Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Troi at Jehofa am Loches?

Wyt Ti’n Troi at Jehofa am Loches?

“Mae’r rhai sy’n gwasanaethu’r ARGLWYDD yn cael mynd yn rhydd! Fydd y rhai sy’n troi ato fe am loches ddim yn cael eu cosbi!”—SALM 34:22.

CANEUON: 8, 54

1. Oherwydd pechod, sut mae llawer o weision ffyddlon Duw yn teimlo?

“DW I mewn picil go iawn!” ysgrifennodd yr apostol Paul. (Rhufeiniaid 7:24) Heddiw, mae llawer o weision ffyddlon Duw yn teimlo’n ddigalon neu o dan bwysau fel roedd Paul. Pam? Oherwydd, er ein bod ni eisiau plesio Jehofa, rydyn ni i gyd yn pechu ac yn amherffaith. Felly, efallai ein bod ni’n teimlo’n ddrwg pan ydyn ni’n methu ei blesio. Mae rhai Cristnogion sydd wedi pechu’n ddifrifol wedi teimlo hyd yn oed na fydd Jehofa byth yn maddau iddyn nhw.

2. (a) Sut mae Salm 34:22 yn dangos nad oes rhaid i weision Duw gael eu llethu gan euogrwydd? (b) Beth byddwn ni’n ei ddysgu yn yr erthygl hon? (Gweler y blwch “ Gwersi Neu Ystyron Symbolaidd?”)

2 Os ydyn ni’n llochesu yn Jehofa, mae’r Ysgrythurau yn ein calonogi nad oes rhaid inni gael ein llethu gan deimladau o euogrwydd. (Darllen Salm 34:22.) Ond, beth mae llochesu yn Jehofa yn ei olygu? Beth sy’n rhaid inni ei wneud os ydyn ni eisiau cael trugaredd Jehofa ac iddo faddau inni? Cawn yr atebion i’r cwestiynau hynny drwy ddysgu am drefniant y trefi lloches yn Israel. Roedd y trefniant hwnnw’n rhan o gyfamod y Gyfraith, a gafodd ei ddisodli ar ddydd Pentecost y flwyddyn 33. Ond, oddi wrth Jehofa y daeth y Gyfraith. Felly, o edrych ar drefniant y trefi lloches, gwelwn safbwynt Jehofa ynglŷn â phechod, pobl sydd wedi pechu, a phobl sy’n edifarhau. Yn gyntaf, gad inni ddysgu am bwrpas y trefi lloches ac am sut roedden nhw’n gweithio.

DEWIS Y TREFI LLOCHES

3. Sut roedd yr Israeliaid yn gorfod trin llofrudd?

3 Roedd lladd yn rhywbeth difrifol iawn yng ngolwg Jehofa. Os oedd un o’r Israeliaid yn llofruddio rhywun, roedd gan “berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio hawl i ladd y llofrudd.” (Numeri 35:19) Felly, byddai’r llofrudd yn talu’n ôl â’i fywyd ei hun am ladd person dieuog. Os nad oedd y llofrudd yn cael ei ladd yn fuan, gallai Gwlad yr Addewid gael ei llygru, ac ni fyddai’n sanctaidd bellach. Gorchmynnodd Jehofa: “Peidiwch llygru’r tir lle dych chi’n byw” drwy dywallt gwaed bodau dynol, hynny yw, drwy ladd rhywun.—Numeri 35:33, 34.

4. Beth ddigwyddodd pan oedd un o’r Israeliaid yn lladd rhywun yn ddamweiniol?

4 Ond, beth petai un o’r Israeliaid yn lladd rhywun drwy ddamwain? Er bod y lladd yn anfwriadol, roedd yn dal yn euog o ladd rhywun dieuog. (Genesis 9:5) Ond, mewn achos o’r fath, dywedodd Jehofa y gall trugaredd gael ei ddangos. Gall y lladdwr anfwriadol redeg i ffwrdd rhag y perthynas oedd am ddial arno a mynd i un o’r chwe thref loches. Unwaith iddo gael caniatâd i aros yn y dref honno, roedd yn ddiogel. Ond, roedd rhaid iddo aros yn y dref loches nes i’r archoffeiriad farw.—Numeri 35:15, 28.

5. Pam mae’r trefniant ar gyfer y trefi lloches yn ein helpu i ddeall Jehofa yn well?

5 Nid syniad dynol oedd y trefi lloches. Jehofa a wnaeth y trefniant hwnnw. Gorchmynnodd i Josua: “Dwed wrth bobl Israel am ddewis y trefi lloches.” Roedd gan y trefi hynny statws cysegredig. (Josua 20:1, 2, 7, 8) Penderfynodd Jehofa y dylai’r trefi hynny gael eu neilltuo. Felly, gallwn ddysgu llawer am Jehofa o’r trefniant hwn. Er enghraifft, mae’n ein helpu i ddeall trugaredd Jehofa. Ac mae’n ein dysgu am sut i droi at Jehofa am loches heddiw.

