Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | TITUS 1–PHILEMON

Penodi Brodyr yn Henuriaid

Penodi Brodyr yn Henuriaid

Tit 1:5-9

Gofynnodd Paul i Titus ‘benodi arweinwyr ym mhob un o’r trefi.’ Dilynir y gynsail Ysgrythurol hon heddiw pan fydd arolygwyr cylchdaith yn penodi brodyr yn y gynulleidfa.

CORFF LLYWODRAETHOL

Yn dilyn trefn y ganrif gyntaf, mae’r Corff Llywodraethol yn rhoi i arolygwyr cylchdaith y cyfrifoldeb pwysig o benodi henuriaid a gweision gweinidogaethol.

AROLYGWYR CYLCHDAITH

Mae’n rhaid i bob arolygwr cylchdaith feddwl yn ofalus am y brodyr sydd wedi eu hargymell gan yr henuriaid, a gweddïo am y mater cyn penodi’r rhai sy’n gymwys.

HENURIAID

Hyd yn oed ar ôl i frawd gael ei benodi’n henuriad, mae’n rhaid iddo barhau i gwrdd â’r gofynion Ysgrythurol.