Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bydda’ i’n Cerdded yn Dy Wirionedd

Bydda’ i’n Cerdded yn Dy Wirionedd

“O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd, imi rodio yn dy wirionedd.”—SALM 86:11, BCND.

CANEUON: 31, 72

1-3. (a) Sut dylen ni deimlo am wirionedd y Beibl? Eglura. (Gweler y lluniau agoriadol.) (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

HEDDIW, mae’n gyffredin iawn i bobl brynu rhywbeth yn y siop ac yna mynd â’r peth yn ôl. A phan fydd pobl yn prynu rhywbeth ar lein, maen nhw’n fwy tebygol byth o’i anfon yn ôl. Efallai dydyn nhw ddim yn hoffi yr hyn a brynon nhw gymaint ag yr oedden nhw’n ei ddisgwyl neu fod rhywbeth yn bod ar y peth. Felly, maen nhw’n penderfynu un ai ei gyfnewid am rywbeth arall neu ofyn am gael eu harian yn ôl.

2 Fydden ni byth yn gwneud hyn gyda gwirionedd y Beibl. Unwaith inni ei brynu, dydyn ni byth eisiau ei “werthu,” hynny yw, unwaith inni ddysgu am y gwirionedd, dydyn ni byth eisiau cefnu arno. (Darllen Diarhebion 23:23, BCND; 1 Timotheus 2:4) Fel y trafodon ni yn yr erthygl flaenorol, gwnaethon ni dreulio llawer o amser yn dysgu’r gwirionedd. Hefyd, efallai ein bod ni wedi aberthu gyrfa a oedd yn ein helpu i ennill lot o arian. Ac efallai roedd rhaid inni addasu ein perthynas â rhai pobl, newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymddwyn, neu stopio cymryd rhan mewn arferion sydd ddim yn plesio Jehofa. Ond, rydyn ni’n hollol sicr nad ydy unrhyw beth rydyn ni wedi ei aberthu yn werth mwy na’r bendithion rydyn ni wedi eu cael o wybod y gwirionedd.

3 Rhoddodd Iesu eglureb am fasnachwr a oedd yn chwilio am berlau gwerthfawr. Pan ddaeth y dyn o hyd i berl gwerthfawr iawn, gwerthodd bopeth oedd ganddo ar unwaith er mwyn ei brynu. Roedd y perl hwnnw’n cynrychioli Teyrnas Dduw. Drwy’r eglureb hon, dangosodd Iesu pa mor werthfawr y byddai’r gwirionedd i rywun sy’n chwilio amdano. (Mathew 13:45, 46) Pan ddysgon ni’r gwirionedd ar y dechrau, hynny yw, y gwirionedd am Deyrnas Dduw a phob gwirionedd gwerthfawr arall yn y Beibl, roedden ninnau hefyd yn fodlon aberthu unrhyw beth er mwyn cael gafael ynddo. Os ydyn ni’n parhau i werthfawrogi’r gwirionedd, fyddwn ni byth yn cefnu arno. Ond, yn anffodus, mae rhai o bobl Dduw wedi stopio gwerthfawrogi’r gwirionedd a hyd yn oed wedi ei adael. Dydyn ni byth eisiau gwneud hynny! Mae angen inni ddilyn cyngor y Beibl a “rhodio yn y gwirionedd” drwy’r amser. (Darllen 3 Ioan 2-4, BCND.) Mae hynny’n golygu ein bod ni’n rhoi’r gwirionedd yn gyntaf ac yn dangos hynny yn y ffordd rydyn ni’n byw. Ond, pam a sut y byddai rhywun yn gwerthu, neu’n gadael, y gwirionedd? Sut gallwn ni sicrhau dydyn ni byth yn gwneud hynny? A sut gallwn ni fod yn fwy penderfynol o ddal ati i gerdded yn y gwirionedd?

PAM A SUT MAE RHAI YN GWERTHU’R GWIRIONEDD?

