Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cofiwch Wraig Lot

Cofiwch Wraig Lot

Pam gwnaeth gwraig Lot edrych yn ôl wrth iddi ffoi o Sodom? Dydy’r Beibl ddim yn dweud. (Ge 19:17, 26) Mae cyd-destun rhybudd Iesu yn dangos, efallai, mai hiraethu am y pethau a adawodd ar ei hôl oedd hi. (Lc 17:31, 32) Sut gallwn ni osgoi colli ffafr Duw, fel y gwnaeth gwraig Lot? Rhaid i ni osgoi gadael i bethau materol ddod yn flaenoriaeth yn ein bywydau. (Mth 6:33) Dysgodd Iesu na allwn ni “ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.” (Mth 6:24) Ond beth os ydyn ni’n sylwi bod pethau materol yn dechrau tynnu ein sylw oddi wrth bethau ysbrydol yn ein bywydau? Gallwn weddïo ar Jehofa am help i ddeall pa newidiadau sydd angen inni eu gwneud ac am y dewrder a’r nerth i’w rhoi ar waith.

O GOFIO’R DDRAMA TAIR-RHAN COFIWCH WRAIG LOT, ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut gallaf ddangos drwy fy ngweithredoedd fy mod i’n ‘cofio gwraig Lot’?

    Sut gwnaeth y pwysau i ennill mwy o arian effeithio ar feddwl, geiriau, a gweithredoedd Gloria?

  • Sut mae esiampl gwraig Lot yn rhybudd i ni heddiw?

  • Sut gwnaeth rhoi egwyddorion Beiblaidd ar waith helpu Joe a’i deulu?

  • Sut roedd cyd-weithwyr Anna yn effeithio ar ei hysbrydolrwydd?

  • Pam mae angen dewrder os ydyn ni o dan bwysau i roi arian yn gyntaf yn ein bywydau?

  • Sut gwnaeth Brian a Gloria roi’r flaenoriaeth i bethau ysbrydol unwaith eto?

  • Pa egwyddorion Beiblaidd gafodd eu portreadu yn y fideo hwn?