Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Roedd yn Ffrind i Jehofa

Roedd yn Ffrind i Jehofa

“Israel, ti ydy fy ngwas i, Jacob, ti dw i wedi ei ddewis—disgynyddion Abraham, fy ffrind i.”​—ESEIA 41:8, beibl.net.

CANEUON: 91, 22

1, 2. (a) Sut y gwyddwn ni fod pobl yn gallu dod yn ffrindiau i Dduw? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

O’R CRUD i’r bedd, mae angen cariad arnon ni. Mae angen ar bawb gyfeillgarwch agos, nid cariad rhamantus yn unig. Ond yr hyn rydyn ni yn ei angen fwyaf yw cariad Jehofa. Mae llawer o bobl yn credu nad yw cyfeillgarwch agos â Duw yn bosibl oherwydd bod Duw yn anweladwy ac yn hollalluog. Ond rydyn ni’n gwybod fel arall!

2 Dysgwn o’r Beibl ei bod hi’n bosibl i bobl fod yn ffrindiau i Dduw. Dylen ni ddysgu oddi wrth esiamplau’r rhai hyn. Pam? Oherwydd nod pwysicaf bywyd yw cyfeillgarwch â Duw. Felly, gad inni drafod esiampl Abraham. (Darllenwch Iago 2:23.) Sut daeth Abraham yn ffrind i Dduw? Ffydd oedd sail cyfeillgarwch Abraham â Duw, ac fe gafodd ei ddisgrifio’n “dad i bawb sy’n meddu ar ffydd.” (Rhufeiniaid 4:11) Wrth iti feddwl am ei esiampl, gofyn i ti dy hun, ‘Sut gallaf efelychu ffydd Abraham a chryfhau fy mherthynas â Jehofa?’

SUT DAETH ABRAHAM YN FFRIND I JEHOFA?

3,  4. (a) Disgrifia’r prawf mwyaf, efallai, ar ffydd Abraham. (b) Pam roedd Abraham yn fodlon aberthu Isaac?

3 Dychmyga Abraham tua 125 mlwydd oed yn dringo mynydd yn araf deg. [1] (Gweler yr ôl-nodyn.) Y tu ôl iddo oedd ei fab Isaac a oedd tua 25 mlwydd oed. Roedd Isaac yn cario’r coed tân, ac roedd Abraham yn cario cyllell ac offer ar gyfer cynnau tân. Mae’n debyg mai honno oedd y daith anoddaf roedd Abraham erioed wedi gorfod mynd arni. Ond nid oherwydd ei henaint. Roedd ganddo ddigon o egni o hyd. Yn hytrach, roedd y siwrnai yn anodd oherwydd gofynnodd Jehofa iddo aberthu ei fab!​—Genesis 22:1-8.

Nid ufudd-dod dall oedd gan Abraham, hynny yw, ufudd-dod difeddwl

4 Mae’n debyg mai dyna oedd y prawf mwyaf ar ffydd Abraham. Dywedwyd gan rai fod gofyn i Abraham aberthu ei fab yn greulon ar ran Duw. Ac mae eraill yn dweud bod Abraham wedi bod yn barod i wneud hynny gan nad oedd yn caru ei fab. Mae pobl yn dweud pethau o’r fath oherwydd nad oes ganddyn nhw ffydd, ac nid ydyn nhw’n deall gwir ffydd ychwaith. (1 Corinthiaid 2:14-16) Nid ufudd-dod dall oedd gan Abraham, hynny yw, ufudd-dod difeddwl. Roedd yn ufuddhau oherwydd bod ganddo wir ffydd. Roedd yn gwybod na fyddai Jehofa byth yn gofyn iddo wneud unrhyw beth a fyddai’n achosi niwed parhaol. Gwyddai Abraham y byddai Jehofa yn ei fendithio ef a’i fab petai’n ufudd. Beth oedd angen ar Abraham i ddatblygu ffydd mor gref? Roedd angen gwybodaeth a phrofiad arno.

