Parhau i Wasanaethu Jehofa â Llawenydd
PRYD oedd diwrnod hapusaf dy fywyd? Ai diwrnod dy briodas, y diwrnod a gafodd dy blentyn cyntaf ei eni, ynteu ddiwrnod dy fedydd? Mae’n debyg mai diwrnod pwysicaf a mwyaf llawen dy fywyd oedd dy fedydd. Ar y diwrnod hwnnw, roedd y gynulleidfa wrth ei bodd yn dy weld ti’n dangos cymaint roeddet ti’n caru Duw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth!—Marc 12:30.
Yn fwy na thebyg, rwyt ti wedi bod yn llawen iawn yn gwasanaethu Jehofa ers dy fedydd. Fodd bynnag, mae rhai cyhoeddwyr wedi colli ychydig o’u llawenydd. Pam y digwyddodd hyn? Pa resymau sydd gennyn ni dros barhau i wasanaethu Jehofa â llawenydd?
RHESYMAU DROS GOLLI LLAWENYDD
Mae neges y Deyrnas yn dod â llawenydd mawr inni. Pam? Oherwydd bod Jehofa wedi addo y bydd y Deyrnas, yn fuan iawn, yn rhoi terfyn ar y byd drwg hwn a sefydlu byd newydd Duw. Dywed Seffaneia 1:14: “Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos, yn agos ac yn dod yn gyflym.” Ond os ydyn ni’n teimlo bod rhaid inni aros yn hirach na’r disgwyl, gallwn golli’r llawenydd yr oedd gennyn ni ar un adeg. Gall hyn achosi inni ddechrau blino ar wasanaethu Duw.—Diarhebion 13:12.
Mae treulio amser gyda’n brodyr yn ein hannog i barhau i wasanaethu Jehofa â llawenydd. Efallai fod ymddygiad da pobl Jehofa wedi ein denu at addoliad pur ac wedi ein helpu i ddechrau gwasanaethu Duw yn llawen. (1 Pedr 2:12) Fodd bynnag, beth all ddigwydd petai un o’n brodyr yn cael ei ddisgyblu am beidio â chadw gorchmynion Duw? Gall hyn fod yn achos digalondid i rai yn y gynulleidfa.
Un peth a all achosi i rywun golli ei lawenydd yw materoliaeth. Sut felly? Mae byd Satan yn ceisio ein perswadio i brynu pethau nad oes gwir eu hangen. Cofia felly eiriau Iesu: “Ni all neb wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai’n casáu’r naill ac yn caru’r llall, neu’n deyrngar i’r naill ac yn dirmygu’r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon,” neu arian. (Mathew 6:24) Ni allwn ni wasanaethu Jehofa â llawenydd a cheisio manteisio’n llawn ar y byd hwn yr un pryd.
GWASANAETHU JEHOFA YN LLAWEN
Nid yw gwasanaethu Jehofa yn feichus i’r rhai sy’n ei garu. (1 Ioan 5:3) Cofia wahoddiad Iesu: “Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i’ch eneidiau. Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a’m baich i yn ysgafn.” (Mathew 11:28-30) Mae bod yn wir Gristion yn adfywio ac yn llawenhau. Yn wir, mae gennyn ni resymau da dros fod yn llawen yng ngwasanaeth Jehofa. Gad inni ystyried tri ohonyn nhw.—Habacuc 3:18.
Gwasanaethwn ein Creawdwr, y Duw hapus. (Actau 17:28; 1 Timotheus 1:11) Rydyn ni’n sylweddoli ein bod ni’n ddyledus i’n Creawdwr am roi bywyd inni. Felly, gad inni ei wasanaethu yn llawen, dim ots faint o flynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers ein bedydd.
Meddylia am Héctor, a wasanaethodd Jehofa fel arolygwr teithiol am 40 mlynedd. “Hyd yn oed mewn henaint” mae’n dal i fwynhau gwasanaethu Jehofa. (Salm 92:12-14) Er bod salwch ei wraig wedi cyfyngu ar ei allu i wasanaethu Duw, nid yw Héctor wedi colli ei lawenydd. Mae’n dweud: “Trist iawn yw gweld iechyd fy ngwraig yn dirywio’n araf deg ac mae gofalu amdani wedi bod yn her, ond er hynny, dydw i ddim wedi gadael i’r sefyllfa ddwyn fy llawenydd wrth imi wasanaethu’r gwir Dduw. Mae gwybod fy mod i’n ddyledus am fy mywyd i Jehofa, yr un a greodd ddyn â phwrpas mewn golwg, yn rheswm da i’w garu a’i wasanaethu â’m holl galon. Rwy’n cadw’n brysur yn y gwaith pregethu, ac rwy’n canolbwyntio ar y Deyrnas fel nad ydw i’n colli fy llawenydd.”
