Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rydyn Ni Eisiau Mynd Gyda Chi

Rydyn Ni Eisiau Mynd Gyda Chi

“Awn gyda chwi, oherwydd clywsom fod Duw gyda chwi.”​—SECHAREIA 8:23.

CANEUON: 65, 122

1, 2. (a) Beth ddywedodd Jehofa y byddai’n digwydd yn ein dyddiau ni? (b) Pa gwestiynau bydd yn cael eu hateb yn yr erthygl hon? (Gweler y llun agoriadol.)

WRTH sôn am ein dyddiau ni, dywedodd Jehofa y bydd “deg o blith cenhedloedd o bob iaith yn cydio yn llewys rhyw Iddew ac yn dweud, Awn gyda chwi, oherwydd clywsom fod Duw gyda chwi.” (Sechareia 8:23) Mae’r Iddew yn cynrychioli’r rhai y mae Duw wedi eu heneinio â’r ysbryd glân. Maen nhw hefyd yn cael eu galw’n “Israel Duw.” (Galatiaid 6:16) Mae’r deg dyn yn cynrychioli’r rhai sydd â’r gobaith o fyw am byth ar y ddaear. Mae’r rhai hyn yn gwybod bod Jehofa wedi bendithio’r eneiniog ac yn teimlo ei bod hi’n fraint i addoli Ef gyda nhw.

2 Fel y gwnaeth y proffwyd Sechareia, dywedodd Iesu y byddai pobl Dduw yn unedig. Disgrifiodd Iesu’r rhai a fydd yn byw yn y nefoedd fel “praidd bychan,” a’r rhai a fydd yn byw ar y ddaear fel “defaid eraill.” Ond dywedodd Iesu y bydden nhw i gyd yn rhan o “un praidd” ac yn dilyn “un bugail,” sef Iesu. (Luc 12:32; Ioan 10:16) Ond gan fod dau grŵp yn bodoli, gallai rhai ofyn: (1) Oes angen i’r defaid eraill wybod enwau pawb heddiw sy’n eneiniog? (2) Pa feddwl y dylai’r rhai eneiniog feithrin ohonyn nhw eu hunain? (3) Petai rhywun yn fy nghynulleidfa yn dechrau bwyta’r bara ac yfed y gwin yn y Goffadwriaeth, sut dylwn i ei drin? (4) Oes rhaid imi boeni o weld y nifer sy’n bwyta’r bara ac yn yfed y gwin yn y Goffadwriaeth yn cynyddu? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiynau hyn.

OES ANGEN GWYBOD ENWAU’R RHAI ENEINIOG?

3. Pam nad yw’n bosibl gwybod yn bendant pwy fydd yn rhan o’r 144,000?

3 Oes angen i’r defaid eraill wybod enwau pob un o’r eneiniog sy’n dal ar y ddaear? Nac oes. Pam felly? Oherwydd nad yw’n bosibl i wybod yn bendant a fyddai’r rhai hyn yn cael eu gwobr neu beidio. [1] (Gweler yr ôl-nodyn.) Er bod Duw wedi eu gwahodd nhw i fynd i’r nefoedd, byddan nhw’n derbyn eu gwobr dim ond os ydyn nhw’n aros yn ffyddlon. Mae Satan yn gwybod hyn, ac mae’n defnyddio “gau broffwydi” i geisio eu harwain “ar gyfeiliorn.” (Mathew 24:24) Nid yw Cristnogion eneiniog yn sicr y byddan nhw’n derbyn eu gwobr hyd nes i Jehofa gadarnhau iddyn nhw eu bod nhw’n ffyddlon. Maen nhw’n derbyn y gymeradwyaeth olaf, neu’r selio olaf, gan Jehofa naill ai cyn iddyn nhw farw neu cyn i’r “gorthrymder mawr” ddechrau.​—Datguddiad 2:10; 7:3, 14.

