Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Helpu Myfyrwyr y Beibl i Gymryd Camau Tuag at Ymgysegriad a Bedydd

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Helpu Myfyrwyr y Beibl i Gymryd Camau Tuag at Ymgysegriad a Bedydd

PAM MAE’N BWYSIG? Mae’n rhaid i fyfyrwyr y Beibl ymgysegru a chael eu bedyddio er mwyn iddyn nhw cael eu cymeradwyo gan Jehofa. (1Pe 3:21) Yna, mae’r rhai sy’n byw yn unol â’u ymgysegriad yn cael eu hamddiffyn yn ysbrydol. (Sal 91:1, 2) Mae Cristion yn cysegru ei hun i Jehofa—nid i fod dynol, nac i swydd, na chyfundrefn. Felly mae’n angenrheidiol i fyfyrwyr ddatblygu cariad a gwerthfawrogiad tuag at Dduw.—Rhu 14:7, 8.

SUT I FYND ATI?

  • Yn ystod yr astudiaeth, trafoda beth mae’r wybodaeth yn ei ddangos am Jehofa. Pwysleisia pwysigrwydd darllen y Beibl bob dydd a gweddïo “yn ddi-baid.”—1The 5:17; Iag 4:8

  • Anoga dy fyfyriwr i osod ymgysegriad a bedydd fel nodau ysbrydol. Hefyd, helpa’r unigolyn i gyrraedd nodau eraill yn y cyfamser, fel ateb yn y cyfarfodydd neu bregethu i’w gymdogion a’i gyd-weithwyr. Cofia, nad yw Jehofa yn gorfodi unrhyw un i’w addoli. Penderfyniad personol yw ymgysegru.—De 30:19, 20

  • Ysgoga dy fyfyriwr i newid yr hyn sydd ei angen arno i blesio Jehofa, a bod yn gymwys ar gyfer bedydd. (Dia 27:11) Oherwydd mae’n bosibl fod rhai arferion wedi eu gwreiddio’n ddwfn, bydd rhaid i’r myfyriwr cael help i ddadwisgo’r hen natur ddynol a gwisgo’r un newydd. (Eff 4:22-24) Dangos iddo erthyglau o’r gyfres “The Bible Changes Lives” yn y Watchtower cyhoeddus.

  • Rhanna’r profiadau hapus rwyt ti wedi eu cael wrth wasanaethu Jehofa.—Esei 48:17, 18