Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Gweithredoedd Da Na Chaiff eu Hanghofio

Gweithredoedd Da Na Chaiff eu Hanghofio

Gall pob un o weision Jehofa wneud gwaith cysegredig y bydd Ef yn ei gofio am byth. Fel rhiant cariadus sy’n trysori gwaith da ei blant, dydy Jehofa ddim yn anghofio ein gwaith na’r cariad rydyn ni’n ei ddangos tuag at ei enw. (Mth 6:20; Heb 6:10, BCND) Wrth gwrs, mae gan bawb alluoedd ac amgylchiadau gwahanol. Eto, os gwnawn ein gorau wrth wasanaethu Jehofa, gallwn fod yn llawen. (Ga 6:4; Col 3:23) Dros y blynyddoedd, mae miloedd o frodyr a chwiorydd wedi gweithio yn y Bethel. A elli di wirfoddoli i weithio yno hefyd? Os na elli di, beth am annog eraill i wirfoddoli neu helpu’r rhai sydd eisoes yn gwasanaethu yn y ffordd arbennig hon i ddal ati?

GWYLIA’R FIDEO MAKING YOURSELF AVAILABLE FOR BETHEL SERVICE, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth ddylai ysgogi rhywun i wasanaethu yn y Bethel?

  • Pa fendithion mae rhai wedi eu derbyn o weithio yn y Bethel?

  • Beth yw’r gofynion ar gyfer bod yn weithiwr Bethel?

  • Pa ffurflenni cais sydd ar gael ar gyfer gweithio yn y Bethel, a sut gelli di gael gafael arnyn nhw?