4. Pam na wnaeth rhai pobl barhau i gerdded yn y gwirionedd yn nyddiau Iesu?

4 Yn adeg Iesu, doedd rhai a oedd wedi derbyn y gwirionedd ddim yn parhau i gerdded ynddo. Er enghraifft, ar ôl i Iesu wneud gwyrth a bwydo tyrfa fawr, gwnaeth y dyrfa honno ei ddilyn i ochr draw Môr Galilea. Yna, dywedodd Iesu rywbeth a wnaeth eu synnu: “Os wnewch chi ddim bwyta cnawd Mab y Dyn ac yfed ei waed, fyddwch chi ddim yn cael bywyd.” Yn hytrach na gofyn i Iesu beth oedd yn ei feddwl, dywedon nhw: “Mae’n dweud pethau rhy galed. Pwy sy’n mynd i wrando arno?” O ganlyniad, “dyma nifer o’i ddilynwyr yn troi cefn arno ac yn stopio’i ddilyn.”—Ioan 6:53-66.

5, 6. (a) Pam mae rhai wedi ymbellhau oddi wrth y gwirionedd yn ein dyddiau ni? (b) Sut mae rhai yn drifftio i ffwrdd o’r gwirionedd?

5 Yn anffodus, mae rhai heddiw wedi gadael y gwirionedd hefyd. Pam? Cafodd rhai eu baglu gan ddealltwriaeth newydd o adnod yn y Beibl neu gan rywbeth a ddywedodd neu a wnaeth brawd adnabyddus. Doedd eraill ddim yn hapus pan roddodd rhywun gyngor o’r Beibl neu pan wnaeth anghytundeb godi gyda rhywun yn y gynulleidfa. A gwnaeth eraill ddilyn gau-ddysgeidiaethau gwrthgilwyr a phobl eraill sy’n dweud celwydd amdanon ni. Dyna ychydig o’r rhesymau pam y mae rhai wedi ymbellhau yn fwriadol oddi wrth Jehofa a’r gynulleidfa. (Hebreaid 3:12-14) Cymaint gwell fyddai ymddiried yn Iesu, fel y gwnaeth Pedr! Pan oedd eraill yn y dyrfa wedi cael eu synnu gan eiriau Iesu, gofynnodd Iesu i’r apostolion a oedden nhwthau eisiau gadael hefyd. Atebodd Pedr: “Arglwydd, at bwy awn ni? . . . Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn arwain i fywyd tragwyddol.”—Ioan 6:67-69.

6 Mae eraill wedi drifftio i ffwrdd o’r gwirionedd fesul dipyn, efallai heb hyd yn oed sylweddoli beth oedd yn digwydd. Mae person sy’n gadael y gwirionedd yn raddol yn debyg i gwch sy’n drifftio i ffwrdd o lan yr afon yn araf deg. Mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni “rhag drifftio i ffwrdd gyda’r llif.” (Hebreaid 2:1) Fel arfer, dydy rhywun sy’n drifftio i ffwrdd o’r gwirionedd ddim yn bwriadu gwneud hynny. Ond mae’n gadael i’w gyfeillgarwch â Jehofa wanhau ac, mewn amser, mae’n gallu colli’r cyfeillgarwch yn llwyr. Sut gallwn ni sicrhau dydy hyn byth yn digwydd i ni?

SUT GALLWN NI SICRHAU DYDYN NI BYTH YN GWERTHU’R GWIRIONEDD?

7. Beth fydd yn ein helpu i osgoi gwerthu’r gwirionedd?

Allwn ni ddim dewis pa wirioneddau o’r Beibl i’w derbyn a pha rai i’w hanwybyddu

7 Er mwyn dal ati i gerdded yn y gwirionedd, mae’n rhaid inni dderbyn ac ufuddhau i bopeth mae Jehofa’n ei ddweud. Mae’n rhaid gosod y gwirionedd yn y lle cyntaf yn ein bywyd a dilyn egwyddorion y Beibl ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. Mewn gweddi, addawodd y Brenin Dafydd i Jehofa y byddai’n cerdded yn y gwirionedd. (Salm 86:11, BCND) Roedd Dafydd yn benderfynol o barhau i gerdded yn y gwirionedd, ac mae’n rhaid i ninnau hefyd. Os nad ydyn ni, gallwn ddechrau meddwl am y pethau gwnaethon ni eu haberthu ar gyfer y gwirionedd ac efallai eisiau cael y pethau hynny yn ôl. Ond, allwn ni ddim dewis pa wirioneddau o’r Beibl i’w derbyn a pha rai i’w hanwybyddu. Rhaid inni gerdded yn “y gwir i gyd.” (Ioan 16:13) Yn yr erthygl flaenorol, gwnaethon ni drafod pum peth rydyn ni efallai wedi eu haberthu er mwyn dysgu a rhoi ar waith wirionedd y Beibl. Nawr, byddwn yn gweld sut gallwn ni sicrhau nad ydyn ni byth yn mynd yn ôl at y pethau gwnaethon ni eu gadael.—Mathew 6:19.

