Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Meddwl Fel Jehofa?

Wyt Ti’n Meddwl Fel Jehofa?

“Gadewch i Dduw . . . chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau.”—RHUFEINIAID 12:2.

CANEUON: 56, 123

1, 2. Wrth inni barhau i wneud cynnydd, beth rydyn ni’n ei ddysgu? Rho esiampl.

DYCHMYGA fod rhywun yn rhoi anrheg i blentyn bach. Mae’r rhieni yn dweud wrtho, “Dweud diolch.” Mae’n gwneud hynny’n bennaf oherwydd eu bod nhw wedi dweud wrtho am ei wneud. Ond wrth i’r plentyn dyfu i fyny, mae’n dechrau deall pam mae ei rieni yn meddwl ei bod hi’n bwysig i fod yn ddiolchgar pan fydd eraill yn garedig. Yn y pen draw, mae’n diolch i eraill o’i wirfodd oherwydd ei fod wedi dysgu bod yn ddiolchgar.

2 Digwyddodd rhywbeth tebyg i ni. Pan ddechreuon ni ddysgu’r gwirionedd, dysgon ni ei bod hi’n bwysig bod yn ufudd i orchmynion sylfaenol Jehofa. Ond wrth inni barhau i wneud cynnydd, rydyn ni’n dysgu mwy am sut mae’n meddwl, hynny yw, ei hoffbethau, ei gasbethau, a’i safbwynt ar bethau penodol. Pan fyddwn ni’n gadael i feddyliau Jehofa ddylanwadu ar ein dewisiadau personol a’n gweithredoedd, mae ei feddyliau ef yn dod yn feddyliau i ni.

3. Pam mae meddwl fel y mae Jehofa yn gallu bod yn anodd?

3 Er ein bod ni’n mwynhau dysgu sut i feddwl fel Jehofa, mae hi weithiau yn anodd meddwl fel y mae Jehofa yn meddwl oherwydd ein bod ni’n amherffaith. Er enghraifft, rydyn ni’n gwybod sut mae Jehofa yn ystyried glendid moesol, materoliaeth, y gwaith pregethu, camddefnyddio gwaed, a phethau eraill. Ond, mae’n gallu bod yn anodd inni deall pam mae’n edrych arnyn nhw fel y mae. Felly, sut gallwn ni ddysgu meddwl yn fwy fel Jehofa? A sut bydd hyn yn ein helpu i wneud y peth iawn, nawr ac yn y dyfodol?

SUT I FEDDWL FEL DUW?

4. Beth mae’n ei olygu i chwyldroi ein meddyliau?

4 Darllen Rhufeiniaid 12:2. Yn yr adnod hon, mae’r apostol Paul yn dweud beth sydd ei angen arnon ni er mwyn meddwl fel Jehofa. Mae’n dweud y dylen ni “stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu.” Fel y dysgon ni yn yr erthygl flaenorol, golyga hyn fod angen inni wrthod syniadau ac agweddau’r byd. Ond dywedodd Paul hefyd y dylen ni chwyldroi’r ffordd rydyn ni’n meddwl am bethau. Golyga hyn fod rhaid inni astudio Gair Duw, deall ei feddyliau, myfyrio arnyn nhw, a gweithio’n galed i feithrin yr un meddylfryd â Duw.

5. Esbonia’r gwahaniaeth rhwng darllen ac astudio.

5 Mae astudio yn golygu mwy na darllen gwybodaeth yn gyflym neu danlinellu’r atebion i gwestiynau mewn erthygl astudio. Pan fyddwn ni’n astudio, rydyn ni’n meddwl am yr hyn mae’r deunydd yn ei ddysgu inni am bwy ydy Jehofa, beth mae’n ei wneud, a sut mae’n meddwl. Rydyn ni’n ceisio deall pam mae Jehofa yn gofyn inni wneud rhai pethau ond inni osgoi pethau eraill. Rydyn ni hefyd yn ystyried beth sy’n rhaid inni ei newid yn ein bywydau a’n meddyliau. Wrth gwrs, dydy hi ddim yn bosib inni fyfyrio ar yr holl bethau hyn bob amser rydyn ni’n astudio. Ond, peth da ydy treulio amser, hanner y sesiwn astudio efallai, yn myfyrio ar beth rydyn ni wedi ei ddarllen.—Salm 119:97; 1 Timotheus 4:15, Beibl Cysegr-lân.

6. Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n myfyrio ar Air Duw?

6 Pan fyddwn ni’n myfyrio ar Air Duw yn rheolaidd, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd. Rydyn ni’n “gwybod wedyn beth mae Duw eisiau,” ac yn dod i ddeall bod ffordd o feddwl Jehofa yn berffaith. Rydyn ni’n dechrau deall sut mae Duw yn gweld pethau, ac rydyn ni’n dod i weld pethau yr un fath. Felly, rydyn ni’n chwyldroi ein meddyliau ac yn dechrau meddwl mewn ffordd newydd. Yn araf deg, rydyn ni’n meddwl fel Jehofa.

MAE EIN MEDDYLIAU YN EFFEITHIO AR EIN GWEITHREDOEDD

7, 8. (a) Beth yw safbwynt Jehofa ar bethau materol? (Gweler y lluniau agoriadol.) (b) Os ydyn ni’n gweld pethau materol fel y mae Jehofa, beth fydd bob amser yn fwyaf pwysig i ni?

7 Mae ein meddyliau yn effeithio ar ein gweithredoedd. (Marc 7:21-23; Iago 2:17) Gad inni ystyried ychydig o enghreifftiau sy’n gwneud y pwynt yma’n eglur. Mae un enghraifft, a geir yn yr hanes am enedigaeth Iesu, yn dangos yn glir safbwynt Jehofa ar bethau materol. Duw ei hun a ddewisodd Joseff a Mair i fagu ei Fab er nad oedd ganddyn nhw lawer o bres. (Lefiticus 12:8; Luc 2:24) Pan gafodd Iesu ei eni, gwnaeth Mair ei “osod i orwedd mewn cafn ar gyfer bwydo anifeiliaid. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo.” Petai Jehofa yn dymuno, byddai wedi gallu sicrhau bod Iesu’n cael ei eni mewn lle llawer iawn gwell. Ond roedd eisiau gweld Iesu yn cael ei fagu mewn teulu a oedd yn rhoi addoli Duw yn gyntaf. Dyna oedd y peth pwysicaf i Jehofa.

8 Mae’r hanes hwn am enedigaeth Iesu yn ein dysgu ni beth yw barn Jehofa am bethau materol. Mae rhai rhieni eisiau i’w plant gael y pethau materol gorau, er bod hynny yn gallu achosi perthynas y plant â Jehofa i ddioddef. Yn amlwg, i Jehofa, ein perthynas ag ef ydy’r peth pwysicaf. Wyt ti wedi derbyn safbwynt Jehofa ar y mater hwn? Beth mae dy weithredoedd yn ei ddangos?—Darllen Hebreaid 13:5.

9, 10. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ystyried baglu pobl eraill fel y mae Jehofa?

9 Enghraifft arall ydy sut mae Jehofa yn meddwl am rywun sy’n baglu eraill, hynny yw, sy’n achosi i eraill bechu neu i stopio gwasanaethu Jehofa. Dywedodd Iesu: “Pwy bynnag sy’n gwneud i un o’r rhai bach yma sy’n credu ynof fi bechu, byddai’n well iddo gael ei daflu i’r môr gyda maen melin wedi’i rwymo am ei wddf.” (Marc 9:42) Geiriau cryf iawn yw’r rhain! Ac rydyn ni’n gwybod bod Iesu yn teimlo’n union yr un fath â’i Dad. Yn sicr, dydy Jehofa ddim yn hapus pan fydd rhywun yn baglu un o ddilynwyr Iesu.—Ioan 14:9.

10 Ydyn ni’n teimlo’r un fath â Jehofa ac Iesu am faglu eraill? Beth mae ein gweithredoedd yn ei ddangos? Er enghraifft, efallai ein bod ni’n hoff iawn o ryw steil arbennig o wisg a thrwsiad. Ond beth wnawn ni os ydy ein dewis yn cynhyrfu rhai yn y gynulleidfa neu’n achosi i eraill gael meddyliau anfoesol? A fydd y cariad sydd gennyn ni tuag at ein brodyr yn ein hannog ni i roi heibio ein dewisiadau?—1 Timotheus 2:9, 10.

