Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dangos Dy Hun yn Ffyddlon i Jehofa

Dangos Dy Hun yn Ffyddlon i Jehofa

“Bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom ni a rhwng ein disgynyddion am byth.”​—1 SAMUEL 20:42.

CANEUON: 125, 62

1, 2. Pam mae cyfeillgarwch Jonathan â Dafydd yn esiampl wych o ffyddlondeb?

MAE’N rhaid bod Jonathan wedi rhyfeddu at ddewrder y llanc Dafydd. Lladdodd Dafydd y cawr Goliath a rhoi ei ben i dad Jonathan, y Brenin Saul o Israel. (1 Samuel 17:57) Nid oedd gan Jonathan unrhyw amheuaeth nad oedd Duw gyda Dafydd ac, o hynny ymlaen, daeth Jonathan a Dafydd yn ffrindiau agos iawn. Gwnaethon nhw addo y bydden nhw bob amser yn ffyddlon i’w gilydd. (1 Samuel 18:1-3) Am weddill ei oes, roedd Jonathan yn ffyddlon i Dafydd.

2 Er bod Jehofa wedi dweud mai Dafydd fydd y brenin nesaf ar Israel yn hytrach na Jonathan, arhosodd Jonathan yn ffyddlon i Dafydd. A phan oedd Saul yn ceisio lladd Dafydd, roedd Jonathan yn poeni am ei ffrind. Roedd yn gwybod bod Dafydd yn yr anialwch yn Hores ac felly aeth Jonathan yno i’w annog i ddibynnu ar Jehofa. Dywedodd Jonathan wrth Dafydd: “Paid ag ofni; ni ddaw fy nhad Saul o hyd iti; byddi di’n frenin ar Israel a minnau’n ail iti.”​—1 Samuel 23:16, 17.

3. Beth oedd yn bwysicach i Jonathan na bod yn ffyddlon i Dafydd, a sut rydyn ni’n gwybod hynny? (Gweler y llun agoriadol.)

3 Fel arfer, rydyn ni’n edmygu pobl sy’n ffyddlon. Ond a ydyn ni’n edmygu Jonathan oherwydd ei ffyddlondeb tuag at Dafydd yn unig? Nac ydyn, oherwydd y peth pwysicaf i Jonathan oedd ffyddlondeb i Dduw. Yn wir, dyna oedd y rheswm iddo fod yn ffyddlon i Dafydd yn hytrach na bod yn genfigennus ohono, er y byddai Dafydd yn frenin yn ei le. Gwnaeth Jonathan hyd yn oed helpu Dafydd i ddibynnu ar Jehofa. Arhosodd y ddau ddyn yn ffyddlon i Jehofa ac i’w gilydd. Cadwodd y ddau at eu gair: “Bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom ni a rhwng ein disgynyddion am byth.”​—1 Samuel 20:42.

4. (a) Beth fydd yn ein gwneud ni’n wirioneddol hapus? (b) Beth a drafodwn ni yn yr erthygl hon?

4 Mae’n rhaid i ninnau hefyd fod yn ffyddlon i’n teulu, i’n ffrindiau, ac i’n brodyr yn y gynulleidfa. (1 Thesaloniaid 2:10, 11) Ond, yn fwy na dim, mae’n rhaid inni fod yn ffyddlon i Jehofa. Ef yw ffynnon bywyd! (Datguddiad 4:11) Pan ydyn ni’n ffyddlon iddo, rydyn ni’n hapus. Ond, gwyddon ni fod rhaid bod yn ffyddlon i Dduw hyd yn oed ar adegau anodd. Yn yr erthygl hon, trafodwn sut gall esiampl Jonathan ein helpu ni i aros yn ffyddlon i Jehofa mewn pedair ffordd: (1) pan ydyn ni’n teimlo nad yw rhywun sydd ag awdurdod yn haeddu ein parch, (2) pan ydyn ni’n gorfod dewis pwy y dylen ni fod yn ffyddlon iddo, (3) pan fo brawd sy’n arwain yn y gynulleidfa yn ein camddeall neu’n annheg â ni, a (4) pan ydyn ni’n teimlo ei bod hi’n anodd cadw addewid.

