Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ymddiried yn Jehofa a Chael Byw!

Ymddiried yn Jehofa a Chael Byw!

“Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun.”—DIARHEBION 3:5.

CANEUON: 3, 8

1. Pam mae angen cysur ar bob un ohonon ni?

MAE angen cysur ar bawb. Efallai fod ein bywydau ni’n llawn pryder a siom. Efallai ein bod ni’n dioddef oherwydd salwch, henaint, neu brofedigaeth. Mae rhai ohonon ni’n cael ein trin yn gas gan eraill. Ar ben hynny, mae pobl o’n cwmpas ni yn dod yn fwy ac yn fwy treisgar. Yn wir, mae’r “adegau ofnadwy o anodd” hyn yn profi ein bod ni’n byw yn “y cyfnod olaf hwn” a bod y byd newydd yn agosáu bob un diwrnod. (2 Timotheus 3:1) Ond efallai ein bod ni wedi disgwyl am yn hir i addewidion Jehofa ddod yn wir, ac efallai ein bod ni’n profi mwy a mwy o anawsterau. Felly, lle cawn ni hyd i gysur?

2, 3. (a) Beth rydyn ni’n ei wybod am Habacuc? (b) Pam rydyn ni’n ystyried llyfr Habacuc?

2 Gad inni edrych yn llyfr Habacuc i ddod o hyd i’r ateb i’r cwestiwn hwnnw. Er nad ydy’r Ysgrythurau yn rhoi llawer o fanylion am fywyd Habacuc, mae ei lyfr yn wirioneddol galonogol. Yn ôl pob tebyg, mae’r enw Habacuc yn golygu “Cofleidio.” Gallai hyn gyfeirio at y ffordd mae Jehofa yn ein cysuro ni, fel petai yn ein cofleidio ni’n gynnes, hynny yw, ein cymryd ni yn ei freichiau. Neu fe allai gyfeirio at y ffordd rydyn ninnau’n gafael yn dynn yn Jehofa. Siaradodd Habacuc â Jehofa a gofyn cwestiynau iddo. Gwnaeth Jehofa ysbrydoli Habacuc i gofnodi’r sgwrs oherwydd ei fod yn gwybod y bydden ni’n elwa.—Habacuc 2:2.

3 Y sgwrs hon rhwng y proffwyd gofidus a Jehofa ydy’r unig fanylion y mae’r Beibl yn eu cynnwys am Habacuc. Ond mae ei lyfr yn rhan o’r pethau a gafodd “eu hysgrifennu yn y gorffennol” yng Ngair Duw “er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i’r dyfodol.” (Rhufeiniaid 15:4) Sut gall llyfr Habacuc ein helpu? Gall ein helpu i wybod sut i ymddiried yn Jehofa. Ac mae proffwydoliaeth Habacuc yn dangos ein bod ni’n gallu cael heddwch meddwl ni waeth pa broblemau neu dreialon rydyn ni’n eu hwynebu.

GWEDDÏA AR JEHOFA

4. Pam roedd Habacuc yn ddigalon?

4 Darllen Habacuc 1:2, 3Roedd Habacuc yn byw mewn cyfnod anodd iawn. Roedd y bobl o’i gwmpas yn ddrwg ac yn dreisgar, ac roedd hyn yn ei wneud yn drist iawn. Le bynnag roedd yn edrych, fe welodd yr Israeliaid yn trin ei gilydd mewn ffordd greulon ac annheg. Gofynnodd Habacuc: ‘Pryd bydd y drygioni hwn yn dod i ben? Pam mae Jehofa yn cymryd cymaint o amser i wneud rhywbeth ynghylch y peth?’ Roedd yn ddigalon. Felly dyma’n erfyn ar Jehofa i wneud rhywbeth. Efallai fod Habacuc wedi dechrau mynd i feddwl nad oedd Jehofa yn poeni am ei bobl bellach neu na fyddai Duw yn gweithredu. Wyt ti erioed wedi teimlo felly?