5. Sut efallai y gwnaeth Abraham ddysgu am Jehofa, a sut roedd y wybodaeth honno yn effeithio arno?

5 Gwybodaeth. Magwyd Abraham mewn dinas o’r enw Ur. Roedd y bobl yno yn addoli gau dduwiau, fel roedd ei dad yn ei wneud. (Josua 24:2) Felly, sut dysgodd Abraham am Jehofa? Mae’r Beibl yn dangos bod mab Noa, Sem, yn perthyn i Abraham ac roedd yn byw hyd nes oedd Abraham oddeutu 150 mlwydd oed. Roedd gan Sem ffydd gref, ac mae’n debyg iddo siarad am Jehofa â’i deulu. Dydyn ni ddim yn sicr, ond dyna efallai sut y dysgodd Abraham am Jehofa. Roedd yr hyn a ddysgodd Abraham yn ei helpu i garu Duw a datblygu ei ffydd.

6, 7. Sut gwnaeth profiadau Abraham gryfhau ei ffydd?

6 Profiad. Sut gwnaeth Abraham fagu profiad a oedd yn cryfhau ei ffydd yn Jehofa? Dywed rhai fod meddyliau yn arwain at deimladau, a bod teimladau yn ysgogi gweithredoedd. Cafodd Abraham ei ysgogi gan yr hyn a ddysgodd am Dduw, ac roedd hynny, yn ei dro, yn arwain at barch dwfn tuag at yr “ARGLWYDD Dduw Goruchaf, perchen nef a daear.” (Genesis 14:22) Mae’r Beibl yn galw’r parch dwfn hwn yn “barchedig ofn.” (Hebreaid 5:7) Mae angen parchedig ofn er mwyn cael cyfeillgarwch agos â Duw. (Salm 25:14) Honno oedd y rhinwedd a ysgogodd Abraham i ufuddhau i Jehofa.

7 Gofynnodd Duw i Abraham a Sara adael eu cartref yn Ur a symud i wlad estron. Nid oedden nhw’n mynd yn iau, a bydden nhw’n gorfod byw mewn pebyll am weddill eu hoes. Er bod Abraham yn gwybod y byddai’n wynebu llawer o beryglon, roedd yn benderfynol o ufuddhau i Jehofa. Roedd Duw yn eu bendithio ac yn eu hamddiffyn oherwydd eu hufudd-dod. Er enghraifft, pan gafodd Sara, gwraig hardd Abraham, ei chymryd oddi wrtho, a bywyd Abraham mewn perygl, gwnaeth Jehofa amddiffyn y ddau ohonyn nhw fwy nag unwaith. (Genesis 12:10-20; 20:2-7, 10-12, 17, 18) Oherwydd y profiadau hynny roedd ffydd Abraham yn dyfnhau.

8. Sut cawn wybodaeth a phrofiad a fydd yn cryfhau ein cyfeillgarwch â Jehofa?

8 A allwn ninnau fod yn ffrindiau i Jehofa? Yn bendant y gallwn! Fel Abraham, pwysig yw dysgu am Jehofa. A gallwn ninnau hefyd gael y profiad a’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn gwneud hynny. Heddiw, mae gennyn ni lawer mwy nag oedd gan Abraham. (Daniel 12:4; Rhufeiniaid 11:33) Mae’r Beibl yn llawn gwybodaeth am Greawdwr “nef a daear.” Mae’r hyn a ddysgwn yn ein hysgogi i garu Jehofa a datblygu parch dwfn tuag ato. Mae’r cariad a’r parch hynny, yn eu tro, yn ein hysgogi ni i ufuddhau iddo. O ganlyniad, gwelwn sut mae Duw yn ein hamddiffyn ac yn ein bendithio, ac mae hyn yn rhoi profiad inni sy’n cryfhau ein ffydd. O wasanaethu Duw yn llawn, cawn foddhad, heddwch, a llawenydd. (Salm 34:8; Diarhebion 10:22) Mwyaf yn y byd rydyn ni’n dysgu ac yn profi, cryfaf yn y byd y bydd ein cyfeillgarwch â Jehofa.

ABRAHAM YN MEITHRIN EI GYFEILLGARWCH Â DUW

9, 10. (a) Beth sydd ei angen er mwyn cryfhau cyfeillgarwch? (b) Beth oedd yn dangos bod Abraham yn ddiolchgar am ei gyfeillgarwch â Jehofa ac yn ei feithrin?

9 Gall cyfeillgarwch agos fod yn drysor gwerthfawr. (Darllenwch Diarhebion 17:17.) Nid fâs ddrud yw cyfeillgarwch sy’n cael ei defnyddio fel ornament yn unig. Yn hytrach, y mae fel blodyn prydferth sydd angen dŵr a gofal i agor. Roedd Abraham yn ddiolchgar am ei berthynas â Jehofa ac yn ei meithrin. Sut gwnaeth hynny?

