Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dylai Dy Olau Ddisgleirio er Mwyn Moli Jehofa

Dylai Dy Olau Ddisgleirio er Mwyn Moli Jehofa

“Dylai’ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli’ch Tad yn y nefoedd.”—MATHEW 5:16.

CANEUON: 77, 59

1. Pa reswm arbennig sydd gennyn ni dros fod yn hapus?

MOR gyffrous yw clywed bod cymaint o weision Duw yn gadael i’w golau ddisgleirio! Y llynedd, gwnaeth pobl Jehofa gynnal dros 10,000,000 o astudiaethau Beiblaidd. A daeth miliynau o bobl i’r Goffadwriaeth am y tro cyntaf i ddysgu am y pridwerth, rhodd gariadus oddi wrth Jehofa.—1 Ioan 4:9.

2, 3. (a) Beth sydd ddim yn ein stopio rhag disgleirio “fel goleuadau yn y byd”? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Ar draws y byd, mae Tystion Jehofa yn siarad llawer o wahanol ieithoedd. Ond dydy hynny ddim yn ein stopio ni rhag moli Jehofa fel un teulu unedig. (Datguddiad 7:9) Does dim ots pa iaith rydyn ni’n ei siarad na pha le rydyn ni’n byw ynddo, gallwn ddisgleirio “fel goleuadau yn y byd.”—Philipiaid 2:15, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

3 Mae ein gweinidogaeth, ein hundod Cristnogol, a’n teimlad o frys i gyd yn dod â chlod i Jehofa. Sut gallwn ni adael i’n golau ddisgleirio yn y tair ffordd hyn?—Darllen Mathew 5:14-16.

HELPU ERAILL I ADDOLI JEHOFA

4, 5. (a) Yn ogystal â phregethu, sut gallwn ni adael i’n golau ddisgleirio? (b) Pa ganlyniadau da sy’n dod o fod yn garedig? (Gweler y llun agoriadol.)

4 Un ffordd bwysig o adael i’n golau ddisgleirio ydy pregethu a gwneud disgyblion. (Mathew 28:19, 20) Ym 1925, dywedodd yr erthygl “Light in the Darkness” na allai neb fod yn ffyddlon i’r Arglwydd os nad oedd yn “dal ar bob cyfle i adael i’w olau ddisgleirio.” Ar ben hynny: “Mae’n rhaid iddo wneud hyn drwy gyhoeddi’r newyddion da i bobloedd y byd, a chydymffurfio â ffyrdd y golau.” (Y Tŵr Gwylio Saesneg, 1 Mehefin 1925) Yn ogystal â’n gwaith pregethu, mae ein hymddygiad yn dod â chlod i Jehofa. Mae llawer o bobl yn sylwi ar ein hymddygiad wrth inni bregethu. Pan fyddwn ni’n gwenu ac yn cyfarch pobl yn gyfeillgar, bydd hynny’n eu helpu nhw i’n parchu ni a’r Duw rydyn ni’n ei addoli.

Mae ein gwaith pregethu a’n hymddygiad yn dod â chlod i Jehofa

5 Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Wrth fynd i mewn i’r cartref, cyfarchwch y rhai sy’n byw yno.” (Mathew 10:12) Yn yr ardal lle roedd Iesu’n pregethu, yr arfer oedd gwahodd pobl ddiarth i mewn i’r cartref. Mewn llawer o lefydd heddiw, mae’r arfer hwnnw wedi diflannu. Yn aml, mae pobl yn teimlo’n nerfus neu’n cynhyrfu pan fydd rhywun diarth yn cnocio ar y drws. Ond, os ydyn ni’n gyfeillgar ac yn garedig, efallai byddan nhw’n ymlacio. Wrth iti ddefnyddio troli llyfrau i dystiolaethu’n gyhoeddus, wyt ti wedi sylwi bod gwenu a bod yn gyfeillgar yn gwneud i bobl deimlo’n fwy cyfforddus ac yn fwy parod i ddod i gymryd cyhoeddiadau? Efallai y byddan nhw’n awyddus i gychwyn sgwrs hyd yn oed!

