Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Pryn Wirionedd, a Phaid â’i Werthu”

“Pryn Wirionedd, a Phaid â’i Werthu”

“Pryn wirionedd, a phaid â’i werthu; pryn ddoethineb, cyfarwyddyd a deall.”—DIARHEBION 23:23, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

CANEUON: 94, 96

1, 2. (a) Beth ydy’r peth mwyaf gwerthfawr yn dy fywyd? (b) Pa wirioneddau rydyn ni’n eu gwerthfawrogi, a pham? (Gweler y lluniau agoriadol.)

BETH ydy’r peth mwyaf gwerthfawr yn dy fywyd? Fel pobl Jehofa, y peth mwyaf gwerthfawr sydd gennyn ni ydy ein perthynas ag ef. Fyddwn ni byth yn cael gwared arni er mwyn cael rhywbeth arall. Rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi’r gwirionedd sydd yn y Beibl, oherwydd mae’n ei gwneud hi’n bosib inni fod yn ffrind i Jehofa.—Colosiaid 1:9, 10.

2 Jehofa ydy’r Addysgwr Mawr, ac mae’n dysgu llawer o wirioneddau drudfawr inni o’i Air, y Beibl. Mae’n ein dysgu am bwysigrwydd ei enw ac yn dweud wrthyn ni am ei rinweddau hyfryd. Mae’n dweud wrthyn ni ei fod yn ein caru ni gymaint nes iddo roi bywyd ei Fab annwyl droson ni. Mae Jehofa yn ein dysgu am y Deyrnas Feseianaidd. Mae’n rhoi gobaith inni ar gyfer y dyfodol, boed hynny yn y nefoedd ar gyfer y rhai eneiniog neu ym Mharadwys ar y ddaear ar gyfer y dyrfa o “ddefaid eraill.” (Ioan 10:16) Mae Jehofa yn dysgu inni sut y dylen ni fyw. Rydyn ni’n ystyried y gwirioneddau hyn yn drysorau oherwydd eu bod nhw’n ein helpu i agosáu at ein Creawdwr ac yn rhoi pwrpas i’n bywydau.

3. Ydy Jehofa yn gofyn inni dalu arian am y gwirionedd?

3 Duw hael ydy Jehofa. Mae mor hael nes iddo aberthu ei Fab ei hun droson ni. Pan fydd Jehofa yn gweld bod rhywun yn chwilio am y gwirionedd, mae’n helpu’r person hwnnw i ddod o hyd iddo. Fyddai Jehofa byth yn gofyn inni dalu arian i ddysgu’r gwirionedd. Unwaith, gwnaeth dyn o’r enw Simon gynnig arian i’r apostol Pedr er mwyn cael yr awdurdod i roi’r ysbryd glân i eraill. Esboniodd Pedr fod ei feddylfryd yn anghywir gan ddweud: “Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw!” (Actau 8:18-20) Felly, beth mae’n ei olygu i brynu gwirionedd?

BETH MAE PRYNU’R GWIRIONEDD YN EI FEDDWL?

4. Yn yr erthygl hon, beth fyddwn ni’n ei ddysgu am y gwirionedd?

4 Darllen Diarhebion 23:23. (BCND) Mae dysgu’r gwirionedd o’r Beibl yn gofyn am ymdrech. Mae’n rhaid inni aberthu pethau eraill er mwyn cael hyd iddo. Ar ôl inni brynu’r gwirionedd, hynny yw, dysgu’r gwirionedd, mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio byth â’i “werthu,” hynny yw, cefnu arno. Sut rydyn ni’n prynu gwirionedd y Beibl? Faint mae’n ei gostio? Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn ein helpu i werthfawrogi’r gwirionedd yn fwy byth ac yn gwneud ni’n fwy penderfynol o gadw ein gafael arno. Byddwn yn dysgu pam mae’r gwirionedd oddi wrth Jehofa yn werth llawer mwy nag unrhyw beth arall.

5, 6. (a) Sut gallwn ni brynu’r gwirionedd heb arian? Esbonia. (b) Sut mae’r gwirionedd o les inni?

