Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Mi Welwn Ni Chi ym Mharadwys!”

“Mi Welwn Ni Chi ym Mharadwys!”

“Byddi gyda mi ym Mharadwys.”—LUC 23:43, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

CANEUON: 145, 139

1, 2. Pa wahanol syniadau sydd gan bobl am baradwys?

ROEDD llawer o frodyr a chwiorydd o wahanol wledydd wedi dod i Seoul, Corea, ar gyfer y gynhadledd. Tra oedden nhw’n gadael y stadiwm, ymgasglodd y Tystion lleol o’u cwmpas. Roedd yr olygfa yn llawn emosiwn wrth i lawer ohonyn nhw godi llaw a gweiddi: “Mi welwn ni chi ym Mharadwys!” Pa baradwys roedden nhw’n sôn amdani?

2 Mae gan bobl heddiw wahanol syniadau am baradwys. Mae rhai’n dweud mai ffantasi ydy paradwys. Mae eraill yn dweud mai paradwys ydy unrhyw le sy’n eu gwneud nhw’n hapus. Gall dyn llwglyd sy’n eistedd wrth fwrdd llawn o fwyd deimlo fel petai mewn paradwys. Flynyddoedd yn ôl, gwnaeth dyffryn hardd yn llawn blodau gwylltion wneud cymaint o argraff ar un ddynes nes iddi ddatgan: “O, am baradwys!” Enw’r lle hyd heddiw ydy Paradwys, er bod mwy na 15 metr o eira yn syrthio yno bob blwyddyn. Beth ydy Paradwys i ti? Wyt ti’n gobeithio y bydd yn dod?

3. Pryd ydy’r tro cyntaf i’r Beibl sôn am Baradwys?

3 Mae’r Beibl yn sôn am baradwys a fodolai yn y gorffennol a pharadwys a fydd yn bodoli yn y dyfodol. Y tro cyntaf i’r Beibl sôn am Baradwys ydy yn y llyfr cyntaf. Yn y fersiwn Douay, cyfieithiad Catholig o’r Lladin, dywed Genesis 2:8: “Roedd yr Arglwydd Dduw wedi plannu paradwys o bleser o’r dechrau: yn y lle hwnnw y rhoddodd ddyn yr oedd wedi ei lunio.” (Ni biau’r print trwm.) Mae’r testun Hebraeg yn dweud ‘gardd Eden.’ Mae’r gair “Eden” yn golygu “Pleser,” ac roedd yr ardd honno yn lle pleserus dros ben. Roedd yn hardd ofnadwy, gyda digonedd o fwyd a heddwch rhwng bodau dynol ac anifeiliaid.—Genesis 1:29-31.

4. Pam gallwn ni gyfeirio at ardd Eden fel paradwys?

4 Mae’r gair Hebraeg am “ardd” yn cael ei drosi’n pa·raʹdei·sos yn y Roeg. Yn ôl y Cyclopaedia gan M’Clintock a Strong, pan fyddai person Groeg yn clywed y gair pa·raʹdei·sos, byddai’n dychmygu parc eang a hardd, wedi ei amddiffyn rhag unrhyw beth a allai achosi niwed, yn llawn coed sy’n dwyn gwahanol fathau o ffrwyth, ynghyd â nentydd o ddŵr croyw lle mae antelopiaid a defaid yn pori ar eu glannau glaswelltog.—Genesis 2:15, 16.

5, 6. Pam collodd Adda ac Efa’r fraint o fyw ym Mharadwys, a beth gall rhai pobl ei ofyn?

5 Gwnaeth Jehofa roi Adda ac Efa mewn gardd o’r fath, sef paradwys. Ond oherwydd eu bod nhw wedi anufuddhau i Jehofa, collon nhw’r fraint o fyw ym Mharadwys, iddyn nhw eu hunain ac i’w plant. (Genesis 3:23, 24) Er nad oedd unrhyw berson yn byw yn y Baradwys honno mwyach, mae’n debyg ei bod hi wedi bodoli hyd at y Dilyw yn nyddiau Noa.

