EIN BYWYD CRISTNOGOL
Llawenhau yn Eich Gobaith
Mae gobaith fel angor. (Heb 6:19) Mae’n ein helpu i osgoi llongddrylliad ysbrydol pan wynebwn fôr tymhestlog. (1Ti 1:18, 19) Gall moroedd tymhestlog olygu siomedigaethau personol, colli eiddo, salwch hirdymor, marwolaeth anwylyd, neu fygythiad i’n ffyddlondeb.
Mae ffydd a gobaith yn ein galluogi i weld y wobr sydd wedi ei addo. (2Co 4:16-18; Heb 11:13, 26, 27) Felly, p’un a yw’n gobaith yn un nefol neu ddaearol, mae’n rhaid inni ei feithrin drwy fyfyrio ar yr addewidion sydd wedi eu cofnodi yng Ngair Duw. Yna, pan fydd treialon yn ein digalonni, bydd yn haws i gadw’n llawenydd.—1Pe 1:6, 7.
GWYLIA’R FIDEO REJOICE IN THE HOPE, YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pam y mae Moses yn esiampl dda i’w efelychu?
-
Pa gyfrifoldeb sydd gan bob penteulu?
-
Pa bynciau gallet ti eu hystyried ar gyfer prosiectau Addoliad Teuluol?
-
Sut gall gobaith dy helpu i wynebu treialon gyda hyder?
-
Beth wyt ti yn edrych ymlaen ato?