Bydd y Cyfiawn yn Llawenhau yn Jehofa
MAE Diana dros ei hwyth deg ac wedi dioddef cryn dipyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bu farw ei gŵr, a oedd gan glefyd Alzheimer ac yn arfer bod mewn cartref nyrsio. Bu farw hefyd ei dau fab, ac roedd yn rhaid iddi hi ei hun frwydro yn erbyn canser y fron. Ond pan fydd y brodyr a’r chwiorydd yn gweld Diana yn y cyfarfodydd neu yn y weinidogaeth, mae hi bob amser yn llawen.
Roedd John yn arolygwr teithiol am dros 43 o flynyddoedd. Roedd yn hoff iawn o’i aseiniad ac ni allai feddwl am wneud unrhyw beth arall. Fodd bynnag, roedd yn rhaid rhoi’r gorau i’r gwaith hwnnw er mwyn gofalu am berthynas iddo a oedd yn sâl. Pan fydd brodyr a chwiorydd a oedd yn adnabod John yn cwrdd ag ef mewn cynulliad neu gynhadledd, maen nhw’n gweld nad ydy John wedi newid o gwbl. Mae’n dal yn llawen dros ben.
Sut mae’n bosib i Diana a John fod mor llawen? Sut gall rhywun sy’n dioddef fod yn llawen? Sut gall rhywun fod yn llawen er iddo roi’r gorau i aseiniad y mae’n ei garu? Mae’r Beibl yn rhoi’r ateb. Dywed: “Bydd y rhai sy’n byw’n gywir yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.” (Salm 64:10) Gallwn ni ddeall y gwirionedd hwn yn well os ydyn ni’n gwybod beth fydd yn rhoi llawenydd sy’n para inni a beth na fydd.
LLAWENYDD DROS DRO
Mae rhai pethau bron bob amser yn dod â llawenydd. Er enghraifft, meddylia am gwpl sy’n caru ei gilydd ac sy’n priodi. Neu, meddylia am berson sy’n dod yn rhiant neu rywun sy’n cael aseiniad newydd yng ngwasanaeth Jehofa. Mae’r pethau hyn yn dod â llawenydd oherwydd eu bod nhw i gyd yn anrhegion oddi wrth Jehofa. Ef a roddodd y briodas inni, y gallu i gael plant, a gwaith i’w wneud yn ei gyfundrefn.—Genesis 2:18, 22; Salm 127:3; 1 Timotheus 3:1.
Fodd bynnag, gall rhai pethau sy’n dod â llawenydd bara am gyfnod byr yn unig. Yn anffodus, gall cymer priodas fod yn anffyddlon neu farw. (Eseciel 24:18; Hosea 3:1) Gall plant anufuddhau i’w rhieni a’u Duw, a chael eu diarddel hyd yn oed. Er enghraifft, doedd meibion Samuel ddim yn gwasanaethu Jehofa mewn ffordd dderbyniol, a chafodd Dafydd lawer o broblemau yn ei deulu oherwydd iddo bechu gyda Bathseba. (1 Samuel 8:1-3; 2 Samuel 12:11) Pan fydd pethau fel hyn yn digwydd, maen nhw’n dod â phoen a galar yn hytrach na llawenydd.
Yn yr un modd, weithiau dydy hi ddim yn bosib inni barhau yn ein haseiniad yng ngwasanaeth Jehofa oherwydd salwch neu oherwydd ein bod ni’n gorfod gofalu am ein teulu, neu oherwydd bod ’na newidiadau yn y gyfundrefn. Mae llawer sydd wedi gorfod rhoi’r gorau i’w haseiniad yn dweud eu bod nhw’n hiraethu am yr hapusrwydd roedd yr aseiniad yn ei roi iddyn nhw.
Gallwn weld yn hawdd nad ydy llawenydd sy’n seiliedig ar resymau o’r fath bob amser yn para. Felly, oes ’na fath o lawenydd sy’n aros hyd yn oed pan fydd bywyd yn anodd? Mae’n rhaid fod ’na, oherwydd ni wnaeth Samuel, Dafydd, nac eraill golli eu llawenydd pan wynebon nhw dreialon.
LLAWENYDD SY’N PARA
Roedd Iesu yn deall ystyr gwir lawenydd. Cyn iddo ddod i’r ddaear, mae’r Beibl yn dweud ei fod yn “dathlu’n ddi-stop” gerbron Jehofa. (Diarhebion 8:30) Fodd bynnag, pan ddaeth i’r ddaear, roedd weithiau’n gorfod wynebu treialon caled iawn. Er hynny, roedd Iesu yn llawen yn gwneud ewyllys ei Dad. (Ioan 4:34) Beth am ei oriau olaf poenus? Darllenwn: “Er mwyn profi’r llawenydd oedd o’i flaen, dyma fe’n dal ei dir ar y groes.” (Hebreaid 12:2) Felly, gallwn ddysgu llawer oddi wrth ddau beth a ddywedodd Iesu am wir lawenydd.
Ar un achlysur, dychwelodd 70 o ddisgyblion Iesu ato ar ôl aseiniad pregethu. Roedden nhw’n llawen oherwydd yr holl bethau roedden nhw wedi eu gwneud, gan gynnwys bwrw cythreuliaid allan hyd yn oed. Ond, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Peidiwch bod yn llawen am fod ysbrydion drwg yn ufuddhau i chi; y rheswm dros fod yn llawen ydy bod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.” (Luc 10:1-9, 17, 20) Yn wir, mae cymeradwyaeth Jehofa yn llawer mwy pwysig ac yn dod â llawer mwy o lawenydd nag unrhyw aseiniad arbennig.