6 Gallai pobl ofyn, ‘A fydd Paradwys ar y ddaear byth eto?’ Beth mae’r ffeithiau yn ei ddangos? Os wyt ti’n gobeithio byw gyda dy anwyliaid ym Mharadwys, oes gen ti resymau da dros dy obaith? A elli di esbonio pam y gallwn ni fod yn sicr y bydd ’na baradwys yn y dyfodol?

PARADWYS YN Y DYFODOL

7, 8. (a) Pa addewid a wnaeth Duw i Abraham? (b) Beth gallai addewid Duw fod wedi achosi i Abraham feddwl amdano?

7 Y lle gorau i ffeindio atebion i gwestiynau am Baradwys ydy’r Beibl, oherwydd bod y llyfr hwn yn dod oddi wrth Jehofa, yr un a greodd y Baradwys wreiddiol. Ystyria’r hyn a ddywedodd Duw wrth ei ffrind Abraham. Dywedodd Duw y byddai’n lluosogi disgynyddion Abraham “fel y tywod ar lan y môr.” Wedyn, gwnaeth Jehofa addo rhywbeth pwysig iawn i Abraham: “Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio, am dy fod ti wedi gwneud beth ddywedais i.” (Genesis 22:17, 18) Yn hwyrach ymlaen, gwnaeth Duw ailadrodd yr un addewid i fab ac ŵyr Abraham.—Darllen Genesis 26:4; 28:14.

8 Does dim sôn yn y Beibl fod Abraham wedi credu y byddai bodau dynol yn derbyn gwobr derfynol mewn paradwys yn y nefoedd. Felly, pan addawodd Duw y byddai “cenhedloedd y byd i gyd” yn cael eu bendithio, byddai Abraham wedi credu mai ar y ddaear y byddai’r bendithion hynny’n dod. Ond, oes ’na fwy o dystiolaeth yn y Beibl sy’n dangos y byddai paradwys yn bodoli ar y ddaear?

9, 10. Pa addewidion eraill sy’n rhoi rhesymau inni dros ddisgwyl y bydd ’na baradwys ar y ddaear yn y dyfodol?

9 Ysbrydolodd Duw un o ddisgynyddion Abraham, sef Dafydd, i siarad am amser yn y dyfodol pan “fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman.” (Salm 37:1, 2, 10) Yn hytrach, bydd “y rhai sy’n cael eu cam-drin yn meddiannu’r tir, ac yn cael mwynhau heddwch a llwyddiant.” Hefyd, rhagfynegodd Dafydd: “Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.” (Salm 37:11, 29; 2 Samuel 23:2) Sut rwyt ti’n meddwl gwnaeth yr addewidion hyn effeithio ar bobl a oedd eisiau gwneud ewyllys Duw? Roedd ganddyn nhw reswm i gredu mai dim ond pobl gyfiawn fyddai’n byw ar y ddaear yn y dyfodol ac y byddai’r ddaear unwaith eto yn baradwys fel gardd Eden.

Mae proffwydoliaethau sydd wedi dod yn wir yn dangos y bydd paradwys ar y ddaear yn y dyfodol

10 Dros amser, gwnaeth y rhan fwyaf o bobl a oedd yn honni eu bod nhw’n addoli Jehofa gefnu arno ac ar wir addoliad. Felly, gadawodd Duw i’r Babiloniaid goncro ei bobl, difetha eu tir, a chaethgludo llawer ohonyn nhw. (2 Cronicl 36:15-21; Jeremeia 4:22-27) Ond, dywedodd proffwydi Duw y byddai ei bobl yn dychwelyd i’w mamwlad ar ôl 70 mlynedd. A daeth y proffwydoliaethau hyn yn wir. Ond, mae ganddyn nhw ystyr i ninnau heddiw hefyd. Wrth inni drafod rhai ohonyn nhw, sylwa ar sut maen nhw’n rhoi rhesymau inni dros ddisgwyl y bydd ’na baradwys ar y ddaear yn y dyfodol.