PAN YDYN NI’N TEIMLO NAD YW RHYWUN SYDD AG AWDURDOD YN HAEDDU EIN PARCH

5. Pam roedd hi’n anodd i’r Israeliaid fod yn ffyddlon i Dduw tra oedd Saul yn frenin arnyn nhw?

5 Roedd Jonathan a’r Israeliaid mewn sefyllfa anodd. Roedd y Brenin Saul, tad Jonathan, wedi troi’n anufudd, ac roedd Jehofa wedi ei wrthod. (1 Samuel 15:17-23) Ond eto, caniataodd Duw i Saul reoli am lawer o flynyddoedd. Felly roedd hi’n anodd i’r bobl fod yn ffyddlon i Dduw pan oedd y brenin a ddewiswyd gan Jehofa yn gwneud pethau drwg.—1 Cronicl 29:23.

6. Beth sy’n dangos bod Jonathan wedi aros yn ffyddlon i Jehofa?

6 Arhosodd Jonathan yn ffyddlon i Jehofa. Meddylia am yr hyn a wnaeth Jonathan yn fuan ar ôl i Saul ddechrau troi’n anufudd. (1 Samuel 13:13, 14) Yr adeg honno, daeth byddin enfawr o Philistiaid gyda 30,000 o gerbydau i ymosod ar Israel. Roedd gan Saul 600 o filwyr yn unig, a dim ond ef a Jonathan oedd gan arfau. Ond, doedd Jonathan yn ofni dim. Cofiodd eiriau’r proffwyd Samuel pan ddywedodd na fydd Jehofa yn gwrthod ei bobl. (1 Samuel 12:22) Dywedodd Jonathan wrth filwr arall na all dim rwystro Jehofa rhag eu hachub nhw. Felly ymosododd y ddau ar grŵp o Philistiaid a lladd tua ugain ohonyn nhw. Roedd gan Jonathan ffydd yn Jehofa, a chafodd ei fendithio. Achosodd Jehofa i ddaeargryn ddigwydd a dychrynodd y Philistiaid. Yna y dechreuon nhw ladd ei gilydd, ac enillodd Israel y frwydr.​—1 Samuel 13:5, 15, 16, 22; 14:1, 2, 6, 14, 15, 20.

7. Sut gwnaeth Jonathan drin ei dad?

7 Er bod Saul wedi parhau i fod yn anufudd, roedd Jonathan wedi ufuddhau i’w dad hyd y gallai. Er enghraifft, gwnaeth y ddau ymladd gyda’i gilydd i amddiffyn pobl Jehofa.​—1 Samuel 31:1, 2.

8, 9. Sut rydyn ni’n ffyddlon i Dduw pan ydyn ni’n parchu’r rhai sydd ag awdurdod?

8 Fel Jonathan, gallwn ninnau fod yn ffyddlon i Jehofa drwy ufuddhau i lywodraeth ein gwlad hyd y gallwn. Mae Jehofa yn caniatáu “i’r awdurdodau sy’n ben” reoli droson ni, ac mae’n mynnu ein bod ni’n eu parchu. (Darllenwch Rhufeiniaid 13:1, 2.) Dyna pam y dylen ni ddangos parch tuag at swyddog y llywodraeth hyd yn oed os nad yw’n onest ac ein bod ni’n teimlo nad yw’n haeddu ein parch. Yn wir, dylen ni barchu pawb sydd wedi cael awdurdod gan Jehofa.​—1 Corinthiaid 11:3; Hebreaid 13:17.

Un ffordd o aros yn ffyddlon i Jehofa yw drwy barchu ein gŵr a’n gwraig, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gwasanaethu Jehofa (Gweler paragraff 9)

