Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Bu Iesu Farw Dros Dy Frawd Hefyd

Bu Iesu Farw Dros Dy Frawd Hefyd

Aberthodd Iesu ei fywyd dros bobl amherffaith. (Rhu 5:8) Does dim dwywaith amdani ein bod yn gwerthfawrogi’r cariad a ddangosodd Iesu tuag aton ni drwy roi ei fywyd droston ni. Ond, ar brydiau, efallai fod angen inni atgoffa’n hunain bod Crist wedi marw dros ein brawd hefyd. Sut gallwn ninnau efelychu Crist yn y ffordd y dangoswn gariad tuag at ein brodyr a chwiorydd, sydd fel ni, yn amherffaith? Ystyria dair ffordd. Yn gyntaf, gallwn ni ehangu ein cylch o ffrindiau i gynnwys y rhai sydd â chefndir gwahanol i ni. (Rhu 15:7; 2Co 6:12, 13) Yn ail, gallwn ni fod yn ofalus i osgoi dweud neu wneud pethau i frifo eraill. (Rhu 14:13-15) Yn olaf, os bydd rhywun yn pechu yn ein herbyn, gallwn ni fod yn gyflym i faddau. (Lc 17:3, 4; 23:34) Os gwnawn ni weithio’n galed i efelychu Iesu yn y ffyrdd hyn, bydd Jehofa yn parhau i fendithio’r gynulleidfa gyda heddwch ac undeb.

GWYLIA’R FIDEO BYDDA’N HARDDACH FYTH! AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut roedd Miki’n teimlo am ei chynulleidfa yn y dechrau?

  • Beth achosodd iddi newid y ffordd oedd hi’n teimlo?

  • Sut gwnaeth esiampl Iesu helpu Miki i newid ei hagwedd? (Mc 14:38)

  • Sut gall Diarhebion 19:11 ein helpu i weld y gorau yn ein cyd-gredinwyr?