Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Mae Jehofa Wedi Fy Mendithio yn Ei Wasanaeth

Mae Jehofa Wedi Fy Mendithio yn Ei Wasanaeth

Dywedais wrth y swyddog fy mod i eisoes wedi bod yn y carchar am wrthod ymladd. Gofynnais iddo, “Ydych chi am wneud imi ddioddef hynny eto?” Hwn oedd yr eildro imi gael fy ngorchymyn i ymuno â Byddin yr Unol Daleithiau.

CEFAIS fy ngeni yn 1926 yn Crooksville, Ohio, yr Unol Daleithiau. Er nad oedd fy rhieni yn grefyddol, roedden nhw’n mynnu bod eu plant, wyth ohonon ni, yn mynychu’r eglwys. Mynd i’r Eglwys Fethodistaidd a wnes i. Pan oeddwn yn 14, rhoddodd y gweinidog wobr imi ar ôl imi fynd i’r eglwys bob dydd Sul am flwyddyn gron.

Gwnaeth Margaret Walker (yr ail chwaer o’r chwith) fy helpu i ddysgu’r gwirionedd

Tua’r adeg honno, daeth cymydog o’r enw Margaret Walker, un o Dystion Jehofa, i weld mam er mwyn siarad am y Beibl. Un diwrnod, penderfynais ymuno â nhw. Roedd mam yn meddwl y byddwn i’n tarfu ar yr astudiaeth, a chefais fy hel allan o’r tŷ. Ond roeddwn i’n dal yn ceisio gwrando ar eu sgyrsiau. Ar ôl i Margaret ddod ryw ddwywaith eto, gofynnodd imi, “Wyt ti’n gwybod beth yw enw Duw?” Atebais, “Duw ydy ei enw, mae pawb yn gwybod hynny.” Dywedodd hithau, “Dos i nôl dy Feibl a darllen Salm 83:18.” Dyna wnes i, a gwelais mai Jehofa yw enw Duw. Rhedais allan o’r tŷ a dweud wrth fy ffrindiau, “Ar ôl cyrraedd adref heno, darllenwch Salm 83:18 yn y Beibl i weld beth ydy enw Duw.” Dechreuais bregethu yn syth!

Astudiais y Beibl, a chefais fy medyddio ym 1941. Yn fuan wedyn, cefais fy aseinio i arwain un o grwpiau astudio’r gynulleidfa. Ar ôl imi eu hannog, daeth fy mam a’m brodyr a’m chwiorydd i’r astudiaeth. Ond nid oedd gan fy nhad unrhyw ddiddordeb.

FY NHAD YN GWRTHWYNEBU

Derbyniais fwy o gyfrifoldebau yn y gynulleidfa, ac roedd gen i gasgliad o lyfrau’r Tystion. Un diwrnod, pwyntiodd fy Nhad ei fys at y llyfrau a dweud: “Weli di’r stwff yna? Mi ydw i eisiau iti fynd â’r cwbl lot allan o’r tŷ ac mi gei dithau fynd hefyd!” Gadewais a mynd i fyw i’r dref gyfagos Zanesville, Ohio, ond teithiais yn ôl ac ymlaen i annog fy nheulu.

Roedd Dad yn ceisio stopio Mam rhag mynd i’r cyfarfodydd. Weithiau, roedd yn mynd ar ei hôl a’i llusgo yn ôl i’r tŷ. Ond roedd hi’n rhedeg trwy’r drws arall a mynd i’r cyfarfod. Dywedais wrth fy Mam: “Paid â phoeni. Yn fuan y bydd yn blino rhedeg ar dy ôl.” Mewn amser, fe wnaeth Dad roi’r gorau i geisio ei stopio hi, ac roedd hi’n rhydd i fynychu’r cyfarfodydd.

