Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Efelychu Cyfiawnder a Thrugaredd Jehofa

Efelychu Cyfiawnder a Thrugaredd Jehofa

“Byddwch yn deg bob amser, yn garedig a thrugarog at eich gilydd.”—SECHAREIA 7:9.

CANEUON: 125, 88

1, 2. (a) Sut roedd Iesu yn teimlo am Gyfraith Duw? (b) Sut gwnaeth yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid lwyddo i roi’r Gyfraith ar waith yn y ffordd anghywir?

ROEDD Iesu’n caru Cyfraith Moses. Nid yw hyn yn syndod, oherwydd bod y Gyfraith wedi dod oddi wrth ei Dad, Jehofa, y Person pwysicaf ym mywyd Iesu. Yn Salm 40:8, mae’r Beibl yn sôn am gariad dwfn Iesu tuag at Gyfraith Duw: “Mae dy ddysgeidiaeth di’n rheoli fy mywyd i.” Trwy ei eiriau a’i weithredoedd, profodd Iesu fod Cyfraith Duw yn berffaith, yn fuddiol, ac yn sicr o gael ei chyflawni.—Mathew 5:17-19.

2 Mae’n siŵr fod Iesu wedi teimlo’n drist wrth iddo weld yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid yn rhoi ar waith Gyfraith ei Dad yn y ffordd anghywir, a gwneud iddi ymddangos yn afresymol. Dywedodd wrthyn nhw: “Dych chi’n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw—hyd yn oed perlysiau fel mintys, anis a chwmin!” Felly, beth oedd y broblem? Esboniodd Iesu: “Ond dych chi’n talu dim sylw i faterion pwysica’r Gyfraith—byw’n gyfiawn, bod yn drugarog ac yn ffyddlon i Dduw.” (Mathew 23:23) Doedd y Phariseaid ddim yn deall ystyr y Gyfraith, ac roedden nhw’n credu eu bod nhw’n well na phawb arall. Ond roedd Iesu’n deall yr egwyddor y tu ôl i’r Gyfraith a beth oedd pob gorchymyn yn ei ddatgelu am Jehofa.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Gan ein bod ni’n Gristnogion, nid oes rhaid inni ufuddhau i Gyfraith Moses. (Rhufeiniaid 7:6) Felly, pam gwnaeth Jehofa gynnwys y Gyfraith yn ei Air, y Beibl? Mae eisiau inni ddeall a rhoi ar waith “faterion pwysica” y Gyfraith, hynny yw, yr egwyddorion sydd y tu ôl iddi. Er enghraifft, pa egwyddorion rydyn ni’n eu dysgu o drefniant y trefi lloches? Yn yr erthygl flaenorol, dysgon ni wersi wrth edrych ar yr hyn roedd rhaid i’r ffoadur ei wneud. Yn yr erthygl hon, byddwn yn deall beth yn union mae’r trefi lloches yn ein dysgu am Jehofa a sut gallwn ni efelychu ei rinweddau. Byddwn yn ateb tri chwestiwn: Sut mae’r trefi lloches yn dangos bod Jehofa’n drugarog? Beth maen nhw’n ein dysgu am safbwynt Duw tuag at fywyd? A sut maen nhw’n datgelu ei gyfiawnder perffaith? Ym mhob achos, tria weld sut y gelli di efelychu dy Dad nefol.—Darllen Effesiaid 5:1.

LLEOLIAD Y TREFI LLOCHES

4, 5. (a) Pa drefniadau oedd yn ei gwneud hi’n haws i ffoaduriaid redeg i’r trefi lloches, a pham? (b) Beth mae hyn yn ein dysgu am Jehofa?