Mae Jehofa wedi talu’r pridwerth ac, o ganlyniad, mae bywyd llawen yn bosibl. Yn wir, “carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Ie, cawn faddeuant am ein pechodau a bywyd tragwyddol drwy roi ein ffydd yn rhodd gariadus Duw o’r pridwerth. Onid yw hyn yn rheswm i fod yn ddiolchgar? Bydd y diolchgarwch hwn am y pridwerth yn ein hysgogi ni i wasanaethu Jehofa yn llawen.
Dywedodd brawd a oedd yn byw ym Mecsico, o’r enw Jesús: “Roeddwn i’n gaeth i’m swydd, ac weithiau’n gweithio pum shifft yn olynol er nad oeddwn i’n gorfod gwneud hynny. Dim ond i wneud mwy o arian. Yna, dysgais am Jehofa, ac am sut y rhoddodd ei Fab annwyl i farw dros ddynolryw. Roedd arnaf awydd cryf i’w wasanaethu. Felly, fe wnes i gysegru fy mywyd i Jehofa, ac ar ôl gweithio i’r cwmni am 28 mlynedd, penderfynais roi’r gorau iddi a dechrau arloesi’n llawn amser.” Dyna sut gwnaeth Jesús ddechrau gwasanaethu Jehofa â llawenydd.
Rydyn ni’n byw bywyd moesol lân, ac mae hyn yn dod â hapusrwydd. Wyt ti’n cofio dy fywyd cyn iti ddod i adnabod Jehofa? Gwnaeth yr apostol Paul atgoffa’r Cristnogion yn Rhufain eu bod nhw, ar un adeg, yn “gaethion i bechod,” ond bellach “yn gaethion i gyfiawnder.” Oherwydd eu bod nhw’n byw bywyd glân, roedden nhw’n gallu Rhufeiniaid 6:17-22) Rydyn ninnau hefyd yn dilyn safonau Jehofa, ac felly’n osgoi’r tristwch sy’n dod o fyw bywyd anfoesol neu dreisgar. Dyna iti reswm da dros fod yn llawen!
edrych ymlaen at fywyd tragwyddol. (Ystyria hanes y paffiwr Jaime, a oedd yn anffyddiwr ac yn credu mewn esblygiad. Dechreuodd Jaime fynychu’r cyfarfodydd a chafodd cariad y brodyr argraff fawr arno. Er mwyn cefnu ar ei hen ffordd o fyw, roedd rhaid i Jaime ofyn i Jehofa am help i gredu ynddo. “O dipyn i beth, sylweddolais fod Duw trugarog a chariadus yn bodoli,” meddai Jaime. “Mae cadw safonau cyfiawn Jehofa wedi fy amddiffyn. Pe na byddwn wedi newid, gallwn fod wedi cael fy lladd, fel rhai o’m hen ffrindiau yn y byd paffio. Blynyddoedd hapusaf fy mywyd oedd y rhai a dreuliais yn gwasanaethu Jehofa.”
PAID Â RHOI’R GORAU IDDI!
Sut dylen ni deimlo wrth inni aros am ddiwedd y byd drwg hwn? Cofia, rydyn ni’n gwneud ewyllys Duw ac yn edrych ymlaen at fywyd tragwyddol. “Peidiwn â blino ar wneud daioni, oherwydd cawn fedi’r cynhaeaf yn ei amser, dim ond inni beidio â llaesu dwylo.” (Galatiaid 6:8, 9) Gyda help Jehofa, gad inni ddyfalbarhau, inni weithio’n galed i feithrin rhinweddau sy’n mynd i’n helpu ni i oroesi’r “gorthrymder mawr,” ac inni barhau i wasanaethu Jehofa â llawenydd.—Datguddiad 7:9, 13, 14; Iago 1:2-4.
Gallwn ni fod yn hyderus y bydd Jehofa yn gwobrwyo ein dyfalbarhad oherwydd ei fod yn cofio ein gwaith caled a’r cariad rydyn ni’n ei ddangos tuag ato ef a’i enw. Os byddwn ni’n dyfalbarhau i wasanaethu Duw â llawenydd, byddwn ni’n teimlo fel y salmydd Dafydd, pan ddywedodd: “Gosodais yr ARGLWYDD o’m blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni’m symudir. Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f’ysbryd, a chaiff fy nghnawd fyw’n ddiogel.”—Salm 16:8, 9.