6. Beth sy’n helpu un cwpl mewn oed i ddal ati yn y gwaith pregethu?

6 Dydy cwpl oedrannus yn Lloegr ddim yn gallu pregethu o dŷ i dŷ gymaint ag yr oedden nhw o’r blaen oherwydd dydy eu hiechyd ddim yn dda iawn. Felly, maen nhw’n gosod bwrdd a chyhoeddiadau arno y tu allan i’w tŷ. Maen nhw’n byw yn agos at ysgol, felly maen nhw’n defnyddio cyhoeddiadau a fydd yn apelio i’r rhieni sy’n dod i nôl eu plant. Mae rhai rhieni wedi derbyn y cyhoeddiadau hyn, gan gynnwys Questions Young People Ask—Answers That Work, Cyfrolau 1 a 2. Mae arloeswraig yn ymuno â nhw yn aml. Mae’r rhieni yn sylwi ei bod hi’n gyfeillgar a bod y cwpl yn wir eisiau helpu pobl. Mae un rhiant wedi dechrau astudio’r Beibl hyd yn oed.

7. Sut gelli di helpu ffoaduriaid yn dy ardal di?

7 Yn ddiweddar, mae llawer o bobl wedi gorfod ffoi o’u gwlad eu hunain a byw fel ffoaduriaid mewn gwledydd eraill. Beth elli di ei wneud i helpu ffoaduriaid yn dy ardal di i ddysgu am Jehofa? Yn gyntaf, gelli di ddysgu sut i ddweud helo yn eu hiaith nhw. Hefyd, drwy ddefnyddio’r ap JW Language, gelli di ddysgu ychydig o ymadroddion er mwyn cychwyn sgwrs â nhw. Wedyn, gelli di ddangos fideos a chyhoeddiadau iddyn nhw sydd ar gael yn eu hiaith eu hunain ar jw.org.—Deuteronomium 10:19.

8, 9. (a) Sut mae ein cyfarfodydd canol wythnos yn ein helpu? (b) Sut gall rhieni helpu eu plant i roi atebion gwell yn y cyfarfodydd?

8 Mae Jehofa yn rhoi’r hyn sydd ei angen arnon ni i fod yn effeithiol wrth bregethu. Er enghraifft, mae’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu yng Nghyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth yn ein helpu i deimlo’n fwy hyderus am alw’n ôl ar bobl ac am gychwyn astudiaethau Beiblaidd.

9 Pan fydd ymwelwyr yn dod i’n cyfarfodydd, maen nhw’n aml yn edmygu sylwadau’r plant. Gelli di ddysgu dy blant i ateb yn eu geiriau eu hunain. Mae rhai wedi cael eu denu at y gwir ar ôl clywed plant yn mynegi eu ffydd o’r galon mewn ffordd syml.—1 Corinthiaid 14:25.

CRYFHAU UNDOD

10. Sut gall addoliad teuluol helpu teuluoedd i fod yn fwy unedig?

10 Pan ydyn ni’n gwneud ymdrech lew i hyfforddi ein teulu i gydweithio mewn undod a heddwch, rydyn ni’n dod â chlod i Jehofa. Er enghraifft, os wyt ti’n rhiant, trefna noson Addoliad Teuluol yn rheolaidd. Mae llawer o deuluoedd yn gwylio JW Broadcasting gyda’i gilydd, ac wedyn yn trafod sut i ddefnyddio’r hyn maen nhw wedi ei ddysgu. Cofia fod yr hyfforddiant sydd ei angen ar blentyn yn wahanol i’r hyfforddiant sydd ei angen ar rai yn eu harddegau. Gwna bopeth a elli di i helpu pob aelod o dy deulu i elwa’n llawn ar addoliad y teulu.—Salm 148:12, 13.

Peth da ydy treulio amser gyda’r rhai hŷn (Gweler paragraff 11)

11-13. Sut gallwn ni helpu ein cynulleidfa i fod yn fwy unedig?

