“Gadewch i Ddyfalbarhad Gyflawni ei Waith”
“A gadewch i ddyfalbarhad gyflawni ei waith, er mwyn ichwi fod yn berffaith a chyflawn, heb fod yn ddiffygiol mewn dim.”—IAGO 1:4.
CANEUON: 135, 139
1, 2. (a) Beth gallwn ni ei ddysgu o ddyfalbarhad Gideon a’i ddynion? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Yn ôl Luc 21:19, pam mae dyfalbarhau mor bwysig?
DYCHMYGA’R frwydr anodd a blinedig rhwng milwyr yr Israeliaid a’u gelynion. Aeth yr Israeliaid, o dan arweiniad y Barnwr Gideon, ar ôl y Midianiaid drwy’r nos am oddeutu 20 milltir! Yn ôl y Beibl: “Roedd Gideon a’i dri chant o ddynion wedi croesi’r Afon Iorddonen ac yn dal i fynd ar ôl y Midianiaid, er eu bod nhw wedi blino’n lân.” Ond nid oedden nhw wedi ennill y rhyfel eto, a byddai’n rhaid iddyn nhw frwydro yn erbyn 15,000 o filwyr. Roedd yr Israeliaid wedi bod o dan fawd y gelynion hyn am flynyddoedd, felly ni allen nhw roi’r gorau iddi. Oherwydd hynny, rhedodd Gideon a’i ddynion ar ôl eu gelynion, ac yn y pen draw, eu trechu nhw!—Barnwyr 7:22; 8:4, beibl.net; 8:10, 28.
2 Rydyn ninnau hefyd yng nghanol brwydr anodd a blinedig. Mae ein gelynion yn cynnwys Satan a’i fyd, yn ogystal â’n hamherffeithrwydd ni ein hunain. Mae rhai ohonon ni wedi bod yn ymladd yn erbyn y gelynion hyn am Luc 21:19.) Beth yw ystyr dyfalbarhau? Beth fydd yn ein helpu i ddyfalbarhau? Beth ddysgwn o’r rhai sydd wedi dyfalbarhau? A sut gallwn ni adael i “ddyfalbarhad gyflawni ei waith”?—Iago 1:4.
flynyddoedd. Gyda chymorth Jehofa, rydyn ni wedi ennill llawer o frwydrau. Ond, dydyn ni ddim wedi ennill y fuddugoliaeth olaf eto. Weithiau, rydyn ni’n blino oherwydd y brwydro, neu oherwydd ein bod ni’n disgwyl am ddiwedd y drefn hon. Rhybuddiodd Iesu y bydden ni’n wynebu treialon ac erledigaeth greulon yn ystod y dyddiau diwethaf. Ond, dywedodd hefyd y byddan ni’n ennill y frwydr os ydyn ni’n dyfalbarhau. (DarllenBETH YW DYFALBARHAD?
3. Beth yw dyfalbarhad?
3 Yn y Beibl, mae dyfalbarhad yn golygu mwy na goddef sefyllfaoedd anodd. Mae’n cynnwys y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo am ein treialon. Mae dyfalbarhad yn ein helpu i fod yn ddewr, ffyddlon, ac amyneddgar. Yn ôl un cyfeirlyfr, mae dyfalbarhau yn rhoi gobaith inni ac yn ein helpu i osgoi cael ein llethu gan ein treialon. Mae’n ein helpu i aros yn ddiysgog hyd yn oed yn wyneb y treialon gwaethaf. Mae’n caniatáu inni droi ein treialon yn fuddugoliaethau ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar ein nod, yn hytrach nag ar ein poen.
4. Pam y gallwn ni ddweud bod dyfalbarhad yn deillio o gariad?
4 Cariad sy’n ysgogi dyfalbarhad. (Darllen 1 Corinthiaid 13:4, 7.) Sut felly? Mae cariad tuag at Jehofa yn ein cymell i oddef unrhyw beth y mae’n ei ganiatáu. (Luc 22:41, 42) Cariad sy’n ein helpu ni i anwybyddu amherffeithrwydd ein brodyr. (1 Pedr 4:8) Mae cariad yn y briodas yn ein helpu i ddal ati er gwaethaf “pob math o broblemau.” Hefyd, mae’r cariad hwn yn cryfhau’r briodas.—1 Corinthiaid 7:28, beibl.net.
