Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Paid â Gadael i Unrhyw Beth Ddwyn Dy Wobr

Paid â Gadael i Unrhyw Beth Ddwyn Dy Wobr

“Peidiwch gadael i unrhyw un . . . eich condemnio chi.”—COLOSIAID 2:18.

CANEUON: 122, 139

1, 2. (a) Pa wobr mae gweision Duw yn edrych ymlaen tuag ati? (b) Beth sydd yn ein helpu i gadw ein golwg ar y wobr? (Gweler y llun agoriadol.)

MAE gan Gristnogion eneiniog obaith gwerthfawr. Maen nhw’n edrych ymlaen at fyw yn y nefoedd. Gwnaeth yr apostol Paul alw’r gobaith hwn “y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i’r nefoedd.” (Philipiaid 3:14) Yn y nefoedd, byddan nhw’n rheoli gyda Iesu Grist yn ei Deyrnas ac yn gweithio ag ef er mwyn helpu bodau dynol i gyrraedd perffeithrwydd. (Datguddiad 20:6) Mae hyn yn obaith gwerthfawr! Mae’r defaid eraill yn edrych ymlaen at wobr wahanol. Maen nhw’n gobeithio byw am byth mewn Paradwys ar y ddaear, ac mae’r gobaith hwn yn dod â hapusrwydd!—2 Pedr 3:13.

2 Roedd Paul eisiau helpu ei gyd-Gristnogion eneiniog i aros yn ffyddlon ac i ennill y wobr. Dywedodd Paul wrthyn nhw: “Edrychwch ar bethau o safbwynt y nefoedd.” (Colosiaid 3:2) Roedd angen iddyn nhw ganolbwyntio ar eu gobaith nefol. (Colosiaid 1:4, 5) Mae meddwl am fendithion Jehofa yn helpu gweision Duw i gadw eu golwg ar y wobr. Mae hyn yn wir os ydyn nhw’n gobeithio byw yn y nefoedd neu ar y ddaear.—1 Corinthiaid 9:24.

3. Pa rybuddion y soniodd Paul amdanyn nhw?

3 Hefyd, gwnaeth Paul rybuddio’r Cristnogion am y peryglon a all eu hatal rhag ennill y wobr. Er enghraifft, ysgrifennodd at y Colosiaid am gau Gristnogion a oedd yn trio plesio Duw drwy ddilyn Cyfraith Moses yn hytrach na dilyn Crist. (Colosiaid 2:16-18) Hefyd, soniodd Paul am y peryglon sy’n bodoli hyd heddiw a all ein hatal ninnau rhag ennill y wobr. Esboniodd sut i wrthod chwantau anfoesol a beth i’w wneud pan fydd problemau yn codi yn y teulu neu gyda’n brodyr yn y gynulleidfa. Gall cyngor doeth Paul ein helpu ni heddiw. Gad inni ystyried rhai o’r rhybuddion cariadus y soniodd Paul amdanyn nhw yn ei lythyr at y Colosiaid.

LLADD CHWANTAU ANFOESOL

4. Pam gall chwantau anfoesol ein stopio ni rhag ennill y wobr?

4 Ar ôl i Paul atgoffa ei frodyr am eu gobaith rhyfeddol, ysgrifennodd: “Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol.” (Colosiaid 3:5) Gall chwantau anfoesol fod yn gryf iawn ac achosi inni golli ein perthynas â Jehofa a’n gobaith ar gyfer y dyfodol. Dywedodd un brawd, a ildiodd i chwantau anfoesol ac a ddaeth yn ôl i’r gynulleidfa yn ddiweddarach, fod y chwantau hynny wedi mynd mor bwerus nes iddyn nhw achosi iddo “beidio â throi’n ôl tan ei fod yn rhy hwyr.”