Ar ôl i Ysgol y Weinidogaeth gychwyn ym 1943, dechreuais roi anerchiadau yn fy nghynulleidfa. Roedd y cyngor a gefais ar ôl gwneud fy rhan yn yr ysgol yn fy helpu i ddatblygu fel siaradwr.

NIWTRALIAETH YN YSTOD Y RHYFEL

Ym 1944, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cefais fy ngorfodi i ymuno â’r fyddin. Fe es i Fort Hayes yn Columbus, Ohio, ar gyfer archwiliad meddygol, ac i gwblhau’r gwaith papur. Hefyd, dywedais wrth y swyddogion nad oeddwn yn fodlon bod yn filwr. Cefais ganiatâd i fynd adref. Ond, ychydig o ddyddiau wedyn, daeth swyddog at fy nrws a dweud wrthyf, “Corwin Robison, mae gen i warant i’ch arestio.”

Bythefnos wedyn, a minnau o flaen y llys, dywedodd y barnwr: “Os oeddwn i’n cael dewis, byddwn i’n dy ddedfrydu am oes. Oes gen ti unrhyw beth i’w ddweud?” Atebais: “Eich Anrhydedd, gweinidog ydw i. Mae pob stepen drws yn bulpud i mi, rydw i wedi pregethu newyddion da’r Deyrnas i lawer o bobl.” Dywedodd y barnwr wrth y rheithgor: “Dydych chi ddim yma i benderfynu a yw’r dyn ifanc hwn yn weinidog neu beidio. Rydych chi yma i benderfynu a wnaeth ei gofrestru ei hun ar gyfer y fyddin neu beidio.” Mewn llai na hanner awr, dyfarnodd y rheithgor fy mod i’n euog. Cefais fy nedfrydu gan y barnwr i bum mlynedd o garchar yn Ashland, Kentucky.

JEHOFA YN FY AMDDIFFYN YN Y CARCHAR

Treuliais y pythefnos cyntaf mewn carchar yn Columbus, Ohio, ac arhosais yn fy nghell y diwrnod cyntaf. Gweddïais ar Jehofa: “Alla’ i ddim aros yn fy nghell am bum mlynedd. Dwn i ddim beth i’w wneud.”

Trannoeth, gadawodd y gard imi ddod allan. Cerddais at garcharor tal a chryf, a oedd yn syllu trwy’r ffenestr. Gofynnodd imi, “Hei, beth wyt ti wedi ei wneud i fod yma?” Dywedais wrtho, “Rydw i’n un o Dystion Jehofa.” Dywedodd, “Wyt ti? Felly pam wyt ti yma?” Atebais, “Dydy Tystion Jehofa ddim yn ymladd nac yn lladd pobl.” Dywedodd, “Maen nhw wedi dy roi di mewn carchar oherwydd dwyt ti ddim yn lladd pobl. Ond maen nhw’n rhoi pobl eraill mewn carchar oherwydd eu bod nhw’n lladd pobl. Ydy hynny’n gwneud synnwyr?” Dywedais, “Nac ydy.”

Yna, dywedodd wrthyf, “Am bymtheng mlynedd roeddwn i mewn carchar arall, a darllenais rai o’ch llyfrau.” Ar ôl imi glywed hynny, gweddïais, “Jehofa, gwna i’r dyn hwn fod o’m plaid.” Y foment honno, dywedodd y carcharor, sef Paul: “Os ydy’r hogiau yn dechrau arnat ti, rho wybod imi. Wna’ i ddelio â nhw.” Felly, tra oeddwn i yno, chefais i ddim problemau gan y 50 carcharor a oedd yn yr un rhan o’r carchar â minnau.

