JOB 21-27
TRYSORAU O AIR DUW |Gwrthododd Job Resymu Anghywir
Mae Satan yn lledaenu celwyddau er mwyn ceisio digalonni gweision Jehofa heddiw. Wrth ddarllen llyfr Job, sylwa ar y gwahaniaeth rhwng celwyddau Satan a gwir deimladau Jehofa. Rhestra adnodau ychwanegol sy’n profi bod Jehofa’n gofalu amdanat ti.
CELWYDDAU SATAN |
GWIR DEIMLADAU JEHOFA |
---|---|
Mae Duw mor llym, mae’n amhosibl i’w weision fod yn ddigon da, ac ni all yr un o’i greadigaethau ei blesio (Job 4:18; 25:5) |
Mae Jehofa yn gwerthfawrogi ein hymdrechion gostyngedig (Job 36:5) |
Mae’r ddynolryw yn ddiwerth i Dduw (Job 22:2) |
Mae Jehofa yn derbyn ac yn bendithio ein gwasanaeth ffyddlon (Job 33:26; 36:11) |
Does dim ots gan Dduw os wyt ti’n gyfiawn neu beidio (Job 22:3) |
Mae Jehofa yn gofalu am y cyfiawn (Job 36:7) |