11 Hyd yn oed os wyt ti’n ifanc, gelli di helpu pawb yn y gynulleidfa i deimlo’n werthfawr. Un ffordd o wneud hynny ydy gwneud ffrindiau â’r brodyr a’r chwiorydd hŷn. Gofynna iddyn nhw beth sydd wedi eu helpu i barhau i wasanaethu Jehofa dros yr holl flynyddoedd. Gallan nhw ddysgu gwersi pwysig iti. Bydd hyn yn eu calonogi nhwthau ac yn dy galonogi dithau! A gall pob un ohonon ni, yn hen neu’n ifanc, groesawu ymwelwyr i Neuadd y Deyrnas. Gelli di ddweud helo, gwenu, eu helpu i gael hyd i seddi, a’u cyflwyno i bobl eraill. Helpa nhw i deimlo’n gartrefol.

12 Os wyt ti’n cael dy aseinio i gynnal cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth, gelli di helpu’r rhai hŷn i adael i’w golau ddisgleirio. Gwna’n siŵr fod ganddyn nhw diriogaeth addas. Trefna i bobl ifanc weithio gyda nhw. Yn aml, mae’r rhai mewn oed a’r rhai sydd â phroblemau iechyd yn digalonni oherwydd nad ydyn nhw’n gallu pregethu cymaint ag yr oedden nhw o’r blaen. Ond, byddan nhw’n teimlo’n llawer gwell o weld dy fod ti’n eu caru nhw ac yn deall eu sefyllfa. Dim ots beth yw eu hoedran nhw na faint o flynyddoedd maen nhw wedi bod yn y gwirionedd, gall dy garedigrwydd di eu calonogi i ddal ati i bregethu’n selog.—Lefiticus 19:32.

A elli di ddod i adnabod y brodyr yn dy gynulleidfa yn well?

13 Roedd yr Israeliaid yn mwynhau addoli Jehofa gyda’i gilydd. Ysgrifennodd y salmydd: “Mae mor dda, ydy mae mor hyfryd pan mae brodyr yn eistedd gyda’i gilydd.” (Darllen Salm 133:1, 2.) Cymharodd yr undod hwnnw ag olew eneinio, sy’n adfywio’r croen ac yn arogli fel persawr. Mewn ffordd debyg, gallwn adfywio ein brodyr a’n chwiorydd drwy fod yn garedig ac yn gyfeillgar tuag atyn nhw. Mae hyn yn gwneud y gynulleidfa’n fwy unedig. A elli di ddod i adnabod y brodyr a’r chwiorydd yn dy gynulleidfa yn well?—2 Corinthiaid 6:11-13, BCND.

14. Sut gelli di adael i dy olau ddisgleirio yn dy fro dy hun?

14 Gall dy olau di ddisgleirio le bynnag yr wyt ti. Gall dy garedigrwydd wneud i dy gymdogion fod eisiau dysgu mwy am Jehofa. Gofynna i ti dy hun: ‘Beth mae fy nghymdogion yn ei feddwl amdana’ i? Ydy fy nhŷ yn lân ac yn dwt? Ydy fy nghartref yn adlewyrchu’n dda ar y gymdogaeth? Ydw i’n helpu fy nghymdogion?’ Gofynna i Dystion eraill am sut mae eu caredigrwydd a’u hesiampl dda wedi effeithio ar eu perthnasau, eu cymdogion, eu cyd-weithwyr, ac ar eu ffrindiau ysgol.—Effesiaid 5:9.

GWYLIO A CHADW’N EFFRO

15. Pam mae’n rhaid inni wylio a chadw’n effro?

15 Os ydyn ni eisiau i’n golau barhau i ddisgleirio, mae’n rhaid inni fod yn ymwybodol o’r amser rydyn ni’n byw ynddo. Dywedodd Iesu sawl gwaith wrth ei ddisgyblion: “Gwyliwch felly.” (Mathew 24:42; 25:13; 26:41) Os ydyn ni’n teimlo bod y gorthrymder mawr yn dal yn bell i ffwrdd, fyddwn ni ddim yn cadw’n effro i bob cyfle sydd gennyn ni i helpu eraill i ddysgu am Jehofa. (Mathew 24:21) Yn hytrach na disgleirio, bydd ein golau yn mynd yn wannach ac efallai yn diffodd yn gyfan gwbl.

16, 17. Sut gelli di gadw dy deimlad o frys?