Ni ddylen ni ofni sôn wrth Jehofa am ein pryderon a’n hamheuon

5. Beth allwn ni ei ddysgu o lyfr Habacuc? (Gweler y llun agoriadol.)

5 Oedd Habacuc yn gofyn y cwestiynau hyn oherwydd ei fod wedi stopio ymddiried yn Jehofa a’i addewidion? Ddim o gwbl! Roedd Habacuc yn gofyn i Jehofa am help gyda’i amheuon a’i broblemau, sy’n dangos nad oedd wedi anobeithio ond yn ymddiried ynddo o hyd. Roedd Habacuc yn yn amlwg yn poeni ac wedi drysu. Doedd ddim yn deall pam roedd Jehofa yn aros cyn gweithredu, a pham roedd yn caniatáu iddo ddioddef cymaint. Mae’r ffaith fod Jehofa wedi gofyn i Habacuc gofnodi ei bryderon yn dysgu gwers bwysig inni. Ni ddylen ni ofni sôn wrth Jehofa am ein pryderon a’n hamheuon. Yn ei garedigrwydd, mae’n ein gwahodd ni i weddïo a dweud wrtho yn union sut rydyn ni’n teimlo. (Salm 50:15; 62:8) Mae Diarhebion 3:5 yn ein hannog ni: “Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun.” Rhoddodd Habacuc y geiriau hyn ar waith yn ei fywyd.

6. Pam mae gweddïo yn bwysig?

6 Roedd Habacuc yn ymddiried yn Jehofa, ei Ffrind a’i Dad, ac fe gymerodd y cam cyntaf i agosáu ato. Doedd Habacuc ddim yn unig yn poeni am ei sefyllfa ei hun ac yn ceisio datrys y peth ar ei ben ei hun. Yn hytrach, gweddïodd am ei deimladau a’i bryderon. Dyma esiampl dda inni. Mae Jehofa, Gwrandawr gweddi, yn ein gwahodd ni i ddangos ein bod ni’n ymddiried ynddo drwy weddïo a dweud wrtho am ein pryderon. (Salm 65:2) Pan fyddwn i’n gwneud hyn, byddwn ni’n gweld sut mae Jehofa yn ateb ein gweddïau. Byddwn ni’n teimlo fel petai Jehofa yn gafael yn dynn ynon ni, yn ein cysuro a’n harwain. (Salm 73:23, 24) Bydd Duw yn ein helpu i ddeall sut mae’n edrych ar ein sefyllfa, ni waeth pa dreialon rydyn ni’n eu hwynebu. Gweddïo ar Jehofa ydy un o’r ffyrdd gorau i ddangos iddo ein bod ni’n ymddiried ynddo.

GWRANDA AR JEHOFA

7. Sut gwnaeth Jehofa ymateb pan wnaeth Habacuc sôn wrtho am ei bryderon?

7 Darllen Habacuc 1:5-7. Ar ôl i Habacuc ddweud wrth Jehofa am ei bryderon, efallai ei fod wedi meddwl sut byddai Jehofa yn ymateb. Fel Tad cariadus, roedd Jehofa yn gwybod sut roedd Habacuc yn teimlo. Roedd yn gwybod bod Habacuc yn dioddef ac yn ymbil arno am help. Felly, wnaeth Jehofa ddim ceryddu Habacuc ond dywedodd wrtho yr hyn y byddai Ef yn ei wneud yn fuan i’r Iddewon anffyddlon. Yn wir, efallai mai Habacuc oedd y person cyntaf i glywed gan Jehofa y byddai eu cosb yn digwydd yn fuan.