CYFLWYNO EI ACHOS I’R HENURIAID

6, 7. (a) Disgrifia rôl yr henuriaid wrth farnu lladdwr anfwriadol. (Gweler y llun agoriadol.) (b) Pam roedd hi’n ddoeth i ffoadur siarad â’r henuriaid?

6 Petai un o’r Israeliaid yn lladd rhywun yn ddamweiniol, roedd rhaid iddo redeg i’r dref loches i “gyflwyno ei achos” i’r henuriaid wrth giatiau’r dref. Roedd rhaid i’r henuriaid ei groesawu. (Josua 20:4) Ar ôl i ychydig o amser fynd heibio, bydden nhw’n ei anfon yn ôl i gael ei farnu gan henuriaid y dref lle digwyddodd y drosedd. (Darllen Numeri 35:24, 25.) Petai’r henuriaid hynny’n penderfynu mai damwain oedd y lladd, yna bydden nhw’n anfon y ffoadur yn ei ôl i’r dref loches.

7 Pam roedd angen i’r ffoadur siarad â’r henuriaid? Byddai’r henuriaid yn sicrhau bod cynulleidfa Israel yn aros yn lân a byddan nhw’n helpu’r lladdwr anfwriadol i dderbyn trugaredd Jehofa. Ysgrifennodd un ysgolhaig Iddewig y byddai hi’n bosib lladd y ffoadur os nad oedd ef yn mynd at yr henuriaid. Ychwanegodd y byddai’r ffoadur yn gyfrifol am ei farwolaeth ei hun oherwydd iddo anwybyddu gorchymyn Duw. Roedd lladdwr anfwriadol yn gorfod gofyn am help a’i dderbyn er mwyn aros yn fyw. Os nad oedd yn mynd i un o’r trefi lloches, roedd gan berthynas agosaf y person a fu farw hawl i ddienyddio’r lladdwr.

8, 9. Pam dylai Cristion sydd wedi pechu’n ddifrifol siarad â’r henuriaid?

8 Heddiw, er mwyn adfer eu perthynas â Jehofa, mae angen i Gristnogion sydd wedi pechu’n ddifrifol fynd at yr henuriaid am help. Pam mae hyn mor bwysig? Yn gyntaf, Jehofa ydy’r un a drefnodd i’r henuriaid farnu achosion o bechod difrifol. (Iago 5:14-16) Yn ail, mae’r henuriaid yn barod i helpu pechaduriaid edifar i fod yn lân yng ngolwg Duw ac i beidio â gwneud y pechod hwnnw unwaith eto. (Galatiaid 6:1; Hebreaid 12:11) Yn drydydd, mae’r henuriaid wedi cael eu hawdurdodi a’u hyfforddi i galonogi pechaduriaid edifar ac i’w helpu i ymdopi â’u poen a’u teimladau o euogrwydd. Mae Jehofa yn galw’r henuriaid hyn yn “lloches rhag y storm.” (Eseia 32:1, 2) Mae’r trefniant hwn yn un o’r ffyrdd mae Jehofa yn dangos trugaredd aton ni.

9 Mae llawer o weision Duw wedi teimlo’r rhyddhad sy’n dod o siarad â’r henuriaid a derbyn eu help. Er enghraifft, pechodd brawd o’r enw Daniel yn ddifrifol, ond ni aeth at yr henuriaid am fisoedd. Dywedodd: “Ar ôl i gymaint o amser fynd heibio, roeddwn i’n meddwl nad oedd yr henuriaid yn gallu fy helpu bellach.” Ond, roedd ef yn wastad yn poeni y byddai rhywun yn cael gwybod am ei bechod, ac roedd yn teimlo bod rhaid iddo ymddiheuro i Jehofa ar gychwyn pob gweddi. O’r diwedd, gofynnodd am help yr henuriaid. O edrych yn ôl, mae’n dweud: “Yn sicr, roeddwn i’n ofni mynd atyn nhw. Ond wedyn, roedd fel petai rhywun wedi codi pwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau.” Roedd Daniel yn gallu siarad yn rhydd â Jehofa unwaith eto. Nawr, mae ganddo gydwybod lân, ac, yn ddiweddar, cafodd ei benodi’n was gweinidogaethol.