Ar achlysur arall, pan oedd Iesu’n siarad â thorf o bobl, gwnaeth ffordd Iesu o ddysgu gymaint o argraff ar un ddynes nes iddi ddweud bod mam Iesu yn gorfod bod yn hapus iawn o gael mab o’r fath. Ond, atebodd Iesu: “Mae’r rhai sy’n gwrando Luc 11:27, 28) Gall bod yn falch o’n plant ddod â hapusrwydd. Ond yr hyn sy’n dod â llawenydd parhaol ydy ufudd-dod i Jehofa a chael perthynas dda gydag ef.
ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi’u bendithio’n fwy!” (Mae’n rhoi pleser mawr inni pan fyddwn ni’n teimlo ein bod ni’n plesio Jehofa. Ac er nad ydy treialon yn bleserus, dydyn nhw ddim yn mynd â’r teimlad hwnnw oddi wrthyn ni. Pan fyddwn ni’n aros yn ffyddlon yn ystod treialon, bydd ein llawenydd yn dwysáu. (Rhufeiniaid 5:3-5) Hefyd, mae Jehofa yn rhoi ei ysbryd i’r rhai sy’n ymddiried ynddo, ac mae llawenydd yn rhan o’i ffrwyth. (Galatiaid 5:22) Mae hynny’n ein helpu ni i ddeall pam mae Salm 64:10 yn dweud: “Bydd y rhai sy’n byw’n gywir yn gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.”
Mae hyn hefyd yn esbonio pam y gallai Diana a John aros yn llawen er iddyn nhw wynebu anawsterau. Dywedodd Diana: “Mae Jehofa yn noddfa imi fel y mae rhiant yn noddfa i’w blentyn.” Mae hi’n ychwanegu: “Dw i’n teimlo ei fod wedi fy mendithio â’r gallu i ddal ati yn y gwaith pregethu efo gwên ar fy wyneb.” Beth wnaeth helpu John i aros yn ffyddlon ac yn brysur yn y weinidogaeth ar ôl iddo roi’r gorau i’w aseiniad? Dywedodd: “Ers 1998 pan gefais fy aseinio i ddysgu yn yr Ysgol Hyfforddi Gweinidogaethol, dw i wedi gwneud mwy o astudiaeth bersonol nag erioed o’r blaen.” Mae’n esbonio bod y newidiadau roedd yn rhaid iddo ef a’i wraig eu gwneud yn haws oherwydd eu bod nhw’n wastad yn fodlon gwneud beth bynnag roedd Jehofa wedi ei roi fel aseiniad iddyn nhw. Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi gwneud popeth heb ddifaru dim.”
Mae llawer wedi profi gwirionedd Salm 64:10. Ystyria, er enghraifft, hanes cwpl a oedd yn gwasanaethu ym Methel yr Unol Daleithiau am dri deng mlynedd a mwy. Wedyn, cawson nhw’r aseiniad o fod yn arloeswyr arbennig. Dyma nhw’n cyfaddef: “Mae galaru yn broses hollol naturiol pan fyddwch chi’n colli rhywbeth rydych chi’n ei garu,” ond ychwanegon nhw: “Allwch chi ddim galaru am byth.” Cyn gynted ag y cyrhaeddon nhw eu haseiniad newydd, dechreuon nhw bregethu gyda’r gynulleidfa. Dywedon nhw hefyd: “Gweddïon ni am rai pethau penodol iawn. Yna, roedd gweld ein gweddïau yn cael eu hateb yn ein hannog ni ac yn rhoi llawenydd inni. Yn fuan ar ôl inni gyrraedd, dechreuodd eraill yn y gynulleidfa arloesi, ac mi gawson ni’n bendithio efo dwy astudiaeth Feiblaidd dda iawn.”
LLAWENHAU AM BYTH
Wrth gwrs, dydy bod yn llawen ddim bob amser yn hawdd. Ar adegau, byddwn ni’n teimlo’n drist. Ond mae Jehofa yn ein cysuro ni gyda’r geiriau yn Salm 64:10. Hyd yn oed pan fyddwn ni’n ddigalon, os byddwn ni’n aros yn ffyddlon yn wyneb treialon, gallwn fod yn sicr y byddwn ni’n gorfoleddu yn Jehofa. Gallwn hefyd edrych ymlaen at yr amser pan fydd yr addewid o “nefoedd newydd a daear newydd” yn dod yn wir. Bryd hynny, bydd pawb yn berffaith ac yn dathlu ac yn mwynhau creadigaeth Jehofa am byth.—Eseia 65:17, 18.
Dychmyga beth fydd hyn yn ei olygu. Bydd gennyn ni iechyd perffaith ac yn deffro bob bore yn llawn egni. Dim ots beth ddigwyddodd yn y gorffennol i wneud inni deimlo’n drist, ni fyddan nhw bellach yn achosi poen inni. Dyma addewid cysurus Jehofa: “Bydd pethau’r gorffennol wedi eu hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl.” Byddwn ni’n croesawu yn ôl ein hanwyliaid sydd wedi marw ac yn teimlo yr un fath â’r rhieni a oedd “wedi eu syfrdanu’n llwyr” pan wnaeth Iesu atgyfodi eu merch 12 mlwydd oed. (Marc 5:42) Yn y pen draw, bydd pob person ar y ddaear yn wirioneddol gyfiawn ac yn llawenhau yn Jehofa am byth.