5. Sut gallwn ni ein hamddiffyn ein hunain mewn sefyllfaoedd peryglus?

5 Rhaid inni fod yn ofalus os ydyn ni mewn sefyllfa a all achosi inni fod yn anufudd i Jehofa a’i safonau moesol. Er enghraifft, doeth fyddai i gwpl sy’n canlyn osod terfynau o’r cychwyn cyntaf ynglŷn â phethau fel cyffwrdd, cusanu, neu fod gyda’i gilydd ar eu pennau eu hunain. (Diarhebion 22:3) Gall sefyllfaoedd peryglus eraill godi os ydyn ni’n mynd ar daith fusnes neu’n gweithio gyda rhywun o’r rhyw arall. (Diarhebion 2:10-12, 16) Beth gelli di ei wneud i dy amddiffyn dy hun? Gwna hi’n amlwg i eraill dy fod ti’n un o Dystion Jehofa. Ceisia ymddwyn yn dda bob amser, a pheidio byth ag anghofio bod fflyrtio yn gallu arwain at drychineb. Mae angen inni fod yn ofalus os ydyn ni’n drist neu’n unig. Efallai byddwn ni eisiau i rywun wneud inni deimlo’n bwysig. Efallai byddwn ni’n teimlo mor anobeithiol nes y byddwn ni’n fodlon derbyn sylw gan unrhyw berson. Mae hyn yn beryglus. Os wyt ti’n teimlo felly, paid â gwneud unrhyw beth a fydd yn dy atal di rhag ennill y wobr. Tro at Jehofa a dy frodyr a dy chwiorydd am help.—Darllen Salm 34:18; Diarhebion 13:20.

6. Beth dylen ni ei gofio wrth inni ddewis adloniant?

6 Er mwyn lladd chwantau anfoesol, rhaid inni wrthod adloniant anfoesol. Heddiw, mae llawer o’r adloniant sydd ar gael inni yn ein hatgoffa o’r sefyllfa yn Sodom a Gomorra. (Jwdas 7) Mae’r rhai sy’n cynhyrchu adloniant yn gwneud i anfoesoldeb rhywiol ymddangos yn ddiniwed ac yn normal. Felly, rhaid inni bob amser fod yn effro. Dydyn ni ddim yn gallu derbyn pob math o adloniant mae’r byd yn ei gynnig inni. Yn hytrach, rhaid inni ddewis adloniant sydd ddim am ein stopio ni rhag ennill y wobr o fywyd.—Diarhebion 4:23.

DANGOS CAREDIGRWYDD

7. Pa broblemau a all godi yn y gynulleidfa Gristnogol?

7 Rydyn ni’n hapus i fod yn rhan o’r gynulleidfa Gristnogol. Rydyn ni’n astudio Gair Duw yn y cyfarfodydd, ac yn ein cynnal ein gilydd mewn ffordd gariadus. Mae hyn yn ein helpu i gadw ein golwg ar y wobr. Ond weithiau gall camddealltwriaethau achosi problemau rhwng brodyr a chwiorydd. Os nad ydyn ni’n datrys y problemau hyn, gallen nhw achosi i bobl ddal dig.—Darllen 1 Pedr 3:8, 9.

8, 9. (a) Pa rinweddau a fydd yn ein helpu i ennill y wobr? (b) Beth a all ein helpu i gadw’r heddwch os bydd cyd-Gristion yn brifo ein teimladau?

8 Ni allwn ni adael i ddicter ein stopio rhag ennill y wobr. Esboniodd Paul yr hyn y mae angen i Gristnogion ei wneud: “Mae Duw wedi eich dewis chi iddo’i hun ac wedi’ch caru chi’n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar. Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi. A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd—mae cariad yn clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd.”—Colosiaid 3:12-14.

9 Gall caredigrwydd ein helpu i faddau i eraill. Os ydyn ni’n cael ein brifo oherwydd rhywbeth y mae rhywun wedi ei wneud neu ei ddweud, gallwn ni feddwl yn ôl i’R adeg pan wnaethon ni ddweud rhywbeth cas wrth rywun arall neu wneud rhywbeth cas iddyn nhw a dyma nhw yn maddau inni. Mor ddiolchgar oedden ni i dderbyn eu caredigrwydd! (Darllen Pregethwr 7:21, 22.) Rydyn ni mor ddiolchgar fod Crist yn uno gwir addolwyr. (Colosiaid 3:15) Rydyn ni i gyd yn caru’r un Duw, yn pregethu’r un neges, ac yn gorfod delio â’r un math o broblemau. Os ydyn ni’n garedig ac yn maddau i’n gilydd, bydd y gynulleidfa yn lle mwy unedig a byddwn ni’n gallu cadw ein golwg ar y wobr.

10, 11. (a) Pam mae cenfigen yn beryglus? (b) Sut gallwn ni wneud yn siŵr dydy cenfigen ddim yn ein hatal rhag ennill y wobr?

