Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gad i Gyfreithiau ac Egwyddorion Duw Hyfforddi Dy Gydwybod

Gad i Gyfreithiau ac Egwyddorion Duw Hyfforddi Dy Gydwybod

“Dw . . . i’n myfyrio ar dy ddeddfau di.”—SALM 119:99.

CANEUON: 127, 88

1. Beth yw un peth sy’n ein gwneud ni’n uwch na’r anifeiliaid?

RHODDODD Jehofa rywbeth arbennig i fodau dynol: Y gydwybod. Dyma un peth sy’n ein gwneud ni’n uwch na’r anifeiliaid. Sut rydyn ni’n gwybod bod gan Adda ac Efa gydwybod? Ar ôl iddyn nhw fod yn anufudd i Dduw, gwnaethon nhw guddio rhagddo. Roedd eu cydwybod yn eu pigo nhw.

2. Sut mae’r gydwybod yn debyg i gwmpawd? (Gweler y llun agoriadol.)

2 Ein cydwybod ydy’r ymdeimlad mewnol hwnnw o’r hyn sy’n iawn a’r hyn sydd ddim yn iawn, ac sy’n gallu ein harwain ni mewn bywyd. Mae person sydd heb hyfforddi ei gydwybod fel llong a’i chwmpawd wedi malu. Mae’r gwyntoedd a’r cerrynt yn gallu achosi i’r llong fynd i’r cyfeiriad anghywir. Ond mae cwmpawd sy’n gweithio’n dda yn gallu helpu’r capten i ddal y llong ar ei chyfeiriad. Mewn modd tebyg, os ydyn ni’n hyfforddi ein cydwybod yn gywir, mae’n gallu ein harwain ninnau yn llwyddiannus.

3. Beth all ddigwydd os nad ydyn ni’n hyfforddi ein cydwybod yn gywir?

3 Os nad ydy ein cydwybod wedi ei hyfforddi’n gywir, ni fydd yn gallu ein rhybuddio ni rhag gwneud beth sy’n ddrwg. (1 Timotheus 4:1, 2) Gallai wneud inni feddwl bod “drwg yn dda” hyd yn oed. (Eseia 5:20) Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Mae’r amser yn dod pan bydd pobl yn meddwl eu bod nhw’n gwneud ffafr i Dduw os gwnân nhw’ch lladd chi.” (Ioan 16:2) Dyna beth oedd llofruddion Steffan yn ei feddwl. (Actau 6:8, 12; 7:54-60) Trwy gydol hanes, mae llawer o bobl grefyddol wedi cyflawni troseddau erchyll, fel llofruddio, ac wedi honni mai gweithredu dros Dduw yr oedden nhw. Ond, mewn gwirionedd, yr hyn wnaethon nhw oedd gweithredu yn erbyn cyfreithiau Duw. (Exodus 20:13) Yn amlwg, doedd eu cydwybod ddim wedi eu harwain yn y ffordd iawn!

4. Sut gallwn ni sicrhau bod ein cydwybod yn gweithio’n iawn?

4 Felly, sut gallwn ni sicrhau bod ein cydwybod yn gweithio’n iawn? Mae cyfreithiau ac egwyddorion y Beibl yn “dysgu beth sy’n wir i ni, yn cywiro syniadau anghywir, yn dangos beth dyn ni’n ei wneud o’i le, a’n dysgu ni i fyw yn iawn.” (2 Timotheus 3:16) Mae’n rhaid astudio’r Beibl yn rheolaidd, meddwl yn ddwys am yr hyn sydd ganddo i’w ddweud, a’i roi ar waith yn ein bywydau. O ganlyniad, gallwn feddwl yn fwy fel Jehofa. Yna, gallwn fod yn sicr y bydd ein cydwybod yn ein harwain ni’n dda. Gad inni drafod sut gallwn ni ddefnyddio cyfreithiau ac egwyddorion Jehofa i hyfforddi ein cydwybod.

HYFFORDDIANT CYFREITHIAU DUW

5, 6. Sut mae cyfreithiau Duw yn ein helpu ni?