Roeddwn ymhlith y Tystion a gafodd eu carcharu am eu niwtraliaeth yn Ashland, Kentucky

Ar ôl i’r swyddogion fy symud i’r carchar yn Ashland, cwrddais â brodyr aeddfed a oedd eisoes yn y carchar hwnnw. Gwnaethon nhw fy helpu i ac eraill i gadw’n agos at Jehofa. Roedden nhw’n aseinio darlleniad o’r Beibl bob wythnos, a gwnaethon ni baratoi cwis ar y Beibl. Roedden ni mewn cell fawr â gwelyau ar hyd y waliau. Trefnodd un o’r brodyr diriogaeth inni. Roedd yn dweud wrthyf: “Robison, rwyt ti’n gyfrifol am y gwely hwn-a-hwn. Dy diriogaeth di yw’r person sy’n cael ei aseinio i’r gwely hwnnw. Gwna’n sicr dy fod ti’n tystiolaethu iddo cyn iddo ymadael.” Dyna sut roedden ni’n pregethu mewn ffordd drefnus.

Y TU ALLAN I’R CARCHAR

Daeth yr Ail Ryfel Byd i ben ym 1945, ond roeddwn i’n dal yn y carchar. Roeddwn i’n poeni am fy nheulu oherwydd i Dad ddweud, “Os medra’ i gael gwared arnat ti, hawdd fydd delio gyda’r gweddill.” Wedi imi gael fy rhyddhau, roeddwn i’n hapus i weld bod saith aelod o’m teulu yn mynychu’r cyfarfodydd ac fe gafodd un o’m chwiorydd ei bedyddio, er gwaethaf gwrthwynebiad fy Nhad.

Ar y weinidogaeth gyda Demetrius Papageorge, brawd eneiniog a ddechreuodd wasanaethu Jehofa ym 1913

Pan ddechreuodd Rhyfel Corea ym 1950, cefais fy ngalw i Fort Hayes unwaith eto. Ar ôl sefyll prawf, dywedodd y swyddog, “Ti oedd un o’r goreuon yn y grŵp.” Dywedais, “Mae hynny’n dda, ond dydw i ddim yn ymuno â’r fyddin.” Dyfynnais 2 Timotheus 2:3 gan ddweud, “Rydw i eisoes yn filwr i Grist.” Ar ôl distawrwydd maith dywedodd, “Gei di fynd.”

Yn fuan wedyn, fe es i’r cyfarfod Bethel yn y gynhadledd yn Cincinnati, Ohio. Dywedodd y Brawd Milton Henschel fod angen ym Methel am frodyr a oedd eisiau gweithio’n galed dros y Deyrnas. Anfonais gais a chefais fy nerbyn. Dechreuais wasanaethu yn Brooklyn ym mis Awst 1954, ac rydw i wedi bod ym Methel ers hynny.

Rydw i’n wastad wedi bod yn brysur ym Methel. Am sawl blwyddyn, roeddwn i’n gofalu am foeleri’r argraffdy a’r swyddfeydd, yn gweithio fel peiriannydd, ac yn trwsio cloeau. Roeddwn i hefyd yn gweithio yn y Neuaddau Cynulliad yn Efrog Newydd.

Yn gofalu am foeleri’r swyddfeydd ym Methel yn Brooklyn

Rydw i wrth fy modd â’r rhaglen ysbrydol ym Methel, fel addoliad y bore ac astudio’r Tŵr Gwylio, yn ogystal â phregethu gyda’r gynulleidfa. Mewn gwirionedd, dyma’r pethau y dylai pob teulu eu gwneud yn rheolaidd. Pan fydd rhieni a’u plant yn trafod testun y dydd gyda’i gilydd, yn cael Addoliad Teuluol rheolaidd, yn cael rhan yn y cyfarfodydd, ac yn pregethu’r newyddion da yn selog, bydd pawb yn debygol o aros yn agos at Jehofa.

Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau ym Methel ac yn y gynulleidfa. Roedd rhai ohonyn nhw’n eneiniog ac erbyn hyn wedi mynd i’r nefoedd. Doedd eraill ddim yn eneiniog. Ond mae pob un o weision Jehofa yn amherffaith, gan gynnwys aelodau Bethel. Os ydw i’n ffraeo ag un o’m brodyr, rydw i bob amser yn ceisio cadw’r ddysgl yn wastad. Rydw i’n meddwl am Mathew 5:23, 24 sy’n egluro sut i ddatrys problemau o’r fath. Nid hawdd yw dweud “sori,” ond yn aml mae’n datrys anghytundeb.

CANLYNIADAU DA FY NGWASANAETH

Oherwydd henaint, mae mynd o ddrws i ddrws i bregethu yn anodd, ond dydw i heb roi’r ffidil yn y to. Rydw i wedi dysgu ychydig o Tsieineeg Mandarin ac yn mwynhau siarad â phobl o Tsieina ar y stryd. Ambell fore rydw i’n dosbarthu rhwng 30 a 40 o gylchgronau.

Pregethu i bobl o Tsieina yn Brooklyn, Efrog Newydd

Rydw i hyd yn oed wedi gwneud ail alwad yn Tsieina! Un diwrnod, gwenodd geneth glên arnaf wrth iddi ddosbarthu hysbysebion ar gyfer stondin ffrwythau. Gwenais innau hefyd a chynnig y Watchtower a’r Awake! yn Tsieineeg. Derbyniodd y cylchgronau a dweud mai Katie oedd ei henw. Ar ôl hynny, bob tro iddi fy ngweld i, daeth Katie ataf i siarad. Dysgais iddi enwau ffrwythau a llysiau yn Saesneg, a hithau’n ailadrodd y geiriau. Eglurais ambell adnod iddi, a derbyniodd hi’r llyfr Beibl Ddysgu. Ond, ar ôl ychydig o wythnosau, ni welais na lliw na llun ohoni.

Fisoedd wedyn, cynigiais y cylchgronau i eneth arall a oedd yn dosbarthu hysbysebion, a dyma hi’n eu derbyn. Yr wythnos wedyn, rhoddodd hi ei ffôn symudol imi a dweud, “Siaradwch â Tsieina.” “Dydw i ddim yn ’nabod neb yn Tsieina,” dywedais. Ond roedd hi’n mynnu, felly cymerais y ffôn a dweud, “Helo, Robison sydd yma.” Ac meddai’r person, “Robby, Katie sy’n siarad. Rydw i yn ôl yn Tsieina.” “Tsieina?” gofynnais. Atebodd Katie, “Ie. Robby, fy chwaer yw’r eneth a roddodd ei ffôn ichi. Dysgoch chi lawer o bethau da imi. Plîs, dysgwch yr un pethau iddi hithau hefyd.” Dywedais, “Katie, mi wna’ i fy ngorau glas. Diolch iti am adael imi wybod lle rwyt ti.” Yn fuan wedyn, siaradais â chwaer Katie am y tro olaf. Le bynnag y mae’r ddwy chwaer hynny nawr, rydw i’n gobeithio eu bod nhw’n dal i ddysgu am Jehofa.

Rydw i wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am 73 mlynedd, ac mae wedi fy helpu i aros yn niwtral ac i aros yn ffyddlon iddo yn y carchar. Hefyd, cafodd fy nheulu ei galonogi o weld fy nyfalbarhad er gwaethaf gwrthwynebiad ein tad. Yn y diwedd, bedyddiwyd Mam a chwech o’m brodyr a’m chwiorydd. Newidiodd agwedd fy nhad hefyd, ac fe ddaeth i ambell cyfarfod cyn iddo farw.

Os yw Duw yn dymuno, bydd fy mherthnasau a’m ffrindiau sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw yn y byd newydd. Dychmygwch ein llawenydd wrth inni addoli Jehofa am byth ochr yn ochr â’r bobl rydyn ni’n eu caru! *—Gweler y troednodyn.

^ Par. 32 Wrth i’r erthygl hon gael ei pharatoi, bu farw Corwin Robison yn ffyddlon i Jehofa.