Iesu yw ein Harweinydd, ac mae’n rhaid inni ei ddilyn ef yn unig

4. Os nad yw hi’n bosibl inni wybod enwau pob un o’r eneiniog sydd ar y ddaear heddiw, sut gallwn ni fynd gyda nhw?

4 Os nad yw’n bosibl gwybod enwau pob un o’r eneiniog sydd ar y ddaear heddiw, sut gall y defaid eraill fynd gyda nhw? Dywed y Beibl y bydd deg dyn yn “cydio yn llewys rhyw Iddew ac yn dweud, Awn gyda chwi, oherwydd clywsom fod Duw gyda chwi.” Mae’r adnod yn sôn am un Iddew, ond mae’r gair “chwi” yn cyfeirio at fwy nag un person. Mae hyn yn golygu nad un person yn unig yw’r Iddew ond grŵp cyfan o rai eneiniog. Mae’r defaid eraill yn deall hyn, ac maen nhw’n gwasanaethu Jehofa ochr yn ochr â’r grŵp hwnnw. Does dim rhaid iddyn nhw wybod enwau pob un aelod o’r grŵp hwnnw a dilyn pob un ohonyn nhw. Iesu yw ein Harweinydd, ac mae’r Beibl yn dweud y dylen ni ei ganlyn ef yn unig.—Mathew 23:10.

SUT DYLAI’R ENEINIOG EU HYSTYRIED EU HUNAIN

5. Pa rybudd y dylai’r rhai eneiniog feddwl o ddifrif amdano, a pham?

5 Dylai’r rhai eneiniog feddwl o ddifrif am y rhybudd a geir yn 1 Corinthiaid 11:27-29. (Darllenwch.) Sut gallai un o’r eneiniog fwyta’r bara ac yfed y gwin “yn annheilwng” yn y Goffadwriaeth? Os na fydd yr un eneiniog yn aros yn ffyddlon i Jehofa, bydd bwyta’r bara ac yfed y gwin yn amharchus. (Hebreaid 6:4-6; 10:26-29) Mae’r rhybudd cryf hwn yn atgoffa’r rhai eneiniog y dylen nhw aros yn ffyddlon os ydyn nhw eisiau ‘ennill y wobr y mae Duw yn eu galw i fyny ati yng Nghrist Iesu.’​—Philipiaid 3:13-16.

6. Sut dylai’r eneiniog eu hystyried eu hunain?

6 Dywedodd Paul wrth Gristnogion eneiniog: “Yr wyf fi, felly, sy’n garcharor er mwyn yr Arglwydd, yn eich annog i fyw yn deilwng o’r alwad a gawsoch.” Sut y dylen nhw wneud hynny? Esboniodd Paul: “Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad. Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae’r Ysbryd yn ei roi.” (Effesiaid 4:1-3) Mae ysbryd glân Jehofa yn helpu ei weision i fod yn ostyngedig. (Colosiaid 3:12) Felly, nid yw’r eneiniog yn meddwl eu bod nhw’n well nag eraill. Maen nhw’n gwybod nad yw Jehofa, o reidrwydd, yn rhoi mwy o ysbryd glân i’r rhai eneiniog nag y mae’n ei roi i’w weision eraill. Ac nid ydyn nhw’n teimlo y gallan nhw ddeall gwirioneddau’r Beibl yn well nag eraill. Hefyd, fydden nhw byth yn dweud wrth rywun arall ei fod yntau wedi ei eneinio ac y dylai ddechrau cyfranogi o’r bara a’r gwin. Yn hytrach, maen nhw’n ostyngedig ac yn gwybod mai dim ond Jehofa sy’n gwahodd pobl i fynd i’r nefoedd.

7, 8. Beth nad yw Cristnogion eneiniog yn ei ddisgwyl, a pham?

