Cyflwyniadau Enghreifftiol
AWAKE!
Cwestiwn: Mae rhywun yn clywed mwy am bobl ifanc yn eu harddegau yn dioddef o iselder ysbryd heddiw. Beth ydych chi’n meddwl ydy’r ateb i’r broblem?
Cynnig: Mae gan y cylchgrawn hwn gynigion all helpu’r rhai yn eu harddegau i ddelio ag iselder, a sut gall y rhieni eu helpu.
DYSGU’R GWIRIONEDD I ERAILL
Cwestiwn: Beth sy’n gwneud priodas hapus?
Adnod: Eff 5:33
Gwirionedd: Mae priodas yn ffynnu pan mae wedi ei sylfaenu ar gariad a pharch.
A GAFODD BYWYD EI GREU? (lc)
Cwestiwn: Wrth feddwl am gwestiwn dechreuad bywyd, ar beth ddylen ni seilio ein cred?
Adnod: Heb 11:1
Cynnig: Fel dywed yr adnod, ’dyn ni’n ddoeth i seilio’n cred ar “dystiolaeth sicr.” Mae’r llyfryn hwn yn ystyried tystiolaeth gadarn am darddiad bywyd o’r byd o’n cwmpas.
LLUNIA DY GYFLWYNIAD DY HUN
Defnyddia’r fformat yn yr enghreifftiau blaenorol i lunio dy gyflwyniad dy hun.