Y mae cyfeillgarwch fel blodyn prydferth sydd angen dŵr a gofal i agor

10 Parhaodd Abraham i fod yn ufudd ac i ddatblygu ei barchedig ofn. Er enghraifft, wrth i deulu a gweision Abraham deithio i Ganaan, gadawodd i Jehofa ei arwain tra oedd yn gwneud penderfyniadau mawr a bach. Flwyddyn cyn geni Isaac, pan oedd Abraham yn 99 mlwydd oed, dywedodd Jehofa fod rhaid i bob gwryw yn nheulu Abraham gael ei enwaedu. A wnaeth Abraham amau Jehofa, neu hel esgusodion am beidio â gwneud yr hyn yr oedd Jehofa yn ei ofyn? Naddo. Roedd yn ymddiried yn Jehofa ac ufuddhaodd “y diwrnod hwnnw.”—Genesis 17:10-14, 23.

11. Pam roedd Abraham yn pryderu dros Sodom a Gomorra, a sut gwnaeth Jehofa ei helpu?

11 Oherwydd roedd Abraham yn wastad yn ufudd i Jehofa, hyd yn oed yn y pethau bychain, daeth eu cyfeillgarwch yn gryfach. Roedd Abraham yn gallu bwrw ei fol i Jehofa am unrhyw beth a gofyn cwestiynau anodd. Er enghraifft, pan ddywedodd Jehofa ei fod am ddinistrio Sodom a Gomorra, roedd Abraham yn poeni. Pam? Roedd yn ofni y byddai pobl dda yn marw ynghyd â’r bobl ddrwg. Mae’n debyg ei fod yn poeni am ei nai Lot a’i deulu, a oedd yn byw yn Sodom. Ymddiriedodd Abraham yn Jehofa, “Barnwr yr holl ddaear,” ac felly soniodd am ei bryderon mewn ffordd ostyngedig. Roedd Jehofa yn amyneddgar gyda’i ffrind, ac yn dangos Ei fod yn drugarog. Eglurodd Jehofa ei fod yn chwilio am bobl dda ac yn eu hachub nhw pan fyddai’n barnu.—Genesis 18:22-33.

12, 13. (a) Sut roedd gwybodaeth a phrofiad Abraham yn ei helpu? (b) Beth oedd yn dangos bod gan Abraham hyder yn Jehofa?

12 Mae’n amlwg fod holl wybodaeth a phrofiad Abraham wedi ei helpu i gadw ei gyfeillgarwch â Jehofa yn gryf. Felly, pan ofynnodd Jehofa i Abraham aberthu ei fab, gwyddai fod Jehofa yn amyneddgar, yn drugarog, yn ddibynadwy, ac wedi ei amddiffyn bob amser. Roedd Abraham yn sicr nad oedd Jehofa wedi troi, yn fwyaf sydyn, yn greulon ac yn llym! Pam y dywedwn hynny?

13 Cyn gadael ei weision, dywedodd Abraham: “Arhoswch chwi yma gyda’r asyn; mi af finnau a’r bachgen draw ac addoli, ac yna dychwelwn atoch.” (Genesis 22:5) Beth oedd Abraham yn ei feddwl? A oedd yn dweud celwydd am ddod yn ôl gydag Isaac gan wybod ei fod am ei aberthu? Nac oedd. Dywed y Beibl fod Abraham yn gwybod y gallai Jehofa atgyfodi Isaac. (Darllenwch Hebreaid 11:19.) Roedd Abraham yn gwybod bod Jehofa wedi rhoi’r gallu iddo gael mab er bod yntau a Sara yn hen iawn. (Hebreaid 11:11, 12, 18) Felly, dysgodd nad oedd unrhyw beth yn amhosibl i Jehofa. Ni wyddai Abraham beth oedd am ddigwydd y diwrnod hwnnw. Ond roedd ganddo ffydd y byddai Jehofa, os oedd angen, yn atgyfodi Isaac fel y gallai pob addewid arall ddod yn wir. Dyna pam y galwyd Abraham yn “dad i bawb sy’n meddu ar ffydd.”