7 Er bod y rhai eneiniog yn teimlo bod cael gwahoddiad i fynd i’r nefoedd yn fraint, nid ydyn nhw’n disgwyl cael eu dyrchafu. (Effesiaid 1:18, 19; darllenwch Philipiaid 2:2, 3.) Pan fydd Jehofa yn eneinio rhywun, fe wyddan nhw na fydd Ef yn datgelu hyn i bawb arall. Felly, nid yw’n synnu os na fydd eraill yn ei gredu’n syth. Mae’n sylweddoli bod y Beibl yn dweud na ddylen ni fod yn rhy barod i gredu rhywun sy’n dweud bod Duw wedi rhoi cyfrifoldeb arbennig iddo. (Datguddiad 2:2) Oherwydd nad yw rhywun eneiniog yn disgwyl i eraill roi gormod o sylw iddo, ni fyddai yn ei gyflwyno ei hun fel rhywun eneiniog i bobl y mae’n eu cyfarfod am y tro cyntaf. Yn wir, mae’n eithaf posibl na fydd yn sôn am hyn wrth unrhyw un arall. Ar ben hynny, ni fyddai’n brolio am y pethau rhyfeddol y bydd yn eu gwneud yn y nefoedd.​—1 Corinthiaid 1:28, 29; darllenwch 1 Corinthiaid 4:6-8.

8 Nid yw Cristnogion eneiniog yn teimlo eu bod nhw’n gorfod treulio amser gyda rhai eneiniog eraill yn unig, fel petaswn nhw’n aelodau o ryw glwb. Dydyn nhw ddim yn ceisio dod o hyd i rai eneiniog eraill fel y gallan nhw siarad am fod yn eneiniog, neu er mwyn astudio’r Beibl mewn grwpiau ar wahân. (Galatiaid 1:15-17) Ni fyddai’r gynulleidfa yn unedig petai’r eneiniog yn gwneud hyn. Bydden nhw’n gweithio yn erbyn yr ysbryd glân sy’n helpu pobl Dduw i fod yn heddychlon.​—Darllenwch Rhufeiniaid 16:17, 18.

SUT Y DYLET TI EU TRIN?

9. Pam mae’n rhaid bod yn ofalus yn y ffordd rydyn ni’n trin y rhai eneiniog? (Gweler y blwch “ Nid Yw Cariad yn ‘Gwneud Dim Sy’n Anweddus.’”)

9 Sut dylet ti drin y rhai eneiniog? Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: ‘Cymrodyr ydych chwi i gyd.’ Aeth yn ei flaen: “Darostyngir pwy bynnag fydd yn ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pwy bynnag fydd yn ei ddarostwng ei hun.” (Mathew 23:8-12) Felly, anghywir fyddai goredmygu pobl, hyd yn oed yn achos brodyr eneiniog Crist. Wrth sôn am yr henuriaid, mae’r Beibl yn ein hannog ni i edmygu eu ffydd, ond nid yw’n dweud y dylid dyrchafu dynion. (Hebreaid 13:7) Yn wir, mae’r Beibl yn dweud bod rhai “yn haeddu cael dwbl y gydnabyddiaeth” am eu bod nhw’n “arweinwyr da” ac “yn llafurio ym myd pregethu a hyfforddi,” ond nid oherwydd eu bod nhw’n eneiniog. (1 Timotheus 5:17) Os rhown ormod o ganmoliaeth a sylw i’r rhai eneiniog, bydden ni’n codi cywilydd arnyn nhw. Neu’n waeth byth, gallen ni achosi iddyn nhw droi’n falch. (Rhufeiniaid 12:3) Does yr un ohonon ni eisiau gwneud unrhyw beth sy’n achosi i un o frodyr eneiniog Crist wneud camgymeriad difrifol!​—Luc 17:2.