11. Sut cafodd Eseia 11:6-9 ei gyflawni yn y lle cyntaf, a pha gwestiwn gallwn ni ei ofyn o hyd?

11 Darllen Eseia 11:6-9. Rhagfynegodd Duw drwy’r proffwyd Eseia y byddai mamwlad yr Israeliaid yn heddychlon pan fyddan nhw’n mynd yn ôl yno. Ni fyddan nhw’n gorfod poeni rhag ofn i anifeiliaid neu bobl ymosod arnyn nhw. Byddai pawb yn saff, boed yn hen neu’n ifanc. Ydy hynny’n dy atgoffa o’r sefyllfa heddychlon yng ngardd Eden? (Eseia 51:3) Rhagfynegodd Eseia hefyd y byddai’r holl ddaear, nid Israel yn unig, “yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD.” Pryd byddai hynny’n digwydd? Yn amlwg, cyfeirio at y dyfodol roedd Eseia.

12. (a) Pa fendithion gafodd y rhai a ddychwelodd o’r gaethglud ym Mabilon? (b) Beth sy’n dangos y byddai Eseia 35:5-10 yn cael ei gyflawni yn y dyfodol hefyd?

12 Darllen Eseia 35:5-10. Sylwa fod Eseia wedi proffwydo unwaith eto na fyddai’r Israeliaid a oedd yn dychwelyd o Fabilon yn gorfod ofni y byddai anifeiliaid a phobl yn ymosod arnyn nhw. Dywedodd y byddai eu tir yn cynhyrchu digonedd o fwyd da oherwydd y byddai digonedd o ddŵr, fel roedd yn wir yng ngardd Eden. (Genesis 2:10-14; Jeremeia 31:12) A fyddai’r broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni adeg yr Israeliaid yn unig? Sylwa hefyd fod y broffwydoliaeth yn dweud y byddai’r dall, y cloff, a’r byddar yn cael eu hiacháu. Ond, ni ddigwyddodd hyn i’r Israeliaid a ddaeth yn ôl o Fabilon. Yn hytrach, roedd Duw yn nodi y byddai’n iacháu pob afiechyd yn y dyfodol.

13, 14. Sut cafodd Eseia 65:21-23 ei gyflawni pan ddychwelodd yr Israeliaid o Fabilon, ond pa ran o’r broffwydoliaeth sydd eto heb ei chyflawni? (Gweler y llun agoriadol.)

13 Darllen Eseia 65:21-23. Pan ddychwelodd yr Iddewon i’w mamwlad, ni ddaethon nhw o hyd i dai cyffyrddus, caeau aredig, a gwinllannoedd wedi eu trin. Ond oherwydd i Dduw eu bendithio, newidiodd pethau ymhen amser. Dychmyga pa mor hapus oedd y bobl pan oedden nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw ac yn mwynhau bwyta’r bwyd roedden nhw wedi ei dyfu!

14 Sylwa fod y broffwydoliaeth yn dweud: “Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden.” Mae rhai coed yn byw am filoedd o flynyddoedd. I fyw cyhyd â hynny, byddai’n rhaid i fodau dynol fod yn iach dros ben. A phetasen nhw’n gallu byw yn yr amgylchedd hardd a heddychlon y proffwydodd Eseia amdano, byddai hynny’n wir yn baradwys ryfeddol! A bydd y broffwydoliaeth honno yn cael ei chyflawni!

Sut byddai’r addewid a wnaeth Iesu am Baradwys yn cael ei gyflawni? (Gweler paragraffau 15, 16)

15. Beth ydy rhai o’r bendithion sy’n cael eu crybwyll yn llyfr Eseia?

15 Meddylia am sut mae’r addewidion rydyn ni newydd sôn amdanyn nhw yn dangos y bydd ’na baradwys yn y dyfodol. Bydd y ddaear gyfan yn llawn pobl sydd wedi eu bendithio gan Dduw. Bydd neb yn gorfod poeni rhag ofn i anifeiliaid neu bobl dreisgar ymosod arnyn nhw. Bydd y dall, y byddar, a’r cloff yn cael eu hiacháu. Bydd pobl yn adeiladu eu tai eu hunain ac yn mwynhau tyfu eu bwyd eu hunain. Byddan nhw’n byw yn hirach na’r coed. Yn wir, mae’r Beibl yn rhoi tystiolaeth fod paradwys o’r fath yn dod. Ond gall rhai pobl ddweud nad ydy’r proffwydoliaethau hyn yn golygu y bydd paradwys ar y ddaear. Beth fyddet ti’n ei ddweud wrthyn nhw? Pa reswm dilys sydd gen ti i edrych ymlaen at baradwys go iawn ar y ddaear? Rhoddodd y dyn mwyaf a fu’n byw erioed reswm dilys inni.