8. Sut gall y ffordd y mae Cristion yn defnyddio ei amser achosi iddo ddrifftio i ffwrdd o’r gwirionedd? Rho esiampl.

8 Amser. Er mwyn sicrhau nad ydyn ni byth yn drifftio i ffwrdd o’r gwirionedd, mae’n rhaid inni barhau i ddefnyddio ein hamser yn ddoeth. Os nad ydyn ni’n ofalus, gallwn dreulio gormod o amser yn gwneud pethau hamddenol, yn dilyn ein hobïau, yn pori’r we, neu’n gwylio’r teledu. Er nad ydy’r pethau hynny o reidrwydd yn anghywir, effallai ein bod ni’n defnyddio amser yr oedden ni’n ei ddefnyddio i astudio a phregethu. Digwyddodd rhywbeth tebyg i Emma. * (Gweler y troednodyn.) Er pan oedd hi’n eneth fach, roedd hi wrth ei bodd yn marchogaeth ceffylau ac yn gwneud hynny ar bob cyfle. Ond, dechreuodd hi deimlo’n euog am dreulio cymaint o amser ar ei hobi a phenderfynodd newid ei blaenoriaethau. Hefyd, gwnaeth Emma ddysgu o brofiad Cory Wells, chwaer a oedd yn arfer marchogaeth ceffylau yn y rodeo. * (Gweler y troednodyn.) Bellach, mae Emma’n treulio mwy o amser yn gwasanaethu Jehofa, ac mae ganddi fwy o amser i’w dreulio gyda’i theulu a’i ffrindiau sydd hefyd yn ei wasanaethu. Mae hi’n teimlo’n agosach at Dduw ac yn hapus i wybod ei bod hi’n defnyddio ei hamser yn ddoeth.

9. Sut gall pethau materol ddod yn rhy bwysig inni?

9 Pethau materol. Er mwyn parhau i gerdded yn y gwirionedd, ni allwn adael i bethau materol fod yn rhy bwysig inni. Pan ddysgon ni’r gwirionedd, sylweddolon ni fod gwasanaethu Jehofa yn llawer mwy pwysig nag unrhyw bethau materol, ac roedden ni’n hapus i aberthu unrhyw un o’r pethau hynny ar gyfer y gwirionedd. Ond wrth i amser fynd heibio, efallai byddwn ni’n gweld eraill yn prynu’r dyfeisiau electronig diweddaraf neu’n mwynhau pethau eraill mae arian yn gallu eu prynu. Gallwn ddechrau teimlo ein bod ni’n colli allan. Efallai na fyddwn ni bellach yn fodlon ar beth sydd gennyn ni a dechrau ffocysu’n fwy ar gael pethau materol nag ar wasanaethu Jehofa. Mae hyn yn ein hatgoffa o beth ddigwyddodd i Demas. Roedd Demas yn “caru pethau’r byd yma” gymaint nes iddo adael yr aseiniad oedd ganddo gyda’r apostol Paul. (2 Timotheus 4:10) Efallai fod Demas wedi caru pethau materol yn fwy na gwasanaethu Duw. Neu efallai nad oedd eisiau gwneud aberthau bellach er mwyn gwasanaethu gyda Paul. Beth yw’r wers i ni? Efallai yn y gorffennol roedden ninnau’n caru pethau materol. Os nad ydyn ni’n ofalus, gall y cariad hwnnw dyfu ynon ni unwaith eto a dod mor gryf nes inni golli ein cariad tuag at y gwirionedd.