10 Gall cenfigen ein stopio rhag ennill y wobr. Mae esiamplau o’r Beibl yn dangos pa mor beryglus yw cenfigen. Er enghraifft, daeth Cain mor genfigennus o Abel nes iddo ladd ei frawd. Daeth Cora, Dathan, ac Abiram mor genfigennus o Moses nes iddyn nhw wrthryfela yn ei erbyn. Ceisiodd y Brenin Saul ladd Dafydd o ganlyniad i genfigen. Mae’r hyn y mae Gair Duw yn ei ddweud yn wir: “Ble bynnag mae cenfigen ac uchelgais hunanol, byddwch chi’n dod o hyd i anhrefn a phob math o ddrygioni.”—Iago 3:16.

11 Os ydyn ni’n gweithio’n galed i fod yn garedig, ni fydd yn hawdd inni fod yn genfigennus. Mae Gair Duw yn dweud: “Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu.” (1 Corinthiaid 13:4) Er mwyn gwneud yn siŵr dydy cenfigen ddim yn dod yn rhan o’n personoliaeth, rhaid inni geisio gweld pethau fel y mae Jehofa yn eu gweld. Rhaid inni geisio gweld bod ein brodyr a’n chwiorydd yn rhan o un corff, sef y gynulleidfa. Dywed y Beibl: “Os ydy un rhan yn cael ei anrhydeddu, mae’r corff i gyd yn rhannu’r llawenydd.” (1 Corinthiaid 12:16-18, 26) Os bydd rhywbeth da yn digwydd i un o’n brodyr, byddwn ni’n hapus drosto, nid yn genfigennus. Meddylia am esiampl dda Jonathan, mab y Brenin Saul. Nid oedd Jonathan yn genfigennus pan gafodd Dafydd ei ddewis i fod yn frenin yn ei le. Gwnaeth hyd yn oed galonogi a chefnogi Dafydd. (1 Samuel 23:16-18) A allen ni fod yr un mor garedig â Jonathan?

ENNILL Y WOBR FEL TEULU

12. Pa gyngor o’r Beibl a fydd yn helpu ein teulu i ennill y wobr?

12 Pan fydd pob aelod o’n teulu’n rhoi ar waith egwyddorion y Beibl, bydd ein teulu’n heddychlon, yn hapus, ac yn sicr o ennill y wobr. Rhoddodd Paul y cyngor doeth hwn i deuluoedd: “Rhaid i chi’r gwragedd fod yn atebol i’ch gwŷr—dyna’r peth iawn i bobl yr Arglwydd ei wneud. Rhaid i chi’r gwŷr garu’ch gwragedd a pheidio byth bod yn gas wrthyn nhw. Rhaid i chi’r plant fod yn ufudd i’ch rhieni bob amser, am fod hynny’n plesio’r Arglwydd. Rhaid i chi’r tadau beidio bod mor galed ar eich plant nes eu bod nhw’n digalonni.” (Colosiaid 3:18-21) Wyt ti’n gweld sut gall y cyngor hwn helpu dy deulu?

13. Sut gall chwaer helpu ei gŵr anghrediniol i wasanaethu Jehofa?

13 Efallai dy fod ti’n chwaer a dydy dy ŵr ddim yn gwasanaethu Jehofa. Beth byddi di’n ei wneud os wyt ti’n teimlo nad yw dy ŵr yn dy drin di yn y ffordd iawn? Efallai byddi di’n gwylltio ac yn taeru ag ef, ond a fydd hynny’n gwella’r sefyllfa? Hyd yn oed os wyt ti’n ennill y ddadl, a fyddi di’n gwneud iddo eisiau addoli Jehofa? Yn ôl pob tebyg, na fyddi di. Ond, os wyt ti’n dangos parch iddo fel pen y teulu, gelli di helpu dy deulu i fod yn fwy heddychlon a byddi di’n dod ag anrhydedd i Jehofa. Efallai bydd dy esiampl dda yn ysgogi dy ŵr i wasanaethu Jehofa, ac yna bydd y ddau ohonoch chi’n gallu ennill y wobr.—Darllen 1 Pedr 3:1, 2.

