Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bobl Ifanc, Mae Eich Creawdwr Eisiau i Chi Fod yn Hapus

Bobl Ifanc, Mae Eich Creawdwr Eisiau i Chi Fod yn Hapus

“Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti.”—SALM 103:5.

CANEUON: 135, 39

1, 2. Pam mae hi’n beth doeth i wrando ar dy Greawdwr pan fyddi di’n dewis beth i’w wneud gyda dy fywyd? (Gweler y lluniau agoriadol.)

OS WYT ti’n ifanc, mae’n debyg dy fod ti’n cael lot o gyngor ynglŷn â dy ddyfodol. Efallai fod athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd, ac eraill yn dweud y dylet ti gael addysg uwch, neu yrfa dda sy’n talu lot o arian. Ond mae Jehofa yn rhoi cyngor gwahanol iti. Wrth gwrs, mae eisiau iti weithio’n galed yn yr ysgol fel y gelli di ennill bywoliaeth. (Colosiaid 3:23) Ond mae hefyd yn gwybod dy fod ti’n gorfod gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar dy ddyfodol. Felly, mae’n rhoi egwyddorion a fydd yn dy arwain ac yn dy helpu i fyw mewn ffordd sy’n ei blesio ef yn ystod y dyddiau diwethaf hyn.—Mathew 24:14.

2 Cofia fod Jehofa yn gwybod popeth. Mae’n gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, ac mae’n gwybod yn union pa mor agos yw diwedd y system hon. (Eseia 46:10; Mathew 24:3, 36) Mae Jehofa hefyd yn dy adnabod dithau. Mae’n gwybod beth sy’n mynd i dy wneud di’n hapus neu’n anhapus. Efallai fod cyngor pobl yn swnio’n dda, ond os nad ydy’r cyngor yn seiliedig ar Air Duw, nid yw’n wirioneddol ddoeth.—Diarhebion 19:21.

DOETHINEB—O JEHOFA YN UNIG

3, 4. Sut gwnaeth gwrando ar gyngor drwg effeithio ar Adda ac Efa a’u plant?

3 Mae cyngor drwg wedi bod o gwmpas ers amser hir. Satan oedd y cyntaf i roi cyngor drwg i fodau dynol. Dywedodd wrth Efa y byddai hithau ac Adda yn hapusach petaen nhw’n penderfynu drostyn nhw eu hunain sut i fyw. (Genesis 3:1-6) Ond roedd Satan yn hunanol! Roedd eisiau i Adda ac Efa a’u disgynyddion ei addoli ef, nid Jehofa. Ond doedd Satan heb wneud unrhyw beth ar gyfer bodau dynol. Jehofa oedd wedi rhoi popeth iddyn nhw, sef cwmni ei gilydd, gardd brydferth i fyw ynddi, a chyrff perffaith a allai bara am byth.

4 Yn anffodus, anufuddhaodd Adda ac Efa i Dduw. Wrth wneud hynny, gwnaethon nhw eu torri eu hunain oddi ar yr Un a roddodd fywyd iddyn nhw. Roedd y canlyniadau yn enbyd. Fel blodau sy’n cael eu torri oddi ar blanhigyn, dechreuodd Adda ac Efa heneiddio a marw. Dioddefodd eu plant hefyd, gan gynnwys pob un ohonon ninnau. (Rhufeiniaid 5:12) Mae’r rhan fwyaf o bobl heddiw yn anwybyddu Duw ac yn gwneud beth maen nhw eisiau. (Effesiaid 2:1-3) Beth ydy’r canlyniadau? Dywed y Beibl: “Does dim doethineb” pan fydd pobl yn gwrthwynebu Jehofa.—Diarhebion 21:30.