5 Nid yw’r ffaith fod rhywbeth yn rhad ac am ddim yn golygu nad yw’n costio unrhyw beth. Mae’r gair Hebraeg a ddefnyddir yn Diarhebion 23:23 ar gyfer “prynu” hefyd yn gallu golygu “cael hyd i.” Mae’r ddau ymadrodd hyn yn awgrymu bod rhywun yn gorfod gwneud ymdrech neu’n gorfod aberthu rhywbeth er mwyn cael hyd i rywbeth sy’n werthfawr iddo. Er mwyn ein helpu i ddeall sut gallwn ni brynu’r gwirionedd, dychmyga fod marchnad yn cynnig bananas am ddim. A allwn ni ddisgwyl i’r bananas ymddangos ar ein bwrdd? Na allwn, mae dal angen inni fynd i’r farchnad a dod â nhw adref. Felly, er nad ydy’r bananas yn costio unrhyw arian, mae’n dal yn rhaid inni wneud ymdrech i’w cael nhw. Mewn ffordd debyg, does dim angen arian i ddysgu’r gwirionedd, ond mae angen ymdrech ac aberth.

6 Darllen Eseia 55:1-3. Mae geiriau Jehofa yn ein helpu i ddeall beth mae prynu’r gwirionedd yn ei olygu. Mae Jehofa yn cymharu ei eiriau o wirionedd â dŵr, llaeth, a gwin. Fel mae dŵr oer yn adfywio rhywun sy’n sychedu, mae’r gwirionedd yn ein hadfywio ni. Ac fel mae llaeth yn helpu plentyn i dyfu’n gryfach, mae gwirionedd y Beibl yn cryfhau ein perthynas â Jehofa. Mae Jehofa hefyd yn cymharu ei eiriau â gwin. Pam? Mae’r Beibl yn dweud bod gwin yn gwneud i bobl lawenhau. (Salm 104:15) Felly, pan fydd Jehofa yn dweud wrthyn ni: “Prynwch win,” mae’n gadael inni wybod bod dilyn ei arweiniad mewn bywyd yn ein gwneud ni’n hapus. (Salm 19:8) Mae Jehofa yn defnyddio’r cymariaethau hyn i’n helpu i ddeall sut mae dysgu’r gwirionedd a’i roi ar waith o les inni. Gad inni drafod pum peth y bydd rhaid inni efallai eu haberthu er mwyn brynu’r gwirionedd.

BETH WYT TI WEDI EI ABERTHU?

7, 8. (a) Pam mae dysgu’r gwirionedd yn cymryd amser? (b) Beth wnaeth un fyfyrwraig ei aberthu, a beth oedd y canlyniad?

7 Amser. Mae’n cymryd amser i rywun wrando ar neges y Deyrnas, darllen y Beibl a llenyddiaeth Feiblaidd, astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa, paratoi ar gyfer ein cyfarfodydd, a’u mynychu. I wneud y pethau hyn i gyd, bydd angen inni ddefnyddio amser y byddwn ni wedi gallu ei ddefnyddio ar gyfer pethau eraill llai pwysig. (Darllen Effesiaid 5:15, 16, Y Beibl Cysegr-lân.) Faint o amser y mae’n cymryd i ddysgu gwirioneddau sylfaenol y Beibl? Mae’n wahanol i bob person. Mae’r hyn y gallwn ni ei ddysgu am ddoethineb Jehofa, ei ffyrdd, a’r pethau y mae wedi eu gwneud yn ddi-ben-draw. (Rhufeiniaid 11:33) Gwnaeth y rhifyn cyntaf o’r Tŵr Gwylio gymharu’r gwirionedd â “phlanhigyn bach” a dywedodd: “Paid â bodloni ar un blodyn o wirionedd. Petai un wedi bod yn ddigon, ni fyddai unrhyw flodau eraill yn bodoli. Dal ati i gasglu a chwilia am fwy.” Felly, gallwn ofyn i ni’n hunain, ‘Faint ydw i wedi ei ddysgu am Jehofa?’ Hyd yn oed os ydyn ni’n byw am byth, bydd ’na rywbeth newydd i’w ddysgu am Jehofa o hyd. Ond, heddiw, pwysig yw defnyddio’r amser sydd gennyn ni i ddysgu cymaint ag y medrwn ni. Dyma esiampl o rywun a wnaeth hynny.