8. Pam doedd ateb Jehofa ddim yn un roedd Habacuc yn ei ddisgwyl?

8 Esboniodd Jehofa wrth Habacuc ei fod yn barod i weithredu. Byddai’n cosbi pobl ddrwg a threisgar Jwda. Trwy ddweud bod hyn “ar fin digwydd,” dangosodd Jehofa y byddai’r farnedigaeth hon yn dod tra oedd Habacuc neu’r Israeliaid yn dal yn fyw. Doedd ateb Jehofa ddim yn un roedd Habacuc yn ei ddisgwyl o gwbl. Pobl greulon oedd y Caldeaid, neu’r Babiloniaid. Roedden nhw’n fwy treisgar na’r Israeliaid, a oedd o leiaf yn gwybod am safonau Jehofa. Felly, pam y byddai Jehofa yn defnyddio’r genedl baganaidd greulon hon i gosbi ei bobl? Byddai hyn ond yn achosi mwy o ddioddefaint i Jwda. * (Gweler y troednodyn.) Sut byddet ti wedi teimlo petaet tithau yn sefyllfa Habacuc?

9. Pa gwestiynau ofynnodd Habacuc?

9 Darllen Habacuc 1:12-14, 17. Er bod Habacuc yn deall bod Jehofa yn mynd i ddefnyddio’r Babiloniaid i gosbi’r bobl ddrwg o’i gwmpas, roedd wedi drysu o hyd. Ond roedd yn ostyngedig ac yn benderfynol o ddal ati i ymddiried yn Jehofa. Yn wir, dywedodd fod Jehofa yn parhau i fod yn “graig” iddo. (Deuteronomium 32:4; Eseia 26:4) Roedd Habacuc yn hollol sicr fod Duw yn gariadus a charedig, felly doedd ef ddim yn dal yn ôl rhag gofyn mwy o gwestiynau, fel: Pam y byddai Jehofa yn caniatáu i bethau waethygu yn Jwda ac i’w bobl ddioddef hyd yn oed yn fyw byth? Pam na fyddai’n gwneud rhywbeth yn syth? Pam y byddai’r Hollalluog yn “eistedd yn dawel,” a chaniatáu drygioni ym mhobman? Wedi’r cwbl, Jehofa ydy’r “Duw Sanctaidd” ac mae ei “lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni.”

10. Pam y gallwn weithiau deimlo fel Habacuc?

10 Weithiau rydyn ninnau’n teimlo fel Habacuc. Rydyn ni’n gwrando ar Jehofa. Rydyn ni’n ymddiried ynddo ac yn darllen ac yn astudio ei Air, sy’n cryfhau ein gobaith. Rydyn ni hefyd yn clywed am ei addewidion pan fyddwn ni’n gwrando ar beth mae ei gyfundrefn yn ei ddysgu inni. Ond gallen ni feddwl: ‘Pryd bydd ein dioddefaint yn dod i ben?’ Gallwn ddysgu o beth wnaeth Habacuc nesaf.

ARHOSA I JEHOFA WEITHREDU

11. Beth oedd Habacuc yn benderfynol o’i wneud?

11 Darllen Habacuc 2:1. Roedd Habacuc yn dawel ei feddwl yn dilyn y sgwrs â Jehofa. Roedd yn benderfynol o aros i Jehofa weithredu. Dangosodd hyn drwy ddweud: “Dw i’n mynd i ddisgwyl yn dawel i ddydd trybini ddod.” (Habacuc 3:16) Gwnaeth gweision ffyddlon eraill i Dduw ddal ati i ddisgwyl i Jehofa weithredu. Mae eu hesiampl yn ein hannog ni oherwydd ei fod yn profi ein bod ninnau’n gallu gwneud yr un peth.—Micha 7:7; Iago 5:7, 8.

Dylen ni ddisgwyl yn amyneddgar i Jehofa weithredu ac ymddiried yn y ffaith y bydd yn lleddfu ein poen yn ei amser ei hun

12. Beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth Habacuc?

12 Beth allwn ni ei ddysgu o ysbryd penderfynol Habacuc? Yn gyntaf, ddylen ni byth stopio gweddïo ar Jehofa pa bynnag broblemau sy’n codi. Yn ail, mae angen inni wrando ar beth mae Jehofa yn ei ddweud wrthyn ni drwy gyfrwng ei Air a’i gyfundrefn. Ac yn drydydd, dylen ni ddisgwyl yn amyneddgar i Jehofa weithredu ac ymddiried yn y ffaith y bydd yn lleddfu ein poen yn ei amser ei hun. Os ydyn ni’n efelychu Habacuc, byddwn ni’n llonydd ein meddwl ac yn gallu dyfalbarhau. Bydd ein gobaith yn ein helpu i fod yn amyneddgar ac yn hapus er gwaethaf ein problemau. Rydyn ni’n hyderus y bydd ein Tad nefol yn gweithredu.—Rhufeiniaid 12:12.