5. Pa hyder oedd gan Dduw ym modau dynol, ac a oedd Duw yn iawn?

5 Roedd Jehofa yn hyderus y byddai pobl, gan gynnwys llawer o rai ifanc, yn dymuno dod i’w adnabod a’i wasanaethu. (Salm 103:17, 18; 110:3) Mae’r rhai ifanc hyn yn werthfawr iawn i Jehofa! Wyt ti’n un ohonyn nhw? Rwyt ti felly yn mwynhau llawer “o bethau da” oddi wrth Dduw, sy’n cyfrannu at dy hapusrwydd mewn bywyd. (Darllen Salm 103:5; Diarhebion 10:22) Byddwn yn trafod pedwar o’r pethau hynny. Hynny yw, bwyd ysbrydol, ffrindiau da, amcanion ystyrlon, a gwir ryddid.

JEHOFA YN RHOI BWYD YSBRYDOL ITI

6. Pam dylet ti ofalu am dy angen ysbrydol, a beth mae Jehofa yn ei wneud i dy helpu di?

6 Does gan anifeiliaid ddim angen ysbrydol, hynny yw, dydyn nhw ddim yn teimlo’r angen i adnabod eu Creawdwr. Ond rydyn ninnau’n wahanol. (Mathew 4:4) Mae gwrando ar Dduw yn rhoi dirnadaeth, doethineb, a hapusrwydd inni. Dywedodd Iesu: “Hapus yw’r rhai sy’n ymwybodol o’u hangen ysbrydol.” (Mathew 5:3, NW) Rhoddodd Duw’r Beibl inni ac mae’n defnyddio’r gwas ffyddlon a chall i ddarparu cyhoeddiadau sy’n cryfhau ein ffydd. (Mathew 24:45) Bwyd ysbrydol ydy’r cyhoeddiadau hyn oherwydd eu bod nhw’n rhoi maeth i’n ffydd ac yn cryfhau ein perthynas â Jehofa. Rydyn ni’n mwynhau amrywiaeth blasus iawn o fwyd ysbrydol!—Eseia 65:13, 14.

7. Sut bydd bwyd ysbrydol o Dduw yn dy helpu di?

7 Gall bwyd ysbrydol roi doethineb iti, a’r gallu i feddwl yn glir, sy’n dy amddiffyn mewn amryw ffyrdd. (Darllen Diarhebion 2:10-14.) Bydd y rhinweddau hyn yn dy helpu i adnabod celwyddau, fel y celwydd sy’n dweud nad oes Creawdwr neu’r celwydd sy’n dweud bod arian a phethau materol yn dy wneud di’n hapus. Bydd y rhinweddau hyn hefyd yn dy helpu i osgoi arferion a chwantau niweidiol. Felly, gwna bopeth a elli di i fod yn ddoeth ac i feddwl yn glir. Yna y byddi di’n gweld drosot ti dy hun fod Jehofa yn dy garu ac eisiau’r gorau iti.—Salm 34:8; Eseia 48:17, 18.

8. Pam dylet ti agosáu at Dduw nawr, a sut bydd hyn yn fuddiol iti yn y dyfodol?

8 Yn fuan, bydd byd Satan yn cael ei ddinistrio. Dim ond Jehofa fydd yn gallu ein hamddiffyn a darparu pethau angenrheidiol, fel ein pryd o fwyd nesaf. (Habacuc 3:2, 12-19) Nawr ydy’r amser i agosáu at Dduw a chryfhau ein hyder ynddo. (2 Pedr 2:9) Os byddi di’n gwneud hyn, dim ots beth sy’n digwydd, byddi di’n teimlo fel Dafydd, pan ddywedodd: “Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi. Mae’n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.”—Salm 16:8.

JEHOFA SY’N RHOI’R FFRINDIAU GORAU ITI

9. (a) Fel y darllenwn yn Ioan 6:44, beth mae Jehofa yn ei wneud? (b) Beth sydd mor arbennig am gwrdd â Thystion eraill?

9 Pan fyddi di’n cwrdd â rhywun sydd ddim yn y gwirionedd am y tro cyntaf, faint rwyt ti’n ei wybod amdano go iawn? Efallai dy fod ti’n gwybod ei enw a’r ffordd mae’n edrych, ond nid llawer mwy na hynny. Ond mae’n wahanol iawn pan fyddi di’n cwrdd â rhywun sydd yn y gwirionedd am y tro cyntaf. Rwyt ti’n gwybod ei fod yn caru Jehofa. Rwyt ti’n gwybod bod Jehofa wedi gweld rhywbeth da ynddo ac wedi ei wahodd i fod yn rhan o’i deulu o addolwyr. (Darllen Ioan 6:44.) Dim ots o le mae’r person yn dod, neu sut cafodd ei fagu, rwyt ti eisoes yn gwybod lot amdano, ac mae yntau yn gwybod lot amdanat tithau!

