Eglureb yr Olewydden
Beth mae nodweddion amrywiol yr olewydden symbolaidd yn ei gynrychioli?
-
Y goeden: cyflawniad pwrpas Duw ynghylch cyfamod Abraham
-
Y boncyff: Iesu, prif ran epil Abraham
-
Y canghennau: nifer llawn ail ran epil Abraham
-
Y canghennau a gafodd eu “llifio i ffwrdd”: Iddewon naturiol a wrthododd Iesu
-
Y canghennau neu’r sbrigynnau a gafodd eu ‘himpio yn eu lle’: Cristnogion ysbryd-eneiniog a ddaeth allan o’r cenhedloedd
Fel y rhagddywedwyd, bydd “pobl o genhedloedd eraill” yn cael eu bendithio drwy epil Abraham, sef Iesu a’r 144,000.—Rhu 11:12; Ge 22:18
Beth ydw i’n ei ddysgu am Jehofa o’r ffordd y cyflawnodd ei bwrpas tuag at epil Abraham?