Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnyddio JW.ORG

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnyddio JW.ORG

PAM MAE’N BWYSIG? Mae pob cyhoeddiad yn ein Bocs Tŵls Dysgu yn cyfeirio at jw.org. Prif bwrpas y cerdyn cyswllt a’r daflen Ble Cawn Ni Atebion i’r Cwestiynau Mawr? yw cyfeirio pobl at ein gwefan. Gelli di roi cyhoeddiad o’n Bocs Tŵls Dysgu i rywun drwy ddefnyddio jw.org i e-bostio copi electronig ohono neu drwy rannu linc. Gall hyn fod yn help mawr, yn enwedig os ydyn ni’n tystiolaethu wrth rhywun sy’n siarad iaith arall. Yn ogystal, efallai bydd pobl yn gofyn cwestiynau sy’n cael eu hateb mewn cyhoeddiadau sydd ddim yn rhan o’n Bocs Tŵls Dysgu. Os gallwn ni lywio’r wefan, gallwn ni fod yn fwy effeithiol yn ein gweinidogaeth.

SUT I FYND ATI?

GWYLIA’R FIDEO DEFNYDDIO JW.ORG, AC YNA YSTYRIA PA RAN O’R WEFAN GELLI DI DROI ATI I HELPU:

  • un nad yw’n credu ym modolaeth Duw

  • rhywun sydd newydd wynebu trychineb yn ei fywyd

  • brawd neu chwaer anweithredol

  • galwad sydd eisiau gwybod sut mae ein gwaith yn cael ei ariannu

  • person o wlad arall sydd eisiau mynd i gyfarfod yn ei famwlad