10. Pa ddylanwad sy’n rhaid inni ei osgoi?

10 Ein perthynas ag eraill. I barhau i gerdded yn y gwirionedd, mae’n rhaid inni beidio â gadael i’r rhai sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa ddylanwadu arnon ni. Pan ddysgon ni’r gwirionedd, gwnaeth ein perthynas â’n ffrindiau ac aelodau o’n teulu sydd ddim yn Dystion newid. Efallai fod rhai ohonyn nhw wedi parchu ein daliadau newydd, ond efallai fod eraill wedi eu gwrthwynebu. (1 Pedr 4:4) Wrth gwrs, rydyn ni’n gwneud ein gorau i yrru ymlaen yn dda gydag aelodau o’n teulu ac i fod yn garedig wrthyn nhw. Ond allwn ni ddim anwybyddu safonau Jehofa er mwyn eu plesio nhw. Ac fel rydyn ni’n dysgu yn 1 Corinthiaid 15:33, dylai ein ffrindiau agosaf fod yn bobl sy’n caru Jehofa.

11. Sut gallwn ni osgoi meddyliau a gweithredoedd anfoesol?

11 Meddyliau a gweithredoedd aflan. I gerdded yn y gwirionedd, mae’n rhaid inni fod yn sanctaidd, neu’n lân, o safbwynt Jehofa. (Eseia 35:8; darllen 1 Pedr 1:14-16.) Pan ddysgon ni’r gwirionedd, gwnaethon ni newidiadau yn ein bywyd er mwyn dilyn safonau’r Beibl. Gwnaeth rhai pobl newidiadau enfawr. Ond, mae dal angen inni fod yn ofalus nad ydyn ni’n cyfnewid ein bywyd glân am fywyd anfoesol. Beth all ein helpu i wrthod unrhyw demtasiwn i wneud rhywbeth anfoesol? Meddylia am beth roddodd Jehofa er mwyn inni allu fod yn sanctaidd. Rhoddodd fywyd gwerthfawr ei Fab annwyl, Iesu Grist! (1 Pedr 1:18, 19) Er mwyn ein helpu i aros yn lân yng ngolwg Jehofa, mae’n rhaid inni gadw mewn cof pa mor werthfawr yw aberth pridwerthol Iesu.

12, 13. (a) Pam mae’n rhaid inni gael yr un agwedd â Jehofa tuag at wyliau? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod nesaf?

12 Arferion sydd ddim yn plesio Duw. Efallai bydd aelodau o’n teulu, ein cyd-weithwyr, a’n cyd-ddisgyblion yn ceisio ein perswadio i rannu yn eu dathliadau. Beth all ein helpu i wrthod y pwysau i gymryd rhan mewn arferion a gwyliau sydd ddim yn plesio Jehofa? Mae’n rhaid cadw’r rhesymau pam nad ydy Jehofa ddim yn cymeradwyo’r gwyliau hyn yn glir yn ein meddwl. Gallwn wneud ymchwil yn ein cyhoeddiadau a’n hatgoffa ein hunain o darddiad rhai o’r gwyliau. Pan fyddwn ni’n myfyrio ar y rhesymau Ysgrythurol pam nad ydyn ni’n dathlu’r gwyliau hyn, rydyn ni’n teimlo’n sicr ein bod ni’n cerdded yn y ffordd “sy’n plesio’r Arglwydd.” (Effesiaid 5:10) Os ydyn ni’n trystio Jehofa a’i Air, fyddwn ni ddim yn poeni am beth mae pobl eraill yn ei feddwl.—Diarhebion 29:25.

13 Rydyn ni’n gobeithio cerdded yn y gwirionedd am byth. Beth all ein helpu i fod yn fwy penderfynol o barhau i gerdded yn y gwirionedd? Dyma dri pheth gallwn ni eu gwneud.

BYDDA’N FWY PENDERFYNOL O GERDDED YN Y GWIRIONEDD

14. (a) Sut bydd parhau i astudio’r Beibl yn ein helpu i fod yn benderfynol o beidio â gadael y gwirionedd? (b) Pam mae angen doethineb, disgyblaeth, a dealltwriaeth arnon ni?