11, 12. Sut byddwn ni’n ein hamddiffyn ein hunain os ydyn ni’n dysgu casáu beth mae Jehofa yn ei gasáu a datblygu hunanreolaeth?

11 Dyma’r drydedd enghraifft: Mae Jehofa yn casáu anghyfiawnder. (Eseia 61:8) Wrth gwrs, mae’n gwybod ei bod hi’n anodd inni wneud beth sy’n iawn oherwydd ein hamherffeithrwydd. Ond eto, mae eisiau inni gasáu’r hyn sy’n ddrwg yn union fel y mae Ef. (Darllen Salm 97:10.) Os ydyn ni’n myfyrio ar y rheswm pam mae Jehofa yn casáu pethau drwg, bydd yn ein helpu ni i fabwysiadu ei farn ef ac yn rhoi’r nerth inni fedru gwrthsefyll gwneud pethau drwg.

Mae rhai pethau yn ddrwg er nad ydy’r Beibl yn sôn yn benodol amdanyn nhw

12 Os ydyn ni’n dysgu casáu beth sy’n ddrwg, bydd hefyd yn ein helpu i ddeall bod rhai pethau yn ddrwg er nad ydy’r Beibl yn sôn amdanyn nhw’n benodol. Er enghraifft, mae ffurf ar ymddygiad anfoesol a elwir dawnsio glin yn dod yn fwy ac yn fwy poblogaidd yn y byd heddiw. Mae rhai pobl yn teimlo nad ydy hyn yr un fath â chael rhyw gyda rhywun, felly maen nhw’n teimlo nad yw’n beth drwg. * (Gweler y troednodyn.) Ond ai fel ’na mae Jehofa yn teimlo am y peth? Cofia, mae Jehofa yn casáu pob math o ddrygioni. Felly, gad inni aros yn glir oddi wrth unrhyw beth sy’n ddrwg drwy ddysgu datblygu hunanreolaeth a thrwy gasáu beth mae Jehofa yn ei gasáu.—Rhufeiniaid 12:9.

MEDDYLIA NAWR AM DY DDYFODOL

13. Pam dylen ni feddwl am safbwynt Jehofa nawr fel y gallwn ni benderfynu’n ddoeth yn y dyfodol?

13 Pan fyddwn ni’n astudio, dylen ni feddwl am safbwynt Jehofa oherwydd y gall hyn ein helpu ni i wneud dewisiadau doeth. Yna, os ydyn ni mewn sefyllfa sy’n gofyn inni weithredu’n syth, fyddwn ni ddim yn cael ein synnu’n llwyr. (Diarhebion 22:3) Gad inni ystyried rhai esiamplau o’r Beibl.

14. Beth mae ateb Joseff i wraig Potiffar yn ei ddysgu inni?

14 Pan wnaeth gwraig Potiffar geisio hudo Joseff, fe’i gwrthododd hi’n syth. Yn amlwg, roedd Joseff wedi myfyrio ar y ffordd mae Jehofa yn teimlo am briodas. (Darllen Genesis 39:8, 9.) Dywedodd Joseff wrth wraig Potiffar: “Sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?” Dangosa hyn ei fod wedi mabwysiadu ffordd o feddwl Jehofa. Beth amdanon ninnau? Beth fyddet ti’n ei wneud petai cyd-weithiwr yn dechrau fflyrtio â thi? Beth petai rhywun yn anfon neges neu lun sy’n rhywiol eglur atat ti ar dy ffôn symudol? * (Gweler y troednodyn.) Mae’n llawer haws aros yn ffyddlon i Jehofa os ydyn ni eisoes wedi dysgu am sut mae’n teimlo am faterion o’r fath ac wedi penderfynu’n ymlaen llaw ynglŷn â beth i’w wneud.