BETH FYDD YN DY HELPU DI I DDYFALBARHAU?
5. Pam mai Jehofa yw’r un gorau i’n helpu ni i ddyfalbarhau?
5 Gofynna am nerth gan Jehofa. Jehofa yw “ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth.” (Rhufeiniaid 15:5) Ef yw’r unig un sy’n deall yn llawn ein sefyllfa, ein teimladau, a’n cefndir. Felly, mae’n gwybod yn union beth sydd ei angen arnon ni er mwyn dyfalbarhau. Dywed y Beibl: “Mae’n rhoi eu dymuniad i’r rhai sy’n ei barchu; mae’n eu clywed nhw’n galw, ac yn eu hachub nhw.” (Salm 145:19, beibl.net) Ond sut bydd Duw yn ateb ein gweddïau am y nerth i ddyfalbarhau?
Mae Jehofa yn ein deall ac yn gwybod yn union beth sydd ei angen arnon ni er mwyn inni fedru dyfalbarhau
6. Sut gall Jehofa ein helpu i wynebu treialon, fel mae’r Beibl yn ei addo?
6 Pan ydyn ni’n gofyn i Jehofa ein helpu i ddyfalbarhau, mae’n rhoi dihangfa inni. (Darllen 1 Corinthiaid 10:13.) Sut mae’n gwneud hynny? Ar adegau, fe allai ddileu’r broblem. Ond ar y cyfan, bydd yn rhoi’r nerth inni ddyfalbarhau yn amyneddgar ac yn llawen. (Colosiaid 1:11) Ac oherwydd ei fod yn gwybod am ein cyflwr corfforol, meddyliol, ac emosiynol, ni fydd Jehofa byth yn gadael i unrhyw sefyllfa fod mor anodd fel na fedrwn ni aros yn ffyddlon.
7. Eglura pam mae angen bwyd ysbrydol arnon ni er mwyn dyfalbarhau.
7 Gad i fwyd ysbrydol gryfhau dy ffydd. Pam mae bwyd ysbrydol yn bwysig? Ystyria’r eglureb hon: Er mwyn dringo Mynydd Everest, mae angen i ddringwr fwyta tua 6,000 o galorïau bob dydd. Er mwyn cyrraedd y copa, mae’n rhaid i’r dringwr fwyta cymaint o galorïau ag sy’n bosibl. Mewn ffordd debyg, mae angen digon o fwyd ysbrydol arnon ninnau er mwyn dyfalbarhau a chyrraedd ein nod. Mae’n rhaid inni fod yn benderfynol o dreulio amser yn astudio ac yn mynychu’r cyfarfodydd. Bydd y pethau hyn yn ein helpu i gadw ein ffydd yn gryf.—Ioan 6:27.
8, 9. (a) Yn ôl Job 2:4, 5, pa ddadl sy’n ymwneud â’n treialon? (b) Pan wyt ti’n wynebu treialon, pa olygfa y gelli di ei dychmygu?
8 Cofia dy ffyddlondeb i Dduw. Pan ydyn ni’n wynebu treialon, rydyn ni’n dioddef. Ond, yn fwy na hynny, mae ein ffyddlondeb i Dduw yn cael ei brofi hefyd. Mae’r ffordd rydyn ni’n ymateb i dreialon yn dangos a ydyn ni’n gweld Jehofa fel Rheolwr y bydysawd ai peidio. Sut felly? Mae Satan yn elyn i Dduw ac yn gwrthwynebu ei reolaeth. Mae wedi sarhau Jehofa drwy ddweud bod pobl yn ei wasanaethu am resymau hunanol yn unig. Dywedodd Satan: “Fe rydd dyn y cyfan sydd ganddo am ei einioes.” Yna, dywedodd Satan am Job: “Ond estyn di dy law a chyffwrdd â’i esgyrn a’i gnawd; yna’n sicr fe’th felltithia yn dy wyneb.” (Job 2:4, 5) Ydy Satan wedi newid ers hynny? Naddo! Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan gafodd Satan ei fwrw allan o’r nef, roedd yn dal yn cyhuddo gweision Jehofa. (Datguddiad 12:10) Heddiw, mae Satan yn dal yn honni bod pobl yn addoli Duw am resymau hunanol. Mae’n awyddus i’n gweld ni’n cefnu ar Dduw a gwrthod ei hawl i lywodraethu.