Roedd gan Abraham ffydd y byddai Jehofa, os oedd angen, yn atgyfodi Isaac fel y gallai pob addewid arall ddod yn wir

14. Pa anawsterau rydych chi’n eu hwynebu wrth wasanaethu Jehofa, a sut gall esiampl Abraham eich helpu chi?

14 Heddiw, fodd bynnag, nid yw Jehofa yn gofyn inni aberthu ein plant, ond mae’n gofyn inni gadw ei orchmynion. Efallai, ar adegau, nid ydyn ni’n deall y rhesymau dros ei orchmynion, neu’n teimlo eu bod nhw’n anodd eu cadw. Wyt ti’n teimlo fel hynny weithiau? I rai, mae’r gwaith pregethu yn anodd. Efallai maen nhw’n swil ac yn ei chael hi’n anodd siarad â phobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod. Mae eraill yn ofni bod yn wahanol yn y gweithle neu yn yr ysgol. (Exodus 23:2; 1 Thesaloniaid 2:2) Pan ofynnir ichi wneud rhywbeth anodd, meddyliwch am esiampl wych Abraham pan ddangosodd ffydd a dewrder. Gall myfyrio ar esiamplau dynion a merched ffyddlon ein hysgogi ni i’w hefelychu a dod yn agosach at ein Ffrind, Jehofa.—Hebreaid 12:1, 2.

CYFEILLGARWCH SY’N DOD Â BENDITHION

15. Pam gallwn fod yn sicr nad oedd Abraham yn difaru bod yn ufudd i Jehofa?

15 A oedd Abraham yn difaru cadw gorchmynion Jehofa? Dywed y Beibl am Abraham: “Roedd yn hen ddyn pan fuodd farw, wedi byw bywyd llawn.” (Genesis 25:8, beibl.net) Pan oedd Abraham yn 175 mlwydd oed, gallai edrych yn ôl ar ei fywyd hir a theimlo’n fodlon. Pam? Oherwydd y peth pwysicaf iddo oedd ei gyfeillgarwch â Jehofa. Fodd bynnag, pan ydyn ni’n darllen ei fod “wedi byw bywyd llawn,” ni olyga hynny nad oedd yn dymuno byw yn y dyfodol.

16. Pa fendithion y bydd Abraham yn eu mwynhau ym Mharadwys?

16 Mae’r Beibl yn dweud bod Abraham “yn disgwyl am ddinas ac iddi sylfeini, a Duw yn bensaer ac yn adeiladydd iddi.” (Hebreaid 11:10) Credodd Abraham y byddai, un diwrnod, yn gweld y ddinas honno, Teyrnas Dduw, yn rheoli dros y ddaear. A bydd hynny’n digwydd! Dychmyga lawenydd Abraham wrth iddo fyw mewn paradwys ar y ddaear yn parhau i gryfhau ei gyfeillgarwch â Duw. Fe fydd yn hapus i wybod bod ei esiampl wedi helpu gweision Duw i’w wasanaethu am filoedd o flynyddoedd! Ym Mharadwys, bydd yn dysgu bod yr aberth ar Fynydd Moreia wedi symboleiddio rhywbeth llawer mwy. (Hebreaid 11:19) Bydd hefyd yn gweld sut roedd y boen a deimlodd wrth iddo baratoi ar gyfer aberthu Isaac wedi helpu miliynau o bobl ffyddlon i ddeall poen Jehofa pan roddodd ei Fab, Iesu Grist, yn bridwerth dros ddynolryw. (Ioan 3:16) Mae esiampl Abraham wedi ein helpu ni’n fwyfwy i fod yn ddiolchgar am y pridwerth, y weithred fwyaf cariadus erioed!

17. Beth rydych yn benderfynol o’i wneud, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

17 Gad inni i gyd fod yn benderfynol o efelychu ffydd Abraham. Fel Abraham, mae angen gwybodaeth a phrofiad arnon ninnau hefyd. Wrth inni barhau i ddysgu am Jehofa ac ufuddhau iddo, fe gawn ni ein bendithio a’n hamddiffyn. (Darllenwch Hebreaid 6:10-12.) Dymunwn i Jehofa fod yn Ffrind inni am byth! Yn yr erthygl ganlynol, trafodwn dair esiampl arall o bobl ffyddlon a ddaeth yn ffrindiau agos i Jehofa.

^ [1] (paragraff 3) Enwau gwreiddiol Abraham a Sara oedd Abram a Sarai. Ond yn yr erthygl hon, defnyddir yr enwau a roddodd Jehofa iddyn nhw yn hwyrach ymlaen.