4 Trefnodd Jehofa i’r chwe thref loches fod yn hawdd eu cyrraedd. Dywedodd wrth yr Israeliaid am ddewis tair tref ar bob ochr i’r Iorddonen. Pam? Er mwyn i ffoadur allu ffoi i’r trefi hyn yn hawdd ac yn gyflym. (Numeri 35:11-14) Roedd y ffyrdd i’r trefi wedi cael eu cadw mewn cyflwr da. (Deuteronomium 19:2, 3) Yn ôl y traddodiad Iddewig, roedd yna arwyddion ar hyd y ffyrdd er mwyn helpu’r ffoaduriaid i ddod o hyd i’r trefi. Felly, o ganlyniad i’r trefi lloches yn Israel, nid oedd yr Israeliad a oedd wedi lladd rhywun drwy ddamwain yn gorfod ffoi i wlad arall er mwyn aros yn saff, gwlad lle y gallen nhw gael eu temtio i addoli gau dduwiau.

5 Meddylia am hyn: Roedd Jehofa wedi gorchymyn i laddwyr gael eu dienyddio. Ond, fe wnaeth sicrhau bod gan laddwr anfwriadol y cyfle i dderbyn trugaredd a lloches. Dywedodd un arbenigwr y Beibl: “Cafodd popeth ei wneud mor eglur a hawdd â phosib.” Nid yw Jehofa yn farnwr creulon sy’n edrych am ffyrdd i gosbi ei weision. Mewn gwirionedd, mae’n “anhygoel o drugarog!”—Effesiaid 2:4.

6. A wnaeth y Phariseaid efelychu trugaredd Jehofa? Esbonia.

6 Ond, ar y llaw arall, nid oedd y Phariseaid yn barod i ddangos trugaredd tuag at eraill. Er enghraifft, mae traddodiad Iddewig yn dweud nad oedd y Phariseaid yn barod i faddau i rywun a oedd wedi gwneud yr un camgymeriad fwy na thair gwaith. I ddangos pa mor ddrwg oedd eu hagwedd, defnyddiodd Iesu eglureb o Pharisead yn gweddïo wrth ymyl casglwr trethi. Dywedodd y Pharisead: “O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath â’r bradwr yma!” Beth oedd pwynt Iesu? Roedd y Phariseaid yn “edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall,” a doedden nhw ddim yn meddwl eu bod nhw’n gorfod dangos trugaredd tuag at eraill.—Luc 18:9-14.

A wyt ti’n ei gwneud hi’n hawdd i bobl ofyn am dy faddeuant? Bydda’n ostyngedig ac yn gyfeillgar (Gweler paragraffau 4-8)

7, 8. (a) Sut gelli di efelychu trugaredd Jehofa? (b) Pam mae’n rhaid inni fod yn ostyngedig er mwyn inni allu maddau i eraill?

7 Efelycha Jehofa, nid y Phariseaid. Dangosa drugaredd tuag at eraill. (Darllen Colosiaid 3:13.) Gwna hi’n hawdd i eraill ddod atat ti i ofyn am faddeuant. (Luc 17:3, 4) Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n maddau i eraill yn gyflym ac yn hawdd, hyd yn oed pan fyddan nhw wedi fy nigio lawer o weithiau? Ydw i’n barod i fod yn heddychlon â rhywun sydd wedi fy nigio neu fy mrifo?’

8 Er mwyn maddau, rhaid inni fod yn ostyngedig. Roedd y Phariseaid yn meddwl eu bod nhw’n well na phawb arall, felly nid oedden nhw’n barod i faddau. Ond fel Cristnogion, dydyn ni ddim yn meddwl ein bod ni’n “well na phobl eraill” ac felly rydyn ni’n maddau’n rhwydd. (Philipiaid 2:3) Gallwn ni ofyn i ni ein hunain: ‘Ydw i’n efelychu Jehofa ac yn dangos gostyngeiddrwydd?’ Os ydyn ni’n ostyngedig, bydd yn haws i eraill ofyn inni am faddeuant ac yn haws inni ei ddangos. Bydda’n barod i ddangos trugaredd, a bydda’n araf i wylltio.—Pregethwr 7:8, 9.

