed nawr, dw i’n ei ffeindio hi’n anodd peidio â gwylltio oherwydd mi ges i fy magu mewn teulu cas.” Beth helpodd Rachel i ddarganfod heddwch? Mae hi’n dweud: “Dibynnu a gweddïo ar Jehofa.”

Dwy esiampl yn unig ydy David a Rachel o bobl sydd bellach yn heddychlon oherwydd iddyn nhw roi egwyddorion y Beibl ar waith a dibynnu ar yr ysbryd glân. Er ein bod ni’n byw mewn byd cas, mae cael heddwch meddwl yn dal yn bosib. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws byw mewn heddwch gyda’n teulu a’n brodyr a’n chwiorydd yn y gynulleidfa. Ond mae Jehofa yn dweud wrthyn ni “i fyw mewn heddwch gyda phawb.” (Rhufeiniaid 12:18) Ydy hynny’n bosib? A pham dylen ni fyw mewn heddwch gydag eraill?

YMDRECHU I GADW HEDDWCH

Yn ein gweinidogaeth, rydyn ni’n pregethu neges heddychlon am Deyrnas Dduw. (Eseia 9:6, 7; Mathew 24:14) Mae llawer yn hoff o’r neges hon ac yn ei derbyn. O ganlyniad, dydyn nhw ddim yn teimlo’n anobeithiol nac yn flin oherwydd beth sy’n digwydd yn y byd. Yn hytrach, mae ganddyn nhw wir obaith am y dyfodol, ac mae hyn yn eu hannog i wneud eu gorau “i gael perthynas dda gyda phawb.”—Salm 34:14.

Ond eto, dydy pawb ddim yn hoff o’n neges, o leiaf ar y cychwyn. (Ioan 3:19) Dim ots sut mae pobl yn ymateb, mae Duw yn rhoi ei ysbryd inni. Mae’n ein helpu i aros yn heddychlon ac yn barchus wrth bregethu. Fel yma y gallwn ni ddilyn cyngor Iesu: “Wrth fynd i mewn i’r cartref, cyfarchwch y rhai sy’n byw yno. Os oes croeso yno, bydd yn cael ei fendithio; os oes dim croeso yno, cymerwch y fendith yn ôl.” (Mathew 10:11-13) O feithrin yr agwedd hon, gallwn ni aros yn heddychlon dim ots beth fydd pobl yn ei ddweud neu’i wneud. A phwy a ŵyr, efallai bydd cyfle yn y dyfodol i helpu’r rhai hynny.

Rydyn ni hefyd yn hyrwyddo heddwch drwy fod yn barchus wrth siarad â swyddogion y llywodraeth, hyd yn oed os ydyn nhw’n gwrthwynebu ein gwaith. Er enghraifft, mewn un wlad Affricanaidd doedd y llywodraeth ddim yn caniatáu inni adeiladu Neuaddau’r Deyrnas. Roedd ein brodyr yn gwybod y dylen nhw geisio datrys yr anghydfod drwy fod yn heddychlon. Dyma nhw’n gofyn i frawd a oedd ar un adeg wedi bod yn genhadwr yn y wlad honno fynd i weld yr Uchel Gomisiynydd yn Llundain, Lloegr, er mwyn dweud wrtho am y gwaith heddychlon mae Tystion Jehofa yn ei wneud.

Dywedodd y brawd: “Pan gyrhaeddais y cyntedd, mi welais i, oherwydd ei gwisg, fod y ddynes wrth y ddesg yn perthyn i lwyth a oedd yn siarad iaith roeddwn i wedi ei dysgu. Felly dyma fi’n ei chyfarch hi yn ei hiaith ei hun. A hithau wedi synnu, dyma hi’n gofyn imi, ‘Beth yw’r rheswm dros eich ymweliad?’ Dywedais yn gwrtais fy mod i eisiau gweld yr Uchel Gomisiynydd. Gwnaeth hi ffonio’r swyddog a daeth yntau allan i fy nghyfarch i yn ei iaith frodorol. Wedi hynny, gwrandawodd yn astud tra oeddwn i’n amlinellu gweithgareddau heddychlon y Tystion.”

Ar ôl i’r Uchel Gomisiynydd glywed beth oedd gan y brawd i’w ddweud, roedd yn deall yn well ein gwaith a doedd y swyddog ddim yn rhagfarnllyd fel o’r blaen. Ychydig yn ddiweddarach, newidiodd y llywodraeth honno ei phenderfyniad a chaniatáu i Dystion Jehofa adeiladu Neuaddau’r Deyrnas. Roedd y brodyr wrth eu boddau! Yn amlwg, felly, wrth fod yn barchus, rydyn ni’n hyrwyddo heddwch.

MWYNHAU HEDDWCH AM BYTH

Heddiw, mae pobl Jehofa yn mwynhau paradwys ysbrydol wrth iddyn nhw addoli Duw mewn awyrgylch o heddwch. Gall pob un ohonon ni gyfrannu at yr heddwch hwn drwy weithio’n galed i feithrin heddwch yn ein bywydau ein hunain. Yna, gallwn fod yn sicr ein bod ni’n plesio Jehofa. Ac yn y byd newydd, bydd yn rhoi heddwch inni sy’n mynd i bara am byth.—2 Pedr 3:13, 14.

^ Par. 13 Yn y dyfodol, byddwn ni’n trafod caredigrwydd mewn erthygl yn y gyfres hon sy’n sôn am ffrwyth ysbryd glân Duw.