14. Beth dylai gŵr ei wneud os nad yw ei wraig anghrediniol yn dangos parch tuag ato?

14 Efallai dy fod ti’n ŵr a dydy dy wraig ddim yn gwasanaethu Jehofa. Beth gelli di ei wneud os wyt ti’n teimlo nad yw dy wraig yn dangos parch tuag atat ti? Petaet ti’n trio dangos iddi pwy sy’n gwisgo’r trowsus drwy weiddi arni, a fyddai hynny yn gwneud iddi dy barchu? Na fyddai! Mae Duw yn disgwyl iti fod yn ŵr cariadus sy’n efelychu Iesu. (Effesiaid 5:23) Mae Iesu, pen y gynulleidfa, bob amser yn amyneddgar ac yn garedig. (Luc 9:46-48) Os byddi di’n efelychu Iesu, efallai bydd hynny’n ysgogi dy wraig i wasanaethu Jehofa.

15. Sut mae gŵr Cristnogol yn dangos ei fod yn caru ei wraig?

15 Dywed Jehofa: “Rhaid i chi’r gwŷr garu’ch gwragedd a pheidio byth bod yn gas wrthyn nhw.” (Colosiaid 3:19) Mae gŵr cariadus yn dangos anrhydedd tuag at ei wraig. Sut? Mae’n gwrando ar ei barn ac yn gadael iddi wybod bod yr hyn sydd ganddi i’w ddweud yn bwysig iddo. (1 Pedr 3:7) Hyd yn oed os dydy’r gŵr ddim yn gallu gwneud yr hyn mae hi’n ei ofyn bob amser, gall gwrando arni ei helpu i wneud penderfyniadau gwell. (Diarhebion 15:22) Ni fydd gŵr cariadus yn mynnu bod ei wraig yn ei barchu. Yn hytrach, bydd yn trio ennill ei pharch. Pan fydd gŵr yn caru ei wraig a’i blant, maen nhw’n fwy tebygol o fod yn hapus wrth iddyn nhw wasanaethu Jehofa ac ennill y wobr.

Sut gallwn ni sicrhau nad yw problemau teuluol yn ein stopio ni rhag ennill y wobr? (Gweler paragraffau 13-15)

BOBL IFANC— EWCH ATI I ENNILL Y WOBR!

16, 17. Fel person ifanc, sut y gelli di osgoi cael dy wylltio gan dy rieni?

16 Efallai dy fod ti yn dy arddegau ac yn teimlo nad ydy dy rieni’n dy ddeall di neu eu bod nhw’n llym ofnadwy. Efallai fod hyn wedi dy wylltio cymaint nes iti ddechrau meddwl a wyt ti eisiau gwasanaethu Jehofa neu beidio. Ond, petaet ti’n gadael Jehofa, byddi di’n dod i wybod does neb yn y byd yn dy garu di’n fwy na dy rieni Cristnogol a dy ffrindiau yn y gynulleidfa.

17 Meddylia am hyn: Os nad oedd dy rieni byth yn dy gywiro, sut byddet ti’n gwybod eu bod nhw’n wir yn dy garu di? (Hebreaid 12:8) Wrth gwrs, dydyn nhw ddim yn berffaith. Ond paid â chanolbwyntio ar hynny. Yn hytrach, tria ddeall y rhesymau dros yr hyn maen nhw’n ei ddweud ac yn ei wneud. Paid â chynhyrfu, a phaid â gorymateb. Mae Gair Duw yn dweud: “Mae’r un sy’n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin; a’r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall.” (Diarhebion 17:27) Gosoda’r nod o fod yn berson aeddfed sy’n derbyn cyngor ac sy’n dysgu ohono dim ots sut mae’n cael ei roi. (Diarhebion 1:8) Paid byth ag anghofio bod dy rieni sy’n caru Jehofa yn anrheg werthfawr. Maen nhw eisiau dy helpu di i fyw am byth.

18. Pam rwyt ti’n benderfynol o gadw dy olwg ar y wobr?

18 Os oes gennyn ni’r gobaith o fyw am byth yn y nefoedd neu mewn paradwys ar y ddaear, gall pob un ohonyn ni edrych ymlaen at ddyfodol rhyfeddol. Mae ein gobaith yn obaith go iawn. Mae’n seiliedig ar addewid Creawdwr y bydysawd, sy’n dweud: “Bydd y ddaear yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD.” (Eseia 11:9) Yn fuan, bydd pawb ar y ddaear yn cael eu dysgu gan Dduw. Mae hyn yn wobr sy’n werth gweithio tuag ato. Felly, cofia beth mae Jehofa wedi ei addo, a phaid â gadael i unrhyw beth dy stopio di rhag ennill y wobr!