EIN BYWYD CRISTNOGOL
Treulia Amser Gyda Phobl Sy’n Caru Jehofa
Pam dylen ni dreulio amser gyda phobl sy’n caru Jehofa? Oherwydd y gall y bobl sy’n cadw cwmni inni fod yn ddylanwad da neu ddrwg arnon ni. (Dia 13:20) Er enghraifft, gwnaeth y Brenin Jehoas “beth oedd yn plesio” Jehofa tra oedd yn cadw cwmni i Jehoiada. (2Cr 24:2) Ond, oherwydd iddo ddewis cwmni drwg ar ôl i Jehoiada farw, cefnodd Jehoas ar Jehofa.—2Cr 24:17-19.
Yn y ganrif gyntaf OG, cymharodd yr apostol Paul y gynulleidfa Gristnogol â ‘thŷ crand,’ ac aelodau’r gynulleidfa â “llestri.” Byddwn ni’n “llestri” sy’n werthfawr i Dduw, ac yn cael ein ‘neilltuo i wneud gwaith da’ drwy osgoi cymdeithasu ag unrhyw un sy’n gwneud pethau sy’n tristáu Jehofa, hyd yn oed rhai o blith ein teulu a’r gynulleidfa. (2Ti 2:20, 21) Felly, boed inni ddal ati i wneud ffrindiau â phobl sy’n caru Jehofa ac sydd yn ein hannog i fod yn ffyddlon.
GWYLIA’R FIDEO LEARN TO REJECT BAD ASSOCIATION, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Ym mha ffyrdd gall cwmni drwg sleifio i mewn i’n bywydau?
-
Yn y fideo, beth helpodd y tri Christion i gefnu ar gwmni drwg?
-
Pa egwyddorion Beiblaidd gallwn ni eu defnyddio er mwyn dewis ffrindiau yn ddoeth?