RHAID PARCHU BYWYD

9. Sut gwnaeth Jehofa helpu’r Israeliad i weld bod bywyd yn sanctaidd?

9 Un o’r prif resymau dros sefydlu’r trefi lloches oedd amddiffyn yr Israeliaid rhag bod yn waed-euog drwy dywallt gwaed rhywun dieuog. (Deuteronomium 19:10) Mae Jehofa’n caru bywyd, ac mae’n casáu lladd. (Diarhebion 6:16, 17) Gan ei fod yn Dduw teg a sanctaidd, nid oedd yn gallu anwybyddu lladd damweiniol. Mae’n wir fod lladdwr anfwriadol yn gallu derbyn trugaredd. Ond yn gyntaf, roedd rhaid iddo gyflwyno ei achos i’r henuriaid. Os oedd yr henuriaid yn dod i’r farn fod y lladd yn anfwriadol, roedd y ffoadur yn gorfod aros yn y dref loches hyd nes i’r archoffeiriad farw. Efallai byddai hynny wedi golygu bod y ffoadur yn gorfod aros yn y dref loches am weddill ei oes. Roedd y trefniant hwnnw yn pwysleisio i’r Israeliaid pa mor werthfawr oedd bywyd. Er mwyn anrhydeddu’r Un sy’n rhoi bywyd, roedd rhaid iddyn nhw wneud popeth a allen nhw i osgoi rhoi bywyd person arall mewn perygl.

10. Yn ôl Iesu, sut dangosodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid nad oedden nhw’n gwerthfawrogi bywydau pobl eraill?

10 Yn wahanol i Jehofa, roedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid yn dangos nad oedden nhw’n gwerthfawrogi bywydau pobl. Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dych chi wedi cuddio allwedd y drws sy’n arwain at ddeall yr ysgrifau sanctaidd oddi wrth y bobl. Felly dych chi’ch hunain ddim yn mynd i mewn, a dych chi’n rhwystro pobl eraill rhag mynd i mewn hefyd.” (Luc 11:52) Beth roedd Iesu yn ei olygu? Roedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid i fod i esbonio Gair Duw i bobl a’u helpu nhw i gael bywyd tragwyddol. Ond, yn hytrach, roedden nhw’n trio stopio pobl rhag dilyn Iesu, “awdur bywyd.” (Actau 3:15) Trwy wneud hyn, roedden nhw’n arwain pobl at ddinistr. Roedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid yn falch ac yn hunanol, ac nid oedden nhw’n poeni am fywydau pobl eraill. Am bobl greulon a di-gariad!

11. (a) Sut dangosodd yr apostol Paul fod ganddo’r un agwedd tuag at fywyd â Jehofa? (b) Beth fydd yn ein helpu i efelychu sêl Paul dros y weinidogaeth?

11 Sut gallwn ni efelychu Jehofa ac osgoi bod fel yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid? Rydyn ni’n gwneud hyn drwy barchu a thrysori bywyd. Gwnaeth yr apostol Paul hyn drwy bregethu’r newyddion da am y Deyrnas i gymaint o bobl ag oedd yn bosib. Dyna pam roedd yn gallu dweud: “Dim fi sy’n gyfrifol am beth fydd yn digwydd i unrhyw un.” (Darllen Actau 20:26, 27.) Ond, a wnaeth Paul bregethu dim ond oherwydd nad oedd eisiau teimlo’n euog neu oherwydd bod Jehofa wedi gorchymyn iddo bregethu? Na wnaeth. Roedd Paul yn caru pobl. Roedd eu bywydau yn werthfawr iddo, ac roedd eisiau iddyn nhw gael bywyd tragwyddol. (1 Corinthiaid 9:19-23) Dylen ninnau hefyd feithrin yr un agwedd at fywyd â Jehofa. Mae Duw eisiau i bawb faddau er mwyn iddyn nhw i gyd gael byw am byth. (2 Pedr 3:9) Er mwyn efelychu Jehofa, mae’n rhaid inni garu pobl. Bydd agwedd drugarog yn ein hysgogi i bregethu’n selog ac yn dod â llawenydd inni.

