Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Parchu Dy Dad a Dy Fam

Parchu Dy Dad a Dy Fam

Pan oedd Iesu ar y ddaear, fe bwysleisiodd y gorchymyn: “Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam.” (Ex 20:12; Mth 15:4) Roedd gan Iesu ryddid moesol i ddweud hynny oherwydd “bu’n ufudd” i’w rieni pan oedd yn ifanc. (Lc 2:51) Pan oedd yn oedolyn, fe sicrhaodd y byddai rhywun yn gofalu am ei fam ar ôl iddo farw.—In 19:26, 27.

Heddiw, gall Cristnogion ifanc barchu eu rhieni drwy fod yn ufudd iddyn nhw a siarad mewn ffordd barchus. A does dim terfyn amser ar y gorchymyn i barchu ein rhieni ychwaith. Hyd yn oed ar ôl i’n rhieni fynd yn hen, dylen ni ddal ati i’w parchu drwy fanteisio ar eu doethineb. (Dia 23:22) Ffordd arall o’u parchu nhw yw drwy roi’r gofal emosiynol ac ariannol sydd ei angen. (1Ti 5:8) P’un a ydyn ni’n hen neu’n ifanc, mae’n bwysig inni gyfathrebu’n dda â’n rhieni.

GWYLIA’R ANIMEIDDIAD BWRDD GWYN SUT GALLA’ I SIARAD Â FY RHIENI? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam mae’n gallu bod yn anodd iti siarad â dy rieni?

  • Wrth siarad â dy rieni, sut gelli di ddangos parch?

  • Pam y mae’n werth yr ymdrech i siarad â dy rieni? (Dia 15:22)

    Gall siarad â dy rieni dy helpu di i gael bywyd llwyddiannus