Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Canwn yn Llawen!

Canwn yn Llawen!

“Mae mor dda canu mawl i Dduw!”—SALM 147:1.

CANEUON: 10, 2

1. Beth mae canu yn ein helpu ni i’w wneud?

DYWEDODD un cyfansoddwr caneuon enwog: “Mae geiriau yn gwneud iti feddwl. Mae cerddoriaeth yn gwneud iti deimlo. Ond mae cân yn gwneud iti deimlo emosiwn y syniadau.” Drwy ein caneuon, rydyn ni’n moli ein Tad nefol Jehofa, ac yn dangos ein cariad tuag ato. Maen nhw’n gwneud inni deimlo’n agosach ato. Felly, hawdd yw deall pam mae canu yn rhan mor bwysig o addoliad pur, p’un a ydyn ni’n canu ar ein pennau ein hunain neu gyda’n brodyr a’n chwiorydd.

2, 3. (a) Sut mae rhai yn teimlo am ganu’n uchel gyda’r gynulleidfa? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?

2 Ond, sut rwyt ti’n teimlo am godi dy lais a chanu gyda’r gynulleidfa? Wyt ti’n teimlo cywilydd? Mewn rhai diwylliannau, efallai bydd canu o flaen eraill yn gwneud i ddynion deimlo’n anghyfforddus. Gall yr agwedd hon gael effaith negyddol ar y gynulleidfa gyfan, yn enwedig os yw’r henuriaid yn dal yn ôl neu’n brysur yn gwneud pethau eraill yn ystod y canu.—Salm 30:12.

3 Mae canu’n rhan o’n haddoliad i Jehofa. Yn sicr, dydyn ni byth eisiau cerdded i ffwrdd yn ystod y gân na cholli’r rhan honno o’r cyfarfod. Felly, sut rwyt ti’n teimlo am ganu yn ein cyfarfodydd? Beth gelli di ei wneud os wyt ti’n dal yn ôl rhag canu o flaen pobl eraill? Sut gelli di ganu â mwy o deimlad?

RHAN HANFODOL O ADDOLI

4, 5. Beth oedd y trefniadau ar gyfer canu yn y deml yn Israel?

4 Drwy gydol hanes, mae addolwyr Jehofa wedi defnyddio cerddoriaeth i’w glodfori. Diddorol yw nodi, pan oedd yr Israeliaid yn ffyddlon i Jehofa, roedd canu yn rhan bwysig o’u haddoliad. Er enghraifft, pan oedd Dafydd yn paratoi ar gyfer y deml, trefnodd i 4,000 o Lefiaid foli Jehofa â cherddoriaeth. O blith y rhain, “roedd 288 ohonyn nhw yn canu o flaen yr ARGLWYDD; i gyd yn gerddorion dawnus a phrofiadol.”—1 Cronicl 23:5; 25:7.

5 Hefyd, roedd cerddoriaeth a chanu yn rhan bwysig o gysegru’r deml. Mae’r Beibl yn dweud: “Roedd y cerddorion a’r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda’i gilydd i roi mawl a diolch i’r ARGLWYDD. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a’r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli’r ARGLWYDD. . . . Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi Teml Dduw.” Yn sicr, roedd y digwyddiad hwnnw wedi cryfhau ffydd yr Israeliaid!—2 Cronicl 5:13, 14; 7:6.

6. Pa drefniadau o ran canu a cherddoriaeth a wnaeth Nehemeia pan oedd yn llywodraethwr yn Jerwsalem?

6 Gwnaeth Nehemeia, a oedd wedi trefnu i’r Israeliaid ailadeiladu waliau Jerwsalem, hefyd drefnu i’r Lefiaid ganu a chwarae cerddoriaeth. Ar adeg cysegru’r waliau, roedd eu perfformiad yn gwneud yr achlysur yn fwy llawen byth. Roedd Nehemeia wedi penodi “dau gôr i ganu mawl.” Roedd y corau yn cerdded ar ben waliau’r ddinas yn groes i’w gilydd nes iddyn nhw gwrdd ar y wal agosaf at y deml. Roedd y sŵn a wnaethon nhw mor uchel fel yr oedd pobl yn gallu ei glywed o bell. (Nehemeia 12:27, 28, 31, 38, 40, 43) Gallwn fod yn sicr fod Jehofa wrth ei fodd yn clywed ei addolwyr yn ei glodfori’n frwd ar gân.