5 Os ydyn ni’n dymuno i gyfreithiau Duw ein helpu ni, mae’n rhaid inni wneud mwy na’u darllen nhw neu wybod amdanyn nhw. Mae’n rhaid meithrin cariad a pharch tuag atyn nhw. Dywed y Beibl: “Casewch ddrwg a charu’r da.” (Amos 5:15) Ond sut gallwn ni wneud hynny? Mae’n rhaid dysgu gweld pethau o safbwynt Jehofa. Meddylia am hyn: Dychmyga dy fod ti’n cael trafferth cysgu, ac mae’r doctor wedi dweud y dylet ti fwyta bwyd sy’n iachach, gwneud mwy o ymarfer corff, a gwneud newidiadau eraill yn dy fywyd. Rwyt ti’n dilyn ei gyngor, ac mae’n gweithio! Sut rwyt ti’n teimlo am gyngor y meddyg?

6 Yn yr un modd, mae ein Creawdwr wedi rhoi cyfreithiau inni sy’n ein hamddiffyn rhag canlyniadau drwg pechod ac sy’n gwneud ein bywydau yn well. Er enghraifft, mae’r Beibl yn ein dysgu na ddylen ni ddweud celwydd, twyllo, dwyn, cyflawni anfoesoldeb, bod yn dreisgar, nac ymwneud â’r cythreuliaid. (Darllen Diarhebion 6:16-19; Datguddiad 21:8) Pan fyddwn ni’n mwynhau’r canlyniadau da sy’n dod o ufuddhau i Jehofa, mae ein cariad tuag ato ef a’i gyfreithiau yn tyfu.

7. Sut mae hanesion y Beibl yn ein helpu ni?

7 Does dim rhaid inni ddioddef y canlyniadau sy’n dod o dorri cyfreithiau Duw er mwyn dysgu beth sy’n iawn a beth sydd ddim. Gallwn ddysgu o’r camgymeriadau y mae eraill wedi eu gwneud yn y gorffennol. Cofnodwyd yr esiamplau hyn yn y Beibl. Mae Diarhebion 1:5 yn dweud: “Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy.” O Dduw y mae’r cyfarwyddyd hwn yn dod, y cyfarwyddyd gorau sydd! Er enghraifft, meddylia am yr holl ddioddefaint a wynebodd Dafydd ar ôl iddo anufuddhau i Jehofa a chyflawni anfoesoldeb â Bathseba. (2 Samuel 12:7-14) Pan fyddi di’n darllen yr hanes, gofynna i ti dy hun: ‘Sut gallai Dafydd fod wedi osgoi’r problemau hyn? Beth fyddwn i’n ei wneud mewn sefyllfa debyg? Petawn i’n cael fy nhemtio i gyflawni anfoesoldeb, a fyddwn i’n ymddwyn yn debyg i Dafydd neu Joseff?’ (Genesis 39:11-15) Os ydyn ni’n meddwl yn ofalus am y canlyniadau ofnadwy sy’n dod i rywun sy’n pechu, byddwn ni’n casáu pethau drwg yn fwy ac yn fwy.

8, 9. (a) Beth mae’r gydwybod yn ein helpu ni i’w wneud? (b) Sut mae ein cydwybod yn gweithio yn unol ag egwyddorion Jehofa?

8 Rydyn ni’n aros yn bell i ffwrdd o’r pethau mae Duw yn eu casáu. Ond beth ddylen ni ei wneud os ydyn ni’n wynebu sefyllfa lle does ’na ddim deddf benodol yn y Beibl? Sut byddwn ni’n gwybod beth mae Duw eisiau inni ei wneud? Os ydyn ni wedi caniatáu i’r Beibl hyfforddi ein cydwybod, byddwn ni’n gwneud penderfyniad doeth.

9 Oherwydd bod Jehofa yn ein caru ni, mae wedi rhoi egwyddorion sy’n gallu arwain y gydwybod. Mae’n esbonio: “Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.” (Eseia 48:17, 18) Pan fyddwn ni’n meddwl yn ddwfn am egwyddorion y Beibl ac yn gadael iddyn nhw gyffwrdd â’n calon, gallwn ni gywiro ein cydwybod.

GAD I EGWYDDORION DUW DY ARWAIN

10. Beth yw egwyddor, a sut gwnaeth Iesu ddefnyddio egwyddorion wrth ddysgu eraill?

10 Gwirionedd sylfaenol ydy egwyddor sydd yn ein helpu ni i feddwl ar y trywydd iawn ac i wneud penderfyniadau da. Mae gwybod egwyddorion Jehofa yn ein helpu i ddeall sut mae’n teimlo a pham mae’n rhoi deddfau penodol inni. Roedd Iesu yn defnyddio egwyddorion i ddysgu ei ddisgyblion fod gan agweddau a gweithredoedd eu canlyniadau. Er enghraifft, roedd yn dysgu bod gwylltio yn gallu arwain at drais, a bod meddyliau anfoesol yn gallu arwain at odinebu. (Mathew 5:21, 22, 27, 28) Pan fyddwn ni’n caniatáu i egwyddorion Jehofa ein harwain ni, bydd ein cydwybod wedi ei hyfforddi’n dda, a byddwn ni’n gwneud penderfyniadau sy’n anrhydeddu Duw.—1 Corinthiaid 10:31.