DIANC I UN O’R TREFI YMA

10. Er mwyn cael maddeuant, beth roedd rhaid i laddwr anfwriadol ei wneud?

10 Er mwyn cael maddeuant, roedd yn bwysig iawn i’r lladdwr anfwriadol ffoi i’r dref loches agosaf. (Darllen Josua 20:4.) Roedd ei fywyd yn y fantol ac roedd rhaid iddo aros yno nes i’r archoffeiriad farw. Roedd hynny’n aberth i’r ffoadur. Byddai’n rhaid iddo adael ei swydd, ei gartref cyfforddus, a’i ryddid i deithio. * (Gweler y troednodyn.) (Numeri 35:25) Ond, roedd yn werth chweil. Petai’n gadael y dref ar unrhyw adeg, byddai’r ffoadur yn dangos nad oedd ots ganddo ei fod wedi lladd rhywun, ac y byddai’n rhoi ei fywyd ei hun mewn perygl.

11. Sut gall Cristion edifar ddangos ei fod yn ddiolchgar iawn am drugaredd Duw?

11 Heddiw, mae’n rhaid i bechadur edifar wneud pethau penodol i gael maddeuant Duw. Rhaid stopio ei weithredoedd pechadurus. Mae hyn yn cynnwys osgoi unrhyw beth a all arwain at bechod difrifol. Disgrifiodd yr apostol Paul yr hyn a wnaeth Cristnogion edifar yng Nghorinth. Ysgrifennodd: “Edrychwch beth mae’r tristwch mae Duw’n edrych amdano wedi ei wneud ynoch chi: mae wedi creu brwdfrydedd ac awydd i sortio’r peth allan, ac wedi’ch gwneud chi mor ddig fod y fath beth wedi digwydd. Mae wedi creu y fath barch ata i, y fath hiraeth amdana i, y fath sêl, y fath barodrwydd i gosbi’r troseddwr.” (2 Corinthiaid 7:10, 11) Felly, os ydyn ni’n gwneud popeth a allwn ni i stopio pechu, byddwn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni’n cymryd ein sefyllfa o ddifri ac yn dangos nad ydyn ni’n cymryd trugaredd Jehofa yn ganiataol.

12. Beth efallai bydd rhaid i Gristion ei aberthu er mwyn parhau i dderbyn trugaredd Duw?

12 Beth efallai y bydd rhaid i Gristion ei aberthu er mwyn parhau i dderbyn trugaredd Jehofa? Mae’n rhaid iddo fod yn barod i aberthu hyd yn oed pethau mae’n eu mwynhau yn enwedig os gallen nhw achosi iddo bechu’n ddifrifol. (Mathew 18:8, 9) Er enghraifft, os yw dy ffrindiau yn dy annog i wneud pethau dydy Jehofa ddim yn eu hoffi, a fyddi di’n stopio treulio amser gyda nhw? Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd rheoli faint o alcohol rwyt ti’n ei yfed, a fyddi di’n osgoi sefyllfaoedd a all dy demtio i yfed gormod? Os ydy hi’n anodd iti reoli chwantau rhywiol, a fyddi di’n osgoi ffilmiau, gwefannau, neu weithgareddau a all achosi iti feddwl am bethau aflan? Cofia, mae unrhyw aberth rydyn ni’n ei wneud er mwyn cadw cyfreithiau Jehofa yn werth chweil. Does yna ddim byd gwaeth na theimlo bod Jehofa wedi cefnu arnon ni. A does yna ddim byd gwell na theimlo cariad Jehofa, “sy’n para am byth.”—Eseia 54:7, 8.

“LLE SAFF”

13. Esbonia pam roedd ffoadur yn gallu teimlo’n saff ac yn hapus mewn tref loches.

13 Unwaith i’r ffoadur fynd i mewn i’r dref loches, roedd yn saff. Roedd Jehofa wedi dweud am y trefi hynny: “Bydd un o’r trefi yma yn lle saff i ddianc.” (Josua 20:2, 3) Doedd Jehofa ddim yn disgwyl i’r ffoadur gael ei farnu unwaith eto am yr un digwyddiad. Hefyd, doedd perthynas yr un a gafodd ei ladd ddim yn cael mynd i mewn i’r dref i ddial arno. Pan oedd y ffoadur yn y dref, roedd yn saff o dan ofal Jehofa. Nid oedd yn y carchar. Roedd yn gallu gweithio, helpu eraill, a gwasanaethu Jehofa mewn heddwch. Yn wir, roedd yn bosib iddo gael bywyd hapus!