Mae Jehofa eisiau iti gael ffrindiau da ac i osod amcanion ystyrlon (Gweler paragraffau 9-12)

10, 11. Beth sydd gan bobl Jehofa yn gyffredin, a sut mae hyn yn effeithio arnat ti?

10 Cyn gynted ag yr wyt ti’n cwrdd ag un o’r Tystion, rwyt ti eisoes yn gwybod bod gennych chi’r pethau mwyaf pwysig yn gyffredin. Hyd yn oed os nad ydych chi’n siarad yr un iaith, rwyt ti’n gwybod eich bod chi’n siarad “geiriau glân” y gwirionedd. (Seffaneia 3:9) Golyga hyn fod chi’ch dau yn addoli Duw, eich bod chi’n byw yn ôl yr un safonau moesol, a’ch bod chi’n rhannu’r un gobaith am y dyfodol. Mae’r pethau hyn yn eich helpu i ymddiried yn eich gilydd ac i adeiladu cyfeillgarwch cryf a fydd yn para am byth.

11 Felly, pan fyddi di’n addoli Jehofa, fe elli di ddweud heb os fod gen ti’r ffrindiau gorau oll. Mae gen ti ffrindiau o gwmpas y byd, hyd yn oed os nad wyt ti wedi cwrdd â nhw eto! Elli di feddwl am unrhyw un arall oni bai am bobl Jehofa sy’n mwynhau’r rhodd werthfawr hon?

GOSOD AMCANION GYDA HELP JEHOFA

12. Pa amcanion ystyrlon y gelli di eu gosod?

12 Darllen Pregethwr 11:9–12:1. A oes gen ti unrhyw amcanion rwyt ti’n anelu atyn nhw? Efallai dy fod ti wedi gosod y nod o ddarllen y Beibl bob diwrnod neu o roi atebion neu aseiniadau gwell yn y cyfarfodydd. Neu efallai dy fod ti’n ceisio defnyddio’r Beibl yn effeithiol yn y weinidogaeth. Sut rwyt ti’n teimlo pan fyddi di’n sylwi ar dy gynnydd neu pan fydd eraill yn crybwyll y peth? Yn hapus iawn mae’n debyg, a dyna sut dylet ti deimlo! Pam? Oherwydd dy fod ti’n gwneud beth mae Jehofa eisiau iti ei wneud, fel y gwnaeth Iesu.—Salm 40:8; Diarhebion 27:11.

13. Sut mae gwasanaethu Duw yn well na chanolbwyntio ar bethau’r byd hwn?

13 Pan fyddi di’n canolbwyntio ar dy wasanaeth i Jehofa, rwyt ti’n gwneud gwaith a fydd yn dy wneud di’n hapus ac yn rhoi pwrpas mewn bywyd iti. Cyngor Paul ydy: “Safwch yn gadarn, frodyr a chwiorydd. Peidiwch gadael i ddim byd eich ysgwyd chi. Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd. Dych chi’n gwybod fod unrhyw beth wnewch chi i’r Arglwydd ddim yn wastraff amser.” (Ni biau’r print trwm; 1 Corinthiaid 15:58) Ond pan fydd pobl yn canolbwyntio ar bethau’r byd hwn, fel ennill arian, neu enwogrwydd, dydyn nhw ddim yn wirioneddol hapus. Hyd yn oed os ydyn nhw’n llwyddiannus, maen nhw’n aml yn teimlo’n wag y tu mewn. (Luc 9:25) Rydyn ni’n dysgu hyn o esiampl y Brenin Solomon.—Rhufeiniaid 15:4.