Pwysig yw defnyddio’r amser sydd gennyn ni i ddysgu cymaint ag y medrwn ni am Jehofa

8 Symudodd Mariko, * dynes ifanc o Japan, i’r Unol Daleithiau i fynd i’r ysgol yn Ninas Efrog Newydd. Un diwrnod, gwnaeth arloeswraig rannu’r newyddion da gyda hi yn ei chartref. Roedd gan Mariko grefydd yn barod, ond dechreuodd hi astudio’r Beibl gyda’r chwaer. Roedd hi’n mwynhau’r hyn yr oedd hi’n ei ddysgu gymaint nes iddi ofyn i astudio ddwywaith yr wythnos. Er bod Mariko yn brysur iawn gyda gwaith ysgol a swydd ran amser, dechreuodd hi fynychu cyfarfodydd y gynulleidfa yn syth bin. Treuliodd hi lai o amser ar bethau hamddenol er mwyn cael mwy o amser i ddysgu am y gwirionedd. Drwy wneud yr aberthau hyn, daeth Mariko yn agosach ac yn agosach at Jehofa, ac mewn llai na blwyddyn, cafodd hi ei bedyddio. Chwe mis yn ddiweddarach, yn 2006, dechreuodd hi arloesi, ac mae hi’n dal yn arloesi heddiw.

9, 10. (a) Sut mae dysgu’r gwirionedd yn newid y ffordd rydyn ni’n teimlo am bethau materol? (b) Beth wnaeth un ddynes ifanc ei aberthu, a sut mae hi’n teimlo am hynny nawr?

9 Pethau materol. Er mwyn dysgu’r gwirionedd, efallai bydd rhaid inni aberthu swydd sy’n talu’n dda neu yrfa lwyddiannus yn y system hon. Er enghraifft, pysgotwyr oedd Pedr ac Andreas, ond, pan roddodd Iesu wahoddiad iddyn nhw i fod yn ddisgyblion iddo, gadawon nhw eu busnes pysgota. (Mathew 4:18-20) Dydy hyn ddim yn golygu bod rhaid iti adael dy swydd pan wyt ti’n dysgu’r gwirionedd. Mae angen i bobl weithio a gofalu am eu teuluoedd. (1 Timotheus 5:8) Ond, pan wyt ti’n dysgu’r gwirionedd, mae’r ffordd rwyt ti’n meddwl am bethau materol yn newid. Rwyt ti’n sylweddoli beth sy’n wirioneddol bwysig mewn bywyd. Dywedodd Iesu: “Peidiwch casglu trysorau i chi’ch hunain yn y byd yma.” Yn hytrach, gwnaeth Iesu ein hannog: “Casglwch drysorau i chi’ch hunain yn y nefoedd.” (Mathew 6:19, 20) Dyna wnaeth dynes ifanc o’r enw Maria.

10 Er pan oedd Maria’n eneth fach, roedd hi’n mwynhau chwarae golff. Yn yr ysgol uwchradd, roedd hi’n mynd o nerth i nerth. Daeth hi mor dda yn chwarae golff nes i un o’r prifysgolion gynnig ysgoloriaeth iddi. Nod Maria mewn bywyd oedd chwarae golff yn broffesiynol a gwneud llawer o arian. Yna, dechreuodd hi astudio’r Beibl. Roedd Maria wrth ei bodd â’r hyn roedd hi’n ei ddysgu a dechreuodd hi ei roi ar waith. Dywedodd hi: “Mwyaf yn y byd roeddwn i’n addasu fy agwedd a fy mywyd i safonau’r Beibl, hapusach yn y byd roeddwn i’n teimlo.” Sylweddolodd Maria y byddai’n anodd canolbwyntio ar ei pherthynas â Jehofa ac ar ei gyrfa golff. (Mathew 6:24) Felly, penderfynodd hi roi’r gorau i’w nod o chwarae golff yn broffesiynol i wneud rhywbeth gwell. Heddiw, mae hi’n arloesi ac mae’n dweud bod ganddi’r “bywyd mwyaf hapus ac ystyrlon.”

Addawodd Iesu y byddwn ni’n derbyn llawer mwy nag yr ydyn ni’n ei aberthu ar gyfer y gwirionedd

