Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | MATHEW 14-15

Nifer Bach yn Bwydo Nifer Mawr

Nifer Bach yn Bwydo Nifer Mawr

Ychydig cyn Pasg 32 OG, cyflawnodd Iesu wyrth, yr unig un sydd wedi ei gofnodi ym mhob un o’r pedair Efengyl.

Drwy’r wyrth hon, gosododd Iesu batrwm y mae ef yn parhau i’w ddefnyddio hyd heddiw.

14:16-21

  • Gorchmynnodd Iesu i’w ddisgyblion fwydo’r tyrfaoedd, er mai dim ond pum torth a dau bysgodyn oedd ganddyn nhw

  • Cymerodd Iesu’r pum torth a’r pysgod, ac ar ôl gweddïo, fe’u rhoddwyd i’w ddisgyblion er mwyn iddyn nhw, yn eu tro, eu rhoi i’r tyrfaoedd

  • Drwy wyrth, roedd mwy na digon i bawb. Bwydodd Iesu filoedd o bobl drwy nifer bach, sef ei ddisgyblion

  • Rhagfynegodd Iesu y byddai’n penodi sianel i roi bwyd ysbrydol yn ei bryd yn ystod y dyddiau olaf.—Mth 24:45

  • Ym 1919, penododd Iesu y “gwas ffyddlon a chall,” sef grŵp bach o frodyr eneiniog, dros “y staff” neu’r gweision sy’n cael eu bwydo

  • Drwy’r grŵp bach hwn o frodyr eneiniog, mae Iesu yn dilyn y patrwm a sefydlodd yn y ganrif gyntaf

Sut gallaf ddangos fy mod yn cydnabod ac yn parchu’r sianel y mae Iesu yn ei defnyddio i roi bwyd ysbrydol i’w bobl?