Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gad i “Rodd Anhraethadwy” Duw Dy Gymell Di

Gad i “Rodd Anhraethadwy” Duw Dy Gymell Di

“Diolch i Dduw am ei rodd anhraethadwy.”​—2 CORINTHIAID 9:15.

CANEUON: 121, 63

1, 2. (a) Beth mae rhodd anhraethadwy Duw yn ei gynnwys? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?

RHODDODD Jehofa yr anrheg orau posibl inni pan anfonodd ei Fab annwyl Iesu i’r ddaear! (Ioan 3:16; 1 Ioan 4:9, 10) Galwodd yr apostol Paul yr anrheg hon yn rhodd anhraethadwy, hynny yw, yn anrheg na ellir ei disgrifio mewn geiriau. (2 Corinthiaid 9:15) Pam roedd Paul yn defnyddio’r ymadrodd hwn?

2 Roedd Paul yn gwybod mai trwy aberth Iesu y cyflawnir holl addewidion Duw. (Darllenwch 2 Corinthiaid 1:20.) Mae hyn yn golygu bod rhodd anhraethadwy Duw yn cynnwys aberth Iesu a’r ffyddlondeb a’r daioni y mae Jehofa yn eu dangos inni. Amhosibl yw inni ddeall yn gyfan gwbl arwyddocâd anrheg o’r fath. Sut dylai’r anrheg hon wneud inni deimlo? Pa effaith dylai’r anrheg ei chael arnon ni wrth baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth a gynhelir ddydd Mercher, 23 Mawrth 2016, a hynny er mwyn cofio marwolaeth Iesu?

ANRHEG WERTHFAWR DUW

3, 4. (a) Sut rwyt ti’n teimlo pan fydd rhywun yn rhoi anrheg iti? (b) Sut gall anrheg arbennig newid cwrs dy fywyd?

3 Rydyn ni’n hoff iawn o dderbyn anrhegion. Ond mae rhai anrhegion mor arbennig neu werthfawr fel y maen nhw’n gallu newid ein bywydau. Er enghraifft, dychmyga dy fod ti wedi cymryd rhan mewn trosedd. Y gosb am y drosedd yw marwolaeth. Ond, yn fwyaf sydyn, mae rhywun nad wyt ti’n ei adnabod yn gwirfoddoli derbyn y gosb yn dy le. Mae’n fodlon marw drosot ti! Sut byddai anrheg mor werthfawr yn gwneud iti deimlo?

4 Byddai anrheg mor arbennig yn gwneud iti newid cyfeiriad dy fywyd. Mae’n debyg y byddet tithau hefyd yn cael dy ysgogi i fod yn fwy hael a mwy cariadus tuag at eraill, ac i faddau i bobl sydd wedi bod yn gas wrthyt ti. Am weddill dy oes, fe fyddet ti eisiau dangos dy fod ti’n ddiolchgar am yr aberth a gafodd ei rhoi ar dy ran.

5. Sut mae anrheg Duw o’r pridwerth yn werth mwy nag unrhyw anrheg arall?

5 Mae’r anrheg gan Dduw, sef y pridwerth, yn werth llawer iawn mwy na gwerth yr anrheg yn yr enghraifft uchod. (1 Pedr 3:18) Meddylia am hyn: Gwnaethon ni i gyd etifeddu amherffeithrwydd gan Adda, a’r gosb am bechod yw marwolaeth. (Rhufeiniaid 5:12) Cariad a ysgogodd Duw i anfon Iesu i’r ddaear i “brofi marwolaeth dros bob dyn.” (Hebreaid 2:9) Ond, bydd aberth Iesu yn gwneud llawer iawn mwy! Bydd yn cael gwared ar farwolaeth am byth. (Eseia 25:7, 8; 1 Corinthiaid 15:22, 26) Bydd pawb sy’n rhoi ffydd yn Iesu yn byw’n hapus, naill ai’n rheoli gyda Iesu yn y nefoedd, neu’n byw ar y ddaear ym Mharadwys. (Rhufeiniaid 6:23; Datguddiad 5:9, 10) Pa fendithion eraill sy’n cael eu cynnwys yn anrheg Jehofa?

6. (a) Pa fendithion sy’n deillio o rodd Jehofa rwyt ti’n edrych ymlaen atyn nhw? (b) Pa dri pheth y bydd rhodd Duw yn ein hysgogi ni i’w gwneud?