Gelli di fod yn sicr fod Jehofa yn maddau iti (Gweler paragraffau 14-16)

14. O beth gall Cristnogion edifar fod yn sicr?

14 Mae rhai o bobl Dduw sydd wedi pechu’n ddifrifol yn dal i deimlo’n euog hyd yn oed ar ôl edifarhau. Mae rhai hyd yn oed yn teimlo na fydd Jehofa wir yn anghofio am yr hyn a wnaethon nhw. Os wyt ti’n teimlo felly, cofia hyn: Pan fydd Jehofa yn maddau iti, mae’n maddau’n llawn. Does dim angen iti deimlo’n euog bellach. Dyna ddigwyddodd i Daniel, y soniwyd amdano uchod. Ar ôl i’r henuriaid ei gywiro a’i helpu i adfer ei gydwybod lân, teimlodd ryddhad mawr. Mae’n dweud: “Dydw i ddim yn gorfod teimlo’n euog mwyach. Unwaith i’r pechod fynd, mae’n diflannu. Fel dywedodd Jehofa, pan fydd yn cymryd dy feichiau oddi arnat ti, mae’n eu rhoi nhw’n bell i ffwrdd oddi wrthyt ti. Fyddi di byth yn gorfod eu gweld nhw eto.” Ar ôl i’r ffoadur fynd i mewn i’r dref loches, doedd dim rhaid iddo ofni y byddai perthynas yr un a gafodd ei ladd yn dod i’w ladd yntau. Mewn ffordd debyg, ar ôl i Jehofa faddau ein pechod, does dim rhaid inni boeni y bydd Ef yn ein hatgoffa o’r pechod ac yna yn ein disgyblu.—Darllen Salm 103:8-12.

15, 16. Sut mae’r ffaith fod Iesu wedi talu’r pridwerth a’i fod yn Archoffeiriad yn cryfhau dy ffydd yn nhrugaredd Duw?

15 Mewn gwirionedd, mae gennyn ni reswm ychwanegol dros gredu yn nhrugaredd Jehofa, un nad oedd gan yr Israeliaid. Ar ôl i Paul ddweud ei fod “mewn picil go iawn” oherwydd nad oedd yn gallu plesio Jehofa’n berffaith, dywedodd: “Duw, diolch iddo!—o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.” (Rhufeiniaid 7:25) Beth roedd Paul yn ei olygu? Er bod Paul yn brwydro yn erbyn chwantau pechadurus a’i fod wedi pechu yn y gorffennol, roedd wedi edifarhau. Felly, roedd yn trystio bod Jehofa wedi maddau iddo ar sail aberth pridwerthol Iesu. Oherwydd bod Iesu wedi talu’r pridwerth, gallwn ninnau gael cydwybod lân a heddwch meddwl. (Hebreaid 9:13, 14) Fel ein Harchoffeiriad, “mae Iesu’n gallu achub un waith ac am byth y bobl hynny mae’n eu cynrychioli o flaen Duw! Ac mae e hefyd yn fyw bob amser i bledio ar eu rhan nhw.” (Hebreaid 7:24, 25) Yn adeg y Beibl, roedd yr archoffeiriad yn helpu’r Israeliaid i deimlo’n sicr y byddai Jehofa yn maddau eu pechodau. Gyda Iesu’n Archoffeiriad, mae gennyn ninnau reswm ychwanegol i fod yn sicr y bydd Jehofa “yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.”—Hebreaid 4:15, 16.

16 Felly, er mwyn troi at Jehofa am loches, mae angen ffydd yn aberth Iesu. Paid â meddwl bod y pridwerth yn berthnasol i bobl mewn ffordd gyffredinol yn unig. Drwy dy ffydd, bydda’n sicr fod y pridwerth o fudd i ti. (Galatiaid 2:20, 21) Bydda’n sicr fod Jehofa yn maddau dy bechodau di oherwydd y pridwerth. Bydda’n sicr fod y pridwerth yn rhoi’r gobaith o fyw am byth i ti. Mae aberth Iesu yn rhodd oddi wrth Jehofa i ti!

17. Pam rwyt ti eisiau llochesu yn Jehofa?

17 Mae’r trefi lloches yn ein helpu i ddeall trugaredd Jehofa. Mae’r trefniant hwnnw gan Dduw yn dangos bod bywyd yn sanctaidd. Mae hefyd yn dangos sut mae’r henuriaid yn gallu ein helpu, gwir ystyr edifeirwch, a pham y gallwn ni fod yn hollol sicr bod Jehofa yn maddau inni. Wyt ti’n troi at Jehofa am loches? Nid oes unrhyw le saffach i fod! (Salm 91:1, 2) Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n gweld sut mae’r trefi lloches yn gallu ein helpu i efelychu Jehofa, yr esiampl orau o gyfiawnder a thrugaredd.

^ Par. 10 Yn ôl ysgolheigion Iddewig, roedd teulu agos y ffoadur yn dod i’r dref loches i fod gydag ef.