14 Yn gyntaf, parha i astudio’r Beibl ac i feddwl yn ddwfn am beth rwyt ti’n ei ddysgu. Trefna amser rheolaidd ar gyfer hyn. Mwyaf yn y byd rwyt ti’n astudio, mwyaf yn y byd byddi di’n caru’r gwirionedd ac yn teimlo’n benderfynol o beidio â’i adael. Mae Diarhebion 23:23 yn dweud wrthyn ni i brynu gwirionedd ac i brynu doethineb, cyfarwyddyd, a deall. (BCND) Dydy gwybod gwirionedd y Beibl ddim yn ddigon. Mae angen inni ei roi ar waith yn ein bywyd. Pan gawn ni ddealltwriaeth, rydyn ni’n ychwanegu’r pethau newydd rydyn ni’n eu dysgu at y pethau rydyn ni’n eu gwybod yn barod. Mae doethineb yn ein hysgogi i weithredu ar yr hyn rydyn ni’n ei wybod. Weithiau mae’r gwirionedd yn ein cyfarwyddo, neu ein disgyblu, drwy ddangos lle mae angen inni wneud newidiadau. Mae’n rhaid inni fod yn gyflym i ymateb i’r ddisgyblaeth honno, sy’n fwy gwerthfawr nag arian yn ôl y Beibl.—Diarhebion 8:10.

15. Sut mae’r gwirionedd yn ein hamddiffyn fel belt?

15 Yn ail, bydda’n benderfynol o roi ar waith y gwirionedd yn dy fywyd bob dydd. Mae’r Beibl yn dweud bod y gwirionedd fel belt milwr. (Effesiaid 6:14) Yn adeg y Beibl, roedd belt y milwr yn ei helpu i deimlo’n hyderus wrth fynd allan i frwydro cyn belled bod y felt yn dynn. Os oedd yn llac, ni fyddai’n ei warchod. Sut mae’r gwirionedd yn ein hamddiffyn fel belt? Os ydyn ni’n cadw gwirionedd y Beibl yn agos aton ni drwy’r amser, bydd yn ein hamddiffyn rhag meddwl mewn ffordd anghywir ac yn ein helpu i wneud penderfyniadau da. Pan fydd gennyn ni broblem fawr neu’n cael ein temtio i wneud rhywbeth anghywir, bydd gwirionedd y Beibl yn ein gwneud ni’n fwy penderfynol o wneud yr hyn sy’n iawn. Fyddai milwr byth yn mynd i ryfel heb ei felt, a fydden ninnau byth yn gadael yr gwirionedd. Rydyn ni’n sicrhau ein bod ni’n rhoi gwirionedd y Beibl ar waith ym mhob rhan o’n bywyd. Byddai milwr hefyd yn cario ei gleddyf ar ei felt. Gad inni weld sut gallwn ninnau wneud rhywbeth tebyg.

16. Sut mae dysgu’r gwirionedd i eraill yn ein helpu i barhau i gerdded yn y gwirionedd?

16 Yn drydydd, dysga’r gwirionedd i eraill cymaint ag y gelli di. Mae’r Beibl yn cael ei gymharu â chleddyf. Fel roedd milwr da yn gafael yn dynn ar ei gleddyf, rydyn ninnau yn gafael yn dynn ar Air Duw. (Effesiaid 6:17) Gall pob un ohonon ni wella fel athrawon ac “esbonio’r gwir yn iawn.” (2 Timotheus 2:15) Pan ydyn ni’n defnyddio’r Beibl i ddysgu eraill, rydyn ni’n dod i wybod ac i garu’r gwirionedd yn fwy byth. Ac rydyn ni’n teimlo’n fwy penderfynol o barhau i gerdded yn y gwirionedd.

Rhodd werthfawr oddi wrth Jehofa yw’r gwirionedd

17. Pam mae’r gwirionedd yn werthfawr i ti?

17 Rhodd werthfawr oddi wrth Jehofa yw’r gwirionedd. Mae’n ei gwneud hi’n bosib inni gael perthynas agos â’n Tad nefol. Dyna’r peth mwyaf gwerthfawr y mae’n bosib inni ei gael. Mae Jehofa eisoes wedi dysgu cymaint inni, a dim ond y dechrau ydy hyn! Mae’n addo parhau i’n dysgu ni am byth. Felly, trysora’r gwirionedd fel y byddi di’n trysori perl gwerthfawr. Dal ati i brynu’r gwirionedd, “a phaid â’i werthu.” Wedyn, byddi dithau, fel Dafydd, yn cadw dy addewid i gerdded yng ngwirionedd Jehofa.—Salm 86:11.

^ Par. 8 Newidiwyd yr enw.

^ Par. 8 Dos i JW Broadcasting, ac edrych o dan INTERVIEWS AND EXPERIENCES > TRUTH TRANSFORMS LIVES.