Mae Cristion aeddfed yn parchu cydwybod pobl eraill (Gweler paragraffau 11, 12)

11. Sut gall un gydwybod fod yn wahanol i un arall?

11 Hyd yn oed pan fydd Cristnogion yn hyfforddi’r gydwybod drwy ddefnyddio’r Beibl, maen nhw’n dal yn gallu dod i wahanol gasgliadau ar bynciau penodol. Un enghraifft o hyn ydy dewis yfed alcohol neu beidio. Dydy’r Beibl ddim yn dweud bod yfed alcohol yn anghywir, ond mae Gair Duw yn ein rhybuddio ni rhag goryfed a meddwi. (Diarhebion 20:1; 1 Timotheus 3:8) Felly, cyn belled nad yw Cristion yn goryfed, ydy hyn yn golygu nad oes rhaid iddo feddwl am unrhyw beth arall pan fydd yn gwneud ei benderfyniad? Nac ydy. Hyd yn oed os ydy ei gydwybod ei hun yn caniatáu iddo yfed alcohol, mae’n dal yn gorfod meddwl am gydwybod pobl eraill.

12. Sut gall y geiriau yn Rhufeiniaid 14:21 ein helpu ni i barchu cydwybod pobl eraill?

12 Dangosodd Paul fod rhaid inni barchu cydwybod pobl eraill pan ysgrifennodd: “Mae’n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai’n achosi i Gristion arall faglu.” (Rhufeiniaid 14:21) Felly, er bod gennyn ni’r hawl i yfed alcohol, byddwn ni’n fodlon aberthu’r hawl honno petasen ni’n gwybod bod yfed alcohol yn pigo cydwybod Cristion arall. Efallai yr oedd brawd yn gaeth i alcohol cyn iddo ddysgu am y gwirionedd ac wedi penderfynu peidio ag yfed o gwbl. Fydden ni ddim eisiau gwneud unrhyw beth a fyddai’n achosi iddo ddychwelyd i’w hen arferion. (1 Corinthiaid 6:9, 10) Petai’r brawd hwnnw yn dod i’n cartref ni, a fydden ni’n ceisio gwneud iddo yfed alcohol, er iddo wrthod? Ddim o gwbl!

Wyt ti’n fodlon gwneud aberth personol er mwyn helpu eraill?

13. Sut gwnaeth Timotheus barchu cydwybod pobl eraill er mwyn eu helpu nhw i dderbyn y newyddion da?

13 Pan oedd Timotheus yn ddyn ifanc, cytunodd i gael ei enwaedu er bod hynny’n boenus. Roedd yn gwybod bod enwaedu yn bwysig i’r Iddewon yr oedd ef yn mynd i bregethu iddyn nhw. Yn union fel Paul, doedd Timotheus ddim eisiau brifo neb. (Actau 16:3; 1 Corinthiaid 9:19-23) Wyt ti’n fodlon gwneud aberth personol er mwyn helpu eraill?

TYFU I FYNY’N YSBRYDOL

14, 15. (a) Sut gallwn ni fod yn ysbrydol aeddfed? (b) Sut mae Cristnogion aeddfed yn trin ei gilydd?

14 Dylen ni i gyd fod eisiau “symud ymlaen o beth sy’n cael ei ddysgu am y Meseia yn y grŵp meithrin” ac inni “dyfu i fyny” yn ysbrydol. (Hebreaid 6:1) Dydyn ni ddim yn dod yn Gristnogion aeddfed drwy fod yn y gwirionedd am flynyddoedd lawer yn unig. Mae bod yn aeddfed yn gofyn am ymdrech. Pwysig yw inni barhau i dyfu yn ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth. Felly mae gofyn inni ddarllen y Beibl bob dydd. (Salm 1:1-3) Wrth iti ddarllen y Beibl yn ddyddiol, byddi di’n deall cyfreithiau ac egwyddorion Jehofa’n well.