7. Sut dangosodd Iesu y byddai canu yn rhan hanfodol o addoliad Cristnogol?

7 Yn nyddiau Iesu, roedd cerddoriaeth yn dal yn rhan hanfodol o wir addoliad. Meddylia am yr hyn a ddigwyddodd ar y noson bwysicaf yn hanes dyn. Ar ôl i Iesu gynnal Swper yr Arglwydd gyda’i ddisgyblion, gwnaethon nhw ganu caneuon o fawl i Jehofa gyda’i gilydd.—Darllen Mathew 26:30.

8. Sut gosododd y Cristnogion cyntaf esiampl dda o ran anrhydeddu Duw ar gân?

8 Gosododd y Cristnogion cyntaf esiampl dda o ran anrhydeddu Duw ar gân. Yn wahanol i’r Israeliaid, a oedd yn mynd i’r deml i addoli Jehofa, roedd y Cristnogion hynny’n cyfarfod yn eu cartrefi. Er nad oedd y cartrefi hynny mor hardd a thrawiadol â’r deml, roedd y brodyr yn dal yn canu’n frwd. Hefyd, dywedodd yr apostol Paul wrth ei frodyr Cristnogol: “Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw.” (Colosiaid 3:16) Yn bendant, dylen ni ganu mewn ffordd sy’n mynegi ein diolch. Mae’r caneuon yn rhan o’r “bwydo” rheolaidd rydyn ni’n ei dderbyn oddi wrth y gwas ffyddlon a chall.—Mathew 24:45.

SUT I GANU’N HYDERUS?

9. (a) Pam mae rhai yn dal yn ôl rhag canu yn ein cyfarfodydd ac yn ein cynulliadau? (b) Sut dylen ni ganu i Jehofa, a phwy ddylai arwain? (Gweler y llun agoriadol.)

9 Beth efallai sy’n achosi iti ddal yn ôl rhag canu? Efallai dydy hi ddim yn rhan o ddiwylliant dy deulu. Neu efallai dy fod ti’n cymharu dy lais di â lleisiau cantorion ar y radio neu’r teledu, ac yna’n teimlo’n siomedig. Ond, mae gan bob un ohonon ni’r cyfrifoldeb o ganu mawl i Jehofa. Felly, dal dy lyfr canu yn uchel, coda dy ben, a chana’n frwdfrydig! (Esra 3:11; darllen Salm 147:1.) Heddiw, mae gan lawer o Neuaddau’r Deyrnas sgrin sy’n dangos geiriau’r caneuon, ac mae hynny yn ein helpu i ganu’n uchel. Diddorol hefyd yw bod caneuon y Deyrnas yn rhan o Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas ar gyfer henuriaid. Pwysig, felly, yw bod yr henuriaid yn arwain y canu yn ein cyfarfodydd.

10. Beth dylen ni ei gofio os ydyn ni’n poeni am ganu’n uchel?

10 Mae llawer yn ofni canu’n uchel oherwydd eu bod nhw’n meddwl y byddan nhw’n rhy uchel neu oherwydd eu bod nhw’n teimlo nad yw eu llais yn ddigon da. Ond, meddylia am hyn: “Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau” wrth siarad, ond dydy hynny ddim yn ein stopio ni rhag siarad. (Iago 3:2) Felly, pam y dylen ni adael i amherffeithrwydd ein stopio ni rhag canu mawl i Jehofa?

11, 12. Sut gallwn ni wella ein canu?

