Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Dysga’r Gwirionedd i Eraill

Dysga’r Gwirionedd i Eraill

O fis Medi ymlaen, bydd Gweithlyfr y Cyfarfod yn cynnwys math newydd o gyflwyniad enghreifftiol sy’n dwyn yr enw “Dysga’r Gwirionedd i Eraill.” Ein nod yw tynnu sylw at un gwirionedd sylfaenol o’r Beibl gan ddefnyddio cwestiwn ac adnod.

Os bydd rhywun yn dangos diddordeb, gallwn ni ennyn diddordeb ar gyfer yr alwad nesaf drwy osod llenyddiaeth arall, neu drwy ddangos fideo oddi ar jw.org. Dylen ni geisio galw’n ôl o fewn ychydig o ddiwrnodau er mwyn trafod y pwnc ymhellach. Bydd y cyflwyniadau a’r aseiniadau newydd i fyfyrwyr yn seiliedig ar bynciau o’r llyfr Beibl Ddysgu. Yng nghrynodeb pob pennod cawn adnodau ychwanegol sy’n gallu ein helpu ni i wneud ail alwadau, neu gynnal astudiaeth gan ddefnyddio’r Beibl yn unig.

Dim ond un ffordd sy’n arwain i fywyd. (Mth 7:13, 14) Gan ein bod yn siarad â phobl o amryw grefyddau a chefndiroedd, mae’n rhaid inni sôn am wirioneddau o’r Beibl sy’n apelio atyn nhw fel unigolion. (1Ti 2:4) Wrth inni ddod yn fwy cyfarwydd â’r pynciau sydd yn y Beibl, a hogi ein sgiliau o “gyflwyno gair y gwirionedd,” cawn fwy o lawenydd a llwyddiant wrth ddysgu’r gwirionedd i eraill.—2Ti 2:15.