12. Pam mae diogelwch yn bwysig i bobl Dduw?

12 Er mwyn inni gael yr un agwedd â Jehofa tuag at fywyd, rhaid inni hefyd gael yr agwedd gywir tuag at gadw’n saff. Dylen ni yrru a gweithio’n ddiogel, hyd yn oed pan fyddwn ni’n adeiladu, yn cynnal adeiladau, neu’n teithio i fanau addoli. Mae pobl, diogelwch, a iechyd yn bwysicach nag arbed arian neu amser. Mae ein Duw bob amser yn gwneud y peth iawn, ac rydyn ni eisiau ei efelychu. Yn fwy byth, mae angen i henuriaid feddwl am eu diogelwch eu hunain ac eraill. (Diarhebion 22:3) Os bydd henuriad yn dy atgoffa di o reolau neu safonau diogelwch, gwranda arno. (Diarhebion 15:5) Os byddwn ni’n meithrin yr un agwedd â Jehofa tuag at fywyd, byddwn ni’n osgoi bod yn waed-euog.

BARNU’R ACHOS

13, 14. Sut roedd yr henuriaid Iddewig yn gallu efelychu cyfiawnder Jehofa?

13 Gorchmynnodd Jehofa i’r henuriaid Iddewig efelychu ei gyfiawnder. Yn gyntaf, roedd rhaid i’r henuriaid gasglu’r ffeithiau i gyd. Yna, roedden nhw’n gorfod ystyried yn ofalus gymhelliad ac agwedd y ffoadur, a hefyd y pethau roedd ef wedi eu gwneud yn y gorffennol er mwyn penderfynu a ddylen nhw ddangos trugaredd tuag ato neu beidio. Roedd rhaid i’r henuriaid ddarganfod a oedd y ffoadur yn casáu’r dioddefwr ac yn bwriadu ei ladd. (Darllen Numeri 35:20-24.) Os oedd ’na lygaid-dystion, roedd angen o leiaf ddau dyst i gondemnio’r llofrudd.—Numeri 35:30.

14 Ar ôl deall yr hyn a ddigwyddodd, roedd yr henuriaid yn gorfod meddwl am y person ei hun, nid yn unig yr hyn yr oedd wedi ei wneud. Roedd angen i’r henuriaid dreiddio y tu hwnt i’r amlwg a gweld y rhesymau dros y weithred. Yn bwysicach fyth, roedd arnyn nhw angen ysbryd glân Jehofa i’w helpu nhw i efelychu ei ddealltwriaeth, ei drugaredd, a’i gyfiawnder.—Exodus 34:6, 7.

15. Sut roedd agwedd Iesu tuag at bechaduriaid yn hollol wahanol i agwedd y Phariseaid?

15 Nid oedd y Phariseaid yn barnu â chyfiawnder. Roedden nhw’n canolbwyntio ar yr hyn a wnaeth y pechadur yn hytrach nag ar gymeriad y person. Pan welodd rhai Phariseaid Iesu’n cael pryd o fwyd yng nghartref Mathew, gofynnon nhw i’r disgyblion: “Pam mae eich athro yn bwyta gyda’r bradwyr sy’n casglu trethi i Rufain a phobl eraill sy’n ddim byd ond ‘pechaduriaid’?” Atebodd Iesu: “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl. Mae’n bryd i chi ddysgu beth ydy ystyr y dywediad: ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau.’ Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim rhai sy’n meddwl eu bod nhw heb fai.” (Mathew 9:9-13) A oedd Iesu’n gwneud esgusodion dros bechaduriaid? Ddim o gwbl. Roedd eisiau iddyn nhw edifarhau. Roedd hyn yn rhan bwysig o’r neges a bregethodd. (Mathew 4:17) Sylweddolodd Iesu fod rhai o’r casglwyr trethi a’r pechaduriaid eisiau newid eu ffyrdd. Doedden nhw ddim yng nghartref Mathew i fwyta’n unig. Roedden nhw yno oherwydd eu bod nhw’n dilyn Iesu. (Marc 2:15) Ond, nid oedd gan y rhan fwyaf o’r Phariseaid yr un agwedd tuag at bobl â Jehofa. Doedden nhw ddim yn credu bod pobl yn gallu newid eu ffyrdd, ac roedden nhw’n eu gweld fel pechaduriaid da i ddim. Mor wahanol oedden nhw i Jehofa, sy’n drugarog a chyfiawn!

