Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Bobl Ifanc—Byddwch yn “Frwd i Wneud Daioni”

Bobl Ifanc—Byddwch yn “Frwd i Wneud Daioni”

Yn ei lythyr ysbrydoledig at Titus, ysgrifennodd yr apostol Paul y dylai dynion ifanc, gan gynnwys Titus, geisio bod yn ‘esiampl drwy wneud daioni.’ (Tit 2:6, 7) Yn nes ymlaen yn yr un bennod, dywedodd y byddai Iesu yn puro pobl Jehofa er mwyn iddyn nhw allu bod yn “frwd i wneud daioni.” (Tit 2:14) Un ffordd gallwn ni wneud daioni yw drwy bregethu am Deyrnas Dduw a dysgu eraill amdani. Os wyt ti’n ifanc, a elli di ddefnyddio dy nerth i arloesi’n gynorthwyol neu’n llawn amser?—Dia 20:29.

Os hoffet ti arloesi, meddylia am ffordd o drefnu dy fywyd er mwyn iti allu gwneud hynny. (Lc 14:28-30) Er enghraifft, sut wyt ti am ennill digon o arian i dalu dy gostau wrth bregethu’n llawn amser? Sut wyt ti am gael yr oriau gofynnol? Gweddïa ar Jehofa am dy sefyllfa. (Sal 37:5) Trafoda dy gynllun â dy rieni ac arloeswyr llwyddiannus. Yna, gweithia tuag at dy nod. Bydd Jehofa yn siŵr o fendithio dy ymdrech a dy sêl wrth iti ei wasanaethu!

GWYLIA’R FIDEO YOUTHS HONORING JEHOVAH, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa anawsterau mae rhai wedi eu hwynebu wrth ddechrau arloesi, ond sut llwyddon nhw er gwaetha’r rhain?

  • Sut gall rhieni helpu eu plant i arloesi’n llawn amser?

  • Pam mae hi’n bwysig creu rhaglen ar gyfer dy weinidogaeth?

  • Sut gall aelodau o’r gynulleidfa galonogi arloeswyr a’u helpu?

  • Sut mae arloeswyr yn cael eu bendithio?

Sut galla’ i gyrraedd y nod o fod yn arloeswr?