Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

TRYSORAU O AIR DUW | MATHEW 18-19

Cymer Ofal Rhag Baglu Eraill a Ti Dy Hun

Cymer Ofal Rhag Baglu Eraill a Ti Dy Hun

Defnyddiodd Iesu eglurebau i ddysgu pa mor ddifrifol yw hi i gael ein baglu neu i achosi i bobl eraill faglu.

18:6, 7

  • Mae “temtasiynau,” sef meini tramgwydd, yn cyfeirio at weithredoedd neu amgylchiadau sy’n arwain rhywun i ddilyn llwybr amhriodol, i faglu, i gwympo’n foesol, neu i bechu

  • Byddai’n well i un sy’n achosi i arall faglu syrthio i’r môr gyda maen melin am ei wddf

Meini melin

18:8, 9

  • Cynghorodd Iesu i’w ddilynwyr gael gwared â rhywbeth mor werthfawr â llaw neu lygad hyd yn oed, pe byddai hynny’n peri iddyn nhw faglu

  • Byddai’n well o lawer i golli rhywbeth gwerthfawr a chael mynd mewn i Deyrnas Dduw yn hytrach na’i gadw a chael ein taflu i Gehenna, sy’n symbol o ddinistr tragwyddol

Beth allai fod yn faen tramgwydd yn fy mywyd i, a sut gallaf gadw rhag baglu fy hun neu eraill?