Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

A Wyt Ti’n Dirnad Priodoleddau Anweledig Duw?

A Wyt Ti’n Dirnad Priodoleddau Anweledig Duw?

Pan wyt ti’n edrych ar flodyn lliwgar, ac ysblander sêr y nen, neu ar raeadr yn rhuo, a wyt ti’n gweld gwaith llaw’r Creawdwr? Mae’r greadigaeth o’n cwmpas yn datgelu rhinweddau anweledig Duw a’u gwneud yn amlwg. (Rhu 1:20) Drwy gymryd amser i fyfyrio ar yr hyn a welwn â’n llygaid, gallwn ddirnad nerth, cariad, doethineb, a chyfiawnder Duw, ynghyd â’i haelioni.—Sal 104:24.

Pa elfennau o waith creadigol Jehofa wyt ti’n sylwi arnyn nhw bob dydd? Hyd yn oed os wyt ti’n byw mewn dinas, mae’n debyg dy fod yn gweld coed neu adar. Bydd cymryd amser i sylwi ar greadigaeth Jehofa yn gallu ein helpu i leihau pryder, i ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf yn hytrach na’n problemau, ac i gryfhau ein ffydd yng ngallu Jehofa i ofalu amdanon ni am byth. (Mth 6:25-32) Os oes gen ti blant, helpa nhw i ddirnad rhinweddau rhagorol Jehofa. Wrth i’n gwerthfawrogiad o’r greadigaeth o’n cwmpas dyfu, byddwn ni’n agosáu at ein Creawdwr.—Sal 8:3, 4.

GWYLIA’R FIDEO THE WONDERS OF CREATION REVEAL GOD’S GLORY—LIGHT AND COLOR, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut mae pigmentau yn ein galluogi i weld lliwiau?

  • Beth sy’n achosi i symudliw ddisgleirio?

  • Pam gallwn weld gwahanol liwiau yn yr awyr?

  • Pa liwiau trawiadol wyt ti wedi eu gweld yn y greadigaeth yn dy ardal di?

  • Pam dylen ni gymryd amser i sylwi ar fyd natur?

Beth mae golau a lliw yn ei ddatgelu inni am briodoleddau Jehofa?