15. Sut gallwn ni aros yn ffyddlon i Jehofa, fel y gwnaeth y tri Hebread?

15 Ystyria hefyd esiampl y tri Hebread, a oedd yn cael eu hadnabod fel Shadrach, Meshach, ac Abednego. Pan roddodd y Brenin Nebwchadnesar y gorchymyn iddyn nhw i addoli’r ddelw aur roedd ef wedi ei chodi, gwrthodon nhw’n llwyr. Roedd eu hateb clir i’r brenin yn dangos eu bod nhw wedi meddwl yn barod am beth fyddai’n digwydd petaen nhw’n aros yn ffyddlon i Jehofa. (Exodus 20:4, 5; Daniel 3:4-6, 12, 16-18) Beth am heddiw? Beth fyddet ti’n ei wneud petai’r bos yn gofyn iti gyfrannu arian at ddathliad sy’n gysylltiedig â gau grefydd? Yn hytrach na disgwyl hyd nes i rywbeth fel hyn ddigwydd, peth da fyddai myfyrio nawr ar safbwynt Jehofa ynglŷn â materion o’r fath. Yna, petai sefyllfa debyg yn codi, byddai’n llawer haws inni wneud a dweud y peth iawn, fel y gwnaeth y tri Hebread.

Wyt ti wedi gwneud ymchwil, wedi cwblhau ffurflen feddygol gyfreithiol, ac wedi siarad â’r doctor? (Gweler paragraff 16)

16. Sut mae deall barn Jehofa yn drylwyr yn ein helpu i baratoi ar gyfer achos meddygol brys?

16 Gall myfyrio ar ffordd o feddwl Jehofa ein helpu ni i aros yn ffyddlon iddo os byddwn ni’n wynebu achos meddygol brys. Wrth gwrs, rydyn ni’n benderfynol o wrthod trallwysiad o waed cyfan neu unrhyw un o’r pedair prif gydran o’r gwaed. (Actau 15:28, 29, BCND) Ond mae ’na rai triniaethau sy’n cynnwys gwaed yn gofyn i bob un Cristion benderfynu drosto’i hun ar sail egwyddorion y Beibl. Pryd ydy’r amser gorau i benderfynu beth i’w wneud? Ai pan fyddwn ni yn yr ysbyty, efallai mewn poen neu o dan bwysau i wneud penderfyniad cyflym? Ddim o gwbl. Nawr ydy’r amser i wneud ymchwil, i gwblhau dogfen feddygol gyfreithiol sy’n esbonio’n glir beth ydy ein dymuniadau, ac i siarad â’n meddyg. * (Gweler y troednodyn.)

17-19. Pam mae’n rhaid inni ddeall nawr sut mae Jehofa yn meddwl? Rho esiampl.

17 Yn olaf, meddylia am sut gwnaeth Iesu ymateb yn syth i gyngor annoeth Pedr: “Bydda’n garedig wrthyt ti dy hun, Arglwydd.” Mae’n amlwg fod Iesu wedi myfyrio cryn dipyn ar beth roedd Duw eisiau iddo’i wneud ac ar y proffwydoliaethau am ei fywyd a’i farwolaeth ar y ddaear. Rhoddodd y wybodaeth hon y nerth iddo i aros yn ffyddlon i Jehofa ac i roi ei fywyd yn aberth droson ni i gyd.—Darllen Mathew 16:21-23, ond adnod 22 o’r troednodyn. *

18 Heddiw, mae Duw eisiau inni fod yn ffrindiau iddo ac i wneud ein gorau i bregethu’r newyddion da. (Mathew 6:33; 28:19, 20; Iago 4:8) Ond gall rhai pobl sydd â bwriadau da geisio ein perswadio ni i beidio â gwneud hynny, fel y gwnaeth Pedr i Iesu. Er enghraifft, efallai bydd dy gyflogwr yn cynnig mwy o arian iti ond rwyt ti’n gwybod y bydd rhaid iti weithio mwy o oriau sy’n golygu na fydd gen ti gymaint o amser i fynychu’r cyfarfodydd neu i bregethu gyda’r gynulleidfa. Neu, os wyt ti yn yr ysgol, dychmyga fod dy athrawon yn cynnig iti symud oddi cartref er mwyn derbyn addysg ychwanegol. Petai hynny’n digwydd, a fyddi di’n gweddïo, yn ymchwilio, ac yn siarad ag aelodau dy deulu neu â’r henuriaid cyn penderfynu? Gwell yw dysgu beth yw safbwynt Jehofa nawr gan wneud ei feddyliau ef yn feddyliau i ti. Yna, petai’r pethau hyn yn cael eu cynnig iti, mae’n debygol na fyddan nhw’n dy demtio di mewn gwirionedd. Rwyt ti’n gwybod yn union beth i’w wneud oherwydd dy fod ti eisoes wedi penderfynu canolbwyntio ar wasanaethu Jehofa.