9 Pan wyt ti’n dioddef oherwydd treialon, dychmyga’r olygfa hon. Mae Satan a’r cythreuliaid ar un ochr, ac maen nhw’n aros i weld beth fyddi di’n ei wneud ac yn honni y byddi di’n rhoi’r gorau iddi. Ar yr ochr arall y mae Jehofa, ein Brenin Iesu Grist, y rhai eneiniog sydd wedi eu hatgyfodi, a miloedd o angylion. Maen nhw hefyd yn gweld dy fod ti’n brwydro, ond maen nhw’n dy annog di yn dy flaen! Maen nhw’n hapus i’th weld di’n dyfalbarhau ac yn aros yn ffyddlon i Jehofa. Ac yna rwyt ti’n clywed Jehofa yn dweud wrthyt ti: “Fy mab, bydd ddoeth, a llawenha fy nghalon; yna gallaf roi ateb i’r rhai sy’n fy amharchu.”—Diarhebion 27:11.
Canolbwyntiodd Iesu ar y bendithion a fyddai’n dod drwy ddyfalbarhau
10. Sut gelli di efelychu Iesu a chanolbwyntio ar y gwobrwyon sy’n dod o ddyfalbarhau?
10 Canolbwyntia ar y gwobrwyon. Dychmyga dy fod ti ar daith ac, ar hyd y ffordd, rwyt ti’n gorfod mynd drwy dwnnel hir sy’n dywyll fel bol buwch. Ond, os ei di yn dy flaen, byddi di’n gweld golau dydd unwaith eto. Gall Hebreaid 12:2, 3) Canolbwyntiodd Iesu ar y gwobrwyon a fyddai’n dod o ddyfalbarhau, a’r wobr bwysicaf oedd sancteiddio enw Duw a chefnogi Ei hawl i lywodraethu. Roedd yn gwybod mai dros dro yn unig oedd y treial, a byddai ei wobr yn y nefoedd yn para am byth. Heddiw, gall dy dreialon dy lethu a’th frifo, ond cofia mai dros dro yn unig ydyn nhw.
bywyd fod yn debyg i’r daith honno. Efallai y bydd rhaid iti wynebu cyfnodau anodd iawn, pryd y byddi di efallai’n teimlo dy fod ti’n cael dy lethu gan dy broblemau. Gallai Iesu fod wedi teimlo fel hynny. Tra oedd yn marw ar y stanc, cafodd ei gywilyddio ac roedd mewn poen enbyd. Mae’n debyg mai hwn oedd cyfnod anoddaf ei fywyd! Beth a helpodd i ddyfalbarhau? Dywed y Beibl ei fod yn canolbwyntio ar “y llawenydd oedd o’i flaen.” (“Y RHAI A DDALIODD EU TIR”
11. Pam y dylen ni ystyried profiadau’r rhai “a ddaliodd eu tir”?
11 Nid oes rhaid inni ddyfalbarhau ar ein pennau ein hunain. Er mwyn annog Cristnogion i ddyfalbarhau yn wyneb treialon, ysgrifennodd yr apostol Pedr: “Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi’r un math o ddioddefiadau.” (1 Pedr 5:9) Mae profiadau’r rhai “a ddaliodd eu tir” yn ein dysgu sut i aros yn ffyddlon, yn ein gwneud ni’n sicr y gallwn ni lwyddo, ac yn ein hatgoffa y bydd ein ffyddlondeb yn cael ei wobrwyo. (Iago 5:11) Gad inni drafod ychydig o esiamplau. [1]—Gweler yr ôl-nodyn.
