Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Dysgu Oddi Wrth Weision Ffyddlon Jehofa

Dysgu Oddi Wrth Weision Ffyddlon Jehofa

“Hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt: dim ond gwneud beth sy’n iawn, caru ffyddlondeb, a rhodio’n ostyngedig gyda’th Dduw.”​—MICHA 6:8, Beibl Cymraeg Newydd.

CANEUON: 63, 43

1, 2. Sut dangosodd Dafydd ei fod yn ffyddlon i Dduw? (Gweler y llun agoriadol.)

ROEDD Saul a 3,000 o filwyr yn chwilio am Dafydd yn anialwch Jwda er mwyn ei ladd. Un noson, dyma Dafydd a’i ddynion yn dod o hyd i wersyll Saul a’i filwyr. Roedden nhw i gyd yn cysgu, felly cerddodd Dafydd ac Abisai heibio’r milwyr yn ofalus a chael hyd i Saul. Dyma Abisai yn sibrwd: “Gad imi ei drywanu i’r ddaear â’r waywffon ag un ergyd; ni fydd angen ail.” Ond ni adawodd Dafydd iddo ladd Saul. Dywedodd wrth Abisai: “Paid â’i ladd. Pwy a fedr estyn llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD a bod yn ddieuog?” Roedd Dafydd yn gwybod na fyddai Jehofa yn hapus petai’n lladd yr un a oedd wedi ei eneinio ganddo.​—1 Samuel 26:8-12.

2 Roedd Dafydd yn deall beth roedd angen iddo’i wneud i fod yn ffyddlon i Jehofa. Roedd yn gwybod y dylai barchu Saul, ac ni wnaeth hyd yn oed meddwl am ei frifo. Pam? Oherwydd bod Duw wedi dewis Saul yn frenin ar Israel. Heddiw, fel yn y gorffennol, mae Jehofa eisiau i bob un o’i weision fod yn ffyddlon iddo a pharchu’r rhai y mae’n caniatáu i gael awdurdod.​—Darllenwch Micha 6:8.

3. Sut roedd Abisai yn ffyddlon i Dafydd?

3 Roedd Abisai yn parchu Dafydd oherwydd bod Duw wedi ei eneinio’n frenin. Ond ar ôl i Dafydd ddod yn frenin, gwnaeth bechu’n ddifrifol. Cysgodd â gwraig Ureia a dweud wrth Joab i sicrhau bod Ureia yn cael ei ladd ar faes y gad. (2 Samuel 11:2-4, 14, 15; 1 Cronicl 2:16) Brawd Abisai oedd Joab ac mae’n debyg fod Abisai wedi clywed am yr helynt, ond daliodd ati i barchu Dafydd. Ar ben hynny, roedd Abisai yn arweinydd milwrol a gallai fod wedi defnyddio’r awdurdod hwnnw i’w benodi ei hun yn frenin, ond ni wnaeth hynny. Yn hytrach, gwasanaethodd Dafydd a’i amddiffyn rhag ei elynion.​—2 Samuel 10:10; 20:6; 21:15-17.

4. (a) Sut mae ffyddlondeb Dafydd i Dduw yn esiampl inni? (b) Pa esiamplau eraill y byddwn ni’n eu hystyried?

4 Roedd Dafydd yn ffyddlon i Jehofa drwy gydol ei oes. Pan oedd yn ifanc, lladdodd Dafydd y cawr Goliath a oedd yn bwrw sen ar Jehofa a’r Israeliaid. (1 Samuel 17:23, 26, 48-51) Pan oedd Dafydd yn frenin, roedd rhaid i’r proffwyd Nathan ei geryddu oherwydd ei bechodau. Yn syth, cyfaddefodd Dafydd ei bechod ac edifarhau. (2 Samuel 12:1-5, 13) Yn ddiweddarach, pan oedd Dafydd yn hen ddyn, cyfrannodd lawer o bethau gwerthfawr i’r gwaith o adeiladu teml Jehofa. (1 Cronicl 29:1-5) Yn wir, er bod Dafydd wedi gwneud camgymeriadau dybryd yn ei fywyd, arhosodd yn ffyddlon i Dduw. (Salm 51:4, 10; 86:2) Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar esiampl Dafydd ac eraill a fu’n byw yr oes honno a dysgu sut gallwn ni fod yn fwy ffyddlon i Jehofa nag i unrhyw un arall. A byddwn ni’n trafod rhinweddau eraill sy’n gallu ein helpu i wneud hynny.

A FYDDI DI’N FFYDDLON I JEHOFA?