6 Mae anrheg Duw yn cynnwys troi’r ddaear yn baradwys, iacháu pobl sy’n sâl, ac atgyfodi’r meirw. (Eseia 33:24; 35:5, 6; Ioan 5:28, 29) Rydyn ni’n caru Jehofa a’i Fab am iddyn nhw roi’r rhodd anhraethadwy hon inni. Bydd y rhodd hon yn ein hysgogi ni i’w wneud beth? Bydd yn ein cymell ni i (1) efelychu’n agos Iesu Grist, (2) i garu ein brodyr, a (3) i faddau i bobl eraill o’n calonnau.

“MAE CARIAD CRIST YN EIN GORFODI NI”

7, 8. Sut dylen ni deimlo am gariad Crist, a beth dylai’r cariad hwnnw ein hysgogi ni i’w wneud?

7 Yn gyntaf, dylen ni ddefnyddio ein bywydau i anrhydeddu Iesu. Dywedodd yr apostol Paul: “Y mae cariad Crist yn ein gorfodi ni.” (Darllenwch 2 Corinthiaid 5:14, 15.) Roedd Paul yn gwybod, os ydyn ni am dderbyn cariad Iesu, bydd hynny yn ein gorfodi ni i garu Iesu. Ie, pan ydyn ni’n myfyrio ar gariad Jehofa, bydd y cariad hwnnw yn ein hysgogi i fyw mewn ffordd sy’n anrhydeddu Iesu. Sut gallwn wneud hynny?

8 Bydd cariad Jehofa yn ein hannog ni i efelychu esiampl Iesu. (1 Pedr 2:21; 1 Ioan 2:6) Drwy ufuddhau i Dduw ac i Grist, rydyn ni’n dangos ein cariad tuag atyn nhw. Meddai Iesu: “Pwy bynnag y mae fy ngorchmynion i ganddo, ac sy’n eu cadw hwy, yw’r un sy’n fy ngharu i. A’r un sy’n fy ngharu i, fe’i cerir gan fy Nhad, a byddaf finnau yn ei garu, ac yn f’amlygu fy hun iddo.”—Ioan 14:21; 1 Ioan 5:3.

9. Mae’r byd yn rhoi pa bwysau arnon ni?

9 Yn ystod adeg y Goffadwriaeth, peth da fyddai myfyrio ar y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau drwy ofyn: ‘Ydw i’n efelychu Iesu yn fy mywyd? Sut gallaf wella ar hyn?’ Mae’n bwysig ein bod ni’n gofyn y cwestiynau hyn oherwydd dylanwad y byd. (Rhufeiniaid 12:2) Os nad ydyn ni’n ofalus, gallen ni deimlo o dan bwysau i ddechrau efelychu athrawon, pobl enwog, ac arwyr y byd chwaraeon. (Colosiaid 2:8; 1 Ioan 2:15-17) Sut gallwn ni wrthod y pwysau hynny?

10. Pa gwestiynau y dylid eu gofyn yn ystod adeg y Goffadwriaeth, a beth gall yr atebion ein hysgogi ni i’w wneud? (Gweler y llun agoriadol.)

10 Yn ystod adeg y Goffadwriaeth, peth da fyddai mynd ati i chwilio drwy ein dillad, ein cerddoriaeth, a’n ffilmiau, ynghyd â’n cyfrifiaduron, ein ffonau symudol, a’n tabledi. Gofyn i ti dy hun: ‘Petai Iesu yma ac yn gweld beth dw i’n ei wisgo, a fyddwn i’n teimlo unrhyw gywilydd?’ (Darllenwch 1 Timotheus 2:9, 10.) ‘A fyddai fy nillad yn dangos fy mod i’n dilyn ôl traed Iesu? A fyddai Iesu yn hoffi gwylio fy ffilmiau? A fyddai’n gwrando ar fy ngherddoriaeth? A fyddwn i’n teimlo cywilydd petai Iesu yn benthyg fy ffôn ac yn gweld pa fath o ddeunydd sydd arno? A fyddai’n anodd imi egluro i Iesu pam dw i’n hoffi’r gemau fideo dw i’n eu chwarae?’ Dylai ein cariad tuag at Jehofa ein hysgogi ni i daflu unrhyw beth sy’n amhriodol ar gyfer Cristnogion, waeth befo’r gost. (Actau 19:19, 20) Wrth gysegru ein bywydau i Jehofa, gwnaethon ni addo defnyddio ein bywydau i anrhydeddu Crist. Felly, ni ddylen ni gadw unrhyw beth a fyddai’n ein rhwystro ni rhag efelychu Iesu.—Mathew 5:29, 30; Philipiaid 4:8.