12. Beth ddysgwn o esiampl y ceriwbiaid a gafodd eu gosod yn Eden?
12 Angylion yw’r ceriwbiaid sydd â llawer o gyfrifoldeb. Ar ôl i Adda ac Efa bechu, rhoddodd Jehofa aseiniad newydd ar y ddaear i rai o’r ceriwbiaid. Roedd yn hollol wahanol i’w haseiniad yn y nefoedd. Gall eu hesiampl ein dysgu ni sut i ddyfalbarhau pan gawn ni aseiniad anodd. Mae’r Beibl yn dweud y gwnaeth Jehofa osod ceriwbiaid “i’r dwyrain o ardd Eden, a chleddyf fflamllyd yn chwyrlïo, i warchod y ffordd at bren y bywyd.” [2] (Gweler yr ôl-nodyn.) (Genesis 3:24) Nid yw’r Beibl yn dweud bod y ceriwbiaid wedi cwyno am eu haseiniad newydd na’u bod nhw’n teimlo’n rhy bwysig i’w gyflawni. Ni wnaethon nhw ddiflasu ar yr aseiniad na rhoi’r gorau iddi. Yn hytrach, arhoson nhw yn eu haseiniad nes iddyn nhw gwblhau eu gwaith, hyd at y Dilyw efallai, 1,600 o flynyddoedd yn ddiweddarach!
13. Sut roedd Job yn gallu ymdopi â’i dreialon?
13 Y dyn ffyddlon Job. Ar adegau, gall ffrindiau neu berthnasau dy frifo di drwy ddweud pethau negyddol. Neu efallai dy fod ti’n ddifrifol sâl neu’n drist oherwydd bod rhywun annwyl iti wedi marw. Ond, beth bynnag a fydd yn digwydd, bydd esiampl Job yn dy gysuro di. (Job 1:18, 19; 2:7, 9; 19:1-3) Doedd Job ddim yn gwybod pam yr oedd yn wynebu cymaint o dreialon, ond ni wnaeth roi’r ffidil yn y to. Beth a helpodd i ddyfalbarhau? Yn gyntaf oll, roedd yn caru Jehofa ac yn awyddus i beidio â’i siomi. (Job 1:1) Roedd Job eisiau plesio Duw ar adegau da a drwg. Hefyd, gwnaeth Jehofa helpu Job i weld Ei nerth drwy ddisgrifio rhyfeddodau ei greadigaeth iddo. Roedd Job yn gwybod felly y byddai Jehofa yn rhoi terfyn ar ei dreialon yn ei bryd. (Job 42:1, 2) A dyna ddigwyddodd: “Adferodd yr ARGLWYDD iddo ei lwyddiant, a rhoi’n ôl i Job ddwywaith yr hyn oedd ganddo o’r blaen.” Cafodd Job fywyd hir a bodlon.—Job 42:10, 17.
14. Yn ôl 2 Corinthiaid 1:6, sut roedd dyfalbarhad Paul yn helpu eraill?
14 Yr apostol Paul. Wyt ti’n dioddef gwrthwynebiad neu erledigaeth? Wyt ti’n henuriad neu’n arolygwr y gylchdaith ac yn teimlo dy fod ti’n boddi o dan dy gyfrifoldebau? Os felly, gall esiampl Paul dy helpu. Roedd Paul yn dioddef erledigaeth ofnadwy, ac roedd yn wastad yn poeni am y gynulleidfa. (2 Corinthiaid 11:23-29) Ond ni wnaeth Paul roi’r gorau iddi, ac roedd ei esiampl yn rhoi nerth i eraill. (Darllen 2 Corinthiaid 1:6, beibl.net.) Gall dy ddyfalbarhad annog eraill i ddyfalbarhau.
A FYDD DYFALBARHAD YN CYFLAWNI EI WAITH YNOT TI?