5. Pa wers a ddysgwn ni oddi wrth gamgymeriad Abisai?

5 Pan oedd Abisai eisiau lladd Saul, roedd yn ceisio bod yn ffyddlon i Dafydd. Ond oherwydd bod Dafydd yn gwybod mai peth drwg oedd lladd “eneiniog yr ARGLWYDD,” ni adawodd i Abisai ladd y brenin. (1 Samuel 26:8-11) Mae hyn yn dysgu gwers bwysig inni: Pan ydyn ni’n gorfod dewis pwy y dylen ni fod yn ffyddlon iddo yn y lle cyntaf, pwysig yw meddwl am egwyddorion yn y Beibl sy’n gallu ein helpu.

Mae’n fwy pwysig inni fod yn ffyddlon i Jehofa nag i unrhyw un arall

6. Er ei bod hi’n naturiol i ddangos ffyddlondeb tuag at ein teulu a’n ffrindiau, pam mae’n rhaid inni fod yn ofalus?

6 Peth naturiol yw dangos ffyddlondeb tuag at rai rydyn ni’n eu caru, fel ein ffrindiau neu’n teulu. Ond oherwydd ein bod ni’n amherffaith, gall ein teimladau ein camarwain. (Jeremeia 17:9) Felly, petai rhywun sy’n annwyl inni yn gwneud rhywbeth drwg a gadael y gwirionedd, mae’n rhaid inni gofio ei bod hi’n fwy pwysig inni fod yn ffyddlon i Jehofa nag i unrhyw un arall.​—Darllenwch Mathew 22:37.

7. Sut gwnaeth un chwaer aros yn ffyddlon i Dduw mewn sefyllfa anodd?

7 Os yw rhywun yn dy deulu wedi ei ddiarddel o’r gynulleidfa, gelli di ddangos i Jehofa dy fod ti’n ffyddlon iddo. Er enghraifft, un diwrnod gwnaeth mam Anne, a oedd wedi cael ei diarddel, ffonio i ofyn a fyddai’n gallu dod draw. [1] (Gweler yr ôl-nodyn.) Dywedodd mam Anne ei bod hi’n ddigalon iawn oherwydd bod y teulu yn gwrthod siarad â hi. Roedd Anne yn drist ar ôl clywed hyn, ond dyma hi’n addo ateb drwy anfon llythyr. Cyn ysgrifennu, myfyriodd Anne ar rai o egwyddorion y Beibl. (1 Corinthiaid 5:11; 2 Ioan 9-11) Yna, yn y llythyr, esboniodd mewn ffordd garedig mai ei mam oedd yr un a adawodd y teulu wrth bechu a gwrthod edifarhau. Dywedodd Anne mai’r unig ffordd y gall ei mam fod yn hapus eto oedd drwy ddod yn ôl at Jehofa.​—Iago 4:8.

8. Pa rinweddau fydd yn ein helpu i fod yn ffyddlon i Dduw?

8 Yn nyddiau Dafydd, roedd gweision ffyddlon Duw hefyd yn ostyngedig, caredig, a dewr. Gad inni weld sut gall y rhinweddau hyn ein helpu i fod yn ffyddlon i Jehofa.

MAE’N RHAID BOD YN OSTYNGEDIG

9. Pam y ceisiodd Abner ladd Dafydd?

9 Gwnaeth Jonathan, mab Saul, ac arweinydd y fyddin, Abner, weld Dafydd yn dod â phen Goliath i’r Brenin Saul. Daeth Jonathan yn ffrind i Dafydd ac arhosodd yn ffyddlon iddo. (1 Samuel 17:57–18:3) Ond dyn anffyddlon oedd Abner a helpodd Saul pan oedd yn ceisio lladd Dafydd. (1 Samuel 26:1-5; Salm 54:3) Roedd Jonathan ac Abner yn gwybod bod Duw eisiau i Dafydd fod yn frenin ar Israel. Ond ar ôl i Saul farw, ni wnaeth Abner gefnogi Dafydd. Yn hytrach, ceisiodd wneud mab Saul, Isboseth, yn frenin. Yn ddiweddarach, mae’n bosibl fod Abner â’i fryd ar fod yn frenin, ac efallai dyna pam y cysgodd ag un o wragedd y Brenin Saul. (2 Samuel 2:8-10; 3:6-11) Pam roedd agwedd Jonathan ac Abner tuag at Dafydd mor wahanol? Oherwydd bod Jonathan yn ffyddlon i Jehofa ac yn ostyngedig ond doedd Abner ddim.

10. Pam nad oedd Absalom yn ffyddlon i Dduw?

10 Nid oedd Absalom, mab Dafydd, yn ffyddlon i Dduw oherwydd nad oedd yn ostyngedig. Roedd yn awyddus i fod yn frenin, felly cymerodd “iddo’i hun gerbyd a meirch, a hanner cant o ddynion i redeg o’i flaen.” (2 Samuel 15:1) Perswadiodd lawer o’r Israeliaid i fod yn ffyddlon iddo. Ceisiodd hefyd ladd ei dad, er iddo wybod bod Jehofa wedi penodi Dafydd yn frenin ar Israel.​—2 Samuel 15:13, 14; 17:1-4.