16. Beth sydd rhaid i bwyllgor barnwrol ei benderfynu?

16 Dylai henuriaid heddiw efelychu Jehofa, yr un sy’n “caru beth sy’n gyfiawn.” (Salm 37:28) Yn gyntaf, rhaid iddyn nhw “ymchwilio i’r mater a holi pobl yn fanwl” i gadarnhau a yw’r person wedi pechu. Petai’r person wedi pechu, byddan nhw’n dilyn canllawiau’r Beibl i benderfynu ar beth i’w wneud. (Deuteronomium 13:12-14) Pan fyddan nhw ar bwyllgor barnwrol, rhaid iddyn nhw fod yn ofalus i benderfynu a yw’r person sydd wedi pechu’n ddifrifol yn edifeiriol neu beidio. Nid peth hawdd yw hyn. Mae bod yn edifeiriol yn cynnwys agwedd y pechadur tuag at yr hyn y mae wedi ei wneud ac yr hyn sydd yn ei galon. (Datguddiad 3:3) Rhaid i bechadur fod yn edifeiriol er mwyn derbyn trugaredd. *—Gweler y troednodyn.

17, 18. Sut gall yr henuriaid wybod a yw person yn wir edifeiriol? (Gweler y llun agoriadol.)

17 Mae Jehofa a Iesu yn gwybod yn union beth mae person yn ei feddwl ac yn ei deimlo oherwydd eu bod nhw’n gallu darllen calonnau. Ond nid yw’r henuriaid yn gallu darllen calonnau. Felly os wyt ti’n henuriad, sut gelli di ddod i wybod a yw person yn wir edifeiriol? Yn gyntaf, gweddïa am ddoethineb a dirnadaeth. (1 Brenhinoedd 3:9) Yn ail, defnyddia Air Duw a chyhoeddiadau gan y gwas ffyddlon a chall i dy helpu di i weld y gwahaniaeth rhwng “teimlo’n annifyr am rywbeth, heb droi at Dduw” a’r “math o dristwch mae Duw am ei weld,” hynny yw, gwir edifeirwch. (2 Corinthiaid 7:10, 11) Sylwa ar y ffordd mae’r Beibl yn disgrifio’r rhai a oedd yn edifeiriol a’r rhai nad oedden nhw, ac yna dadansodda sut roedden nhw’n teimlo, yn meddwl, ac yn gweithredu.

18 Yn drydydd, meddylia am y person ei hun, nid am yr hyn y mae wedi ei wneud yn unig. Pam y mae fel y mae? Pam mae wedi gwneud rhai penderfyniadau? Pa anawsterau y mae’n eu hwynebu? Ynglŷn â Iesu, dywed y Beibl: “Fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf, nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si. Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn deg ac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i’r rhai sy’n cael eu cam-drin yn y tir.” (Eseia 11:3, 4) Chi henuriaid, mae Iesu wedi eich penodi i ofalu am ei gynulleidfa, a bydd yn eich helpu i farnu â chyfiawnder a thrugaredd. (Mathew 18:18-20) Rydyn ni mor falch fod gennyn ni henuriaid sy’n gofalu amdanon ni! Maen nhw hefyd yn ein helpu i ddangos cyfiawnder a thrugaredd tuag at eraill.

19. Pa wers o drefniant y trefi lloches rwyt ti’n barod i’w rhoi ar waith?

19 Dywed y Beibl: “Mae’r Gyfraith gen ti! Mae gen ti bopeth sydd angen ei wybod! Y gwir i gyd!” Mae Cyfraith Moses yn ein dysgu ni am Jehofa a’i rinweddau. (Rhufeiniaid 2:20) Mae’r trefi lloches, a ddisgrifiwyd yn y Gyfraith, yn dysgu henuriaid i farnu’n “deg bob amser,” ac yn dysgu pob un ohonon ni i fod “yn garedig a thrugarog.” (Sechareia 7:9) Er nad ydyn ni’n gorfod ufuddhau i’r Gyfraith, dydy Jehofa ddim wedi newid. Mae cyfiawnder a thrugaredd yn dal yn hynod o bwysig iddo. Braint yw addoli ein Duw. Gad inni efelychu ei rinweddau hyfryd a chael ein gwarchod ganddo!

^ Par. 16 Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Medi 2006, tudalen 30.