EIN BYWYD CRISTNOGOL
Pwyntiau i’w Cofio ar Gyfer y Gynhadledd
Rydyn ni wastad eisiau ymddwyn mewn modd sy’n dangos cariad tuag at Dduw a’n cymydog, ond yn enwedig yn ystod amser y gynhadledd. (Mth 22:37-39) Mae 1 Corinthiaid 13:4-8 yn disgrifio cariad ar waith: “Y mae cariad yn amyneddgar. . . . Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw’n gwylltio. . . . Nid yw cariad yn darfod byth.” Wrth wylio’r fideo Convention Reminders, meddylia am sut gelli di ddangos cariad tuag at eraill yn ystod amser y gynhadledd.
SUT DYLEN NI DDANGOS CARIAD . . .
-
wrth gadw seddi ar gyfer eraill?
-
wrth i’r rhagarweiniad cerddorol ddechrau?
-
yn ein gwestai?
-
drwy wirfoddoli i helpu?