BYDDI DI YM MHARADWYS!

16, 17. Pryd y siaradodd Iesu am Baradwys?

16 Er bod Iesu yn ddieuog, cafodd ei farnu’n euog a’i hongian ar bren artaith i farw, gyda throseddwr Iddewig bob ochr iddo. Sylweddolodd un ohonyn nhw fod Iesu’n frenin a dweud: “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.” (Luc 23:39-42) Mae’r addewid a wnaeth Iesu i’r troseddwr yn effeithio ar dy ddyfodol. Cofnodwyd geiriau Iesu yn Luc 23:43. Mae rhai ysgolheigion yn rhoi coma cyn y gair “heddiw” ac yn cyfieithu’r geiriau hyn: “Yn wir, rwy’n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.” Mae’r farn yn amrywio ynglŷn â lle dylid rhoi’r coma yn y frawddeg honno. Ond beth roedd Iesu yn ei olygu pan ddywedodd “heddiw”?

17 Mewn llawer o ieithoedd modern, mae comas yn cael eu defnyddio i wneud ystyr brawddeg yn glir. Ond yn y llawysgrifau Groeg cynharaf, doedd atalnodi ddim bob amser yn cael ei ddefnyddio. Felly, gallwn ofyn: A oedd Iesu yn dweud, “Yn wir, rwy’n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys”? neu’n dweud, “Yn wir, rwy’n dweud wrthyt heddiw, byddi gyda mi ym Mharadwys”? Mae cyfieithwyr yn rhoi’r coma naill ai o flaen neu ar ôl y gair “heddiw,” yn dibynnu ar sut maen nhw’n deall geiriau Iesu, a gelli di ganfod y ddau gyfieithiad mewn Beiblau heddiw.

18, 19. Beth sy’n ein helpu i ddeall beth roedd Iesu yn ei olygu?

18 Fodd bynnag, cofia beth ddywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr am ei farwolaeth. Dywedodd: “Bydd Mab y Dyn yn nyfnder y ddaear am dri diwrnod a thair nos.” Dywedodd hefyd: “Y mae Mab y Dyn i’w draddodi i ddwylo pobl, ac fe’i lladdant ef, a’r trydydd dydd fe’i cyfodir.” (Mathew 12:40; 16:21; 17:22, 23; Marc 10:34, BCND) Mae’r apostol Pedr yn dweud mai dyna ddigwyddodd. (Actau 10:39, 40) Felly ni wnaeth Iesu fynd i Baradwys y diwrnod y bu farw ef a’r troseddwr. Dywed y Beibl fod Iesu yn “y bedd” am dridiau, hyd nes i Dduw ei atgyfodi.—Actau 2:31, 32. * (Gweler y troednodyn.)

19 Felly defnyddiodd Iesu’r ymadrodd “Yn wir, rwy’n dweud wrthyt heddiw” i gyflwyno ei addewid i’r troseddwr. Roedd y ffordd honno o siarad yn gyffredin iawn hyd yn oed yn nyddiau Moses. Ar un adeg, dywedodd Moses: “Paid anghofio’r pethau dw i’n eu gorchymyn i ti heddiw.”—Deuteronomium 6:6; 7:11; 8:1, 19; 30:15.

20. Beth sy’n cefnogi ein dealltwriaeth o’r hyn a ddywedodd Iesu?

20 Dywedodd cyfieithydd Beiblaidd o’r Dwyrain Canol: “Mae’r pwyslais yn yr ymadrodd hwn ar y gair ‘heddiw’ a dylid dweud, ‘Yn wir, rwy’n dweud wrthyt heddiw, byddi gyda mi ym Mharadwys.’ Gwnaethpwyd yr addewid ar y diwrnod hwnnw a byddai’n cael ei gyflawni yn ddiweddarach.” Dywedodd y cyfieithydd hwnnw hefyd mai dyma sut mae pobl yn siarad yn yr ardal honno a bod hynny’n awgrymu bod “yr addewid wedi ei wneud ar ddiwrnod penodol a byddai’n bendant yn cael ei gadw.” Mae fersiwn Syrieg o’r bumed ganrif yn cyfieithu’r adnod fel hyn: “Amen, rwy’n dweud wrthyt ti heddiw y byddi di yng Ngardd Eden.” Dylai pob un ohonon ni gael ein hannog gan yr addewid hwnnw.