9 Dangosodd Olga, chwaer o Dde America, ei bod hi’n ffyddlon i Jehofa drwy barchu ei gŵr er ei fod yn ei thrin hi’n wael. [1] (Gweler yr ôl-nodyn.) Weithiau, roedd yn gwrthod siarad â hi neu’n dweud pethau creulon wrthi. Dywedodd hefyd y byddai yn ei gadael hi, a mynd â’r plant gydag ef. Ond ni wnaeth Olga dalu drwg am ddrwg. Gwnaeth ei gorau i fod yn wraig dda. Coginiodd iddo, golchi ei ddillad, a gofalu am eraill yn ei deulu. (Rhufeiniaid 12:17) A phan oedd yn gallu, aeth gydag ef i weld ei deulu a’i ffrindiau. Er enghraifft, pan oedd ei gŵr eisiau mynd i angladd ei dad mewn dinas arall, paratôdd bopeth ar gyfer y daith. Yna, yn yr angladd, disgwyliodd amdano y tu allan i’r eglwys. Ar ôl blynyddoedd lawer, mae gŵr Olga wedi dechrau ei thrin hi’n well oherwydd iddi fod yn amyneddgar ac iddi ddangos parch tuag ato bob amser. Nawr, mae’n ei hannog hi i fynychu’r cyfarfodydd ac yn rhoi lifft iddi. Weithiau, mae hyd yn oed yn mynd i’r cyfarfodydd gyda hi.​—1 Pedr 3:1.

PAN YDYN NI’N GORFOD DEWIS I BWY Y DYLEN NI FOD YN FFYDDLON

10. Sut roedd Jonathan yn gwybod i bwy y dylai fod yn ffyddlon?

10 Pan ddywedodd Saul ei fod am ladd Dafydd, roedd gan Jonathan ddewis anodd. Roedd eisiau bod yn ffyddlon i’w dad, ond hefyd i Dafydd. Roedd Jonathan yn gwybod bod Duw gyda Dafydd, ac nid Saul, felly fe ddewisodd fod yn ffyddlon i Dafydd. Cafodd Dafydd rybudd gan Jonathan i guddio, ac yna dywedodd Jonathan wrth Saul y dylai adael i Dafydd fyw.​—Darllenwch 1 Samuel 19:1-6.

11, 12. Sut mae ein cariad tuag at Dduw yn ein helpu i benderfynu bod yn ffyddlon iddo?

11 Roedd yn rhaid i Alice, chwaer o Awstralia, ddewis pwy y dylai hi fod yn ffyddlon iddo. Wrth iddi astudio’r Beibl, dywedodd wrth ei theulu am y pethau roedd hi’n eu dysgu. Dywedodd hefyd na fyddai hi’n dathlu Nadolig gan esbonio’r rheswm pam. Ar y cychwyn, roedd aelodau ei theulu’n siomedig, ond yn ddiweddarach fe wnaethon nhw droi’n gas. Roedden nhw’n teimlo nad oedd Alice yn eu caru bellach. Yna dywedodd ei mam nad oedd hi eisiau gweld Alice byth eto. Dywedodd Alice: “Cefais fy mrifo i’r byw oherwydd fy mod i’n caru fy nheulu. Ond roeddwn i’n benderfynol o roi’r lle cyntaf yn fy nghalon i Jehofa a’i Fab, a chefais fy medyddio yn ystod y cynulliad nesaf.”​—Mathew 10:37.

12 Ni ddylen ni adael i bethau fel timau chwaraeon, yr ysgol, na’n gwlad, ddod yn bwysicach inni na bod yn ffyddlon i Jehofa. Er enghraifft, roedd Henry yn mwynhau chwarae gwyddbwyll i dîm yr ysgol ac eisiau ennill y bencampwriaeth. Ond gan ei fod yn chwarae gwyddbwyll bob penwythnos, nid oedd ganddo ddigon o amser ar gyfer y weinidogaeth a’r cyfarfodydd. Dywedodd Henry fod ei ffyddlondeb i’r ysgol wedi dod yn bwysicach iddo na’i ffyddlondeb i Dduw. Felly, penderfynodd roi’r gorau i gystadlu dros yr ysgol.​—Mathew 6:33.

13. Sut gall ffyddlondeb i Dduw ein helpu ni i wynebu problemau teuluol?

13 Anodd, ar adegau, yw bod yn ffyddlon i wahanol aelodau o’n teulu ar yr un pryd. Er enghraifft, dywedodd Ken: “Roeddwn i eisiau mynd i weld fy mam oedrannus yn aml, a’i gwahodd hi i aros gyda ni o bryd i’w gilydd. Ond nid oedd fy mam a’m gwraig yn cyd-dynnu. Doeddwn i ddim yn gallu plesio’r naill heb wylltio’r llall.” Meddyliodd Ken am egwyddorion y Beibl a sylweddolodd y dylai, yn yr achos hwn, fod yn ffyddlon i’w wraig. Felly daeth o hyd i ateb a fyddai’n ei phlesio hi. Yna, esboniodd iddi pam y dylai hithau fod yn garedig wrth ei fam. Eglurodd hefyd wrth ei fam pam y dylai hithau ddangos parch tuag at ei wraig.​—Darllenwch Genesis 2:24; 1 Corinthiaid 13:4, 5.