11. Pa fudd sy’n dod o ddarllen am hanes Abner, Absalom, a Baruch yn y Beibl?

11 Pan nad yw unigolyn yn ostyngedig ac yn ceisio mwy o awdurdod, mae’n anodd iddo aros yn ffyddlon i Dduw. Wrth gwrs, rydyn ni’n caru Jehofa, ac nid ydyn ni eisiau bod yn hunanol nac yn ddrwg fel Abner ac Absalom. Ond mae’n rhaid inni ofalu rhag ceisio lot o arian neu fynd am swydd sy’n gwneud inni deimlo’n bwysig. Bydd hyn yn niweidio ein perthynas â Jehofa. Am gyfnod, roedd Baruch, ysgrifennydd Jeremeia, yn dymuno rhywbeth nad oedd ganddo, ac nid oedd bellach yn hapus yn gwasanaethu Duw. Dywedodd Jehofa wrtho y bydd yn bwrw i lawr yr hyn roedd wedi ei adeiladu ac yn tynnu o’r gwraidd yr hyn roedd wedi ei blannu a hynny drwy’r wlad i gyd, ac yna rhybuddiodd Baruch i beidio â cheisio pethau mawr iddo’i hun. (Jeremeia 45:4, 5) Gwrandawodd Baruch ar Jehofa. A dylen ninnau hefyd wrando arno, oherwydd yn fuan y bydd yn dinistrio’r byd drwg hwn.

Drwy annog dy frawd i ofyn am help yr henuriaid, rwyt ti’n dangos caredigrwydd ato a ffyddlondeb i Jehofa

12. Pam na allwn ni fod yn ffyddlon i Jehofa pan ydyn ni’n hunanol?

12 Roedd rhaid i Daniel, brawd o Mecsico, ddewis pwy y byddai’n ffyddlon iddo. Roedd eisiau priodi merch nad oedd yn addoli Jehofa. Dywedodd Daniel: “Roeddwn i’n dal yn ysgrifennu ati hi hyd yn oed ar ôl imi ddechrau arloesi.” Ond yna sylweddolodd ei fod yn gweithredu’n hunanol. Nid oedd yn ffyddlon i Jehofa, ac roedd rhaid iddo fod yn ostyngedig. Felly, siaradodd â henuriad profiadol am y ferch. Esboniodd: “Cefais fy helpu ganddo i weld fy mod i’n gorfod stopio ysgrifennu ati er mwyn bod yn ffyddlon i Jehofa. Ar ôl crio cryn dipyn a gweddïo, dyna beth wnes i. Yn fuan, roeddwn i’n teimlo’n hapusach yn y weinidogaeth.” Nawr, mae gan Daniel wraig sy’n caru Jehofa, ac mae’n gwasanaethu fel arolygwr y gylchdaith.

MAE FFYDDLONDEB I DDUW YN EIN HELPU I FOD YN GAREDIG

Os wyt ti’n darganfod fod dy ffrind wedi pechu’n ddifrifol, a wnei di siarad ag ef neu hi a sicrhau y bydd yn derbyn help yr henuriaid? (Gweler paragraff 14)

13. Sut gwnaeth Nathan aros yn ffyddlon i Dduw ac i Dafydd pan wnaeth Dafydd bechu?

13 Pan ydyn ni’n ffyddlon i Jehofa, gallwn hefyd fod yn ffyddlon i eraill a’u helpu yn y ffordd orau posibl. Arhosodd y proffwyd Nathan yn ffyddlon i Jehofa ac roedd hefyd yn ffyddlon i Dafydd. Ar ôl i Dafydd gymryd gwraig dyn arall ac yna ei ladd, gofynnodd Jehofa i Nathan roi cyngor i Dafydd. Roedd Nathan yn ddewr ac ufuddhaodd i Jehofa. Hefyd, gwnaeth ymddwyn yn ddoeth a siaradodd â Dafydd mewn ffordd garedig. Roedd eisiau helpu Dafydd i ddeall pa mor ddifrifol oedd ei bechodau. Felly, dyma Nathan yn adrodd hanes dyn cyfoethog yn dwyn yr unig oen bach a oedd gan ddyn tlawd. Pan glywodd Dafydd am yr hyn a wnaeth y dyn cyfoethog, gwylltiodd. Dywedodd Nathan: “Ti yw’r dyn.” Sylweddolodd Dafydd ei fod wedi pechu yn erbyn Jehofa.​—2 Samuel 12:1-7, 13.

