Cyflwyniadau Enghreifftiol
AWAKE!
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl fod yr ymdrech i ddisodli arferion drwg gyda rhai da yn werth chweil?
Adnod: Pre 7:8a
Cynnig: Mae’r erthyglau hyn yn dangos sut y gall pobl ddefnyddio egwyddorion o’r Beibl i reoli eu harferion er eu lles eu hunain.
AWAKE!
Cwestiwn: Dydy hi ddim yn bosibl osgoi newidiadau mewn bywyd. Beth yw’r ffordd orau o ddelio â nhw yn eich barn chi?
Adnod: Pre 7:10, beibl.net
Cynnig: [Cyfeiria at yr erthygl sy’n dechrau ar dudalen 10.] Mae’r erthygl hon yn trafod egwyddorion o’r Beibl sy’n medru ein helpu ni i ymdopi â newidiadau.
GWRANDO AR DDUW A BYW AM BYTH
Cwestiwn: Mae gan bawb enw, gan gynnwys aelodau ein teulu a’n ffrindiau. Felly, beth am Dduw? Beth yw ei enw?
Adnod: Sal 83:18, Beibl William Morgan
Cynnig: Mae’r llyfryn hwn yn esbonio llawer o bethau eraill mae’r Beibl yn ei ddysgu am Dduw. [Cyfeiria at dudalennau 6 a 7.]
LLUNIA DY GYFLWYNIAD DY HUN
Defnyddia’r fformat yn yr enghreifftiau blaenorol i lunio dy gyflwyniad dy hun.