11. Pan ydyn ni’n dysgu’r gwirionedd, beth all ddigwydd i’n perthynas â rhai pobl?

11 Dy berthynas ag eraill. Pan fyddwn ni’n dechrau rhoi ar waith yr hyn a ddysgwn ni o’r Beibl, efallai bydd y berthynas sydd gennyn ni â’n ffrindiau neu ein teulu yn newid. Gwnaeth Iesu ein helpu i ddeall y rheswm dros hyn pan weddïodd dros ei ddilynwyr: “Cysegra nhw i ti dy hun drwy’r gwirionedd; dy neges di ydy’r gwir.” (Ioan 17:17) Mae cysegru yn gallu golygu “gosod ar wahân.” Pan ddechreuwn ni roi ar waith y gwirionedd, rydyn ni’n cael ein gosod ar wahân i’r byd oherwydd ein bod ni’n dilyn safonau’r Beibl. Er ein bod ni’n ceisio cadw perthynas dda â’n ffrindiau a’n teulu, efallai na fydd rhai yn ein hoffi cymaint ag yr oedden nhw cynt ac efallai bydden nhw’n gwrthwynebu ein daliadau newydd. Dydy hyn ddim yn ein synnu. Dywedodd Iesu: “Bydd eich teulu agosaf yn troi’n elynion i chi.” (Mathew 10:36) Ond, addawodd Iesu y byddwn ni’n derbyn llawer mwy nag yr ydyn ni’n ei aberthu ar gyfer y gwirionedd!—Darllen Marc 10:28-30.

12. Beth wnaeth un dyn Iddewig ei aberthu ar gyfer y gwirionedd?

12 Drwy gydol ei fywyd, roedd dyn Iddewig o’r enw Aaron wedi credu bod ynganu enw Duw yn anghywir. Ond, roedd yn wir eisiau dysgu’r gwirionedd am Dduw. Un diwrnod, gwnaeth un o’r Tystion ddangos iddo petai’n ychwanegu llafariaid at y pedwar cytsain Hebraeg sydd yn enw Duw, gellid ei ynganu fel “Jehofa.” Roedd Aaron mor hapus i ddysgu hyn dyma’n mynd i’r synagog i ddweud wrth y rabïaid! Roedd yn disgwyl iddyn nhw fod yn hapus i ddysgu’r gwirionedd am enw Duw, ond doedden nhw ddim. Yn hytrach, gwnaethon nhw boeri arno a’i hel o ’na. Gwnaeth teulu Aaron droi yn ei erbyn. Ond, ni adawodd i hynny ei stopio rhag dod i wybod mwy am Jehofa. Daeth Aaron yn un o Dystion Jehofa a gwasanaethodd Jehofa’n ffyddlon am weddill ei fywyd. Gallwn ninnau hefyd ddisgwyl y gall y berthynas sydd gennyn ni ag eraill newid pan fyddwn ni’n dysgu’r gwirionedd.

13, 14. Pa newidiadau sy’n rhaid i ni eu gwneud yn y ffordd rydyn ni’n meddwl a gweithredu pan fyddwn ni’n dysgu’r gwirionedd? Rho Esiampl.

13 Meddyliau ac arferion aflan. Pan ydyn ni’n dysgu’r gwirionedd ac yn dechrau byw yn ôl safonau’r Beibl, mae’n rhaid inni fod yn barod i addasu’r ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymddwyn. Ysgrifennodd yr apostol Pedr: “Byddwch yn ufudd i Dduw am eich bod yn blant iddo. Stopiwch ddilyn y chwantau oedd i’w gweld ynoch chi cyn i chi ddod i wybod y gwir.” Wedyn ychwanegodd: “Rhaid i’ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân.” (1 Pedr 1:14, 15) Yn hen ddinas Corinth, roedd llawer o bobl yn anfoesol. Roedd rhaid i’r bobl a oedd yn byw yno wneud newidiadau mawr er mwyn bod yn lân yng ngolwg Jehofa. (1 Corinthiaid 6:9-11) Heddiw, mae llawer yn gwneud newidiadau tebyg wrth iddyn nhw ddysgu’r gwirionedd. Gwnaeth Pedr ddisgrifio hyn pan ysgrifennodd: “Dych chi wedi treulio digon o amser yn y gorffennol yn gwneud beth mae’r paganiaid yn mwynhau ei wneud—byw’n anfoesol yn rhywiol a gadael i’r chwantau gael penrhyddid, meddwi a slotian yfed mewn partïon gwyllt, a phopeth ffiaidd arall sy’n digwydd wrth addoli eilun-dduwiau.”—1 Pedr 4:3.