19 Mae’n debyg y byddi di’n gallu meddwl am sefyllfaoedd eraill a all, yn fwyaf sydyn, roi dy ffyddlondeb i Jehofa o dan brawf. Wrth gwrs, ni allwn ni baratoi ar gyfer pob sefyllfa. Ond os ydyn ni’n myfyrio ar safbwynt Jehofa yn ystod ein hastudiaeth bersonol, mae hi’n fwy tebygol y byddwn ni’n cofio’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu ac yn gwybod sut i’w roi ar waith mewn unrhyw sefyllfa. Felly, wrth inni astudio, gad inni feithrin safbwynt Jehofa a meddwl am sut bydd hyn yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau doeth nawr ac yn y dyfodol.

MEDDWL JEHOFA A DY DDYFODOL

20, 21. (a) Pam byddwn ni’n mwynhau ein rhyddid yn y byd newydd? (b) Sut gallwn ni fwynhau bywyd nawr?

20 Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y byd newydd. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n gobeithio byw ym Mharadwys ar y ddaear. O dan Deyrnas Dduw, bydd y boen a’r dioddefaint rydyn ni’n eu profi yn y system hon yn diflannu. Ac, wrth gwrs, bydd y rhyddid gennyn ni o hyd i wneud penderfyniadau ar sail ein dewisiadau a’n dymuniadau personol.

21 Ond dydy hynny ddim yn golygu na fydd cyfyngiadau ar ein rhyddid. Bydd y rhai gostyngedig yn gwneud dewisiadau ar sail cyfreithiau a meddylfryd Jehofa o hyd. A bydd hyn yn dod â llawenydd a heddwch mawr. (Salm 37:11) Hyd nes bydd y diwrnod hwnnw’n dod, rydyn ni’n gallu mwynhau bywyd nawr wrth inni feddwl fel y mae Jehofa yn meddwl.

^ Par. 12 Gweithred yw dawnsio glin lle mae’r sawl sy’n dawnsio, a all fod yn rhannol noeth, yn symud mewn ffordd rywiol wrth eistedd ar lin cwsmer. Yn dibynnu ar y ffeithiau, gellid ystyried hyn yn anfoesoldeb rhywiol, mater sy’n gofyn am sefydlu pwyllgor barnwrol. Dylai Cristion sydd wedi ymwneud â hyn ofyn i’r henuriaid am help.—Iago 5:14, 15.

^ Par. 14 Secstio yw defnyddio ffôn symudol i anfon negeseuon, lluniau, neu fideos rhywiol eglur. Yn dibynnu ar y ffeithiau, gall hyn olygu bod yr henuriaid yn sefydlu pwyllgor barnwrol. Mewn rhai achosion, mae awdurdodau’r llywodraeth wedi cyhuddo arddegwyr o fod yn droseddwyr rhyw oherwydd eu bod nhw wedi ymwneud â secstio. Am ragor o wybodaeth, dos i’r wefan jw.org Saesneg a darllena’r erthygl ar-lein “Young People Ask—What Should I Know About Sexting?” (Edrycha o dan BIBLE TEACHINGS > TEENAGERS.) Neu edrycha ar yr erthygl “How to Talk to Your Teen About Sexting” yn y Deffrwch! Saesneg, Tachwedd 2013, tudalennau 4-5.

^ Par. 16 Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r egwyddorion Beiblaidd sy’n gallu dy helpu di, gweler y llyfr Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw, tudalennau 215-218.

^ Par. 17 Mathew 16:22, NW: “Aeth Pedr ato a’i geryddu, gan ddweud: ‘Bydda’n garedig wrthyt ti dy hun, Arglwydd; ni fydd hyn yn digwydd iti o gwbl.’”