Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Ymgyrch Arbennig i Ddosbarthu’r Watchtower ym Mis Medi

Ymgyrch Arbennig i Ddosbarthu’r Watchtower ym Mis Medi

Ledled y byd, mae gwir angen cysur ar bobl. (Pre 4:1) Drwy gydol mis Medi, byddwn ni’n gwneud ymdrech arbennig i gynnig y Watchtower. Y pwnc dan sylw bydd cysur. Ceisia ddosbarthu’r cylchgrawn hwn gymaint â fedri di. Gan ein bod ni eisiau siarad â phobl er mwyn eu cysuro, ni fyddwn yn gadael cylchgronau mewn tai lle does neb gartref.

BETH AM DDWEUD HYN?

“Rydyn ni i gyd angen cael ein cysuro weithiau. Ond, lle cawn ni gysur? [Darllena 2 Corinthiaid 1:3, 4, beibl.net] Mae’r rhifyn hwn o’r Watchtower yn trafod sut mae Duw yn rhoi cysur i ni.”

Os yw’r person yn dangos diddordeb ac yn cymryd y cylchgrawn, . . .

CHWARAE’R FIDEO PAM ASTUDIO’R BEIBL?

Yna, rho wahoddiad iddyn nhw astudio’r Beibl.

PARATOA’R FFORDD AR GYFER AIL ALWAD

Gofynna gwestiwn y byddi di’n ateb pan ddoi di’n ôl, er enghraifft: “Pam mae Duw yn gadael i bobl dioddef?