ESEIA 52-57
TRYSORAU O AIR DUW |Dioddefodd Crist er Ein Mwyn Ni
“Cafodd ei ddirmygu a’i wrthod gan bobl . . . Roedden ni’n meddwl ei fod yn cael ei gosbi [“yn un â phla arno,” Francis Roberts], a’i guro a’i gam-drin gan Dduw”
53:3-5
-
Roedd yn cael ei ddirmygu ai gyhuddo o gabledd. Credodd rhai mai Duw oedd yn ei gosbi, fel petasai’n gwneud iddo ddioddef rhyw afiechyd cas
“Yr ARGLWYDD wnaeth benderfynu ei gleisio . . . Bydd yn cyflawni bwriadau’r ARGLWYDD”
53:10
-
Yn bendant, dioddefodd Jehofa wrth weld ei Fab yn cael ei ladd. Ond roedd wrth ei fodd yn gweld ei ffyddlondeb llwyr. Roedd marwolaeth Iesu yn rhoi ateb i her Satan ynglŷn â theyrngarwch gweision Duw, a daeth â bendithion i ddynion edifeiriol. Roedd hyn yn help i gyflawni ewyllys Jehofa