15 Beth yw’r gorchymyn pwysicaf i Gristnogion? Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.” (Ioan 13:35) Cariad ydy gorchymyn pwysicaf yr Ysgrythurau sanctaidd ac mae’n wir mai “cariad ydy’r ffordd i wneud popeth mae Cyfraith Duw’n ei ofyn.” (Iago 2:8; Rhufeiniaid 13:10) Dydy pwysigrwydd cariad ddim yn syndod inni, oherwydd bod y Beibl yn dweud: “Cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) I Dduw, nid teimlad yn unig ydy cariad. Mae’n profi ei gariad drwy ei weithredoedd. Ysgrifennodd Ioan: “Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo.” (1 Ioan 4:9) Pan fyddwn ni’n dangos cariad tuag at Jehofa, Iesu, ein brodyr, a phobl eraill, byddwn ni’n profi ein bod ni’n Gristnogion aeddfed.—Mathew 22:37-39.

Pan fyddwn ni’n rhesymu ar egwyddorion y Beibl, bydd ein cydwybod yn ein harwain mewn ffordd sy’n fwy dibynadwy (Gweler paragraff 16)

16. Wrth inni aeddfedu fel Cristnogion, pam rydyn ni’n rhoi gwerth mawr ar egwyddorion?

16 Wrth inni ddod yn Gristnogion aeddfed, rydyn ni’n rhoi gwerth mawr ar egwyddorion. Mae deddfau unigol yn berthnasol i sefyllfaoedd penodol, ond mae egwyddorion yn gymwys ar gyfer llawer o wahanol sefyllfaoedd. Er enghraifft, dydy plentyn bach ddim yn deall pa mor beryglus ydy gwneud ffrindiau â phobl ddrwg, felly mae’n rhaid i’r rhieni osod rheolau er mwyn amddiffyn y plentyn. (1 Corinthiaid 15:33) Ond, wrth i’r plentyn aeddfedu mae’n dysgu sut i resymu ar egwyddorion y Beibl. Bydd yr egwyddorion hyn yn ei helpu i ddewis ffrindiau da. (Darllen 1 Corinthiaid 13:11; 14:20.) Y mwyaf yn y byd rydyn ni’n rhesymu ar egwyddorion y Beibl, y mwyaf dibynadwy fydd ein cydwybod. Rydyn ni’n deall yn fwy clir beth fyddai Duw eisiau inni ei wneud mewn unrhyw sefyllfa.

17. Pam gallwn ni ddweud bod popeth gennyn ni i wneud penderfyniadau doeth?

17 Mae popeth gennyn ni ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa. Yn y Beibl, mae ’na gyfreithiau ac egwyddorion, ac felly “mae gan bobl Dduw bopeth sydd ei angen iddyn nhw wneud pob math o bethau da.” (2 Timotheus 3:16, 17) Mae egwyddorion y Beibl yn ein helpu ni i ddeall sut mae Jehofa yn meddwl. Ond mae chwilio amdanyn nhw yn gofyn am ymdrech. (Effesiaid 5:17) I’n helpu ni, mae gennyn ni’r adnoddau canlynol: Mynegai Cyhoeddiadau’r Watch Tower, Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa, Watchtower Library, LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio, a’r ap JW LibraryPan fyddwn ni’n defnyddio’r tŵls hyn, byddwn ni’n elwa ar ein hastudio personol a theuluol.

BENDITHION HYFFORDDI’R GYDWYBOD

18. Beth sy’n digwydd pan ydyn ni’n rhoi cyfreithiau ac egwyddorion Jehofa ar waith yn ein bywydau?

18 Rydyn ni gymaint ar ein hennill pan fyddwn ni’n rhoi cyfreithiau ac egwyddorion Jehofa ar waith! Mae Salm 119:97-100 yn dweud: “O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di! Dw i’n myfyrio ynddi drwy’r dydd. Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser; maen nhw’n fy ngwneud i’n gallach na’m gelynion; Dw i wedi dod i ddeall mwy na’m hathrawon i gyd, am fy mod i’n myfyrio ar dy ddeddfau di. Dw i wedi dod i ddeall yn well na’r rhai mewn oed, am fy mod i’n cadw dy ofynion di.” Pan fyddwn ni’n rhoi amser o’r neilltu i fyfyrio ar gyfreithiau ac egwyddorion Duw, byddwn ni’n gweithredu mewn ffordd ddoeth. A phan fyddwn ni’n defnyddio ei gyfreithiau a’i egwyddorion i hyfforddi ein cydwybod, byddwn ni’n “adlewyrchu beth welwn ni yn y Meseia ei hun.”—Effesiaid 4:13.