Sut dylet ti drin rhywun sy’n bwyta’r bara ac yn yfed y gwin yn y Goffadwriaeth? (Gweler paragraffau 9-11)

10. Sut gallet ddangos dy fod ti’n parchu Cristnogion eneiniog?

10 Sut gallwn ddangos ein bod ni’n parchu’r rhai a eneiniwyd gan Jehofa? Fydden ni ddim yn gofyn sut y cawson nhw eu heneinio. Mater personol yw hwn, a does gennyn ni ddim yr hawl i wybod. (1 Thesaloniaid 4:11; 2 Thesaloniaid 3:11) Ac ni ddylen ni feddwl bod gŵr neu wraig yr un eneiniog, neu un o’i deulu hefyd yn eneiniog. Dydy person ddim yn etifeddu ei obaith gan ei deulu. (1 Thesaloniaid 2:12) Dylen ni hefyd osgoi gofyn cwestiynau sy’n gallu brifo eraill. Er enghraifft, fydden ni byth yn gofyn i wraig brawd eneiniog sut y mae hi’n teimlo ynglŷn â byw am byth ar y ddaear heb ei gŵr. Wedi’r cwbl, rydyn ni’n hollol sicr y bydd Jehofa, yn y byd newydd, yn diwallu anghenion popeth byw.​—Salm 145:16.

11. Sut rydyn ni’n ein hamddiffyn ein hunain drwy beidio â bod “yn gynffonwyr er mwyn ffafr”?

11 Rydyn ni’n ein hamddiffyn ein hunain drwy beidio â thrin yr eneiniog fel petasen nhw’n bwysicach nag eraill. Sut felly? Mae’r Beibl yn dweud y gall “gau gredinwyr” ddod i mewn i’r gynulleidfa a dweud eu bod nhw’n eneiniog. (Galatiaid 2:4, 5; 1 Ioan 2:19) Hefyd, gall rhai eneiniog droi’n anffyddlon. (Mathew 25:10-12; 2 Pedr 2:20, 21) Ond, os ydyn ni’n osgoi bod “yn gynffonwyr er mwyn ffafr,” fyddan ni byth yn dilyn pobl eraill, hyd yn oed rhai sy’n eneiniog neu’n adnabyddus, neu rai sydd wedi gwasanaethu Jehofa am amser maith. Yna, os ydyn nhw’n troi’n anffyddlon, ni fyddwn yn colli ein ffydd yn Jehofa nac yn rhoi’r gorau i’w addoli.​—Jwdas 16.

OES RHAID POENI AM Y NIFER?

12, 13. Pam na ddylen ni boeni am y nifer o’r rhai sy’n bwyta’r bara ac yn yfed y gwin yn y Goffadwriaeth?

12 Am flynyddoedd, roedd nifer y rhai sy’n bwyta’r bara ac yn yfed y gwin yn y Goffadwriaeth yn gostwng. Ond yn ddiweddar, mae’r nifer wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn. A oes rhaid inni boeni am hyn? Nac oes. Gad inni weld pam.

13 “Y mae’r Arglwydd yn adnabod y rhai sy’n eiddo iddo.” (2 Timotheus 2:19) Yn wahanol i Jehofa, nid yw’r brodyr sy’n cyfrif y bobl sy’n cyfranogi o’r bara a’r gwin yn y Goffadwriaeth yn gwybod yn bendant pwy sydd wedi eu heneinio. Felly, mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys y rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n eneiniog ond nad ydyn nhw mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae rhai a oedd ar un adeg yn cyfranogi bellach wedi stopio. Mae gan eraill broblemau meddyliol neu emosiynol ac yn credu y byddan nhw’n rheoli gyda Iesu yn y nefoedd. Yn amlwg, nid ydyn ni’n gwybod faint yn union o’r eneiniog sydd ar ôl ar y ddaear.

14. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud ynglŷn â nifer y rhai eneiniog a fydd yn dal i fod ar y ddaear pan fydd y gorthrymder mawr yn dechrau?

14 Bydd rhai eneiniog ym mhob rhan o’r byd pan fydd Iesu yn dod i’w cymryd nhw i’r nefoedd. Dywed y Beibl y bydd Iesu yn anfon “ei angylion wrth sain utgorn mawr, a byddant yn cynnull ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o un eithaf i’r nefoedd hyd at y llall.” (Mathew 24:31) Mae’r Beibl hefyd yn dangos y bydd nifer bychan o rai eneiniog ar ôl ar y ddaear yn ystod y dyddiau diwethaf. (Datguddiad 12:17) Ond nid yw Gair Duw yn dweud faint ohonyn nhw fydd ar ôl pan fydd y gorthrymder mawr yn dechrau.

