ESEIA 58-62
TRYSORAU O AIR DUW |Cyhoeddi Blwyddyn Ffafr Jehofa
Nid yw “blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD” yn un llythrennol
61:1, 2
-
Cyfnod pan fydd Jehofa yn rhoi cyfle i’r addfwyn ymateb i’w gyhoeddiad o ryddid
-
Yn y ganrif gyntaf, dechreuodd y flwyddyn ffafr wrth i Iesu ddechrau ar ei weinidogaeth yn 29 OG a pharhaodd hyd y “diwrnod pan fydd Duw yn dial” pan gafodd Jerwsalem ei ddinistrio yn 70 OG
-
Yn ein hamser ni, dechreuodd y flwyddyn ffafr gyda Iesu’n cael ei orseddu yn y nef ym 1914 a bydd yn dod i’w therfyn gyda’r gorthrymder mawr
Mae Jehofa yn bendithio ei bobl gyda “coed hardd” (“prennau cyfiawnder,” BCND)
61:3, 4
-
Mae coed talaf y byd fel arfer yn tyfu mewn coedwigoedd, lle mae pob coeden yn cynnal y llall
-
Mae matiau mawr o wreiddiau yn aml yn ymblethu yn ei gilydd, fel angor i’r coed allu wrthsefyll stormydd
-
Mae coed uchel yn rhoi cysgod amddiffynnol i goed ifanc, a chwymp y dail sy’n rhoi maeth i’r pridd oddi tanyn nhw
Mae pob aelod o’r gynulleidfa Gristnogol fyd-eang yn elwa ar y gynhaliaeth a’r amddiffynfa sydd i’w cael gan y “prennau cyfiawnder,” y gweddill eneiniog