13. Sut gwnaeth Jehofa gysuro Habacuc?

13 Darllen Habacuc 2:3. Yn sicr, roedd Jehofa yn hapus o weld Habacuc yn penderfynu disgwyl iddo weithredu. Roedd yr Hollalluog yn gwybod yn union sut roedd Habacuc yn dioddef, felly dyma’n cysuro’r proffwyd ac yn ei sicrhau y byddai’n ateb ei gwestiynau diffuant. Yn fuan, byddai holl bryderon Habacuc yn cael eu tawelu. Roedd fel petai Jehofa yn dweud wrth Habacuc: “Bydda’n amyneddgar ac ymddiried ynof i. Byddaf yn ateb dy weddïau hyd yn oed os ydy hi’n ymddangos fy mod i’n cymryd gormod o amser.” Gwnaeth Jehofa atgoffa Habacuc ei fod eisoes wedi penderfynu pa bryd y bydd yn gwireddu Ei addewidion. Felly anogodd Habacuc i barhau i ddisgwyl. Yn y diwedd, ni fyddai’r proffwyd yn siomedig.

Pam rydyn ni’n benderfynol o wneud ein gorau i Jehofa? (Gweler paragraff 14)

14. Beth ddylen ni fod yn benderfynol o’i wneud wrth wynebu treialon?

14 Rydyn ninnau hefyd yn gorfod disgwyl i Jehofa weithredu. Rydyn ni hefyd yn gorfod gwrando’n astud ar beth mae’n ei ddweud. Yna, byddwn ni’n hyderus ac yn dawel ein meddwl er gwaethaf ein treialon. Gwnaeth Iesu ein hannog i beidio â chanolbwyntio ar yr “amserlen” nad ydy Duw wedi sôn wrthyn ni amdani. (Actau 1:7) Mae’n rhaid inni ymddiried yn y ffaith mai Jehofa sy’n gwybod pa bryd yw’r amser gorau i weithredu. Felly, ni ddylen ni roi’r gorau iddi ond dylen ni fod yn ostyngedig ac yn amyneddgar a dangos ffydd yn Nuw. Ac wrth inni aros, dylen ni ddefnyddio ein hamser yn ddoeth a gwneud ein gorau oll i wasanaethu Jehofa.—Marc 13:35-37; Galatiaid 6:9.

JEHOFA YN RHOI BYWYD I’R RHAI SY’N YMDDIRIED YNDDO

15, 16. (a) Pa addewidion sydd yn llyfr Habacuc? (b) Beth mae’r addewidion hyn yn ei ddysgu inni?

15 Mae Jehofa yn addo y “bydd yr un cyfiawn yn byw drwy ei ffyddlondeb” a “bydd pawb drwy’r byd yn gwybod mor wych ydy’r ARGLWYDD.” (Habacuc 2:4, 14) Yn wir, mae Jehofa yn addo rhoi bywyd tragwyddol i’r rhai sy’n amyneddgar ac sy’n ymddiried ynddo.

16 Mae’r addewid hwnnw yn Habacuc 2:4 mor bwysig nes i Paul ei ddyfynnu dair gwaith yn ei lythyrau! (Rhufeiniaid 1:17; Galatiaid 3:11; Hebreaid 10:38) Yn sicr, dim ots pa anawsterau sydd o’n blaenau, byddwn yn gweld addewidion Jehofa yn dod yn wir os ydyn ni’n ymddiried ynddo. Mae Jehofa eisiau inni ganolbwyntio ar ein gobaith am y dyfodol.