PAN FO BRAWD YN EIN CAMDDEALL NEU’N ANNHEG Â NI

14. Sut gwnaeth Saul drin Jonathan mewn ffordd annheg?

14 Gallwn hefyd fod yn ffyddlon i Jehofa pan fo brawd sy’n arwain yn y gynulleidfa yn annheg â ni. Cafodd y Brenin Saul ei benodi gan Dduw, ond eto gwnaeth drin ei fab ei hun yn gas. Nid oedd yn deall pam roedd Jonathan yn caru Dafydd. Felly, pan geisiodd Jonathan helpu Dafydd, digiodd Saul a chodi cywilydd ar ei fab o flaen pawb. Ond, er hynny, dangosodd Jonathan barch tuag at ei dad. Ar yr un pryd, arhosodd yn ffyddlon i Jehofa ac i Dafydd, y brenin nesaf a ddewiswyd gan Dduw ar yr Israeliaid.​—1 Samuel 20:30-41.

15. Os yw brawd yn ein trin ni mewn ffordd annheg, sut dylen ni ymateb?

15 Mae’r brodyr sy’n arwain yn y gynulleidfa heddiw yn ceisio bod yn deg wrth bawb. Ond mae’r brodyr hyn yn amherffaith. Oherwydd hynny, mae’n bosibl iddyn nhw fethu deall pam rydyn ni wedi gwneud rhywbeth. (1 Samuel 1:13-17) Felly, os ydyn ni’n cael ein camddeall neu ein barnu ar gam, gad inni aros yn ffyddlon i Jehofa.

PAN FO’N ANODD CADW ADDEWID

16. Pa bryd y dylen ni fod yn ffyddlon i Jehofa a pheidio â bod yn hunanol?

16 Roedd Saul eisiau i Jonathan fod yn frenin ar Israel yn hytrach na Dafydd. (1 Samuel 20:31) Ond roedd Jonathan yn caru Jehofa ac yn ffyddlon iddo. Felly, yn hytrach na bod yn hunanol, daeth Jonathan yn ffrind i Dafydd a chadw at ei air. Yn wir, bydd unrhyw un sy’n caru Jehofa yn ffyddlon iddo ac yn cadw ei addewid hyd yn oed pan fydd gwneud hynny’n gostus iddo. (Salm 15:4, beibl.net) Oherwydd ein bod ni’n ffyddlon i Jehofa, rydyn ni’n cadw at ein gair. Er enghraifft, petawn ni’n gwneud cytundeb busnes, byddwn ni’n gwneud yr hyn a gytunwyd hyd yn oed os bydd hynny’n anodd inni. Ac os oes gennyn ni broblemau yn ein priodas, byddwn ni’n dangos ein cariad tuag at Jehofa drwy aros yn ffyddlon i’n gŵr neu’n gwraig.​—Darllenwch Malachi 2:13-16.

Os gwnawn gytundeb busnes, pwysig yw gwneud yr hyn a gytunwyd oherwydd ein bod ni’n ffyddlon i Dduw (Gweler paragraff 16)

17. Sut mae’r astudiaeth hon wedi dy helpu di?

17 Rydyn ni’n dymuno bod yn ffyddlon i Dduw hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd, fel y gwnaeth Jonathan. Felly, gad inni aros yn ffyddlon i’n brodyr pan fyddan nhw’n ein siomi. Yna fe fyddwn ni’n gwneud i galon Jehofa lawenhau, a dyna sy’n rhoi’r hapusrwydd mwyaf inni. (Diarhebion 27:11) Gallwn fod yn sicr y bydd Duw yn gwneud popeth er ein lles ac yn gofalu amdanon ni. Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn edrych ar esiamplau’r rhai ffyddlon ac anffyddlon yn nyddiau Dafydd.

^ [1] (paragraff 9) Newidiwyd rhai enwau.