EIN BYWYD CRISTNOGOL
Helpa Dy Blant i Feithrin Ffydd Ddi-sigl yn y Creawdwr
Mae’r cread yn datgan gogoniant Jehofa. (Sal 19:1-4; 139:14) Ond, mae byd y Diafol yn hybu theorïau am ffynhonnell bywyd sy’n amharchu Duw. (Rhu 1:18-25) Sut gelli di gadw’r fath syniadau rhag gwreiddio yng nghalonnau dy blant? Helpa nhw o’u phlentyndod cynnar i feithrin ffydd ym modolaeth Jehofa a’u dysgu bod ganddo ofal mawr amdanyn nhw’n bersonol. (2Co 10:4, 5; Eff 6:16) Helpa nhw i fynegi eu meddyliau dyfnaf am yr hyn maen nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol, a defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i gyrraedd y galon.—Dia 20:5; Iag 1:19.
GWYLIA’R FIDEO WHAT YOUR PEERS SAY—BELIEF IN GOD, A THRAFOD Y CWESTIYNAU CANLYNOL:
Beth yw’r myth mwyaf cyffredin ynglŷn â chred yn Nuw?
Beth sy’n cael ei ddysgu yn dy ysgol di?
Beth sy’n dy berswadio di bod Jehofa yn bodoli?
Sut gelli di helpu rhywun i resymu mai Duw a greodd bob peth?