11 Efallai fod canu’n codi ofn arnon ni oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod sut i ganu. Ond, mae ’na bethau syml sy’n gallu ein helpu. *—Gweler y troednodyn.

12 Gelli di ganu â llais cryf ac uchel drwy ddysgu sut i anadlu’n iawn. Fel mae trydan yn goleuo bylb, mae dy anadl yn rhoi nerth i dy lais pan fyddi di’n siarad neu’n canu. Dylet ti ganu yr un mor uchel ag yr wyt ti’n siarad neu hyd yn oed yn uwch. (Gweler yr awgrymiadau yn y llyfr Benefit From Theocratic Ministry School Education, tudalennau 181 i 184, o dan yr is-bennawd “Properly Control Your Air Supply.”) Yn wir, mae’r Beibl yn dweud wrth addolwyr Jehofa am ganu’n llawn brwdfrydedd i “gyfeiliant hyfryd a bwrlwm llawenydd.”—Salm 33:1-3.

13. Esbonia sut y gallwn ni ganu’n fwy hyderus.

13 Yn ystod addoliad y teulu, neu ar dy ben dy hun, tria hyn: Dewisa dy hoff gân o’r llyfr caneuon. Darllena’r geiriau’n uchel mewn llais cryf a hyderus. Nesaf, gan ddefnyddio’r un cryfder, dyweda’r geiriau yn un o’r cymalau mewn un anadl. Yna, cana’r cymal hwnnw drwy ddefnyddio llais yr un mor gryf. (Eseia 24:14) Bydd dy lais canu yn cryfhau, sydd yn beth da. Paid â gadael i hynny godi ofn na chywilydd arnat ti!

14. (a) Sut mae agor ein cegau yn llydan yn helpu ein canu? (Gweler y blwch “ Sut i Wella Dy Ganu.”) (b) Pa awgrymiadau ynglŷn â chryfhau’r llais sydd wedi dy helpu di?

14 Er mwyn cael llais canu cryf, mae’n rhaid gwneud lle yn dy geg. Felly, pan wyt ti’n canu, agora dy geg yn fwy llydan nag y byddi di’n ei wneud wrth siarad. Ond, beth dylet ti ei wneud os wyt ti’n meddwl bod gen ti lais gwan neu lais sy’n rhy fain? Fe gei di hyd i awgrymiadau yn y blwch “Overcoming Specific Problems,” yn y llyfr Benefit From Theocratic Ministry School Education, tudalen 184.

CANU O’R GALON

15. (a) Beth gafodd ei ryddhau yng nghyfarfod blynyddol 2016? (b) Pam roedd angen diwygio’r llyfr caneuon?

15 Roedd pawb a aeth i gyfarfod blynyddol 2016 wedi cyffroi ar ôl clywed y Brawd Stephen Lett o’r Corff Llywodraethol yn rhyddhau llyfr caneuon newydd sy’n dwyn y teitl Canwn yn Llawen i Jehofa. Fel y gwnaeth y Brawd Lett esbonio, un rheswm dros gael llyfr caneuon newydd oedd bod y New World Translation of the Holy Scriptures wedi cael ei ddiwygio. Cafodd ymadroddion sydd ddim yn y New World Translation eu dileu. Hefyd, cafodd caneuon newydd am y gwaith pregethu ac am y pridwerth eu hychwanegu. Ar ben hynny, oherwydd bod canu yn rhan hanfodol o’n haddoliad, roedd y Corff Llywodraethol eisiau cynhyrchu llyfr caneuon o’r ansawdd gorau. Felly, mae ei glawr yn debyg i glawr y New World Translation.

16, 17. Beth sydd wedi newid yn y llyfr caneuon newydd?

16 Er mwyn gwneud y llyfr caneuon yn haws ei ddefnyddio, mae’r caneuon wedi eu trefnu fesul pwnc. Er enghraifft, mae’r 12 cân gyntaf yn ymwneud â Jehofa, mae’r 8 cân nesaf yn ymwneud â Iesu a’r pridwerth, ac yn y blaen. Mae ’na restr lawn o’r holl bynciau ar ddechrau’r llyfr caneuon. Gall hyn fod yn help, er enghraifft, pan fydd brawd yn gorfod dewis cân ar gyfer anerchiad cyhoeddus.