15, 16. (a) Pa “waith” y mae angen i ddyfalbarhad ei gyflawni? (b) Rho esiamplau o sut gallwn ni adael i “ddyfalbarhad gyflawni ei waith.”
15 Cafodd y disgybl Iago ei ysbrydoli i ysgrifennu: “Gadewch i ddyfalbarhad gyflawni ei waith, er mwyn ichwi fod yn berffaith a chyflawn, heb fod yn ddiffygiol mewn dim.” (Iago 1:4) Sut gall dyfalbarhad gyflawni ei “waith” ynon ni? Pan ydyn ni’n wynebu treialon, efallai y bydden ni’n sylweddoli bod angen inni fod yn fwy amyneddgar, diolchgar, a chariadus. Wrth inni ddyfalbarhau, byddwn ni’n dysgu sut i roi’r rhinweddau hyn ar waith yn fwyfwy, ac felly bydd ein personoliaeth Gristnogol yn gwella.
16 Oherwydd bod dyfalbarhad yn ein gwneud ni’n Gristnogion gwell, fydden ni byth eisiau torri cyfraith Jehofa er mwyn dod â’n treialon i ben. Er enghraifft, os wyt ti’n brwydro yn erbyn meddyliau anfoesol, paid ag ildio i’r temtasiwn! Gofynna i Jehofa dy helpu di i wrthsefyll y temtasiwn. Ydy aelod o’th deulu yn dy wrthwynebu? Paid â digalonni! Bydda’n benderfynol o ddal ati i wasanaethu Jehofa. O ganlyniad, bydd gen ti fwy o hyder yn Jehofa. Cofia: Er mwyn ennill cymeradwyaeth Jehofa, mae’n rhaid inni ddyfalbarhau.—Rhufeiniaid 5:3-5; Iago 1:12.
17, 18. (a) Eglura’r pwysigrwydd o ddyfalbarhau hyd y diwedd. (b) Wrth inni agosáu at y diwedd, o beth rydyn ni’n sicr?
17 Mae’n rhaid inni ddyfalbarhau, nid am gyfnod byr yn unig, ond hyd y diwedd. Dychmyga dy fod ti mewn llong sy’n suddo. Er mwyn iti oroesi, rwyt ti’n gorfod nofio’r holl ffordd i’r lan. Os wyt ti’n stopio nofio ychydig ar ôl iti gychwyn, byddi di’n boddi. Yn yr un modd, os wyt ti’n rhoi’r gorau iddi ychydig cyn cyrraedd y traeth, mi fyddi di’n boddi wrth y lan. Os ydyn ni’n dymuno byw yn y byd newydd, mae angen inni ddal ati i ddyfalbarhau. Gad inni feithrin yr un agwedd â’r apostol Paul, a ddywedodd: “Nid ydym yn digalonni.”—2 Corinthiaid 4:1, 16.
18 Fel Paul, rydyn ni’n gwbl sicr y bydd Jehofa yn ein helpu i ddyfalbarhau hyd y diwedd. Ysgrifennodd Paul: “Mae gennym fuddugoliaeth lwyr trwy’r hwn a’n carodd ni. Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.” (Rhufeiniaid 8:37-39) O bryd i’w gilydd byddwn ni’n blino. Ond gad inni efelychu Gideon a’i ddynion. Fe wnaethon nhw flino, ond ni wnaethon nhw roi’r gorau iddi. Roedden nhw’n “dal i fynd ar ôl y Midianiaid”!—Barnwyr 8:4, beibl.net.
^ [1] (paragraff 11) Byddi di’n sicr o gael dy galonogi o ddarllen am ddyfalbarhad pobl Dduw yn yr oes fodern. Er enghraifft, mae Yearbook 1992, 1999, a 2008 yn cynnwys hanesion calonogol am ein brodyr yn Ethiopia, Malawi, a Rwsia.
^ [2] (paragraff 12) Dydy’r Beibl ddim yn dweud faint o geriwbiaid a gafodd yr aseiniad hwnnw.