14. Beth elli di ddysgu oddi wrth arbrawf Solomon?

14 Gwnaeth Solomon, a oedd yn un o’r dynion mwyaf cyfoethog a phwerus sydd erioed wedi byw, gynnal arbrawf. Dywedodd wrtho’i hun: “Dw i’n mynd i weld beth sydd gan bleser i’w gynnig!” (Pregethwr 2:1-10) Felly, dyma Solomon yn adeiladu tai crand, dylunio gerddi a pharciau hardd, a gwneud beth bynnag roedd eisiau. A oedd yn teimlo’n fodlon ac yn hapus? Pan fyfyriodd Solomon ar bopeth roedd wedi ei wneud, daeth “i’r casgliad ei fod yn gwneud dim sens.” Ychwanegodd: “Beth mae rhywun yn ei ennill yn y pen draw?” (Pregethwr 2:11) A fyddi di’n dysgu’r wers hon oddi wrth arbrawf Solomon?

Mae ufudd-dod i Jehofa yn dda inni ac yn ein gwneud ni’n wirioneddol rydd

15. Pam mae angen ffydd arnat ti, a sut bydd yn dy helpu di, fel y dysgwn ni o Salm 32:8?

15 Mae rhai pobl yn dysgu gwersi mewn bywyd dim ond drwy wneud camgymeriadau a dioddef y canlyniadau drwg. Dydy Jehofa ddim eisiau i hyn ddigwydd iti. Mae eisiau iti wrando arno ac ufuddhau iddo. Mae hyn yn gofyn am ffydd, ond wnei di byth ddifaru’r dewisiadau y byddi di’n eu gwneud mewn bywyd oherwydd dy ffydd. Ac ni fydd Jehofa byth yn “anghofio beth dych chi wedi’i wneud.” (Hebreaid 6:10) Felly, gweithia’n galed i adeiladu ffydd sy’n gryf. Yna y byddi di’n gwneud dewisiadau da mewn bywyd ac yn gweld drosot ti dy hun fod dy Dad nefol eisiau’r gorau iti.—Darllen Salm 32:8.

MAE DUW YN RHOI GWIR RYDDID ITI

16. Pam dylen ni werthfawrogi rhyddid a’i ddefnyddio mewn ffordd ddoeth?

16 Ysgrifennodd Paul: “Ble bynnag mae Ysbryd yr Arglwydd mae yna ryddid.” (2 Corinthiaid 3:17) Mae Jehofa yn hoff o ryddid, ac mae wedi dy greu di i fod yn hoff o ryddid hefyd. Ond mae eisiau iti ddefnyddio dy ryddid mewn ffordd ddoeth a fydd yn dy amddiffyn di. Efallai fod rhai o dy gyfoedion yn gwylio pornograffi, yn anfoesol yn rhywiol, yn risgio eu bywydau drwy gymryd rhan mewn chwaraeon eithafol, neu’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol. Ar y cychwyn, mae’r pethau hyn yn ymddangos yn hwyl ac yn gyffrous, ond yn aml maen nhw’n arwain at ganlyniadau drwg, fel clefydau, caethiwed i gyffuriau neu alcohol, neu hyd yn oed marwolaeth. (Galatiaid 6:7, 8) Gall pobl ifanc sy’n ymwneud â’r pethau hyn ymddangos fel petasen nhw’n rhydd, ond dydyn nhw ddim.—Titus 3:3.

17, 18. (a) Sut mae ufudd-dod i Dduw yn ein gwneud ni’n wirioneddol rydd? (b) Ym mha ffordd roedd Adda ac Efa yn fwy rhydd na bodau dynol heddiw?

17 Ar y llaw arall, mae ufudd-dod i Jehofa yn dda inni. Mae’n dda i’n hiechyd ac mae’n ein gwneud ni’n wirioneddol rydd. (Salm 19:7-11) A phan fyddi di’n defnyddio dy ryddid mewn ffordd ddoeth, hynny yw, er mwyn dewis ufuddhau i ddeddfau ac egwyddorion perffaith Duw, rwyt ti’n dangos i Dduw a dy rieni dy fod ti’n berson cyfrifol. Y tebyg yw y bydd dy rieni yn ymddiried ynot ti yn fwy ac yn fwy ac yn rhoi mwy o ryddid iti. Ac mae Jehofa yn addo y bydd yn fuan yn rhoi i bob un o’i weision ffyddlon ryddid perffaith, rhyddid y mae’r Beibl yn ei alw yn “rhyddid bendigedig fydd Duw’n ei roi i’w blant.”—Rhufeiniaid 8:21.