11. (a) Sut mae cariad tuag at Jehofa a Iesu yn ein hysgogi ni yn y weinidogaeth? (b) Sut gall cariad ein hysgogi ni i helpu eraill yn y gynulleidfa?

11 Mae ein cariad tuag at Iesu yn ein cymell ni i bregethu’n llawn sêl. (Mathew 28:19, 20; Luc 4:43) Yn ystod adeg y Goffadwriaeth, a allet ti drefnu i arloesi a threulio naill ai 30 awr neu 50 awr yn pregethu? Roedd un gŵr gweddw, 84 mlwydd oed, yn meddwl na allai arloesi oherwydd ei oed a’i iechyd. Ond roedd yr arloeswyr lleol yn awyddus i’w helpu. Roedden nhw’n sicrhau ei fod yn gallu cyrraedd y diriogaeth, a bod y diriogaeth yn addas ar ei gyfer. O ganlyniad, llwyddodd y brawd i arloesi’r mis hwnnw. A allet tithau helpu rhywun yn dy gynulleidfa i arloesi yn ystod Mawrth neu Ebrill? Nid yw pawb yn medru arloesi, ond gallwn ddefnyddio ein hamser a’n hegni i wneud mwy yn ein gwasanaeth i Jehofa. Drwy wneud hynny, byddwn ni, fel Paul, yn dangos bod cariad Iesu yn ein hysgogi ni. Beth arall gall cariad Duw ein hysgogi ni i’w wneud?

O DAN ORFOD I GARU EIN GILYDD

12. Beth mae cariad Duw yn ein cymell ni i’w wneud?

12 Yn ail, dylai cariad Duw ein cymell ni i garu ein brodyr. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd.” (1 Ioan 4:7-11) Felly, os derbyniwn ni gariad Duw, rydyn ni’n gorfod caru ein brodyr. (1 Ioan 3:16) Sut gallwn ni ddangos ein cariad tuag atyn nhw?

13. Pa esiampl osododd Iesu ynglŷn â dangos cariad?

13 Dangosodd esiampl Iesu sut gallwn ni garu eraill. Pan oedd ar y ddaear, roedd yn helpu pobl ostyngedig. Roedd yn iacháu pobl a oedd yn sâl, yn gloff, yn ddall, yn fyddar, ac yn fud. (Mathew 11:4, 5) Yn wahanol i’r arweinwyr crefyddol, roedd Iesu yn mwynhau dysgu pobl am Dduw. (Ioan 7:49) Roedd Iesu’n caru pobl ostyngedig ac yn gweithio’n galed i’w helpu nhw.—Mathew 20:28.

A alli di helpu brawd neu chwaer hŷn yn y weinidogaeth? (Gweler paragraff 14)

14. Beth galli di ei wneud i ddangos cariad tuag at dy frodyr?

14 Mae adeg y Goffadwriaeth yn amser da i feddwl am sut y galli di helpu’r brodyr, yn enwedig y rhai hŷn. Alli di alw heibio i weld y rhai hyn? Alli di fynd â phryd o fwyd iddyn nhw, eu helpu nhw o gwmpas y tŷ, cynnig lifft iddyn nhw i’r cyfarfod, neu eu gwahodd nhw i gydweithio â thi ar y weinidogaeth? (Darllenwch Luc 14:12-14.) Gad i gariad Duw dy gymell di i ddangos cariad tuag at dy frodyr!

TOSTURIO WRTH EIN CYD-GRISTNOGION

15. Beth sy’n rhaid inni ei gydnabod?

15 Yn drydydd, mae cariad Jehofa yn ein cymell ni i faddau i’n gilydd. Mae pawb wedi etifeddu pechod gan Adda, felly, nid yw’r un ohonon ni’n gallu dweud, “does dim angen y pridwerth arna’ i.” Mae angen y pridwerth ar bob un o weision Duw. Mae dyled fawr wedi ei maddau i bob un ohonon ni! Pam mae’n bwysig inni gydnabod hynny? Cawn hyd i’r ateb yn un o ddamhegion Iesu.

