EIN BYWYD CRISTNOGOL
Dal Ati i Ddisgwyl yn Amyneddgar
Ers faint wyt ti wedi bod yn disgwyl i Deyrnas Dduw ddod? A wyt ti wedi bod yn disgwyl yn amyneddgar er gwaethaf caledi? (Rhu 8:25) Mae rhai Cristnogion yn wynebu casineb, cael eu cam-drin, eu carcharu, neu’r bygythiad o gael eu lladd. Mae eraill yn ymdopi â salwch hirdymor neu henaint.
Beth fydd yn ein helpu i ddisgwyl yn awyddus yn wyneb unrhyw dreial? Mae’n rhaid inni fwydo ein ffydd yn ddyddiol gan ddarllen y Beibl a myfyrio arno. Rhaid inni ganolbwyntio ar ein gobaith. (2Co 4:16-18; Heb 12:2) Mae’n rhaid inni ymbil ar Jehofa mewn gweddi a gofyn yn daer am rym ei ysbryd glân. (Lc 11:10, 13; Heb 5:7) Gall ein Tad cariadus ein helpu i ‘ddal ati yn amyneddgar a llawen’.—Col 1:11, 12.
GWYLIA’R FIDEO WE MUST “RUN WITH ENDURANCE”—BE CONFIDENT OF GAINING THE PRIZE AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:
-
Pa bethau allai godi’n annisgwyl mewn bywyd? (Pre 9:11)
-
Sut mae gweddi yn ein helpu pan wynebwn dreialon?
-
Os nad ydyn ni’n gallu gwneud cymaint ag oedden ni yng ngwasanaeth Jehofa, pam dylen ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud?
-
Beth sydd yn dy helpu i aros yn hyderus o ennill y wobr?