14. Sut gelli di fod yn ffyddlon i Jehofa ac i’th ffrind neu i aelod o’th deulu?

14 Gelli di hefyd ddangos dy fod ti’n ffyddlon i Jehofa yn gyntaf ac yn ffyddlon i eraill drwy ddangos caredigrwydd. Er enghraifft, efallai dy fod ti’n gwybod bod brawd wedi pechu’n ddifrifol. Efallai dy fod ti eisiau bod yn ffyddlon iddo yn enwedig os yw’n ffrind agos neu’n deulu iti. Ond rwyt ti hefyd yn gwybod ei bod hi’n fwy pwysig i fod yn ffyddlon i Jehofa. Felly, fel Nathan, bydda’n ufudd i Jehofa ond bydda’n garedig wrth dy frawd. Dywed wrtho y dylai fynd i ofyn i’r henuriaid am help a dylai wneud hynny’n fuan. Os na fydd yn gwneud hynny, dylet tithau siarad â’r henuriaid. Drwy wneud hyn, byddi’n aros yn ffyddlon i Jehofa. Yr un pryd, rwyt ti’n garedig wrth dy frawd oherwydd bod yr henuriaid yn gallu ei helpu i gael perthynas dda â Jehofa eto. Byddan nhw’n ei gywiro mewn ffordd dawel a thyner.​—Darllenwch Lefiticus 5:1; Galatiaid 6:1.

MAE ANGEN DEWRDER I FOD YN FFYDDLON I DDUW

15, 16. Pam roedd angen i Husai fod yn ddewr er mwyn bod yn ffyddlon i Dduw?

15 Un o ffrindiau mwyaf ffyddlon y Brenin Dafydd oedd Husai. Pan oedd pobl eisiau gweld Absalom yn frenin, roedd rhaid i Husai fod yn ddewr er mwyn aros yn ffyddlon i Dafydd a Duw. Roedd yn gwybod bod Absalom wedi dod i Jerwsalem gyda’i filwyr a bod Dafydd wedi ffoi. (2 Samuel 15:13; 16:15) Beth wnaeth Husai? Cefnu ar Dafydd a chefnogi Absalom? Na. Er bod Dafydd yn hen a llawer eisiau ei ladd, arhosodd Husai yn ffyddlon iddo oherwydd bod Jehofa wedi eneinio Dafydd yn frenin. Felly, aeth Husai i Fynydd yr Olewydd i weld Dafydd.​—2 Samuel 15:30, 32.

16 Gofynnodd Dafydd i Husai ddychwelyd i Jerwsalem a chogio bod yn ffrind i Absalom fel y gallai berswadio Absalom i wrando ar ei gyngor yn hytrach na gwrando ar Ahitoffel. Roedd Husai’n ddewr iawn a risgiodd ei fywyd i fod yn ufudd i Dafydd ac aros yn ffyddlon i Jehofa. Gweddïodd Dafydd ar Jehofa iddo helpu Husai a dyna beth ddigwyddodd. Gwrandawodd Absalom ar Husai.​—2 Samuel 15:31; 17:14.

17. Pam mae angen bod yn ddewr i fod yn ffyddlon?

17 Mae angen bod yn ddewr i fod yn ffyddlon i Jehofa ac ufuddhau iddo yn hytrach na gwneud beth mae ein teulu, ein cyd-weithwyr, neu’r awdurdodau eisiau inni ei wneud. Er enghraifft, o’i blentyndod yn Japan, roedd Taro yn gwneud cymaint ag y gallai i wneud ei rieni’n hapus. Roedd yn ufudd ac yn ffyddlon iddyn nhw, nid oherwydd bod rhaid gwneud hynny, ond oherwydd ei fod yn eu caru. Ond pan ddechreuodd astudio gyda Thystion Jehofa, roedd ei rieni eisiau iddo stopio. Teimlodd yn ddigalon am hyn, a pheth anodd iawn oedd dweud wrthyn nhw ei fod wedi penderfynu mynychu’r cyfarfodydd. Dywedodd Taro: “Roedden nhw mor flin, a chefais fy ngwahardd rhag mynd adref. Gweddïais am y dewrder i gadw at fy mhenderfyniad. Nawr mae eu hagwedd wedi gwella, a gallaf eu gweld yn aml.”​—Darllenwch Diarhebion 29:25.

18. Sut mae’r astudiaeth hon wedi dy helpu di?

18 Fel Dafydd, Jonathan, Nathan, a Husai, gallwn ninnau hefyd deimlo’r bodlonrwydd sy’n dod o aros yn ffyddlon i Jehofa. Dydyn ni byth eisiau bod fel Abner nac Absalom a oedd yn anffyddlon. Yn wir, rydyn ni’n amherffaith ac yn gwneud camgymeriadau. Ond gad inni ddangos i Jehofa mai ffyddlondeb iddo ef yw’r peth pwysicaf yn ein bywydau.

^ [1] (paragraff 7) Newidiwyd rhai enwau.