16, 17. (a) Pa wers dylen ni ei dysgu oddi wrth ddameg Iesu am y brenin a’r gweision? (b) Ar ôl myfyrio ar ddameg Iesu, beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

16 Yn un o’i ddamhegion, fe wnaeth Iesu sôn am frenin a oedd wedi maddau i’w was ddyled enfawr o 10,000 o godau o arian. Ond ar ôl hynny, doedd y gwas hwnnw ddim yn fodlon maddau dyled lawer iawn llai o 100 denariws i’w gydwas. Pan glywodd y brenin nad oedd y gwas yn fodlon maddau dyled mor fach i’w gydwas, roedd yn gandryll. Dywedodd: “Y gwas drwg, fe faddeuais i yr holl ddyled honno i ti, am iti grefu arnaf. Oni ddylit tithau fod wedi trugarhau wrth dy gydwas, fel y gwneuthum i wrthyt ti?” (Mathew 18:23-35, troednodyn) Yn debyg i’r brenin hwnnw, mae Jehofa wedi maddau dyled enfawr inni. Beth dylai cariad a thrugaredd Jehofa ein cymell ni i’w wneud?

17 Wrth baratoi ar gyfer y Goffadwriaeth, gallwn ofyn: ‘Ydw i wedi cael fy mrifo gan fy mrawd? Ydw i’n ei chael hi’n anodd maddau iddo?’ Os felly, dyma’r amser i efelychu Jehofa, sy’n ‘dda ac yn faddeugar.’ (Nehemeia 9:17; Salm 86:5) Os gwerthfawrogwn dosturi Jehofa, tosturiwn ninnau hefyd wrth eraill a maddau iddyn nhw o’n calonnau. Os nad ydyn ni’n caru ein brodyr ac yn maddau iddyn nhw, ni allwn ddisgwyl i Jehofa ein caru ninnau nac iddo faddau inni. (Mathew 6:14, 15) Nid yw maddau i eraill yn newid y ffaith eu bod nhw wedi ein brifo ni, ond bydd ein dyfodol yn hapusach o wneud hynny.

18. Sut roedd cariad Duw yn helpu un chwaer i oddef gwendidau chwaer arall?

18 Mae’n anodd ymdopi â gwendidau cyd-Gristnogion. (Darllenwch Effesiaid 4:32; Colosiaid 3:13, 14.) Un chwaer a wnaeth hynny oedd Lily. [1] (Gweler yr ôl-nodyn.) Roedd Lily yn helpu gwraig weddw o’r enw Carol. Roedd hi’n gyrru Carol i bob man, yn ei helpu hi gyda’i siopa, ac yn gwneud llawer o bethau eraill iddi. Er gwaethaf ymdrechion Lily, roedd Carol yn llym ei beirniadaeth, ac, ar adegau, roedd hi’n anodd ei thrin. Ond canolbwyntiodd Lily ar rinweddau da Carol a llwyddodd i’w helpu nes i Carol fynd yn sâl a marw. Roedd helpu Carol yn anodd i Lily, ond mae’n dweud amdani: “Dw i’n edrych ymlaen at weld Carol yn yr atgyfodiad. Rydw i eisiau ei hadnabod hi pan fydd hi’n berffaith.” Gall cariad Duw ein cymell ni i oddef ein brodyr a’n chwiorydd, ac i edrych ymlaen at yr amser pan fydd amherffeithrwydd pobl wedi mynd yn angof.

19. Sut bydd rhodd anhraethadwy Duw yn dy gymell di?

19 Gad inni fod yn ddiolchgar am byth am rodd anhraethadwy Jehofa! Mae adeg y Goffadwriaeth yn gyfle ardderchog inni fyfyrio ar bopeth y mae Jehofa a Iesu wedi ei wneud ar ein cyfer. Gad i gariad Jehofa a Iesu ein cymell ni i efelychu Crist yn agos, i ddangos ein cariad tuag at ein brodyr, ac i faddau iddyn nhw o’r galon.

^ [1] (paragraff 18) Newidiwyd rhai o’r enwau yn yr erthygl hon.