18 Dyma’r math o ryddid y gwnaeth Adda ac Efa fwynhau. Yng ngardd Eden, dim ond un peth wnaeth Duw ofyn iddyn nhw beidio â’i wneud. Ddylen nhw ddim bwyta o un goeden benodol. (Genesis 2:9, 17) Wyt ti’n meddwl bod Duw yn annheg neu’n rhy llym drwy roi gorchymyn o’r fath? Wrth gwrs ddim! Meddylia am faint o ddeddfau mae bodau dynol wedi eu creu ac wedi gorfodi i eraill fod yn ufudd iddyn nhw. Ond rhoddodd Jehofa i Adda ac Efa un ddeddf yn unig.

19. Beth mae Jehofa ac Iesu yn ei ddysgu inni a fydd yn ein helpu i fod yn rhydd?

19 Mae Jehofa yn ddoeth iawn yn y ffordd mae’n ein trin ni. Yn hytrach na rhoi llawer o gyfreithiau inni, mae’n ein dysgu ni mewn ffordd amyneddgar i fod yn ufudd i gyfraith cariad. Mae’n ein dysgu ni i fyw yn unol â’i egwyddorion ac i gasáu beth sy’n ddrwg. (Rhufeiniaid 12:9) Yn y Bregeth ar y Mynydd, mae ei Fab, Iesu, yn ein helpu ni i ddeall pam mae pobl yn gwneud pethau drwg. (Mathew 5:27, 28) Ac yn y byd newydd, fel Brenin Teyrnas Dduw, bydd Iesu yn dal i’n dysgu ni i edrych ar bethau da a drwg fel y mae ef yn gwneud. (Hebreaid 1:9) Hefyd, bydd Iesu yn ein gwneud ni’n berffaith o ran corff a meddwl. Dychmyga sut bydd hi pan na fyddwn ni hyd yn oed yn cael ein temtio i wneud pethau drwg a phan na fyddwn ni’n dioddef oherwydd ein bod ni’n amherffaith. Yna, o’r diwedd, byddwn ni’n mwynhau’r “rhyddid bendigedig” mae Jehofa yn ei addo.

20. (a) Sut mae Jehofa yn defnyddio ei ryddid? (b) Sut gelli di efelychu Duw?

20 Yn y byd newydd, bydd cyfyngiadau ar ein rhyddid o hyd. Ym mha ffordd? Bydd yn rhaid inni gael ein cymell gan gariad tuag at Dduw ac at eraill o hyd. Pan fyddwn ni’n cael ein harwain gan gariad, rydyn ni’n efelychu Jehofa. Er bod gan Jehofa ryddid llawn, mae’n dewis gadael i gariad lywio popeth mae’n ei wneud, gan gynnwys y ffordd mae’n ein trin ni. (1 Ioan 4:7, 8) Felly, mae’n gwneud sens ein bod ni ond yn wirioneddol rydd pan fyddwn ni’n efelychu Duw.

21. (a) Sut roedd Dafydd yn teimlo am Jehofa? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

21 Wyt ti’n gwerthfawrogi’r holl bethau da mae Jehofa wedi eu rhoi iti? Mae wedi rhoi bwyd ysbrydol, ffrindiau da, amcanion ystyrlon, y gobaith o ryddid perffaith yn y dyfodol, a llawer o anrhegion rhyfeddol. (Salm 103:5) Yn eithaf tebyg, rwyt ti’n teimlo fel Dafydd pan weddïodd drwy ddefnyddio’r geiriau a geir yn Salm 16:11: “Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi; bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd a hyfrydwch diddiwedd bob amser.” Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn trafod gwirioneddau gwerthfawr eraill o Salm 16. Bydd y rhain yn dy helpu di i gael y bywyd gorau sydd!