17. Beth mae Jehofa yn ei addo i’r rhai sy’n ymddiried ynddo?

17 Mae llyfr Habacuc yn cynnwys gwers rymus i bob un ohonon ni sy’n byw yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae Jehofa yn addo bywyd tragwyddol i unrhyw berson cyfiawn sy’n ymddiried ynddo. Felly, gad inni barhau i ymddiried yn Nuw, er gwaethaf unrhyw broblemau neu bryderon sydd gennyn ni. Gall yr hyn a ddywedodd Jehofa wrth Habacuc ein sicrhau ni y bydd Duw yn ein cefnogi ni a’n hachub ni. Mae’n gofyn yn garedig inni ymddiried ynddo ac i ddisgwyl yn amyneddgar i’r amser ddod pan fydd ei Deyrnas yn rheoli dros y ddaear. Bryd hynny, bydd y ddaear yn llawn pobl hapus a heddychlon sy’n addoli Jehofa.—Mathew 5:5; Hebreaid 10:36-39.

YMDDIRIED YN JEHOFA A BYDDA’N LLAWEN

18. Pa effaith a gafodd eiriau Jehofa ar Habacuc?

18 Darllen Habacuc 3:16-19. Cafodd yr hyn a ddywedodd Jehofa wrth Habacuc effaith fawr arno. Myfyriodd Habacuc ar y pethau rhyfeddol roedd Jehofa wedi eu gwneud ar gyfer Ei bobl yn y gorffennol. Nawr, roedd yn ymddiried yn Jehofa yn fwy byth. Roedd yn sicr y byddai Jehofa yn gweithredu’n fuan! Gwnaeth hynny gysuro’r proffwyd, er ei fod yn gwybod y byddai efallai’n dal yn dioddef am gyfnod. Doedd Habacuc ddim yn amau mwyach. Yn hytrach, roedd ganddo ffydd lwyr y byddai Jehofa yn ei achub. Yn wir, gall yr hyn mae’n ei ddweud yn adnod 18 fod yn un o’r esiamplau mwyaf trawiadol yn y Beibl cyfan o berson yn ymddiried yn Nuw. Mae rhai ysgolheigion yn credu bod yr adnod yn golygu: “Byddaf yn neidio o lawenydd yn yr Arglwydd; byddaf yn troi a throi oherwydd fy mod i’n ymhyfrydu yn Nuw.” Am wers bwerus inni i gyd! Mae Jehofa nid yn unig wedi rhoi addewidion hyfryd ar gyfer y dyfodol, ond mae wedi ein sicrhau ni y bydd cyn bo hir yn cyflawni’r addewidion hynny.

19. Sut gallwn ni gael ein cysuro gan Jehofa, fel y cafodd Habacuc?

19 Y wers bwysig rydyn ni’n ei dysgu oddi wrth lyfr Habacuc ydy ymddiried yn Jehofa. (Habacuc 2:4) I barhau i ymddiried yn Jehofa, mae angen inni gryfhau ein perthynas ag ef. Felly, dyma beth sy’n rhaid i ni ei wneud. (1) Parhau i weddïo, a dweud wrth Jehofa am ein pryderon. (2) Gwrando’n astud ar beth mae Jehofa yn ei ddweud wrthyn ni yn ei Air, a dilyn y cyfarwyddyd mae’n ei roi drwy gyfrwng ei gyfundrefn. (3) Bod yn ffyddlon ac yn amyneddgar tra ydyn ni’n disgwyl i Jehofa wireddu ei addewidion. Dyna wnaeth Habacuc. Er ei fod yn llawn gofid pan ddechreuodd siarad â Jehofa, yn y pen draw, roedd wedi ei galonogi! Os ydyn ni’n efelychu Habacuc, byddwn ninnau hefyd yn cael ein cysuro a’n cofleidio gan ein Tad nefol, Jehofa. Oes ’na gysur gwell ar gael yn yr hen fyd drwg hwn?

^ Par. 8 Mae Habacuc 1:5 yn defnyddio’r “chi” lluosog, sy’n dangos y byddai’r dinistr yn effeithio ar holl bobl Jwda.