14 Roedd Devynn a Jasmine wedi bod yn feddwon am lawer o flynyddoedd. Er bod Devynn yn gyfrifydd da, doedd ddim yn gallu cadw swydd oherwydd ei fod yn yfed gymaint. Roedd Jasmine yn adnabyddus am fod yn flin ac yn dreisgar. Un diwrnod, pan oedd hi wedi meddwi, gwnaeth hi gyfarfod dau Dyst a oedd yn genhadon ar y stryd. Gwnaethon nhw gynnig astudiaeth Feiblaidd iddi. Ond, pan ddaethon nhw i’w thŷ yr wythnos ganlynol, roedd Jasmine a Devynn wedi meddwi. Doedden nhw ddim yn credu y byddai’r cenhadon yn malio digon amdanyn nhw i ddod i’w cartref. Y tro nesaf y daeth y cenhadon, roedd y sefyllfa’n wahanol. Roedd Jasmine a Devynn yn awyddus i ddechrau dysgu gwirionedd y Beibl, a dechreuon nhw gymhwyso’r hyn roedden nhw’n ei ddysgu yn gyflym. Mewn llai na thri mis, roedden nhw wedi stopio yfed, ac yn hwyrach ymlaen, cawson nhw briodas gyfreithlon. Gwnaeth llawer o bobl yn eu pentref sylwi bod Jasmine a Devynn wedi newid, a dechreuon nhw astudio’r Beibl hefyd.

15. Beth ydy un o’r newidiadau mwyaf anodd inni ei wneud ar gyfer y gwirionedd, a pham?

15 Arferion sydd ddim yn plesio Duw. Un o’r newidiadau mwyaf anodd mae’n rhaid inni ei wneud ydy stopio ymuno mewn arferion sydd ddim yn plesio Jehofa. Ond, hyd yn oed ar ôl i rai dysgu sut mae Jehofa’n teimlo am y pethau hyn, maen nhw’n dal yn ei chael hi’n anodd stopio. Maen nhw’n poeni am ymateb eu teulu, eu cyd-weithwyr, a’u ffrindiau. Maen nhw’n gwybod bod gan lawer o bobl deimladau cryf am rai arferion, fel y rhai sy’n anrhydeddu perthnasau sydd wedi marw. (Deuteronomium 14:1) Felly, beth all ein helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol hyn? Gallwn ddysgu o esiamplau pobl yn y gorffennol a wnaeth newidiadau pan ddysgon nhw’r gwirionedd, fel y Cristnogion cynnar yn Effesus.

16. Pa aberth a wnaeth rhai yn Effesus?

16 Yn hen ddinas Effesus, cyffredin iawn oedd ymwneud â hudoliaeth. Beth wnaeth y bobl hynny a oedd yn ymarfer hudoliaeth pan ddaethon nhw’n Gristnogion? Mae’r Beibl yn egluro: “Casglodd llawer o’r rhai a fu’n ymarfer â swynion eu llyfrau ynghyd, a’u llosgi yng ngŵydd pawb; cyfrifwyd gwerth y rhain, a’i gael yn hanner can mil o ddarnau arian. Felly, yn ôl nerth yr Arglwydd, yr oedd y Gair yn cynyddu a llwyddo.” (Actau 19:19, 20, BCND) Roedd y Cristnogion ffyddlon hynny yn fodlon aberthu eu llyfrau drud, a gwnaeth Jehofa eu bendithio am hynny.

17. (a) Beth yw rhai o’r pethau rydyn ni efallai wedi eu haberthu ar gyfer y gwirionedd? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb yn yr erthygl nesaf?

17 Beth wyt ti wedi ei aberthu er mwyn dysgu’r gwirionedd? Mae pob un ohonon ni wedi aberthu amser. Mae rhai ohonon ni wedi aberthu cyfle i fod yn gyfoethog. Ac efallai bod ein perthynas â rhai pobl wedi newid. Mae llawer ohonon ni wedi newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymddwyn, ac rydyn ni wedi gwrthod arferion sydd ddim yn plesio Jehofa. Ond, rydyn ni’n hollol sicr fod gwirionedd y Beibl yn llawer mwy gwerthfawr nag unrhyw beth rydyn ni wedi ei aberthu. Mae gwirionedd y Beibl yn ei gwneud hi’n bosib inni gael perthynas agos â Jehofa, a dyna’r peth mwyaf gwerthfawr yn ein bywyd. Pan ydyn ni’n meddwl am yr holl fendithion rydyn ni wedi eu derbyn oherwydd y gwirionedd, mae’n anodd deall pam byddai unrhyw un yn ei “werthu.” Sut gallai hynny ddigwydd? A sut gallwn ni osgoi gwneud camgymeriad mor ddifrifol? Byddwn ni’n ateb y cwestiynau hynny yn yr erthygl nesaf.

^ Par. 8 Newidiwyd rhai enwau yn yr erthygl hon.