21. Beth na ddigwyddodd i’r troseddwr, a pham?

21 Pan siaradodd Iesu wrth y troseddwr am Baradwys, doedd ddim yn golygu paradwys nefol. Sut rydyn ni’n gwybod? Un rheswm ydy nad oedd y troseddwr hyd yn oed yn gwybod bod Iesu wedi gwneud cyfamod â’i apostolion ffyddlon i reoli gydag ef yn y nefoedd. (Luc 22:29) Hefyd, doedd y troseddwr ddim hyd yn oed wedi cael ei fedyddio. (Ioan 3:3-6, 12) Felly, pan wnaeth Iesu’r addewid hwn i’r troseddwr, mae’n rhaid ei fod wedi bod yn siarad am baradwys ddaearol. Flynyddoedd wedyn, siaradodd yr apostol Paul am weledigaeth ynglŷn â dyn a oedd “wedi cael ei gymryd i baradwys.” (2 Corinthiaid 12:1-4) Er bod Paul a’r apostolion eraill wedi eu dewis ar gyfer rheoli yn y nefoedd gyda Iesu, roedd Paul yn siarad am baradwys yn y dyfodol. * (Gweler y troednodyn.) A fyddai’r baradwys honno ar y ddaear? A elli di fod yno?

YR HYN I’W DDISGWYL

22, 23. Beth yw dy obaith di?

22 Cofia fod Dafydd wedi siarad am amser pan fydd y “rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir.” (Salm 37:29; 2 Pedr 3:13) Roedd Dafydd yn cyfeirio at amser pan fyddai pawb ar y ddaear yn ufudd i egwyddorion cyfiawn Duw. Mae’r broffwydoliaeth yn Eseia 65:22 yn dweud: “Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden.” Mae hyn yn dangos y bydd pobl sy’n gwasanaethu Jehofa yn y byd newydd yn byw am filoedd o flynyddoedd. A elli di ddisgwyl hynny? Fe elli di, oherwydd yn ôl Datguddiad 21:1-4, bydd Duw yn bendithio dynolryw, ac un o’r bendithion hynny ydy’r ffaith na “fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen.”

23 Mae’r hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu am Baradwys yn glir. Collodd Adda ac Efa’r fraint o fywyd tragwyddol ym Mharadwys, ond fe fydd y ddaear yn baradwys eto. Yn ôl ei addewid, bydd Duw yn bendithio’r bobl ar y ddaear. Dywedodd Dafydd hefyd y byddai’r cyfiawn yn etifeddu’r ddaear ac yn byw arni am byth. Ac mae’r proffwydoliaethau yn llyfr Eseia yn ein helpu i edrych ymlaen at yr amser pan fyddwn ni’n mwynhau bywyd ar ddaear hardd o baradwys. Pryd bydd hynny? Pan fydd addewid Iesu i’r troseddwr yn cael ei gyflawni. Gelli di fod yn y Baradwys honno. Bryd hynny, mae’r hyn a ddywedodd y brodyr a’r chwiorydd yn Corea yn ystod y gynhadledd yn mynd i ddod yn wir: “Mi welwn ni chi ym Mharadwys!”

^ Par. 18 Ysgrifennodd yr Athro C. Marvin Pate fod llawer o ysgolheigion yn credu bod Iesu, pan ddywedodd y gair “heddiw,” yn golygu y byddai’n marw a chael bod ym Mharadwys ar y diwrnod hwnnw, neu o fewn 24 awr. Ychwanegodd yr Athro Pate fod y farn hon yn broblem oherwydd nad ydy hi’n cyd-fynd â ffeithiau eraill y Beibl. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud bod Iesu yn y Bedd ar ôl iddo farw a’i fod wedyn wedi mynd i’r nefoedd.—Mathew 12:40; Actau 2:31; Rhufeiniaid 10:7.

^ Par. 21 Gweler y “Questions From Readers” yn y rhifyn safonol Saesneg o’r cylchgrawn hwn.