17 Er mwyn helpu pawb i ganu o’r galon, cafodd rhai o’r geiriau eu newid i wneud neges y caneuon yn fwy eglur. Hefyd, cafodd geiriau hynafol eu disodli. Dyna pam y newidiwyd teitl y gân “Diolch am Hirymaros Dwyfol” i “Diolch am Amynedd Dwyfol,” a chafodd geiriau’r gân eu haddasu hefyd. Yn y llyfr caneuon Saesneg, priodol hefyd oedd newid teitl y gân “Guard Your Heart” o’r modd gorchmynnol i’r datganiad “We Guard Our Hearts.” Pam? Oherwydd o’r blaen, pan oedd rhywun yn canu’r gân hon, roedd ef neu hi yn dweud wrth eraill beth i’w wneud. Gallai hyn wneud i rai newydd, rhai â diddordeb, rhai ifanc, a chwiorydd deimlo’n anghyfforddus yn ein cyfarfodydd, ein cynulliadau, a’n cynadleddau. Felly, newidiwyd y teitl a’r geiriau.

Pam na wnei di ymarfer y caneuon yn ystod addoliad y teulu? (Gweler paragraff 18)

18. Pam y dylen ni ddysgu’r caneuon yn ein llyfr caneuon newydd? (Gweler y troednodyn.)

18 Mae llawer o’r caneuon yn y llyfr Canwn yn Llawen i Jehofa yn debyg i weddïau. Gall y caneuon hyn dy helpu i ddweud wrth Jehofa sut rwyt ti’n teimlo. Bydd caneuon eraill yn ein helpu “i ddangos cariad a gwneud daioni.” (Hebreaid 10:24) Rydyn ni eisiau dysgu alawon, rhythmau, a geiriau ein caneuon newydd. Un ffordd o wneud hyn ydy gwrando ar recordiadau o frodyr a chwiorydd yn canu’r caneuon. Mae’r recordiadau hyn ar gael mewn llawer o ieithoedd ar jw.org. Wrth iti ymarfer y caneuon yn dy gartref, gelli di ddysgu i’w canu’n frwd ac yn llawn teimlad. *—Gweler y troednodyn.

19. Sut gall pawb yn y gynulleidfa addoli Jehofa?

19 Cofia fod canu yn rhan bwysig o’n haddoliad. Mae’n ffordd bwerus o ddangos i Jehofa ein bod ni’n ei garu a’n bod ni’n ddiolchgar am bob dim mae ef wedi ei wneud inni. (Darllen Eseia 12:5.) Pan wyt ti’n canu’n frwd, rwyt ti’n annog eraill i wneud yr un peth. Gall pawb yn y gynulleidfa, boed yn ifanc, yn hen, neu’n newydd yn y gwirionedd, addoli Jehofa yn y ffordd hon. Felly, paid â dal yn ôl rhag canu o’r galon. Dilyna gyfarwyddyd y salmydd a ddywedodd: “Canwch i’r ARGLWYDD!”—Salm 96:1.

^ Par. 11 Am fwy o wybodaeth ar sut i wella dy lais canu, gweler rhaglen fisol Rhagfyr 2014 ar JW Broadcasting (o dan y categori FROM OUR STUDIO).

^ Par. 18 Mae sesiynau bob bore a phrynhawn y gynhadledd yn dechrau gyda chyflwyniad cerddorol sy’n para am ddeng munud. Mae’r cyflwyniadau hyn yn ein helpu i edrych ymlaen at y canu ac i fod yn barod i wrando ar y rhaglen. Felly, dylai pob un ohonon ni fod yn ein seddi ac yn barod i wrando pan fydd y gerddoriaeth yn cychwyn.