15, 16. Beth sy’n rhaid inni ei ddeall ynglŷn â’r 144,000 a ddewiswyd gan Jehofa?

15 Jehofa sy’n dewis pa bryd y bydd yn eneinio rhywun. (Rhufeiniaid 8:28-30) Dechreuodd Jehofa ddewis yr eneiniog ar ôl atgyfodiad Iesu. Ymddengys fod pob gwir Gristion yn y ganrif gyntaf yn eneiniog. Am ganrifoedd wedi hynny, doedd y rhan fwyaf o’r Cristnogion honedig ddim yn dilyn Crist. Er hynny, yn ystod y cyfnod hwnnw, fe eneiniwyd gwir Gristnogion gan Jehofa. Yn ôl Iesu, roedden nhw fel yr ŷd a fyddai’n tyfu yng nghanol yr efrau, neu’r chwyn. (Mathew 13:24-30) Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Jehofa wedi parhau i ddewis pobl a fydd yn rhan o’r 144,000. [2] (Gweler yr ôl-nodyn.) Felly, os yw Duw yn dewis eneinio Cristnogion ychydig cyn i’r diwedd ddod, pwy ydyn ni i gwestiynu hynny? (Eseia 45:9; Daniel 4:35; darllenwch Rhufeiniaid 9:11, 16.) [3] (Gweler yr ôl-nodyn.) Pwysig yw peidio ag ymddwyn fel y gweithwyr a wnaeth rwgnach am y ffordd roedd eu meistr wedi trin y rhai a gafodd eu cyflogi yn hwyr yn y dydd.​—Darllenwch Mathew 20:8-15.

16 Nid yw pawb sydd â’r gobaith nefol yn rhan o’r “gwas ffyddlon a chall.” (Mathew 24:45-47) Fel y gwnaethon nhw yn ystod y ganrif gyntaf, mae Jehofa a Iesu heddiw yn defnyddio ychydig o bobl i fwydo neu i ddysgu llawer. Dim ond ychydig o’r rhai eneiniog yn y ganrif gyntaf a gafodd eu defnyddio i ysgrifennu’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol. A heddiw, dim ond nifer bach o Gristnogion eneiniog sydd â’r cyfrifoldeb o roi bwyd i bobl Dduw “yn ei bryd.”

17. Beth rwyt ti wedi ei ddysgu o ddarllen yr erthygl hon?

17 Beth a ddysgwn o’r erthygl hon? Penderfyniad Jehofa yw rhoi bywyd tragwyddol ar y ddaear i’r rhan fwyaf o’i bobl, a bywyd yn y nefoedd i’r rhai a fydd yn rheoli gyda Iesu. Mae Jehofa yn gwobrwyo pob un o’i weision, yr “Iddew” a’r “deg” dyn, ac mae’n gofyn i bawb fod yn ufudd i’r un gorchmynion ac aros yn ffyddlon. Dylai pawb fod yn ostyngedig drwy’r amser, ac addoli Duw gyda’i gilydd. Dylai pawb weithio’n galed i gadw heddwch yn y gynulleidfa. Wrth i’r system hon ddod i ben, gad inni ddal ati i wasanaethu Jehofa a dilyn Crist yn un praidd.

^ [1] (paragraff 3) Yn ôl Salm 87:5, 6, efallai yn y dyfodol y bydd Duw yn datgelu enwau’r rhai sy’n rheoli gyda Iesu yn y nefoedd.—Rhufeiniaid 8:19.

^ [2] (paragraff 15) Er bod Actau 2:33 yn dangos bod Iesu yn gysylltiedig â’r broses eneinio, Jehofa yn unig sy’n gwahodd y person hwnnw.

^ [3] (paragraff 15) Am wybodaeth bellach, gweler “Questions From Readers” yn y Watchtower, 1 Mai 2007, tudalennau 30-31.