EIN BYWYD CRISTNOGOL
Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnydd Effeithiol o Gwestiynau
PAM MAE’N BWYSIG? Os yw “bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn,” yna mae cwestiynau yn debyg i fwced sy’n plymio i ddyfnderoedd y galon. (Dia 20:5) Mae cwestiynau yn gwneud i’n gwrandawyr yn rhan o’r sgwrs. Gall dewis cwestiynau yn ofalus ddod â manylion gwerthfawr i’r wyneb. Defnyddiodd Iesu gwestiynau mewn ffordd effeithiol. Sut gallwn ni ei efelychu?
SUT I FYND ATI?
-
Gofynna gwestiynau safbwynt. Gofynnodd Iesu gyfres o gwestiynau er mwyn canfod barn ei ddisgyblion. (Mth 16:13-16; be-E 238 ¶3-5) Pa gwestiynau safbwynt allet ti eu gofyn?
-
Gofynna gwestiynau arweiniol. I roi Pedr ar ben ffordd, gofynnodd Iesu gyfres o gwestiynau i helpu Pedr i ddod i’r casgliad cywir. (Mth 17:24-26) Pa gwestiynau arweiniol allet ti eu gofyn i helpu rhywun i ddod i’r casgliad cywir?
-
Rho ganmoliaeth i’r gwrandawr. Ar ôl i Iesu weld fod yr ysgrifennydd “wedi deall,” rhoddodd ganmoliaeth iddo. (Mc 12:34) Sut gallet ti ganmol rhywun sy’n ateb cwestiwn?
GWYLIA RAN GYNTAF Y FIDEO DO THE WORK THAT JESUS DID—TEACH, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pam mae’r enghraifft hon yn un wael o ddysgu, er bod y wybodaeth yn gywir?
-
Pam mae’n bwysig inni wneud mwy nag esbonio’r wybodaeth?
GWYLIA AIL RAN Y FIDEO, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Sut defnyddiodd y brawd gwestiynau mewn ffordd effeithiol?
-
Pa agweddau eraill o’i ffordd o ddysgu allwn ni eu hefelychu?