16 Mae’n rhaid inni fod yn wyliadwrus nawr yn fwy nag erioed. Mae cyflwr y byd yn gwaethygu bob dydd. Ond, rydyn ni’n gwybod bydd y diwedd yn dod ar yr union amser mae Jehofa wedi ei ddewis. (Mathew 24:42-44) Yn y cyfamser, mae angen inni fod yn amyneddgar a chanolbwyntio ar ein dyfodol. Darllena’r Beibl bob dydd, a phaid byth â stopio gweddïo ar Jehofa. (1 Pedr 4:7) Dysga oddi wrth frodyr a chwiorydd sydd wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd. Er enghraifft, gelli di ddarllen hanesion eu bywydau, fel yr erthygl “Seventy Years of Holding On to the Skirt of a Jew,” a gyhoeddwyd yn y Tŵr Gwylio Saesneg 15 Ebrill 2012, tudalennau 18-21.

17 Cadwa’n brysur yn gwasanaethu Jehofa. Gwna bethau caredig ar gyfer pobl eraill, a threulia amser gyda dy frodyr a dy chwiorydd. Wedyn, byddi di’n hapus, a bydd yr amser yn hedfan. (Effesiaid 5:16) Mae gweision Jehofa wedi cyflawni cymaint dros y ganrif ddiwethaf. Ac heddiw, rydyn ni’n fwy prysur nag erioed. Mae gwaith Jehofa wedi tyfu y tu hwnt i’n dychymyg. Mae ein golau yn disgleirio!

Gallwn elwa ar ddoethineb Duw pan gawn ni ein bugeilio (Gweler paragraffau 18, 19)

18, 19. Sut gall henuriaid ein helpu i wasanaethu Jehofa yn selog? Rho esiampl.

18 Er ein bod ni’n gwneud llawer o gamgymeriadau, mae Jehofa yn caniatáu inni ei wasanaethu. I’n helpu, mae’n rhoi “rhoddion” i’r gynulleidfa, sef yr henuriaid. (Darllen Effesiaid 4:8, 11, 12.) Felly, pan fydd yr henuriaid yn dod i dy weld di, manteisia ar yr amser sydd gen ti gyda nhw a dysga oddi wrth eu doethineb a’u cyngor.

19 Er enghraifft, roedd cwpl yn Lloegr yn cael problemau yn eu priodas, felly gofynnon nhw i ddau henuriad am help. Roedd y wraig yn teimlo nad oedd ei gŵr yn arwain y teulu yn ysbrydol. Roedd y gŵr yn teimlo nad oedd yn athro da a dyma’n cyfaddef nad oedd yn trefnu addoliad teuluol yn rheolaidd. Gwnaeth yr henuriaid helpu’r cwpl i feddwl am esiampl Iesu. Gwnaethon nhw annog y gŵr i efelychu’r ffordd y gwnaeth Iesu ofalu am ei ddisgyblion. Gwnaethon nhw annog y wraig i fod yn amyneddgar tuag at ei gŵr. Hefyd, rhoddon nhw awgrymiadau ar sut gallai’r cwpl gynnal addoliad teuluol gyda’u plant. (Effesiaid 5:21-29) Gweithiodd y gŵr yn galed i fod yn benteulu gwell. Gwnaeth yr henuriaid ei annog i beidio â rhoi’r ffidil yn y to ac i ddibynnu ar ysbryd Jehofa. Gwnaeth cariad yr henuriaid hynny helpu’r teulu yn fawr iawn!

20. Pa ganlyniadau sy’n dod o adael i dy olau ddisgleirio?

20 “Mae’r un sy’n parchu’r ARGLWYDD ac yn gwneud beth mae e eisiau, wedi ei fendithio’n fawr.” (Salm 128:1) Byddi di’n hapus iawn pan fyddi di’n gadael i dy olau ddisgleirio. Felly, dysga eraill am Dduw, gwna bopeth a elli di i helpu dy deulu a dy gynulleidfa i fod yn unedig, a chadwa’n effro. Bydd eraill yn gweld dy esiampl dda ac yn cael eu hysgogi i foli ein Tad, Jehofa.—Mathew 5:16.